Cofair: concealed_family_type
Cymhwysedd: Teulu
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae hwn yn categoreiddio'r math o deulu cudd, boed yn deulu un rhiant neu'n deulu cwpwl, gyda phlant dibynnol neu blant nad ydynt yn ddibynnol neu hebddynt. Nid yw teulu cudd yn cynnwys Person Cyswllt y Cartref.

Enghraifft Mae George ac Amy yn byw yn yr un cyfeiriad â'u merch Emily a'i gŵr a'i merch.

Am nad yw Emily yn blentyn dibynnol a bod ganddi ei theulu ei hun, mae dau deulu yn y cartref hwn.

Teulu un yw George a'i wraig Amy. George yw Person Cyswllt y Teulu.

Teulu dau yw eu merch Emily, ei gŵr Simon a'u merch Eve. Emily yw Person Cyswllt y Teulu. Gan fod mwy nag un teulu yn y cartref, caiff Personau Cyswllt y Teulu eu blaenoriaethu er mwyn pennu Person Cyswllt y Cartref.

Yn y cartref hwn, George yw Person Cyswllt y Cartref. Mae hyn yn golygu bod teulu Emily yn "deulu cudd". George yw Person Cyswllt y Cartref ar eu cyfer. Byddant yn cael eu cynnwys fel rhan o'r cartref hwn mewn allbynnau perthnasol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 11

Cod Enw
1 Teulu cudd: Teulu un rhiant: Plant dibynnol
2 Teulu cudd: Teulu un rhiant: Yr holl blant heb fod yn ddibynnol
3 Teulu cudd: Teulu cwpwl: Dim plant
4 Teulu cudd: Teulu cwpwl: Plant dibynnol
5 Teulu cudd: Teulu cwpwl: Yr holl blant heb fod yn ddibynnol
6 Teulu nad yw'n gudd: Dim plant
7 Teulu nad yw'n gudd: Plant dibynnol
8 Teulu nad yw'n gudd: Yr holl blant heb fod yn ddibynnol
9 Teulu cudd: Teulu cwpwl heb unrhyw blant: Yr holl blant yn y teulu heb fod yn ddibynnol
10 Teulu nad yw'n gudd: Teulu cwpwl heb unrhyw blant: Yr holl blant yn y teulu heb fod yn ddibynnol
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor, mudwyr byrdymor, a phobl nad ydynt yn byw mewn teulu cwpwl neu deulu rhiant-plentyn.

Ansawdd gwybodaeth

Mae categorïau 9 a 10 y newidyn math o deulu cudd (concealed_family_type_11a) yn annilys, gyda chyfrif o 0 ar bob lefel ddaearyddol. Lluniwyd y categorïau hyn fel rhan o'r broses o greu'r newidyn hwn. Gall defnyddwyr anwybyddu neu ddileu'r categorïau hyn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am ddemograffeg a mudo o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn