Cofair: dependent_child_ind
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae hyn yn nodi a yw person yn blentyn dibynnol ai peidio. Ystyr plentyn dibynnol yw person 0 i 15 oed mewn cartref neu berson 16 i 18 oed sydd mewn addysg amser llawn ac sy'n byw mewn teulu gyda'i riant neu ei rieni neu daid/tad-cu/nain/mam-gu. Nid yw'n cynnwys unrhyw un rhwng 16 a 18 oed sydd â phriod, partner neu blentyn sy'n byw yn y cartref.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
0 Ddim yn blentyn dibynnol
1 Yn blentyn dibynnol
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn