1. Trosolwg

Gwnaethom gynnal ymgynghoriad rhwng 28 Hydref 2025 a 4 Chwefror 2026, gan nodi ein barn gychwynnol am y pynciau i'w casglu yng Nghyfrifiad 2031. Roedd hyn yn seiliedig ar ein gwybodaeth bresennol am anghenion defnyddwyr o weithgarwch ymgysylltu ac ymgynghori blaenorol. Prif ddiben yr ymgynghoriad oedd darparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau ynghylch pa bynciau y dylid eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2031. Ceir rhagor o fanylion yn ein dogfen ymgynghori.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • pwy oedd ein hymatebwyr
  • sut y gwnaethom gyfleu'r ymgynghoriad i'n defnyddwyr
  • sut y byddwn yn dadansoddi'r ymatebion ac yn ceisio sicrwydd ynghylch ein hargymhellion
  • ein camau nesaf

Rydym yn gweithio drwy werthusiad llawn o'r holl ymatebion, gan ddefnyddio'r meini prawf gwerthuso a gyhoeddwyd. Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein dadansoddiad yn ddiweddarach yn 2026. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y pynciau rydym yn bwriadu eu datblygu ar gyfer Cyfrifiad 2031 yng Nghymru a Lloegr.

Hoffem ddiolch i bawb a rannodd eu barn â ni drwy ymateb i'r ymgynghoriad ar bynciau. Mae'r ymatebion yn ein helpu i flaenoriaethu gwaith i gasglu gwybodaeth sy'n sicrhau'r budd cyhoeddus mwyaf, gan ystyried gofynion gweithredol a dichonoldeb.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Ymatebion i'r ymgynghoriad

Cawsom 722 o ymatebion i'r ymgynghoriad; roedd 287 o'r rhain ar ran sefydliadau ac roedd 435 gan unigolion.

Gwnaethom ofyn i sefydliadau ddewis o restr y sector(au) a oedd yn disgrifio eu diwydiant orau. Roeddent yn gallu dewis mwy nag un sector mewn ymateb i'r cwestiwn hwn. Y sector a ddewiswyd amlaf oedd "Llywodraeth leol neu ranbarthol" (164), ac yna "Aelod unigol o'r cyhoedd" (162) ac "Y sector elusennol neu gymunedol" (147).

Roedd nifer yr ymatebion fesul sector, fel y'i dewiswyd gan yr ymatebwyr yn seiliedig ar y categorïau a roddwyd yn holiadur yr ymgynghoriad, fel a ganlyn:

  • Adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig 28

  • Llywodraeth ddatganoledig 8

  • Corff cyhoeddus anadrannol neu un o asiantaethau'r llywodraeth 13

  • Llywodraeth leol neu ranbarthol 164

  • Gwasanaeth cyhoeddus (er enghraifft ysgol neu heddlu) 15

  • Academia neu ymchwil 78

  • Bwrdd y GIG neu sefydliad iechyd 33

  • Tai 14

  • Y sector elusennol neu gymunedol 147

  • Y sector masnachol neu breifat 44

  • Newyddiaduraeth neu'r cyfryngau 5

  • Achyddol neu hanes teuluoedd 50

  • Aelod unigol o'r cyhoedd 162

  • Arall 105

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Ymgysylltu â defnyddwyr

Defnyddiwyd amrywiaeth o sianeli i hyrwyddo'r ymgynghoriad, gan gynnwys:

  • datganiad newyddion yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • erthygl blog (ddim ar gael yn Gymraeg)
  • postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
  • cylchlythyrau
  • negeseuon e-bost at randdeiliaid mewn amrywiaeth o sectorau – roedd y rhain yn cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, tai, sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau

Gwnaethom hefyd ofyn i’n rhanddeiliaid godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad drwy eu rhwydweithiau.

Ym mis Tachwedd 2025, gwnaethom gynnal gweminar gyhoeddus (ddim ar gael yn Gymraeg) a chymerodd rhanddeiliaid o sectorau amrywiol ran. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys cyrff cyhoeddus, elusennau a sefydliadau gwirfoddol, y byd academaidd a llywodraeth leol. Cafodd y weminar ei recordio ac yna ei rhannu ar YouTube fel adnodd.

