Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU, ond mae deall eu heffaith ehangach ar gyflogaeth ac enillion wedi bod yn heriol.

Dyluniwyd rhaglen Therapïau Siarad y GIG i drin iselder ac anhwylderau gorbryder. Yn ogystal â gwella iechyd meddwl pobl, gall hefyd helpu i wella eu cyflogaeth a'u cyflogau.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), gwnaethom ddefnyddio pŵer data cysylltiol i gynhyrchu tystiolaeth ar raddfa genedlaethol sy'n datgelu effaith rhaglen Therapïau Siarad y GIG ar fywydau gwaith pobl yn Lloegr. Drwy ddefnyddio data cysylltiol dad-adnabyddedig ar iechyd a data nad heb fod yn gysylltiedig ag iechyd, gallem weld effaith rhaglen Therapïau Siarad y GIG ar statws cyflogaeth ac enillion. Mae'r astudiaeth hon yn rhan o raglen ddadansoddi arloesol sy'n archwilio sut mae cyflyrau iechyd ac ymyriadau gwahanol yn effeithio ar waith ac enillion pobl.

Dangos manteision gwasanaethau iechyd meddwl

Illustration of a woman on a sofa with a Talking Therapies counsellor taking notes in a chair

Mae un o bob pedwar person yn wynebu problemau iechyd meddwl bob blwyddyn, a gorbryder ac iselder yw'r cyflyrau mwyaf cyffredin. Er ein bod yn gwybod y gall y cyflyrau hyn effeithio ar allu pobl i weithio, nid ydym wedi mesur effaith economaidd hirdymor triniaeth iechyd meddwl ar gyflogaeth ac enillion yn Lloegr yn y gorffennol.

Mae angen tystiolaeth ar y rhai sy'n llunio polisïau i ddeall a yw buddsoddi mewn rhaglenni fel Therapïau Siarad y GIG yn sicrhau manteision y tu hwnt i lesiant unigolion.

Cysylltu data i ddod o hyd i atebion

Gwnaethom gyfuno sawl set ddata fawr er mwyn nodi sut mae triniaeth iechyd meddwl yn effeithio ar fywydau gwaith pobl wahanol. Mae hyn yn cynnwys:

  • cofnodion Therapïau Siarad y GIG ar gyfer 842,000 o bobl a gafodd driniaeth rhwng 2014 a 2022
  • data cyflogaeth ac enillion gan Gyllid a Thollau EF rhwng 2014 a 2022
  • data o Gyfrifiad 2011 i ddeall cefndiroedd ac amgylchiadau pobl
  • data cofrestriadau marwolaethau er mwyn cyfrif pobl a fu farw yn ystod cyfnod yr astudiaeth

Dyma oedd y tro cyntaf i ni gysylltu'r setiau data hyn er mwyn archwilio effeithiau triniaeth therapi siarad ar gyfer iechyd meddwl ar gyflogaeth. Gwnaethom ddad-adnabod yr holl setiau data er mwyn sicrhau preifatrwydd gan ddadansoddi ystadegau i wneud yn siŵr y gellir defnyddio'r wybodaeth i lywio polisi.

Pam mae hyn yn bwysig i iechyd meddwl pobl

Illustration of a man calling a telephone operator connected by a twisting phone cable.

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod rhaglen Therapïau Siarad y GIG yn sicrhau manteision economaidd mesuradwy ochr yn ochr ag iechyd meddwl gwell. Gwelodd pobl a gafodd driniaeth lawn eu henillion misol yn cynyddu hyd at £17 ar gyfartaledd o gymharu â'u henillion misol cyn cael triniaeth, a nodwyd bod yr effeithiau yn para am flynyddoedd. Roedd y siawns o fod mewn cyflogaeth am dâl yn cynyddu 1.5 pwynt canran hyd at saith mlynedd ar ôl cael triniaeth.

Roedd y manteision yn arbennig o gryf ar gyfer pobl a oedd yn ddi-waith wrth ddechrau'r therapi. Cynyddodd eu henillion hyd at £63 y mis, a chynyddodd y siawns o fod mewn cyflogaeth am dâl 3.1 pwynt canran bedair blynedd ar ôl cwblhau triniaeth.

Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos y gall gwasanaethau iechyd meddwl fod o fudd i gymdeithas yn ehangach hefyd.

Gwella gwasanaethau a pholisïau iechyd meddwl

Illustration of an office building with logos for people, records, health and statistics

Gall yr astudiaeth hon helpu'r rhai sy'n llunio polisïau i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am gyllido rhaglenni iechyd meddwl ac mae'n dangos effaith gofal iechyd ataliol.

Gallai comisiynwyr gofal iechyd ac awdurdodau lleol ddefnyddio'r dystiolaeth hon i ddadlau dros barhau i fuddsoddi mewn rhaglenni iechyd meddwl a chynyddu'r buddsoddiad hwnnw.

Gallai darparwyr gofal iechyd ddefnyddio'r canfyddiadau i ddangos gwerth ehangach eu gwasanaethau i gleifion. Gallai hyn helpu i ddangos triniaethau iechyd meddwl fel llwybr yn ôl i waith sy'n rhoi boddhad ac ennill cyflog gwell.

Mae'r astudiaeth hon hefyd yn rhan o raglen ehangach y SYG i archwilio effeithiau ymyriadau gofal iechyd ar gyflogaeth. Mae dadansoddiadau tebyg o lawdriniaeth fariatrig, diagnosis o endometriosis, a thriniaethau cyhyrysgerbydol hefyd wedi cael eu cyhoeddi. Mae'r astudiaethau hyn yn dangos sut y gall cysylltu setiau data gwahanol ateb cwestiynau cymhleth am wasanaethau cyhoeddus a fyddai fel arall yn amhosibl ymchwilio iddynt.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Effaith Therapïau Siarad y GIG ar gyflog misol gweithwyr a statws cyflogaeth, Lloegr: Ebrill 2014 i Ragfyr 2022 (yn Saesneg).

Ariannwyd y prosiect hwn gan Cronfa Gwerthuso a Pheilotau Marchnadoedd Llafur – 2024 i 2025 (yn Saesneg) Llywodraeth y DU.

Efallai y bydd hefyd gennych ddiddordeb yn: