Heddiw, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi cyfres o fwletinau Cyfrifiad 2021 sy'n rhoi gwybodaeth am hunaniaeth ddiwylliannol pobl yng Nghymru a Lloegr fis Mawrth y llynedd. Mae'r rhain yn cwmpasu ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.
“Mae'r cyfrifiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw a chynhwysfawr o hunaniaeth ddiwylliannol hunanddiffiniedig pawb sydd, yn ei thro, yn arwain at ddarlun mwy cywir o'r boblogaeth” meddai Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyfrifiad, Jon Wroth-Smith.
“Mae data heddiw yn tynnu sylw at y gymdeithas gynyddol amlddiwylliannol rydym yn byw ynddi. Mae canran y bobl sy'n disgrifio eu grŵp ethnig fel ‘Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig’, yn parhau i ostwng. Er mai hwn yw'r ymateb mwyaf cyffredin i'r cwestiwn am grŵp ethnig o hyd, mae nifer y bobl sy'n uniaethu â grŵp ethnig arall yn parhau i gynyddu.
“Fodd bynnag, mae'r darlun yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Llundain yw'r rhanbarth mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yn Lloegr o hyd, lle mae ychydig llai na dwy ran o dair yn uniaethu â grŵp ethnig leiafrifol, tra bo llai nag 1 o bob 10 yn disgrifio eu hunain yn y ffordd hon yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.
“Ond er gwaethaf natur ethnig amrywiol ein cymdeithas, mae 9 allan o 10 o bobl yn dal i uniaethu ag un o hunaniaethau cenedlaethol y Deyrnas Unedig.”
Ychwanegodd Mr Wroth-Smith: “Mae'r canlyniadau yn dangos fod gan lawer llai o bobl hunaniaeth grefyddol. Dewisodd dros 22 miliwn o bobl – cynnydd o 8 miliwn ers 2011 – yr opsiwn ‘Dim crefydd’. Ac, am y tro cyntaf mewn cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, gwnaeth llai na hanner y boblogaeth nodi “Cristnogaeth” fel eu crefydd, er mai dyma oedd yr ymateb mwyaf cyffredin o hyd.
“Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) yw'r brif iaith fwyaf cyffredin o hyd, ond mae Pwyleg, Rwmaneg, Pwnjabeg ac Wrdw yn brif ieithoedd cyffredin eraill a gaiff eu siarad. Eto, mae'r darlun yn amrywio ledled Cymru a Lloegr. Yn nifer y bobl a nododd mai Rwmaneg yw eu prif iaith y gwelwyd y cynnydd canrannol mwyaf, sy'n adlewyrchu'r cynnydd yn nifer y bobl a anwyd yn Rwmania sy'n byw yma ers y cyfrifiad diwethaf.”
Diwedd
I ddarllen ein hadroddiadau llawn, ewch i Ethnic group, national identity, language, and religion: Census 2021 in England and Wales
Yn ein blog How am I represented in Census 2021 data?, edrychwn ar sut mae data ar y ffyrdd amrywiol y mae pobl yn dewis disgrifio eu hunaniaeth yn cael eu troi yn ystadegau ystyrlon.
Heddiw, rydym wedi lansio ein rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau ar gyfer crynodebau pwnc, gan alluogi defnyddwyr i hidlo setiau data yn ôl daearyddiaeth. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i wneud cais am yr ardaloedd daearyddol sydd ar gael ar gyfer pob math o boblogaeth.
Rydym wedi diweddaru mapiau'r cyfrifiad er mwyn cynnwys data heddiw yn ogystal â'r ystadegau diweddar am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig.
Heddiw, rydym wedi lansio Proffiliau Ardal ar Nomis sy'n galluogi defnyddwyr i weld ystadegau lleol ar wahanol bynciau a'u cymharu ag ystadegau cenedlaethol. Ar hyn o bryd maen nhw'n defnyddio data ar lefel Awdurdod Lleol a bydd mwy o ddata a daearyddiaethau'n cael eu hychwanegu dros amser.
Manylion cyswllt ar gyfer y cyfryngau
Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: +44 845 604 1858
Llinell ar alwad frys: +44 7867 906553
E-bost: media.relations@ons.gov.uk