Yn ogystal â hysbysu Grwpiau Seneddol Hollbleidiol perthnasol ac Aelodau Seneddol am yr ymgynghoriad, cymerodd cynrychiolwyr o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ran mewn Wythnos Dystiolaeth yn Senedd y Deyrnas Unedig ar 4 Tachwedd 2025. Roeddent yno i hyrwyddo'r ymgynghoriad ymhlith seneddwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisïau, ac ateb cwestiynau.

Gwnaethom gyfrannu at erthyglau, blogiau, cylchlythyrau a fforymau (gan gynnwys postiadau ar StatsUserNetwork). Gwnaethom siarad am yr ymgynghoriad mewn digwyddiadau a gweminarau trydydd parti, fel:

  • Data Bites
  • seminar ar-lein y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chuddwybodaeth Lleol
  • Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru
  • cyfarfod bord gron y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol

Gwnaethom ymgysylltu â Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, a gynrychiolwyd gan Benaethiaid Proffesiwn ar draws adrannau'r llywodraeth, drwy negeseuon e-bost a chyfarfodydd ym mis Medi 2025, mis Hydref 2025 a mis Ionawr 2026. Cafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo ymhellach i aelodau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar draws adrannau drwy ddeunyddiau, ein presenoldeb yng nghynhadledd Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2025 a thrwy gylchlythyr Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a'i sianeli cymdeithasol.

Dosbarthwyd cyfres o nodiadau atgoffa i roi gwybod i ddefnyddwyr am y dyddiad cau, gan gynnwys datganiad newyddion pellach.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut rydym yn dadansoddi'r ymatebion

Bydd yr holl adborth a gafwyd drwy ymatebion i'r ymgynghoriad a gweithgarwch ymgysylltu ehangach yn cael ei ddadansoddi gan ddefnyddio dulliau cymysg, ar ôl cymedroli'r ymatebion yn unol â'r polisi cymedroli. Amlinellir hyn yn Atodiad B y ddogfen ymgynghori.

Meini prawf gwerthuso

Fel y disgrifiwyd yn ein cyhoeddiad Cyfrifiad 2031: meini prawf gwerthuso ar gyfer pynciau a chynnwys, bydd pob pwnc yn cael ei werthuso yn erbyn pob maen prawf o dan y penawdau canlynol:

  • Meini prawf sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr – y rhain fydd y meini prawf pwysicaf ar gyfer gwerthuso o hyd
  • Meini prawf sy'n ymwneud â gofynion gweithredol – gall y rhain atgyfnerthu'r achos dros gynnwys pynciau, yn enwedig os credir y gall pwnc wella'r cwmpas
  • Meini prawf sy'n ymwneud ag ystyriaethau eraill – bydd y rhain, ynghyd â'r dystiolaeth o ofynion defnyddwyr, yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu holiadur y cyfrifiad a'r gwaith parhaus i ddatblygu ystadegau yn seiliedig ar ddata gweinyddol

Mae'r dystiolaeth a gasglwyd o ymatebion i'r ymgynghoriad a gweithgarwch ymgysylltu ehangach yn cael ei gwerthuso yn erbyn y meini prawf ar gyfer gofynion defnyddwyr er mwyn llywio'r broses o ddewis pynciau i'w cynnwys yng Nghyfrifiad 2031. Mae tystiolaeth ehangach, fel tystiolaeth weithredol o Gyfrifiad 2021, yn cael ei defnyddio i asesu meini prawf sy'n ymwneud â gofynion gweithredol ac ystyriaethau eraill. Caiff hyn ei ddisgrifio'n fanylach yn yr adroddiadau llawn ar yr ymgynghoriad yn ddiweddarach yn 2026.

Sgorio tystiolaeth fesul pwnc

Bydd yr holl dystiolaeth a gafwyd drwy ymatebion i'r ymgynghoriad a gweithgarwch ymgysylltu ehangach yn ystod y cyfnod ymgynghori a chyn cyhoeddi'r meini prawf gwerthuso yn cael ei dadansoddi yn ôl pwnc a'i sgorio yn erbyn fframwaith cyson. Mae'r fframwaith yn darparu canllawiau i ddadansoddwyr ar sut i sgorio tystiolaeth yn erbyn pob un o'r meini prawf sy'n ymwneud â gofynion defnyddwyr, ar raddfa o 0 i 10.

Pan fydd sgoriau wedi'u syntheseiddio ar gyfer pob pwnc, byddant yn cael eu pwysoli i sicrhau bod pwysigrwydd cymharol pob maen prawf yn cael ei adlewyrchu yn y canfyddiadau.

Bydd y gwaith sgorio ar gyfer y meini prawf sy'n ymwneud â gofynion gweithredol ac ystyriaethau eraill yn defnyddio tystiolaeth ehangach, a ddisgrifir ymhellach yn yr adroddiadau llawn ar yr ymgynghoriad a gyhoeddir yn ddiweddarach yn 2026.

Sicrwydd

Bydd sgoriau a gynhyrchir gan y broses werthuso yn cael eu sicrhau gan amrywiaeth o grwpiau:

  • bydd timau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) sy'n defnyddio'r broses sgorio yn meincnodi sgoriau i sicrhau bod y meini prawf yn cael eu cymhwyso'n gyson ar draws pynciau
  • bydd arbenigwyr pwnc y SYG yn rhoi sylwadau a chyngor cychwynnol ar y broses sgorio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gamddealltwriaeth na bylchau amlwg o ran anghenion defnyddwyr a nodwyd.
  • gofynnir i aelodau Pwyllgor Cynghori Defnyddwyr Arbenigol yr Ystadegydd Gwladol (ddim ar gael yn Gymraeg) adolygu argymhellion o'r dadansoddiad, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd; byddant yn gwneud sylwadau ynghylch a ydynt yn cyd-fynd â'u dealltwriaeth o anghenion allweddol defnyddwyr ar draws meysydd polisi
  • caiff y canlyniadau eu sicrhau gan banel sicrwydd sy'n cynnwys uwch-gydweithwyr o bob rhan o'r SYG, gan sicrhau penderfyniadau ar gymedroli, sgorio canlyniadau, a chynlluniau gwaith arfaethedig ar gyfer y dyfodol

Caiff y canlyniadau eu hadlewyrchu mewn adroddiadau ar yr ymgynghoriad a gyhoeddir yn ddiweddarach yn 2026.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Y camau nesaf

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad yn ddiweddarach yn 2026. Bydd yr adroddiad yn amlinellu ein barn ddiweddaraf am bynciau i'w datblygu ar gyfer Cyfrifiad 2031. Efallai y bydd angen gwneud gwaith pellach ar rai pynciau i benderfynu a ydynt yn addas.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â defnyddwyr wrth i ni symud ymlaen i ddatblygu cynnwys (gan gynnwys dylunio cwestiynau, profi ac ymarfer) yn unol â'n strategaeth ar gyfer Cyfrifiad 2031 (ddim ar gael yn Gymraeg) ar gyfer Cymru a Lloegr.

Bydd cynnwys terfynol yr holiadur ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael ei gadarnhau gan y Senedd mewn is-ddeddfwriaeth.

Bydd tystiolaeth o'r ymgynghoriad ar gael i dimau eraill y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) hefyd lle y bo'n berthnasol, er enghraifft, i lywio camau i flaenoriaethu gwaith ar adolygu safonau wedi'u cysoni, neu i wella'r system ystadegau am y boblogaeth yn barhaus.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyd-destun y Deyrnas Unedig

Caiff cyfrifiadau ar wahân eu cynnal yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) wedi cynnal eu hymgyngoriadau eu hunain ar gynnwys yn ddiweddar. Mae'r tair swyddfa cyfrifiad yn cydweithio'n agos a byddant yn parhau i wneud hynny er mwyn datblygu set o gwestiynau a fydd, lle bynnag y bo modd, yn darparu allbynnau cymharol neu gydlynol ledled y Deyrnas Unedig.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Dolenni cysylltiedig

Dogfen ymgynghori: Cyfrifiad 2031: Ymgynghoriad ar Gynnwys ar gyfer Cymru a Lloegr
PDF | Cyhoeddwyd ar 28 Hydref 2025

Dogfen ymgynghori yn crynhoi ein barn gychwynnol am gynnwys Cyfrifiad 2031 yng Nghymru a Lloegr.
Cyfrifiad 2031: meini prawf gwerthuso ar gyfer pynciau a chynnwys
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 4 Mawrth 2026

Meini prawf gwerthuso Cyfrifiad 2031 ar gyfer pynciau a chynnwys a fydd yn helpu i benderfynu a gaiff pynciau eu cynnwys yn y cyfrifiad a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cynnwys yn y dyfodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyfeirio at yr erthygl hon

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 27 Ebrill 2026, gwefan y SYG, erthygl, [Cyfrifiad 2031: ymgynghoriad ar gynnwys ar gyfer Cymru a Lloegr – diweddariad][1]

Nôl i'r tabl cynnwys