Pan fydd cyflwr iechyd difrifol yn ddigon gwael i gael gofal mewn ysbyty, mae'r effeithiau ar waith, enillion a dibyniaeth ar y system gofal iechyd yn mynd y tu hwnt i ward yr ysbyty.
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rydym wedi llunio'r astudiaeth genedlaethol gyntaf am sut y gall salwch difrifol effeithio ar enillion, cyflogaeth a budd-daliadau dros sawl blwyddyn. Gwnaethom hyn drwy gysylltu data ar iechyd a data heb fod yn gysylltiedig ag iechyd yn ddiogel, ac yna ddadansoddi'r cofnodion dad-adnabyddedig er mwyn cynhyrchu tystiolaeth y gall y rhai sy'n llunio polisïau ei defnyddio i wneud penderfyniadau pwysig.
Gwelsom fod pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd difrifol yn fwy tebygol o ennill llai o arian, o beidio â bod mewn gwaith am dâl ac o gael budd-daliadau am o leiaf bum mlynedd ar ôl cael diagnosis.
Roedd y cyflyrau oedd â'r cyfanswm uchaf o golledion ar gyfer unigolion dros y pum mlynedd ar ôl cael diagnosis mewn ysbyty yn cynnwys strôc, clefyd cronig yn yr arennau a methiant y galon. Gwelwyd y lleihad mwyaf o ran y tebygolrwydd o gyflogaeth bedair blynedd ar ôl cael diagnosis mewn ysbyty ar gyfer y cyflyrau hyn hefyd.
Cysylltu data ar iechyd, enillion a budd-daliadau yn ddiogel
Er mwyn llunio'r astudiaeth hon, gwnaethom gysylltu'r canlynol:
- gwybodaeth am ddiagnosisau cyntaf mewn ysbytai o gofnodion ysbytai'r GIG
- data Cyllid a Thollau EF ar gyflog misol a statws cyflogeion
- data yr Adran Gwaith a Phensiynau ar bobl sy'n cael budd-daliadau
- data demograffig o Gyfrifiad 2011
- cofrestriadau marwolaethau y SYG
Gwnaethom ddileu'r holl wybodaeth y gellid adnabod unrhyw un ohoni cyn cysylltu'r data. Yna, gwnaethom gyfuno'r data a'u dadansoddi mewn amgylchedd data diogel.
Cymharu canlyniadau cael diagnosis o salwch difrifol mewn ysbyty er mwyn dangos newidiadau mewn enillion
Gwnaethom astudio oedolion rhwng 25 a 64 oed ar yr adeg y cawsant eu derbyn i'r ysbyty yn Lloegr, lle cafwyd y diagnosis cyntaf o'r cyflwr mewn ysbyty rhwng mis Ebrill 2014 a mis Rhagfyr 2022. Roedd hyn yn cynnwys diagnosis o'r canlynol:
- clefyd cardiofasgwlaidd, a rannwyd ymhellach i strôc, methiant y galon a chnawdnychiant myocardiaidd
- clefyd anadlol
- diabetes
- clefyd cronig yn yr arennau
- canser
- cyflyrau cyhyrysgerbydol
Gwnaethom gymharu canlyniadau pob person hyd at bum mlynedd ar ôl cael diagnosis mewn ysbyty â chyfnod cyn cael diagnosis. Roedd amser y cyfnod hwn yn amrywio yn dibynnu ar y cyflwr. Roedd y cyfnod cyfeirio yn amrywio yn ôl y cyflwr er mwyn dangos sut mae symptomau yn datblygu ac yn effeithio ar waith cyn cael diagnosis.
Dangosodd y canlyniadau y newid mewn enillion misol a'r tebygolrwydd o fod yn weithiwr â thâl ac o gael budd-daliadau mewn perthynas â chael diagnosis o'r cyflwr. Gwnaethom gyflwyno'r canlyniadau ar gyfer pob cyflwr a'u rhannu yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd, lefel amddifadedd yr ardal yr oedd pobl yn byw ynddi a'r rhanbarth.
Beth ddywedodd yr astudiaeth wrthym am effaith cael diagnosis

Roedd pobl a oedd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd difrifol yn fwy tebygol o ennill llai o arian, o beidio â bod mewn gwaith am dâl ac o gael budd-daliadau am o leiaf bum mlynedd ar ôl cael diagnosis.
Roedd y rhai yr oedd llai o gyflog a bod yn ddi-waith yn effeithio arnynt fwyaf yn cynnwys pobl a oedd wedi dioddef strôc neu'n byw â chlefyd cronig yn yr arennau. Nhw hefyd oedd fwyaf tebygol o gael budd-daliadau yn y blynyddoedd yn dilyn diagnosis. Pobl oedd wedi dioddef strôc welodd y colledion mwyaf ar gyfartaledd dros bum mlynedd, sef £18,785 ym mhrisiau 2023. Dilynwyd hyn gan bobl â chlefyd cronig yn yr arennau a welodd golledion o £14,721 a phobl â methiant y galon a welodd golledion o £10,446 ar gyfartaledd. Roedd y cyflyrau â'r cynnydd mwyaf o ran y tebygolrwydd o gael budd-daliadau yn ystod y bedwaredd flwyddyn ar ôl cael diagnosis mewn ysbyty fel a ganlyn:
- clefyd cronig yn yr arennau, gyda chynnydd o 16.3 phwynt canran
- strôc, gyda chynnydd o 14.0 pwynt canran
- methiant y galon, gyda chynnydd o 12.2 bwynt canran
Gwnaethom hefyd gyfrifo effaith y cyflyrau iechyd y gwnaethom eu hastudio ar yr economi o ran cyfanswm y colledion, lleihad mewn llafurlu a chynnydd yn nifer y bobl a oedd yn cael budd-daliadau.
Pwysigrwydd cysylltu data ar iechyd â data nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd

Ni all edrych ar gofnodion iechyd pobl yn unig ddweud wrthym a fyddant yn dychwelyd i'r gwaith neu sut y gallai eu hincwm newid. Yn yr un modd, ni all edrych ar wybodaeth am y farchnad lafur neu fudd-daliadau yn unig ddweud wrthym am salwch rhywun. Fodd bynnag, gall cysylltu'r mathau gwahanol hyn o ddata yn ddiogel roi darlun cyflawn i ni. Gall y manylder ychwanegol hyn ein helpu i lywio polisïau atal, adsefydlu, cymorth dychwelyd i'r gwaith a pholisïau eraill a all ddisodli incwm pobl.
Bellach, gellir defnyddio'r astudiaeth hon er budd y rhai y mae cael diagnosis o salwch difrifol wedi effeithio arnynt drwy helpu i lywio penderfyniadau pwysig ar lefel genedlaethol. Ar lefel leol, gall helpu i dynnu sylw at newidiadau i gyflogaeth a'r budd-daliadau y mae pobl yn eu cael.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Effaith cyflyrau iechyd sydd angen derbyniad i'r ysbyty ar incwm, cyflogaeth a derbyn budd-daliadau: Ebrill 2014 i Ragfyr 2022 (yn Saesneg).
Ariannwyd y prosiect hwn gan Gronfa Canlyniadau a Rennir Trysorlys ei Fawrhydi (yn Saesneg).