Mae'r dudalen hon yn ymdrin â digwyddiadau andwyol yn ystod beichiogrwydd, fel marw-enedigaethau, marwolaethau newyddanedigion, camesgoriadau a beichiogrwydd ectopig. Os bydd angen cefnogaeth arnoch, cysylltwch â Llinell Gymorth Genedlaethol Sands, Miscarriage Association (yn Saesneg) neu The Ectopic Pregnancy Trust (yn Saesneg).

Bob blwyddyn, mae camesgoriadau, marw-enedigaethau, beichiogrwydd ectopig a marwolaethau newyddanedigion yn effeithio ac yn amharu ar fywydau degau o filoedd o deuluoedd yn Lloegr. Hyd yma, nid yw'r canlyniadau ariannol hirdymor ar gyfer y menywod sy'n dioddef yr achosion hyn wedi'u deall. Er mwyn targedu cymorth yn y ffordd orau bosibl, efallai yr hoffai'r rhai sy'n llunio polisïau ystyried costau economaidd colli babi.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rydym wedi defnyddio data gweinyddol cysylltiol i ddangos effaith colli babi a phrofiadau cysylltiedig ar enillion a bylchau mewn cyflogaeth.

Mae ein hastudiaeth yn dangos bod enillion menywod sydd wedi dioddef marw-enedigaeth, marwolaeth babi newyddanedig, camesgoriad neu feichiogrwydd ectopig wedi gostwng. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn golygu colli mwy na £13,000 mewn enillion ar gyfartaledd dros bum mlynedd.

Nid oedd digon o dystiolaeth ar gael o'r effaith economaidd ar fenywod

Mae effaith emosiynol a chorfforol digwyddiadau fel camesgoriadau a marw-enedigaethau yn enfawr.

Fodd bynnag, ychydig iawn o dystiolaeth oedd ar gael yn y gorffennol i ddangos effeithiau colli babi ar enillion neu gyflogaeth menyw, ac nid oedd unrhyw dystiolaeth gredadwy ar raddfa fawr ar gael yn y DU o gwbl.

Gallai'r rhai sy'n llunio polisïau ddefnyddio'r dystiolaeth hon i ystyried cymorth i fenywod sy'n colli babi, gan gynnwys y canlynol:

  • tâl profedigaeth
  • absenoldeb tosturiol
  • hawliau gweithio hyblyg
  • llwybrau clinigol wedi'u targedu

Hefyd, ychydig iawn o ddata oedd ar gael i gyflogwyr er mwyn llywio polisïau'r gweithle, a oedd yn golygu y gallai menywod y mae digwyddiadau o'r fath wedi effeithio arnynt adael eu swyddi yn barhaol. Mae'r astudiaeth hon yn darparu gwybodaeth i helpu cyflogwyr i ddeall sut y gall colli babi effeithio ar eu gweithlu.

Cysylltu data am golli babi ag enillion menywod

Rydym wedi creu set ddata sy'n cynnwys gwybodaeth ddad-adnabyddedig am 147,000 o fenywod a gollodd fabi rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Rhagfyr 2022. Roedd hyn yn seiliedig ar y canlynol:

  • cofnodion ysbytai mewn perthynas â chamesgoriadau, beichiogrwydd ectopig a beichiogrwydd molar
  • cofrestriadau genedigaethau'r SYG ar gyfer marw-enedigaethau
  • cofrestriadau marwolaethau'r SYG ar gyfer marwolaethau newyddanedigion
  • enillion misol gweithwyr gan Gyllid a Thollau EF a dangosydd o gyflogaeth am dâl
  • gwybodaeth gymdeithasol-ddemograffig o Gyfrifiad 2011

Gwnaethom ddad-adnabod yr holl wybodaeth bersonol fel na ellid adnabod neb o'r ystadegau y gwnaethom eu cyhoeddi.

Gwnaethom edrych ar y newid cyfartalog yn yr enillion misol a'r effaith yr oedd colli babi yn ei chael ar gyflog menywod. Yna, gwnaethom gymharu'r rhain â'u sefyllfa flwyddyn cyn y digwyddiad.

Costau economaidd cudd ar ôl colli babi

Mae colli babi yn achosi galar personol dwys ond gall hefyd effeithio ar fenywod yn ariannol am flynyddoedd. Mae ein hastudiaeth yn dangos bod menywod sydd wedi dioddef camesgoriad neu farwolaeth babi newyddanedig wedi colli mwy na £13,000 mewn enillion yn ystod y pum mlynedd gyntaf. Er bod y rhan fwyaf wedi dychwelyd i'r gwaith yn y pen draw, roedd yr effaith ariannol i'w gweld am gryn amser ar ôl y cyfnod cychwynnol o absenoldeb statudol. Fel arfer, roedd yn cymryd tua dwy flynedd i'r cyfraddau cyflogaeth adfer. Fodd bynnag, nid oedd enillion yn adfer yn ystod yr un cyfnod.

Roedd menywod a ddioddefodd gamesgoriadau a beichiogrwydd ectopig hefyd yn ennill llai dros yr un cyfnod o bum mlynedd, sef rhwng £3,500 a £4,000. Roeddent hefyd yn llai tebygol o fod yn gweithio yn ystod y flwyddyn ddilynol.

Mae'r astudiaeth hon yn datgelu costau economaidd cudd ar ben profiad sydd eisoes yn drawmatig. Mae cydnabod graddfa a hyd y sefyllfa hon yn hollbwysig er mwyn llunio polisïau wedi'u targedu a chynnig cymorth a all helpu menywod i adfer eu bywydau gwaith.

Sut y gall ein hastudiaeth am golli babi helpu i wella bywydau gwaith menywod?

Mae'r gwaith hwn yn dangos sut y gall cysylltu data dad-adnabyddedig helpu i ateb cwestiynau cymhleth am faterion sensitif sy'n cael effaith sylweddol ar fywydau pobl.

Gallai'r rhai sy'n llunio polisïau ddefnyddio ein hastudiaeth i adolygu cyfraddau a hyd taliadau statudol, yn arbennig ar gyfer marw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion.

Gallai cyflogwyr ddefnyddio'r data i gyfiawnhau trefniadau gweithio hyblyg, gweithdrefnau dychwelyd i'r gwaith yn raddol a gwasanaethau cwnsela sy'n helpu staff i adfer eu gyrfaoedd.

Gallai comisiynwyr iechyd ddefnyddio'r canfyddiadau i gydgysylltu gwasanaethau profedigaeth, gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau iechyd galwedigaethol.

Gallai mesurau fel y rhain helpu i leihau'r amser adfer o ran enillion menywod, diogelu cynhyrchiant yn y gweithle a gwella llesiant menywod.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Effaith digwyddiadau beichiogrwydd andwyol ar enillion misol gweithwyr a chyflogaeth, Lloegr: Ebrill 2014 i Ragfyr 2022 (yn Saesneg).

Ariannwyd y prosiect hwn gan Cronfa Gwerthuso a Pheilotau Marchnadoedd Llafur – 2024 i 2025 (yn Saesneg) Llywodraeth y DU.