Cofair: hh_composition_welsh
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Cartrefi yn ôl y berthynas rhwng aelodau ac a ydyn nhw’n gallu siarad Cymraeg ai peidio.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 7
| Cod | Enw |
|---|---|
| 1 | Cartref cwpwl: Dim un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg |
| 2 | Cartref cwpwl: Un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg |
| 3 | Cartref cwpwl: Dau neu fwy o oedolion yn gallu siarad Cymraeg |
| 4 | Cartref un rhiant: Dim un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg |
| 5 | Cartref un rhiant: Un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg |
| 6 | Cartref un rhiant: Dau neu fwy o oedolion yn gallu siarad Cymraeg |
| -8 | Ddim yn gymwys*, cartref un person neu gartref arall |
*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, a chartrefi yn Lloegr.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Gwlad-benodol
Beth yw ystyr gwlad-benodol?
Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).