Cofair: hh_multi_generation
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Cartrefi lle mae pobl o fwy na dwy genhedlaeth o’r un teulu yn byw gyda’i gilydd. Mae hyn yn cynnwys cartrefi â neiniau a theidiau ac wyrion ac wyresau p’un a yw’r genhedlaeth arall hefyd yn byw yn y cartref ai peidio.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 2

Cod Enw
1 Yn gartref â sawl cenhedlaeth
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi nad ydynt yn cynnwys mwy na dwy genhedlaeth o'r un teulu.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn