Cofair: hh_migration_region_inflow
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn nodi cartrefi preswyl arferol yng Nghymru a Lloegr sy'n byw yn yr un ardal a'r rheini a symudodd i mewn i'r ardal yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad. Mae'r term “ardal” yn diffinio'r lefel ddaearyddol sy'n cael ei dangos yn y tabl. Mae'r term “ardal gysylltiedig” yn cyfeirio at y lefel ddaearyddol uchaf nesaf i fyny'r hierarchaeth.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 7

Cod Enw
1 Roedd y cartref cyfan yn byw yn yr un cyfeiriad flwyddyn yn ôl
2 Cartref sy'n symud yn llawn: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl, ond o fewn yr un ardal
3 Cartref sy'n symud yn llawn: Mewnlif: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl y tu allan i'r ardal, ond o fewn yr ardal gysylltiedig
4 Cartref sy'n symud yn llawn: Mewnlif: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl y tu allan i'r ardal gysylltiedig, ond o fewn y Deyrnas Unedig
5 Cartref sy'n symud yn llawn: Mewnlif: yn byw rywle arall flwyddyn yn ôl y tu allan i'r Deyrnas Unedig
6 Cartref sy'n symud yn rhannol
-8 Ddim yn gymwys*

*Plant dan flwydd oed mewn cartrefi, lleoedd cartref gwag a lleoedd cartref heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Nid yw Cyfrifiad 2021 yn cofnodi symudiadau’r rheini dan 1 oed ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021) gan nad oes ganddynt gyfeiriad flwyddyn yn ôl. Cafodd amcangyfrif ei wneud ar gyfer y symudiadau hyn yn 2011, ond nid yw hyn wedi’i wneud ar gyfer 2021.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn