Cyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau a fydd yn helpu i lywio dyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo. 

Mae'r ymgynghoriad yn ymwneud â chynigion y Swyddfa Ystadegau Gwladol i greu system gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu ystadegau hanfodol am boblogaeth Cymru a Lloegr. Byddai'r system yn gwneud yr ystadegau hyn yn fwy hyblyg ac ymatebol i newid annisgwyl. 

Gan symud oddi wrth ddibynnu ar gyfrifiad bob 10 mlynedd, gallai data gweinyddol amserol -- gwybodaeth y mae pob un ohonom yn ei darparu pan fyddwn yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel y systemau treth, budd-daliadau, iechyd ac addysg -- fod wrth wraidd y system newydd. Gallai hyn gael ei ategu gan ddata o arolygon, ystod ehangach o ffynonellau data eraill a dulliau modelu ystadegol. 

Dros y pedwar mis nesaf, bydd SYG yn casglu adborth ar y graddau y mae'r cynigion (gan gynnwys yr ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos hon) yn debygol o ddiwallu anghenion defnyddwyr a lle y dylai fod yn blaenoriaethu ymchwil yn y dyfodol. 

"Mae angen system ystadegol hyblyg a chynhwysol ar ein cymdeithas ar gyfer yr 21ain ganrif, un sy'n cynnal lefel sefydlog o gywirdeb dros amser ac sy'n addas at y diben wrth ymateb i newid annisgwyl yn amserol," meddai'r Ystadegydd Gwladol, Syr Ian Diamond.  

"Yn seiliedig ar ein gwaith hyd yma, credaf y gallwn symud y tu hwnt i'r cylch deng mlynedd o ystadegau o'r boblogaeth sydd wedi bod yn flaenllaw ers canrifoedd, a darparu system sy'n addas ar gyfer yr oes ddigidol hon rydym yn byw ynddi.  

"Wrth gwrs, ni allwn ddibynnu ar ddata gweinyddol yn unig, a gall arolygon chwarae rôl bwysig yn ein hystadegau yn y dyfodol. Ond rydym wedi cyrraedd pwynt lle gellir gofyn cwestiwn difrifol am y rôl y mae'r cyfrifiad yn ei chwarae yn ein system ystadegol." 

Mae ystadegau amserol ac o ansawdd uchel o'r boblogaeth yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt o fewn cymunedau ac yn genedlaethol. P'un a ydynt yn darparu tystiolaeth ar gyfer polisïau a gwasanaethau cyhoeddus neu'n helpu busnesau a buddsoddwyr i sicrhau twf economaidd ledled y wlad, mae'n hollbwysig bod ystadegau am y boblogaeth yn amserol ac yn gywir er mwyn adlewyrchu anghenion pawb mewn cymdeithas. 

Ystadegau mwy rheolaidd 

Ar hyn o bryd, y cyfrifiad yw asgwrn cefn yr ystadegau hyn, gan ddarparu darlun cyfoethog o'n cymdeithas ar lefel genedlaethol a lleol bob deng mlynedd. Fodd bynnag, bydd yr ystadegau yn mynd yn llai cywir dros y degawd a bydd manylion lleol am bynciau pwysig yn mynd yn llai dibynadwy rhwng blynyddoedd y cyfrifiad. 

Mae'r system a gynigir gan SYG yn ymatebol i anghenion sy'n newid yn gyson ac, os caiff ei rhoi ar waith, bydd yn rhoi ystadegau poblogaeth mwy rheolaidd i ddefnyddwyr sydd o ansawdd uchel bob blwyddyn.  

Bydd yn cynnig dealltwriaeth o newidiadau a symudiad ein poblogaeth yn ystod tymhorau ac amseroedd gwahanol ac, ar gyfer llawer o bynciau, bydd yn cynnig gwybodaeth llawer mwy lleol bob blwyddyn. Bydd yn ystyried pynciau â lefel newydd o fanylder, ac yn cwmpasu meysydd nad yw'r cyfrifiad yn eu cofnodi, fel incwm. 

Rhannu data 

Ychwanegodd Syr Ian: "Drwy gydol y pandemig a'r sefyllfa lle mae costau byw yn cynyddu, mae ystadegwyr y llywodraeth wedi rhagori, gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael iddynt i roi tystiolaeth hollbwysig, ac ar lefel leol yn aml, i'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau mewn dim o dro. Mewn llawer o achosion, cyflawnwyd hyn drwy achos untro o rannu data o'r sector cyhoeddus er mwyn diwallu anghenion blaenoriaeth. Rwy'n credu mai dyma ddylai fod y drefn arferol, wrth barhau i gyrraedd safonau uchel o ran diogelu data a moeseg." 

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn nifer bach o gwestiynau agored er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion a blaenoriaethau defnyddwyr a fydd yn helpu i lywio cynlluniau SYG ar gyfer yr ystadegau pwysig hyn.  

Mae ar gael yma a bydd yn cau ar 26 Hydref. 

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn llywio argymhelliad gan yr Ystadegydd Gwladol, fel y nodwyd ym Mhapur Gwyn y Cyfrifiad yn 2018, ar y ffordd y dylai SYG gynhyrchu ystadegau am y boblogaeth yn y dyfodol.