Cofair: migration_ltla_inflow
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Yn nodi preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr sy'n byw yn yr un ardal a'r rheini a symudodd i mewn i'r ardal yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad. Mae'r term “ardal” yn diffinio'r lefel ddaearyddol sy'n cael ei dangos yn y tabl. Mae'r term “ardal gysylltiedig” yn cyfeirio at y lefel ddaearyddol uchaf nesaf i fyny'r hierarchaeth.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 6
Cod | Enw |
---|---|
1 | Yn byw yn yr un cyfeiriad flwyddyn yn ôl |
2 | Mewnlif: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl, ond o fewn yr un ardal |
3 | Mewnlif: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl y tu allan i'r ardal, ond o fewn yr ardal gysylltiedig |
4 | Mewnlif: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl y tu allan i'r ardal gysylltiedig, ond o fewn y Deyrnas Unedig |
5 | Mewnlif: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl y tu allan i'r Deyrnas Unedig |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, mudwyr byrdymor a phlant dan 1 oed.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy yn fras
Nid yw Cyfrifiad 2021 yn cofnodi symudiadau’r rheini dan 1 oed ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021) gan nad oes ganddynt gyfeiriad flwyddyn yn ôl. Cafodd amcangyfrif ei wneud ar gyfer y symudiadau hyn yn 2011, ond nid yw hyn wedi’i wneud ar gyfer 2021.
Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?
Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).
Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn
- Mudo yn ôl rhyw ac oedran (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl statws teuluol (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl grŵp ethnig ac oedran (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl grŵp ethnig a statws Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl anabledd (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl gweithgarwch economaidd ac oriau gwaith fesul wythnos (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl statws Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl grŵp ethnig (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)
- Mudo yn ôl oedran (mewnlif awdurdod lleol haen is) (yn Saesneg)