Cofair: family_status_by_workers_in_generation_1
Cymhwysedd: Teulu
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu rhieni 16 oed a throsodd â phlant dibynnol yn y teulu yn ôl statws y teulu, nifer y rhieni sy'n gweithio, a gweithgarwch economaidd.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
1 Mewn teulu cwpwl: Aelod o gwpwl: Y ddau berson yng nghenhedlaeth 1 yn gweithio
2 Mewn teulu cwpwl: Aelod o gwpwl: Un person yng nghenhedlaeth 1 yn gweithio
3 Mewn teulu cwpwl: Aelod o gwpwl: Neb yng nghenhedlaeth 1 yn gweithio
4 Mewn teulu cwpwl: Plentyn un neu'r ddau aelod o'r cwpwl
5 Mewn teulu un rhiant: Rhiant: Un person yng nghenhedlaeth 1 yn gweithio
6 Mewn teulu un rhiant: Rhiant: Neb yng nghenhedlaeth 1 yn gweithio
7 Mewn teulu un rhiant: Plentyn rhiant
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, mudwyr byrdymor, pobl sy'n byw mewn sefydliad cymunedol, a phobl nad ydynt yn byw mewn teulu cwpwl neu deulu rhiant-plentyn.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio’r data hwn at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am ddemograffeg a mudo o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi tynnu'r categori “Un rhiant” o'r newidyn deilliedig hwn.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn