
Mae Her Data SYG 2025 bellach wedi dod i ben.
Croeso i Her Data Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) 2025! Mae'r fenter gyffrous hon yn agored i fyfyrwyr 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr. Gall helpu'ch myfyrwyr i:
ymgysylltu â data byd go iawn
datblygu eu sgiliau dadansoddol
archwilio sut y gall data helpu i ddatrys problemau ar lefel leol a chenedlaethol
Mae'r her wedi'i chynllunio i ysbrydoli myfyrwyr trwy eu hannog i gael profiad ymarferol gyda data gan y SYG. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gasglu data eu hunain ac i weithio ar brosiectau sy'n mynd i'r afael â heriau pwysig i gymdeithas. Byddant yn cael dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall data yrru newid cadarnhaol trwy lywio gwneud penderfyniadau unigol a chyfunol. Byddant hefyd yn dysgu sut mae'r SYG yn defnyddio data i greu ystadegau sy'n dylanwadu ar benderfyniadau rhanbarthol a chenedlaethol.
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
Mae Her Data SYG yn cefnogi ystod eang o feysydd cwricwlwm, gan ei gwneud yn ychwanegiad amlbwrpas i'ch pecyn addysgu. P'un a ydych chi'n dysgu Astudiaethau Busnes, Daearyddiaeth, Mathemateg neu Gymdeithaseg, mae'r her yn cynnig cynnwys perthnasol a diddorol sy'n cyd-fynd â'ch cwricwlwm.
Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau a sgiliau llythrennedd data sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer eu dyfodol academaidd a phroffesiynol. Archwiliwch sut y gall Her Data SYG wella eich gwersi a rhoi profiadau dysgu gwerthfawr i'ch myfyrwyr.
Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd yr holl wybodaeth a rennir yn ystod eich cyfranogiad yn Her Data SYG yn cael ei thrin yn unol â pholisïau diogelu data llym SYG (yn Saesneg). Sylwch y bydd y wybodaeth hon hefyd yn cael ei rhannu gyda We. Communications, sy'n gweithio ar ran y SYG. Mae rhagor o wybodaeth am y telerau a’r amodau ar gael ym Mholisi Preifatrwydd We. Communications, Hopscotch gynt (yn Saesneg).