Mae endometriosis yn gyflwr cronig yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar 1 o bob 10 menyw o oedran atgenhedlu, ac mae'r symptomau yn amrywio o berson i berson. Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rydym wedi creu'r dystiolaeth gyntaf ar raddfa genedlaethol sy'n dangos effaith diagnosis o endometriosis ar allu menywod i weithio yn Lloegr. Drwy gysylltu data iechyd ac incwm dad-adnabyddedig yn ddiogel â gwybodaeth ddemograffig o'r cyfrifiad, rydym wedi llwyddo i gynhyrchu data sy'n dangos effaith diagnosis ar enillion a statws cyflogaeth.
Tynnu sylw at fenywod sy'n byw gydag endometriosis

Rhwng 2011 a 2021, gwelsom fod tua 2 o bob 100 o fenywod o oedran atgenhedlu yn Lloegr wedi cael diagnosis o endometriosis yn un o ysbytai y GIG. Roedd menywod yn 35 oed ar gyfartaledd pan gawsant ddiagnosis, sy'n awgrymu bod menywod yn aros nifer o flynyddoedd am ddiagnosis, o gofio bod symptomau yn aml yn dechrau yn ystod llencyndod.
Mae'r cyfraddau diagnosis yn amrywio yn ôl ethnigrwydd a chefndir economaidd-gymdeithasol. Roedd menywod sy'n nodi eu bod yn Wyn Prydeinig, yn Ddu Caribïaidd neu'n Wyn-Ddu Caribïaidd yn fwy tebygol o gael diagnosis yn un o ysbytai'r GIG. Roedd y cyfraddau ar eu hisaf ymhlith menywod Tsieineaidd, Arabaidd a Du Affricanaidd. Roedd menywod yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig hefyd yn llai tebygol o gael diagnosis gan y GIG. Gallai hyn nodi bod menywod yn yr ardaloedd tlotaf yn wynebu rhwystrau wrth gael gofal iechyd, a bod y rhai yn yr ardaloedd mwy cefnog yn defnyddio gofal iechyd preifat o bosibl.
Wrth edrych ar gyflogaeth, roedd menywod rhwng 25 a 54 oed a oedd wedi cael diagnosis o endometriosis yn ennill £130 yn llai y mis ar gyfartaledd bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o gymharu â'r ddwy flynedd cyn cael diagnosis. Mae hyn yn golygu gostyngiad o £4,500 dros y pum mlynedd ar ôl cael diagnosis. Dros yr un cyfnod o amser, gostyngodd y tebygolrwydd o fod mewn cyflogaeth am dâl tua 3 phwynt canran hefyd. Gwelodd y rhai a arhosodd yn eu gwaith £56 yn llai yn eu cyflog misol yn ystod yr un cyfnod hyd yn oed, gyda chyfanswm y gostyngiad yn eu cyflog yn £2,300 dros bum mlynedd. Gyda'i gilydd, mae hyn yn awgrymu y gall menywod fod yn gadael cyflogaeth, a bod y rhai sydd mewn gwaith yn symud i swyddi â chyflog is neu'n lleihau eu horiau o bosibl.
Mae'r astudiaeth newydd hon yn tynnu sylw pwysig at yr heriau y mae'r rhai sy'n byw gydag endometriosis yn eu hwynebu yn y gwaith. Mae'n gam tuag at alluogi'r rhai sy'n dioddef o'r clefyd i ffynnu yn eu gyrfaoedd. Ni ddylai'r rhai â symptomau endometriosis orfod poeni am golli eu swydd, newid gyrfa, neu deimlo na allant wneud y math o waith y maen nhw am ei wneud.
Darlun cliriach drwy gysylltu data
Gwnaethom gwblhau'r astudiaeth hon gan ddefnyddio Ased Data Iechyd y Cyhoedd (PHDA), sy'n cysylltu'r canlynol:
- cofnodion derbyniadau i ysbytai'r GIG
- data o Gyfrifiad 2011
- data cyflogres Cyllid a Thollau EF
- cofrestriadau genedigaethau a marwolaethau y SYG
Roedd cysylltu'r data hyn yn galluogi ymchwilwyr i ddeall effeithiau diagnosis o endometriosis ar fywydau gwaith menywod yn well.
Pŵer cysylltu data i wella bywydau

Y rhain yw data cyntaf Lloegr sy'n cysylltu data iechyd ac incwm yn y ffordd hon. Ar gyfer cleifion ac elusennau, mae'r ffigurau yn darparu tystiolaeth o effaith cael diagnosis ar gyflogaeth menywod. Ar gyfer y rhai sy'n llunio polisïau, maent yn dangos yr anghydraddoldeb sy'n bodoli o ran cael diagnosis ac yn cynnig y cyfle i wella cyfleoedd cyflogaeth a chymorth i fenywod sy'n byw gyda'r cyflwr.
Mae'r astudiaeth hon yn cyfrannu at y broses o fynd i'r afael â'r diffyg gwaith ymchwil i gyflyrau iechyd menywod. Mae'n gwneud yn siŵr bod lleisiau menywod yn cael eu clywed ac yn mynd i'r afael â'r materion gwahanol y maent yn eu hwynebu. Gall hyn helpu i wella mynediad at wasanaethau a sicrhau dealltwriaeth well o'r ffordd y mae iechyd menywod yn effeithio ar eu profiad yn y gweithle.
Drwy gyfuno cofnodion dad-adnabyddedig, rydym wedi dangos pŵer cysylltu data yn ddiogel a'r ffordd y gellir defnyddio data cyhoeddus i gynhyrchu gwybodaeth sy'n gwella bywydau.
Mae'r astudiaeth hon hefyd yn rhan o raglen ehangach y SYG i archwilio effeithiau ymyriadau gofal iechyd ar gyflogaeth. Mae dadansoddiadau tebyg o lawdriniaeth fariatrig, rhaglen Therapïau Siarad y GIG, a thriniaethau cyhyrysgerbydol hefyd wedi cael eu cyhoeddi. Mae'r astudiaethau hyn yn dangos sut y gall cysylltu setiau data gwahanol ateb cwestiynau cymhleth am wasanaethau cyhoeddus a fyddai fel arall yn amhosibl ymchwilio iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Effaith diagnosis endometriosis ar gyflog misol gweithwyr a statws cyflogaeth, Lloegr: Ebrill 2016 i Ragfyr 2022 (yn Saesneg).
Ariannwyd y prosiect hwn gan Cronfa Gwerthuso a Pheilotau Marchnadoedd Llafur – 2024 i 2025 (yn Saesneg) Llywodraeth y DU.