Mae gordewdra yn her enfawr i iechyd cyhoeddus yn y DU, ac mae'n cael effaith eang ar iechyd a llesiant pobl a'u gallu i weithio. Gall llawdriniaeth fariatrig, a elwir hefyd yn llawdriniaeth colli pwysau, newid byd rhai pobl. Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), gwnaethom edrych ar statws cyflogaeth a thâl misol pobl. Drwy gysylltu data o wahanol ffynonellau, gwelsom fod y math hwn o lawdriniaeth yn cynyddu'r siawns y bydd pobl yn dychwelyd i'r gwaith neu yn aros mewn cyflogaeth.
Gwnaethom gwblhau'r astudiaeth hon gan ddefnyddio Ased Data Iechyd y Cyhoedd (PHDA), sy'n cysylltu'r canlynol:
- cofnodion dad-adnabyddedig o dderbyniadau i ysbytai'r GIG
- data o Gyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021
- data cyflogres Cyllid a Thollau EF
- cofrestriadau genedigaethau a marwolaethau y SYG
Gwnaethom drin y data gan sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol yn aros yn ddienw ond gan wneud yn siŵr y gellid defnyddio'r wybodaeth ohonynt i lywio penderfyniadau pwysig am bolisïau. Ni ellir adnabod neb o'r data, a dim ond at ddibenion ymchwil a chreu ystadegau y cânt eu defnyddio.
Llawdriniaeth fariatrig yn helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith

Roedd yr astudiaeth hon yn ystyried pobl yn Lloegr a gafodd lawdriniaeth fariatrig rhwng mis Ebrill 2014 a mis Rhagfyr 2022. Roedd yn cymharu eu cyflogaeth a'u henillion yn ystod y chwe mis cyn eu llawdriniaeth â'u cyflogaeth a'u henillion hyd at bum mlynedd wedi hynny.
Gwelsom fod pobl yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth am dâl bedwar mis ar ôl llawdriniaeth ar gyfartaledd. Gwelwyd bod y cynnydd hwn yn parhau yn ystod y pum mlynedd ddilynol. Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, roedd y siawns o fod mewn gwaith 4.3 pwynt canran yn uwch na chyn llawdriniaeth.
Roedd y cynnydd hwn mewn cyflogaeth yn golygu bod y cynnydd cyffredinol mewn enillion misol wedi cynyddu £84 y mis ar gyfartaledd bum mlynedd ar ôl llawdriniaeth. Fodd bynnag, ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd yn lefelau cyflog y bobl hynny a oedd yn gweithio. Mae hyn yn awgrymu mai prif fantais y llawdriniaeth oedd helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith neu i aros mewn cyflogaeth, yn hytrach na chynyddu eu henillion neu'r oriau roeddent yn eu gweithio.
Tystiolaeth er mwyn helpu i fynd i'r afael â salwch hirdymor a gordewdra
Mae'r gwaith hwn yn rhan o raglen ehangach y SYG sy'n archwilio'r cysylltiad rhwng iechyd a'r farchnad lafur. Ers pandemig COVID-19, mae salwch hirdymor wedi cyfrannu'n sylweddol at y rheswm pam nad yw pobl yn gweithio neu'n chwilio am waith. Mae deall sut mae ymyriadau iechyd fel llawdriniaeth fariatrig yn dylanwadu ar allu pobl i weithio yn hanfodol er mwyn llywio polisïau effeithiol a gwasanaethau cymorth.
Mae'r canfyddiadau'n arbennig o berthnasol wrth ystyried dadleuon presennol ynghylch gordewdra, cyflogaeth a thwf economaidd. Maent yn cynnig tystiolaeth newydd sy'n dangos y gall colli pwysau wella siawns pobl o weithio ac ennill arian, a'i fod yn fuddiol i unigolion, teuluoedd a'r economi yn ehangach.
Roedd y canfyddiadau hefyd yn hollbwysig i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu tua £45 miliwn i raglen 'Health and Growth Accelerators' y GIG yn Lloegr yn 2024. Mae'r rhaglen hon yn cael ei threialu mewn tair ardal â lefelau uchel o anweithgarwch economaidd.
Nodi rhwystrau i gefnogi cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd

Llwyddwyd i gynnal yr astudiaeth hon drwy gysylltu data iechyd a threth dad-adnabyddedig yn ddiogel. Drwy ddefnyddio data yn y ffordd hon, rydym yn helpu i dynnu sylw at y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu yn y farchnad lafur a sut y gall ymyriadau iechyd wedi'u targedu helpu i'w chwalu. Mae pobl eisoes wedi defnyddio'r dystiolaeth hon i wneud penderfyniadau pwysig a sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau a all helpu pobl i aros yn y gwaith.
Mae astudiaethau fel y rhain hefyd yn helpu i ddeall a gwerthfawrogi gwerth cyffredinol ymyriadau iechyd yn llawn, a allai arwain at fuddsoddi mwy mewn gofal iechyd.
Mae'r astudiaeth hon hefyd yn rhan o raglen ehangach y SYG i archwilio effeithiau ymyriadau gofal iechyd ar gyflogaeth. Mae dadansoddiadau tebyg o raglen Therapïau Siarad y GIG, diagnosis o endometriosis, a thriniaethau cyhyrysgerbydol hefyd wedi cael eu cyhoeddi. Mae'r astudiaethau hyn yn dangos sut y gall cysylltu setiau data gwahanol ateb cwestiynau cymhleth am wasanaethau cyhoeddus a fyddai fel arall yn amhosibl ymchwilio iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Effaith llawdriniaeth fariatrig ar gyflog misol gweithwyr a statws cyflogaeth, Lloegr: Ebrill 2014 i Ragfyr 2022 (yn Saesneg).
Ariannwyd y prosiect hwn gan Cronfa Gwerthuso a Pheilotau Marchnadoedd Llafur – 2024 i 2025 (yn Saesneg) Llywodraeth y DU.