Yn 2023, gwnaethom gyfarfod â 40 o bobl rhwng 18 a 24 oed yn ein Trafodaeth Ddata er mwyn clywed eu barn am rannu data. Roeddem am iddynt rannu eu teimladau â ni am sut a phryd y maent yn rhannu eu gwybodaeth bersonol. Roeddem hefyd am gael gwybod beth yw eu barn am y ffordd y caiff y wybodaeth honno ei rhannu a'i defnyddio.  

Gwnaethom ofyn iddynt: 

  • sut maent yn teimlo am rannu eu data 

  • a ydynt yn meddwl ddwywaith cyn rhannu eu data 

  • a ydynt yn credu ei bod yn deg i gwmnïau ofyn am eu data 

  • a ydynt o'r farn y gellir defnyddio data er budd pawb 

  • beth fyddai'n gwneud iddynt deimlo'n fwy diogel wrth rannu eu data 

Roedd sylwadau gan y bobl a gymerodd ran yn cynnwys: 

  • "Rwy'n fwy tebygol o rannu fy nata â'r SYG, mae'n ymddangos yn fwy dibynadwy" 

  • "Ni alla i weithredu mewn cymdeithas, gyda'm ffrindiau, oni bai fy mod yn trosglwyddo rhyw fath o ddata" 

  • "Nid yw bob amser yn glir pam mae angen i chi roi gwybodaeth benodol yn fy marn i" 

  • "Os caiff data eu defnyddio mewn ffordd gadarnhaol, er mwyn gweithredu a sicrhau newid cymdeithasol, rwy'n credu y bydd yn cymell pobl i'w rhannu" 

Gallwch glywed mwy am yr hyn y gwnaethant ei ddweud yn ein fideo am Drafodaeth Ddata'r SYG (yn Saesneg) [yn agor chwaraewr fideo YouTube mewn ffenestr newydd]. 

Ymchwil bellach ynglŷn â rhannu data  

Mae deall agweddau pobl at ddata ym mhob rhan o gymdeithas yn bwysig. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i lywio'r ffordd rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwella dealltwriaeth o'r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn defnyddio data. Mae hyn hefyd yn helpu i feithrin ymddiriedaeth yn ein gwaith pwysig. 

Byddwn yn parhau i gyfathrebu a cheisio barn pobl am y ffordd rydym yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau swyddogol.