Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn casglu ac yn prosesu data, er mwyn creu ystadegau sy'n ein helpu i ddeall economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU.
Pan fyddwn yn defnyddio data, mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n parchu preifatrwydd unigolion a busnesau.
Un o'r ffyrdd y gallwn leihau'r risg y caiff rhywun ei adnabod yw drwy “ddad-adnabod” y data.
Beth yw ystyr dad-adnabod data?
Ystyr dad-adnabod data yw tynnu unrhyw wybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i'ch adnabod yn uniongyrchol. Er enghraifft, eich enw, eich cyfeiriad neu'ch dyddiad geni.
Sut mae dad-adnabod data yn gweithio?
Mae'r broses ddad-adnabod yn gweithio drwy dynnu gwybodaeth bersonol o ddata y gellid ei defnyddio i adnabod rhywun. Mae hyn yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni. Os bydd angen, gallwn hefyd greu rhif cyfeirnod newydd sy'n cysylltu ag unigolyn ond nad yw'n ei adnabod.
Mae ymchwilwyr o'r SYG sydd wedi cael caniatâd i gael gafael ar y data yn gallu defnyddio'r rhif cyfeirnod newydd i ddadansoddi a'i gysylltu â ffynonellau data eraill. Gallant wneud hyn heb ddatgelu gwybodaeth bersonol am unigolyn neu fusnes.
Defnyddio data dad-adnabyddedig i greu ystadegau
Cyn y gallwn gyhoeddi ystadegau, mae'n rhaid iddynt fynd drwy broses i dynnu unrhyw beth a allai adnabod rhywun. Mae rheolaethau ar waith i sicrhau na ellir ail-adnabod data yn ystod y broses hon.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol a moesegol i wneud hyn. Mae'r dulliau hyn yn helpu i leihau'r risg y caiff rhywun ei adnabod ymhellach, hyd yn oed ar ôl i wybodaeth bersonol gael ei thynnu.
Ar ôl prosesu, rydym yn defnyddio dulliau rheoli datgelu ystadegol i sicrhau na ellir adnabod neb yn ein hystadegau.
Gallai dulliau rheoli datgelu ystadegol gynnwys:
- grwpio data gyda'i gilydd
- tynnu elfennau o'r data
- newid y ffordd y caiff rhifau eu cyflwyno, fel newid rhif yn ganran
Ynghyd â'r dulliau hyn, byddwn yn ystyried:
- hawliau'r bobl a rannodd eu data
- lle y caiff y wybodaeth ei chyhoeddi
- sut a pham y casglwyd y data
- sut mae'r ystadegau yn helpu budd y cyhoedd
Bydd llawer mwy o ffactorau, ond bydd y dulliau penodol a ddefnyddir gennym yn wahanol ym mhob achos. Rydym yn llunio rhestr o'r holl benderfyniadau a wnawn a'r dulliau a ddefnyddir gennym.
Dysgwch fwy am ein dulliau rheoli datgelu ystadegol (yn Saesneg).
Pam y mae dad-adnabod data yn bwysig?
Mae dad-adnabod data yn diogelu gwybodaeth bersonol pobl. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i ddefnyddio data sensitif yn ddiogel. Drwy ddadansoddi'n fanylach, gallant greu ystadegau sy'n rhoi darlun mwy cyflawn o anghenion cymdeithas. Drwy ddad-adnabod data rydym:
- yn diogelu preifatrwydd pobl
- yn cydymffurfio â deddfwriaeth a gofynion diogelwch
- yn gallu cysylltu'n ddiogel â ffynonellau data eraill
- yn gallu rhannu dadansoddiadau er mwyn gwneud penderfyniadau'n well, wrth ddiogelu gwybodaeth bersonol pobl
Mae ein polisi dad-adnabod (yn Saesneg) yn rhoi amlinelliad o'r egwyddorion rydym yn eu dilyn pan fyddwn yn cynhyrchu ystadegau.