Cofair: hh_migration_utla_outflow
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn nodi cartrefi preswyl arferol a symudodd allan o'r ardal ond o fewn yr "ardal gysylltiedig" a'r rheini sydd wedi symud allan o'r "ardal gysylltiedig" ond o fewn Cymru a Lloegr, yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad. Mae'r term “ardal” yn diffinio'r lefel ddaearyddol sy'n cael ei dangos yn y tabl. Mae'r term “ardal gysylltiedig” yn cyfeirio at y lefel ddaearyddol uchaf nesaf i fyny'r hierarchaeth. Nid yw hyn yn cyfrif yr holl gartrefi a symudodd allan o ardal am nad yw'n cynnwys cartrefi a symudodd y tu allan i Gymru a Lloegr.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Cartref sy'n symud yn llawn: All-lif: wedi symud allan o'r ardal, ond o fewn yr ardal gysylltiedig
2 Cartref sy'n symud yn llawn: All-lif: wedi symud allan o'r ardal gysylltiedig, ond o fewn Cymru a Lloegr
-8 Ddim yn gymwys*

*Plant dan flwydd oed mewn cartrefi, cartrefi nad ydynt yn symud yn llawn, lleoedd cartref gwag a lleoedd cartref heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Nid yw Cyfrifiad 2021 yn cofnodi symudiadau’r rheini dan 1 oed ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021) gan nad oes ganddynt gyfeiriad flwyddyn yn ôl. Cafodd amcangyfrif ei wneud ar gyfer y symudiadau hyn yn 2011, ond nid yw hyn wedi’i wneud ar gyfer 2021.

Roeddem wedi cyfuno data mudo mewnol y Deyrnas Unedig ar gyfer 2011, o gymharu â 2021 nad oeddem wedi gwneud hynny. Nid oes gennym ddata ar gyfer Gogledd Iwerddon (oherwydd gwahaniaethau mewn amserlenni prosesu data) na’r Alban (gan fod yr Alban wedi cynnal eu Cyfrifiad ym mis Mawrth 2022). Mae hyn yn golygu bod cyfrifiadau all-lif yn eithrio pobl a oedd yng Nghymru a Lloegr y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 ond a oedd wedi symud i Ogledd Iwerddon, a’r Alban cyn 21 Mawrth 2021.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn