Cofair: adult_lifestage
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu pobl mewn cartrefi yn ôl oedran, p'un a yw plant dibynnol yn y cartref, oedran y plentyn ieuengaf a nifer y bobl yn y cartref.

Mae'r categori penodol a gaiff ei ddefnyddio yn dibynnu ar oedran y person.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 12

Cod Enw
1 16 i 34 oed: Dim plant dibynnol yn y cartref
2 16 i 34 oed: Plant dibynnol yn y cartref
3 35 i 54 oed: Dim plant dibynnol yn y cartref
4 35 i 54 oed: Plentyn dibynnol ieuengaf yn y cartref yn 0 i 4 oed
5 35 i 54 oed: Plentyn dibynnol ieuengaf yn y cartref yn 5 i 10 oed
6 35 i 54 oed: Plentyn dibynnol ieuengaf yn y cartref yn 11 i 15 oed
7 35 i 54 oed: Plentyn dibynnol ieuengaf yn y cartref yn 16 i 18 oed
8 55 i 64 oed: Cartref un person
9 55 i 64 oed: Dau neu fwy o bobl yn y cartref: Dim plant dibynnol yn y cartref
10 55 i 64 oed: Dau neu fwy o bobl yn y cartref: Plant dibynnol yn y cartref
11 65 oed a throsodd: Un neu fwy o bobl yn y cartref
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, mudwyr byrdymor, pobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol a phobl 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad cyfnod bywyd oedolyn.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn defnyddio bandiau oedran gwahanol i'r newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn