Cofair: family_status
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Grŵp o bobl yw teulu sydd naill ai:

  • yn bâr priod, yn gwpwl mewn partneriaeth sifil neu'n gwpwl sy'n cyd-fyw â phlant neu heb blant (nid oes rhaid i'r plant berthyn i'r ddau aelod o'r cwpwl)
  • yn un rhiant â phlant
  • yn bâr priod, yn gwpwl mewn partneriaeth sifil neu'n gwpwl sy'n cyd-fyw ag wyrion/wyresau ond lle nad yw rhieni'r wyrion/wyresau hynny yn bresennol
  • yn daid/tad-cu neu'n nain/mam-gu sengl neu mewn cwpwl ag wyrion/wyresau ond lle nad yw rhieni'r wyrion/wyresau hynny yn bresennol

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 10

Cod Enw
1 Ddim mewn teulu: 66 oed a throsodd
2 Ddim mewn teulu: Arall
3 Mewn teulu cwpwl: Aelod o gwpwl
4 Mewn teulu cwpwl: Plentyn dibynnol un neu'r ddau aelod o'r cwpwl
5 Mewn teulu cwpwl: Plentyn nad yw'n ddibynnol un neu'r ddau aelod o'r cwpwl
6 Mewn teulu un rhiant: Rhiant
7 Mewn teulu un rhiant: Plentyn dibynnol rhiant
8 Mewn teulu un rhiant: Plentyn nad yw'n ddibynnol rhiant
9 Yn byw mewn sefydliad cymunedol
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a mudwyr byrdymor.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi cynyddu'r terfyn oedran uchaf i 66 oed a throsodd.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn