Rydym yn casglu, yn storio, yn prosesu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau sy'n ein helpu i ddeall economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU. Rydym yn defnyddio data ar gyfer ystadegau ac ymchwil a all fod o fudd i gymdeithas. Gallai hyn gynnwys popeth o ofal iechyd a lleoedd mewn ysgolion i faterion amgylcheddol.
Mae sefydliadau yn defnyddio ein hystadegau i wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar bob un ohonom. Er enghraifft, mae llywodraeth leol yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau, fel ysgolion, ysbytai a chasgliadau sbwriel. Mae busnesau'n ei defnyddio i benderfynu ble i leoli eu hunain, a all greu cyfleoedd gwaith.
Mae elusennau hefyd yn defnyddio ein data a'n hystadegau i helpu i dargedu eu cymorth a chael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt. Er enghraifft, defnyddiodd y Sefydliad Iechyd Meddwl ddata'r cyfrifiad i gefnogi'r grwpiau hynny o'r boblogaeth sy'n fwy tebygol o wynebu risg o salwch meddwl. Defnyddiodd Renewable UK ein hystadegau i olrhain y defnydd o ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Sut mae sefydliadau gwahanol yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad ac ystadegau poblogaeth
Mae'r wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu ar ystadegau poblogaeth yn helpu amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, rhoddodd gwybodaeth o Gyfrifiad 2021 y darlun cynhwysfawr cyntaf i'r Lleng Brydeinig Frenhinol o'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Helpodd y Sefydliad Datblygu Kashmiraidd i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion ei gymuned hefyd. Defnyddiodd Brigâd Dân Llundain ddata'r cyfrifiad i asesu lefelau risg a chreodd adnodd codau post ar-lein fel y gall pobl chwilio am wybodaeth am eu hardal.
Darllenwch ein straeon y cyfrifiad i weld sut mae sefydliadau gwahanol yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i gynllunio gwasanaethau.
Gwyliwch fideos straeon y cyfrifiad yn ein rhestr chwarae berthnasol ar YouTube (yn Saesneg).
Sut y gall data gweinyddol helpu i adrodd stori ein hardaloedd lleol
Rydym yn cynnig trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau am y boblogaeth a mudo gan ddefnyddio data gweinyddol. Mae ein hastudiaethau achos yn dangos sut y gallai ystadegau sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol gael eu defnyddio yn y dyfodol i greu darlun mwy manwl a chyfredol o ardaloedd lleol.
Er enghraifft, maent yn dangos bod gan Blackpool boblogaeth sy'n heneiddio, ond mae'r ganran fwyaf o bobl sy'n byw ym Manceinion rhwng 20 a 29 oed. Maent hefyd yn dangos sut mae cyfrifon y boblogaeth mewn rhai ardaloedd lleol yn uwch ar adegau penodol yn ystod y dydd.
Dysgwch fwy yn ein hastudiaethau achos ar gyfer trawsnewid ystadegau am y boblogaeth a mudo: Cymru a Lloegr, 2023 (yn Saesneg).