Cofair: residence_type
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

P'un a yw person yn byw mewn cartref neu sefydliad cymunedol. Cafodd pobl a gwblhaodd holiadur arferol y cartref eu cofnodi fel byw mewn cartref. Gofynnwyd i'r rhai a gwblhaodd holiadur i unigolion a oeddent yn byw mewn cartref neu sefydliad cymunedol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 2

Cod Enw
1 Yn byw mewn cartref
2 Yn byw mewn sefydliad cymunedol

Cwestiwn a ofynnwyd

Pa fath o lety yw hwn?

  • Sefydliad cymunedol (er enghraifft, neuadd breswyl i fyfyrwyr, ysgol breswyl, un o ganolfannau’r lluoedd arfog, ysbyty, cartref gofal, carchar)
  • Cartref preifat neu gartref teulu

Yng Nghyfrifiad 2021, roedd yr opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt sy'n disgrifio fflat neu maisonette sydd “mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol” wedi'u cynnwys mewn bloc o bedwar.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi awdurdodau lleol, cynllunwyr a darparwyr tai i ddeall pa fathau o dai sydd ar gael yn eu hardal. Gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu pa fath o dai fydd ei angen ar bobl yn y dyfodol.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 1981.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn