1. Trosolwg
Bydd Cyfrifiad 2031 yn elfen bwysig o'r system ystadegau am y boblogaeth a mudo bresennol ac yn y dyfodol. Caiff ei gynllunio i ddarparu ystadegau o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion defnyddwyr yn 2031, ac i helpu i ddiwallu anghenion am ystadegau am y boblogaeth yn y dyfodol.
Mae'n rhaid i gynnwys Cyfrifiad 2031 gydbwyso'r angen am ddata cynhwysfawr â chyfyngiadau ymarferol, fel hyd yr holiadur a'r baich ar ymatebwyr. Mae'r erthygl hon yn amlinellu'r meini prawf gwerthuso ar gyfer penderfynu pa bynciau i'w cynnwys a'r broses o ddatblygu cynnwys ar gyfer Cyfrifiad 2031. Bydd y meini prawf, sydd wedi cael eu diweddaru o Gyfrifiad 2021 yn dilyn adolygiad arbenigol, yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ac yn cefnogi tryloywder ac ymddiriedaeth ym mhroses y cyfrifiad.
Mae'r meini prawf gwerthuso yn cydnabod arwyddocâd y cyfrifiad i boblogaethau bach. Mae'r meini prawf hyn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfrifiad modern a chynhwysol i Gymru a Lloegr y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddo ac a gaiff ei werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau sy'n llywio dyfodol pob un ohonom.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Cyflwyno'r meini prawf gwerthuso
Gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wahodd ymatebion i ymgynghoriad Cyfrifiad 2031: Ymgynghoriad ar gynnwys ar gyfer Cymru a Lloegr (PDF,\ 1,334 KB) rhwng 28 Hydref 2025 a 4 Chwefror 2026. Prif ddiben yr ymgynghoriad oedd darparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau ynghylch pa bynciau ddylai gael eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2031.
Roeddem yn canolbwyntio ar y wybodaeth sydd ei hangen o Gyfrifiad 2031, nid y cwestiynau manwl y dylid eu gofyn ar yr holiadur. Wrth i'r paratoadau fynd rhagddynt ar gyfer Cyfrifiad 2031, mae gan y broses ymgynghori rôl hollbwysig i'w chwarae o ran llywio ei gwmpas, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion parhaus defnyddwyr ac anghenion sy'n dod i'r amlwg.
Cynhaliwyd ymgynghoriad Dogfen ymgynghori ar Gysoni Ethnigrwydd (fersiwn ar y we) (PDF, 747KB) (ddim ar gael yn Gymraeg) i gasglu barn am opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol y gall fod eu hangen ar gyfer y safon ethnigrwydd newydd, ar yr un pryd â'r ymgynghoriad ar bynciau.
Mae'r gwerthusiad o'r ymgynghoriad ar bynciau ar gyfer Cyfrifiad 2031 yn ymdrin ag ymgyngoriadau ar bynciau mewn ffordd debyg i gyfrifiadau 2011 a 2021, gan wneud newidiadau yn dilyn adolygiad trylwyr er mwyn sicrhau bod y meini prawf yn berthnasol i Gyfrifiad 2031.
Categorïau lefel uchel ar gyfer meini prawf gwerthuso Cyfrifiad 2031
Ceir trosolwg o'r categorïau lefel uchel ar gyfer meini prawf gwerthuso Cyfrifiad 2031 isod:
Gofynion defnyddwyr
diben
ardaloedd daearyddol bach neu boblogaethau bach
ffynonellau amgen (diffyg)
dadansoddiad amlamrywedd
cymharedd y tu hwnt i Gymru a Lloegr
cysondeb â chyfrifiadau blaenorol
Ystyriaethau eraill (effaith arnynt)
ansawdd y data
pa mor dderbyniol ydyw i'r cyhoedd
baich ar ymatebwyr
pryderon ariannol
math o holiadur
y gallu i optimeiddio prosesau integreiddio ystadegol
Gofynion gweithredol
sicrhau'r cwmpas neu'r sail boblogaeth fwyaf
codio newidynnau deilliedig ac addasu ar gyfer diffyg ymateb
llwybro a dilysu
Caiff pob pwnc ei werthuso yn erbyn pob maen prawf a restrir:
y meini prawf sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr yw'r meini prawf pwysicaf ar gyfer gwerthuso o hyd
mae'r meini prawf sy'n ymwneud â gofynion gweithredol yn atgyfnerthu'r achos dros gynnwys pynciau, yn enwedig os credir y gall pwnc wella'r cwmpas
bydd y meini prawf sy'n ymwneud ag ystyriaethau eraill, ynghyd â'r dystiolaeth o ofynion defnyddwyr, yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu holiadur y cyfrifiad a'r gwaith parhaus i ddatblygu ystadegau yn seiliedig ar ddata gweinyddol
Mae'n bosibl na chaiff pwnc ei gynnwys yng Nghyfrifiad 2031 er bod angen hysbys os caiff problemau eu nodi wrth ddatblygu cynnwys, gan ddefnyddio'r meini prawf sy'n ymwneud ag ystyriaethau eraill. Er enghraifft, mae'n bosibl na chaiff pwnc ei gynnwys os na allwn ddatblygu cwestiwn y gall ymatebwyr ei ateb yn gywir.
Cafodd y meini prawf gwerthuso ar gyfer pynciau a chynnwys Cyfrifiad 2031 eu cymeradwyo ar ddechrau mis Ionawr 2026 ar ôl ymgynghori â'r Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol (MARP) ac ymgysylltu â grŵp eang o arbenigwyr drwy 2025. Cynhaliwyd y broses hon i gasglu adborth ar newidiadau arfaethedig i feini prawf gwerthuso Cyfrifiad 2021. Gwnaethom hefyd gydweithio'n agos ag Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) a Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) er mwyn sicrhau bod dulliau gweithredu yn gyson lle y bo modd.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Meini prawf gwerthuso ar gyfer pynciau'r cyfrifiad
Caiff y dystiolaeth a gasglwyd o ymatebion i'r ymgynghoriad a gwaith ymgysylltu ehangach eu gwerthuso yn erbyn y meini prawf ar gyfer gofynion defnyddwyr er mwyn llywio'r broses o ddewis pynciau i'w cynnwys yng Nghyfrifiad 2031. Caiff tystiolaeth ehangach ei defnyddio i asesu meini prawf sy'n ymwneud â gofynion gweithredol ac ystyriaethau eraill.
Gofynion defnyddwyr
Mae'r meini prawf sy'n ymwneud â gwerthuso gofynion defnyddwyr yn hollbwysig er mwyn asesu'r angen am wybodaeth. Eu nod yw sicrhau bod y pynciau a gaiff eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2031 yn cael eu dewis am eu bod yn cynnig budd cryf i gymdeithas pan gânt eu casglu drwy gyfrifiad.
Caiff y meini prawf sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr, gyda disgrifiad cryno a phwysoliadau cymharol, eu disgrifio yn yr adran 'Meini prawf gwerthuso sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr' ganlynol. Mae'r meini prawf yn adlewyrchu'r rhai a ddefnyddiwyd yn 2021 i raddau helaeth, ond maent wedi cael eu haddasu yn seiliedig ar waith adolygu dadansoddi arbenigol, gan wneud newidiadau i'r disgrifiadau a'r pwysoliadau cymharol.
Y prif wahaniaeth, o gymharu â'r meini prawf a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021, yw newidiadau i bwysoliad cymharol y meini prawf hyn. Mae'r addasiadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith yn dilyn dadansoddiad a argymhellwyd gan y Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol (MARP). Mae'r pwysoliad ar gyfer ffynonellau data amgen wedi cael ei leihau o gymharu â 2021, ac mae'r pwysoliad ar gyfer dadansoddiad amlamrywedd wedi cynyddu. Mae hyn yn adlewyrchu gwersi a ddysgwyd am gyfyngiadau data gweinyddol, a'r gwerth y mae defnyddwyr yn ei roi ar alluoedd amlamrywedd y cyfrifiad.
Bydd ymatebion gan ddefnyddwyr ar gyfer pob pwnc, gan gynnwys y pynciau newydd arfaethedig, yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf hyn sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr. Mae pob maen prawf yn cysylltu'n uniongyrchol â chwestiynau penodol yn holiadur yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, ni fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn cyfyngu ei gwaith dadansoddi ar gyfer meini prawf penodol i'r cwestiynau hyn os darperir tystiolaeth mewn ymatebion eraill i'r ymgynghoriad, lle y bo'n berthnasol.Caiff safbwyntiau ehangach a gasglwyd gan y SYG o weithgareddau ymgysylltu eraill, gan gynnwys ymgynghoriad 2023 ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo, eu hystyried hefyd.
Mae'r adran ganlynol yn cwmpasu'r chwe maen prawf yn y grŵp o feini prawf sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr.
Meini prawf gwerthuso sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr
Diben
Mae at ba ddiben y defnyddir y data a gesglir yn greiddiol i'r broses werthuso.
Mae dibenion yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill: dyrannu adnoddau, cynllunio gwasanaethau, gwerthuso polisïau, asesu cydraddoldeb, a monitro amrywiaeth.
Mae'r goblygiadau os na chesglir y data, fel costau ariannol uwch neu ansawdd data is wrth gynllunio, hefyd yn bwysig.
Mae gofynion sy'n deillio o ddeddfwriaeth yn atgyfnerthu'r achos dros gynnwys pynciau.
Mae gan y maen prawf diben bwysoliad cymharol o 30% o fewn y meini prawf cyffredinol sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr; mae'r pwysoliad cymharol hwn yr un peth â'r hyn a ddefnyddiwyd yng ngwerthusiad Cyfrifiad 2021.
Ardaloedd daearyddol bach neu boblogaethau bach
Un o fanteision y cyfrifiad yw'r wybodaeth a ddarperir am grwpiau bach o'r boblogaeth ac ar lefelau daearyddol manwl.
Efallai y byddai'n well cael gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer ardaloedd daearyddol eang neu grwpiau mawr o'r boblogaeth yn unig o ffynonellau ystadegol eraill.
Mae gan y maen prawf ardaloedd daearyddol bach neu boblogaethau bach bwysoliad cymharol o 25% o fewn y meini prawf cyffredinol sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr; mae hyn wedi cynyddu o bwysoliad cymharol o 20% yng Nghyfrifiad 2021.
Ffynonellau amgen (diffyg)
Dylid ond casglu gwybodaeth drwy'r cyfrifiad os na ellir diwallu anghenion defnyddwyr yn llawn drwy ffynonellau eraill (megis data gweinyddol), gan gynnwys achosion lle na chaiff gofynion ansawdd eu bodloni.
Ystyrir a oes gwybodaeth addas ar gael o ffynonellau eraill.
Mae gan y maen prawf ffynonellau amgen bwysoliad cymharol o 5% o fewn y meini prawf cyffredinol sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr; mae hyn wedi gostwng o bwysoliad cymharol o 15% yng Nghyfrifiad 2021.
Dadansoddiad amlamrywedd
Un o fanteision pwysig data'r cyfrifiad yw'r gallu i ddadansoddi newidynnau'r cyfrifiad yn erbyn ei gilydd (dadansoddiad amlamrywedd).
Bydd gofynion defnyddwyr am ddadansoddiad amlamrywedd ar gyfer pwnc yn atgyfnerthu'r achos dros ei gynnwys yn y cyfrifiad, os na all ffynonellau eraill ddiwallu'r angen hwn.
Mae gan y maen prawf dadansoddiad amlamrywedd bwysoliad cymharol o 23% o fewn y meini prawf cyffredinol sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr; mae hyn wedi cynyddu o bwysoliad cymharol o 15% yng Nghyfrifiad 2021.
Cymharedd y tu hwnt i Gymru a Lloegr
Mae angen i ddata a gesglir o'r cyfrifiad fod yn gydlynol ar draws ardal ddaearyddol fawr.
Os bydd angen ymhlith defnyddwyr, bydd tair swyddfa cyfrifiad y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi allbynnau cyfrifiad wedi'u cysoni sy'n gydlynol ledled y Deyrnas Unedig lle y bo modd; byddwn hefyd yn ystyried anghenion am gymharedd rhyngwladol.
Mae gan y maen prawf cymharedd y tu hwnt i Gymru a Lloegr bwysoliad cymharol o 7% o fewn y meini prawf cyffredinol sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr; mae hyn ychydig yn is na Chyfrifiad 2021, lle roedd y pwysoliad cymharol yn 10%.
Cysondeb â chyfrifiadau blaenorol
Mae'r gallu i gymharu â chyfrifiadau blaenorol yn un o fanteision gwaith dadansoddi'r cyfrifiad a, lle y bo'n briodol, bydd holiadur Cyfrifiad 2031 yn casglu'r un wybodaeth â holiadur Cyfrifiad 2021.
Mae gan y maen prawf cysondeb â chyfrifiadau blaenorol bwysoliad cymharol o 10% o fewn y meini prawf cyffredinol sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr; mae'r pwysoliad hwn yr un peth â 2021.
Ystyriaethau eraill
Mae nifer o bethau y mae angen eu hystyried wrth gynllunio cynnwys Cyfrifiad 2031. Mae ystyriaethau eraill yn cyfeirio at ffactorau sy'n effeithio ar ddichonoldeb ac ymarferoldeb rhoi cwestiynau neu bynciau ar waith, fel ansawdd data, cost a'r baich ar ymatebwyr. Mae'r rhain yn llywio'r gwaith o ddatblygu cynnwys y cyfrifiad (cwestiynau a chyfarwyddiadau) ar y cyd â gofynion defnyddwyr.
Caiff anghenion datblygu ar gyfer pob pwnc eu hasesu yn erbyn y meini prawf hyn, gan gydnabod ei bod yn debygol y bydd gan bob pwnc anghenion unigol yn y broses ddatblygu. Bydd y dull gweithredu hwn yn llywio'r gwaith o ddatblygu cwestiynau unigol a chynlluniau cynnwys manwl. Weithiau, er bod angen cryf ymhlith defnyddwyr, mae'n bosibl y caiff pwnc ei eithrio os na ellir ei fesur yn ddibynadwy neu'n gywir.
Yn seiliedig ar yr adolygiad arbenigol o'r meini prawf hyn, rydym wedi ychwanegu maen prawf newydd: "y gallu i optimeiddio prosesau integreiddio ystadegol". Mae hyn yn cydnabod potensial data gweinyddol i ychwanegu gwerth at allbynnau Cyfrifiad 2031 neu gefnogi system ystadegol yn y dyfodol, drwy gysylltu data.
Caiff pob pwnc ei asesu o ran pa mor dda y perfformiodd yn 2021, gan ddefnyddio tystiolaeth berthnasol o Gyfrifiad 2021 lle y bo'n bosibl, wedi'i hategu gan ffynonellau ychwanegol pan na fydd data o 2021 ar gael.
Mae'r adran ganlynol yn cwmpasu'r chwe maen prawf yn y grŵp o feini prawf sy'n ymwneud ag ystyriaethau eraill (effaith arnynt).
Meini prawf gwerthuso sy'n ymwneud ag ystyriaethau eraill
Effaith ar ansawdd data
Bwriedir i'r data a gesglir yng Nghyfrifiad 2031 fod o ansawdd sy'n addas i gynhyrchu allbynnau sy'n diwallu anghenion gofynnol defnyddwyr.
Dylai'r wybodaeth y gofynnir amdani gael ei chyfyngu i fanylion y gall ymatebwyr eu darparu'n hwylus neu eu cofio'n gywir.
Effaith ar ba mor dderbyniol ydyw i'r cyhoedd
Ni ddylai'r cyfrifiad ofyn cwestiynau sensitif na chwestiynau a allai fod yn ymwthiol a all gael effaith negyddol ar ymatebion neu a all olygu bod ymatebwyr yn rhoi atebion sy'n dderbyniol yn gymdeithasol (yn hytrach nag atebion cywir); ni ddylai holi am farn nac agweddau unigolion ychwaith.
Caiff y cyfrifiad ei gynnal at ddibenion ystadegol hefyd; ni ddylai gasglu data a fyddai'n hyrwyddo grwpiau masnachol, gwleidyddol neu sectaraidd yn fwriadol, neu'n noddi achosion penodol.
Yr effaith ar y baich ar ymatebwyr
- Ni ddylai'r cwestiynau a ofynnir am bwnc osod baich gormodol ar ymatebwyr, gall hyn ddeillio o'r canlynol: cyfarwyddiadau neu esboniadau hirfaith, llwybro cymhleth, nifer mawr o gategorïau ymateb, neu nifer mawr o gwestiynau ar un pwnc.
Effaith ar bryderon ariannol
- Ni ddylai cwestiynau achosi unrhyw broblemau codio mawr, ni ddylai fod angen iddynt gael eu prosesu'n helaeth, ac ni ddylent ychwanegu'n sylweddol at gost gyffredinol y cyfrifiad.
Effaith ar ddull yr holiadur
- Caiff y dulliau casglu data eu hystyried drwy gydol y broses o gynllunio'r holiadur; y nod yw bod ymatebwyr yn dehongli'r cwestiynau ac yn ateb mewn ffordd gyson ar draws pob dull gan olygu y gellir casglu gwybodaeth gyson.
Y gallu i optimeiddio prosesau integreiddio ystadegol
- Bydd y gallu i gynnwys Cyfrifiad 2031 gynyddu gwerth data'r cyfrifiad drwy brosesau cysylltu, neu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu system ystadegol yn y dyfodol yn seiliedig ar ddata gweinyddol, yn cael ei ystyried wrth ddatblygu cynnwys y cyfrifiad.
Bydd y broses o gategoreiddio ystyriaethau eraill yn helpu i lywio'r broses o ddatblygu holiadur y cyfrifiad.
Bydd y broses o werthuso meini prawf ystyriaethau eraill Cyfrifiad 2031 yn symud o'r raddfa tri phwynt a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 i ddull categoreiddio pum pwynt. Mae'r penderfyniad hwn wedi cael ei seilio ar adolygiad arbenigol i adlewyrchu effeithiau cadarnhaol a negyddol cynnwys pynciau a'u datblygu yn well.
Categoreiddio ystyriaethau eraill
Effaith gadarnhaol uchel
- Byddai cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â'r is-bwnc hwn yn cael effaith gadarnhaol uchel; er enghraifft, lle mae'r cwestiwn yn gwella pa mor dderbyniol yw'r cyfrifiad neu gwestiynau eraill yng Nghyfrifiad 2031.
Effaith gadarnhaol ganolig
- Byddai cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â'r is-bwnc hwn yn cael effaith gadarnhaol ganolig; er enghraifft, lle mae'r cwestiwn yn gwella eglurder neu'n cefnogi dealltwriaeth ymatebwyr, byddai'r effaith ar ansawdd y data yn gadarnhaol.
Dim effaith neu effaith isel
- Byddai cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â'r is-bwnc hwn yn cael effaith fesuradwy isel neu ddim effaith o gwbl; er enghraifft, lle mae'r cwestiwn yn glir ac yn gyfarwydd i ymatebwyr, effaith isel fyddai hyn yn ei chael ar yr holl feini prawf.
Effaith negyddol ganolig
- Byddai cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â'r is-bwnc hwn yn cael effaith negyddol ganolig; er enghraifft, lle gall fod angen ychydig o eglurder neu amser ychwanegol ar gwestiynau, gallai hyn gynyddu'r baich ar ymatebwyr yn gymedrol.
Effaith negyddol uchel
- Aseswyd y byddai cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â'r is-bwnc hwn yn cael effaith negyddol uchel; er enghraifft, gallai pobl feddwl bod cwestiwn sy'n gofyn am fanylion ariannol sensitif heb gyfiawnhad clir yn ymwthiol a gallai hyn leihau cyfraddau ymateb.
Gofynion gweithredol
Rydym yn defnyddio rhywfaint o'r data a gesglir yn ystod y cyfrifiad i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cyfrifiad neu ei allbynnau. Ar gyfer Cyfrifiad 2031, byddwn yn asesu tystiolaeth ar gyfer pynciau a gafodd eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2021 er mwyn pennu a ddefnyddiwyd unrhyw gwestiynau yn weithredol ac yn dilysu hyn â thimau cyflawni'r SYG. Mae'r fframwaith hwn wedi'i ddylunio er mwyn helpu i gyflawni'r cyfrifiad mewn ffordd gadarn ac effeithiol.
Caiff pynciau eu categoreiddio yn ôl eu pwysigrwydd -- uchaf, cymedrol neu isaf -- mewn perthynas â gofynion gweithredol.
Sicrhau'r cwmpas mwyaf yw'r ystyriaeth weithredol bwysicaf, gan mai prif nod y cyfrifiad yw darparu amcangyfrif cadarn o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr.
Meini prawf gwerthuso sy'n ymwneud â gofynion gweithredol
Uchaf
Lle caiff data a gesglir ar bwnc eu defnyddio i sicrhau'r cwmpas mwyaf neu i ddiffinio sail boblogaeth, rhoddir pwysigrwydd uchel iddynt.
Gall holiadur Cyfrifiad 2031 gynnwys rhai cwestiynau, er enghraifft, sy'n helpu ymatebwyr i nodi pwy ddylai gael ei gynnwys yn yr holiadur neu a gaiff ei ddefnyddio i gynhyrchu seiliau allbwn gwahanol.
Cymedrol
Disgwylir y bydd rhai allbynnau yn seiliedig ar newidynnau deilliedig.
Gall pynciau gael eu cynnwys yn holiadur Cyfrifiad 2031 os nodir bod angen ymhlith defnyddwyr am ddata sy'n deillio o newidyn, hyd yn oed os nad oes angen ymhlith defnyddwyr am allbynnau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r pwnc; er enghraifft, roedd angen statws goruchwylio yn bennaf er mwyn cyfrifo'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) mewn cyfrifiadau blaenorol.
Defnyddir rhai pynciau craidd er mwyn gallu asesu'n well ac addasu'n well ar gyfer nodweddion y rhai na fyddant yn ymateb.
Isaf
Mewn cyfrifiad ar-lein, gall ymatebwyr gael eu llwybro'n awtomatig o amgylch cwestiynau nad oes angen iddynt eu hateb.
Fodd bynnag, bydd fersiwn bapur o'r ffurflen o hyd ac mae'n debygol y bydd angen rhai cwestiynau llwybro ar y fersiwn hon.
Defnyddir rhai cwestiynau at ddibenion dilysu hefyd, er enghraifft traws-wirio rhwng oedran a statws priodasol.
Mae'r meini prawf sy'n ymwneud â gofynion gweithredol a gofynion defnyddwyr yn cefnogi penderfyniadau o ran pa bynciau ddylai gael eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2031, fel y nodir yn Ffigur 1. Defnyddir y dull gweithredu hwn i gefnogi barn ddiweddaraf y SYG o ran pa bynciau a gaiff eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2031.
Unwaith y bydd pynciau wedi cael eu dewis i'w hystyried ymhellach, caiff ystyriaethau eraill eu defnyddio'n bennaf ar y cyd â'r dystiolaeth o ofynion defnyddwyr i lywio'r broses o ddatblygu holiadur y cyfrifiad a chreu allbynnau ymchwil data gweinyddol. Er y caiff pob pwnc ei ddatblygu yn unol â'i ofynion penodol, mae'r ystyriaethau eraill hyn yn helpu i lywio'r datblygiadau hyn.
Weithiau, hyd yn oed pan gaiff pwnc ei asesu fel "ystyried sut i gasglu", gall gael ei eithrio o Gyfrifiad 2031 o hyd os na fydd modd ei roi ar waith oherwydd ffactorau a amlinellir o dan ystyriaethau eraill.
Ffigur 1: Cyfuno'r meini prawf er mwyn llunio'r farn ddiweddaraf am bynciau i'w cynnwys yng Nghyfrifiad 2031.
Download this image Ffigur 1: Cyfuno'r meini prawf er mwyn llunio'r farn ddiweddaraf am bynciau i'w cynnwys yng Nghyfrifiad 2031.
.png (82.6 kB)4. Ein camau nesaf
Daeth yr ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031 i ben ar 4 Chwefror 2026.
Mae'r holl ymatebion yn cael eu cymedroli, gan ddefnyddio'r polisi cymedroli a amlinellwyd yn Atodiad B o'r Ymgynghoriad ar Bynciau (PDF, 1334KB), cyn iddynt gael eu sgorio yn erbyn y meini prawf gwerthuso a nodwyd yn yr erthygl hon. Caiff ein methodoleg sgorio ei meincnodi ar draws pynciau, a byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi bylchau a dilysu ein dealltwriaeth yn ôl yr angen. Caiff sgoriau terfynol ac ymatebion wedi'u cymedroli eu sicrhau gan banel sy'n cynnwys arbenigwyr methodolegol ac arbenigwyr ar y cyfrifiad o bob rhan o'r SYG.
Caiff trosolwg o'r ymatebion a'r camau nesaf eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2026.
Caiff adroddiadau gwerthuso cynhwysfawr fesul pwnc eu cyhoeddi ddiwedd haf 2026. Byddant yn cynnwys ein hargymhellion ynghylch pa bynciau y byddwn yn ystyried eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2031 a'n cynlluniau ar gyfer datblygu cwestiynau a chynnwys. Bydd yr adroddiadau hyn yn esbonio sut y defnyddiwyd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad i lywio'r penderfyniadau hynny.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Dolenni cysylltiedig
Cyfrifiad 2031: Dogfen yr Ymgynghoriad ar bynciau ar gyfer Cymru a Lloegr (PDF, 1,334 KB)
Dogfen yr ymgynghoriad | Rhyddhawyd ar 28 Hydref 2025
Prif ddiben yr ymgynghoriad oedd darparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau ynghylch pa bynciau ddylai gael eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2031.
Dogfen ymgynghori ar Gysoni Ethnigrwydd (fersiwn ar y we) (PDF, 747KB)
Dogfen yr ymgynghoriad | Rhyddhawyd ar 28 Hydref 2025
Diben yr ymgynghoriad hwn oedd casglu barn am opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol a all fod yn ofynnol ar gyfer safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd.
Methodological Assurance Review Panel -- UK Statistics Authority (ddim ar gael yn Gymraeg)
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 2025
Mae'r dudalen hon yn nodi cefndir, diben, aelodaeth a dolenni pellach ar gyfer y Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol.
Northern Ireland Census User Needs Consultation (ddim ar gael yn Gymraeg)
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 2025
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ac yn cyfeirio at ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr mewn perthynas â chyfrifiad Gogledd Iwerddon.
The future of Scotland's census: Recommendations from National Records of Scotland (ddim ar gael yn Gymraeg)
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 2025
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ac yn cyfeirio at adnoddau sy'n ymwneud â chyfrifiad bob 10 mlynedd yr Alban.
6. Cyfeirio at yr erthygl hon
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 4 Mawrth 2026, gwefan y SYG, erthygl, Cyfrifiad 2031: meini prawf gwerthuso ar gyfer pynciau a chynnwys