Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gan y Deyrnas Unedig y wybodaeth orau am ein cymdeithas a'n heconomi a bod gan y llywodraeth y wybodaeth sydd ei hangen arni i reoli ei hymateb.
Bu'n rhaid newid ein ffordd o weithio oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. Er mwyn cadw'r cyhoedd a'n staff yn ddiogel, gwnaethom gyflwyno ffyrdd gwahanol o gasglu data. Gwnaethom hefyd ddechrau casglu gwybodaeth newydd i'n helpu i ddeall y ffordd y mae'r coronafeirws yn effeithio ar ein bywydau pob dydd. Mae'r wybodaeth rydym ni'n ei chynhyrchu am effaith y coronafeirws ar y dudalen benodol ar ein gwefan.
Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio, rydym ni'n ceisio ailddechrau gweithio fel o'r blaen, gan barhau i gadw'r cyhoedd a'n staff yn ddiogel.
Casglu gwybodaeth gan bobl, teuluoedd a chartrefi
Mae ein hastudiaeth fwyaf o gartrefi yn casglu gwybodaeth am gyflogaeth, diweithdra a'r rhesymau pam nad yw pobl yn gweithio nac yn chwilio am waith. Ym mis Mehefin 2020, gwnaethom ychwanegu cwestiynau am effaith y coronafeirws (COVID-19) ar gyflogaeth a phatrymau gwaith pobl, sy'n parhau i ddarparu data allweddol ar effaith barhaus y pandemig ar y wlad. Rydym ni wedi parhau i ychwanegu cwestiynau sy'n ymwneud â'r pandemig drwy gydol 2021.
Ar ddechrau'r pandemig, gwnaethom roi'r gorau i gynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb yn y cartref. Lle y bo'n bosibl, rydym ni wedi gofyn i rai pobl gymryd rhan ar lein, ac wedi gwahodd rhai eraill i gymryd rhan dros y ffôn. Er mwyn i ni allu gwneud hyn, rydym yn ymweld â rhai cyfeiriadau i gasglu'r manylion cyswllt sydd eu hangen arnom i gynnal ein hastudiaethau yn ddiogel. Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio, rydym ni bellach yn ystyried ailddechrau casglu data wyneb yn wyneb mewn ffordd sy'n ddiogel i'r cyhoedd a'n cyfwelwyr, ac sy'n cydymffurfio â holl ganllawiau'r llywodraeth. Os byddwch yn cael cynnig cyfweliad wyneb yn wyneb ond nad ydych yn gyffyrddus â hyn, mae croeso i chi gymryd rhan yn yr arolwg dros y ffôn, neu ar-lein (lle bo hynny'n bosibl).
Byddwn yn parhau i holi barn y cyhoedd er mwyn dysgu am faterion sy'n ymwneud â'r coronafeirws, fel dealltwriaeth y cyhoedd o'r pandemig, newid mewn ymddygiad (gan gynnwys gweithio gartref ac ymweld â ffrindiau a pherthnasau) a'r effaith ar sefyllfa ariannol pobl.
Yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol
Yn ogystal â'n hastudiaethau o gartrefi, rydym ni hefyd yn cynnal yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol mewn porthladdoedd, meysydd awyr a gorsafoedd. Mae'r astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth am drafnidiaeth a thwristiaeth, ac mae bellach hefyd yn casglu data am brofiadau ac agweddau teithwyr sy'n teithio drwy gydol y pandemig. Rydym ni'n casglu gwybodaeth am eu dealltwriaeth o gyfyngiadau teithio, eu cydymffurfiad â nhw a pha mor ddiogel maen nhw'n teimlo wrth deithio.
Gwnaethom ailgyflwyno'r astudiaeth hon ym mis Rhagfyr 2020 ar ôl iddi gael ei gohirio ers mis Mawrth 2020 oherwydd y cyfyngiadau a oedd yn gysylltiedig â phandemig y coronafeirws. Rydym ni wedi rhoi mesurau helaeth ar waith er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyfweliadau'n ddiogel, fel gwisgo gorchuddion wyneb, cadw pellter cymdeithasol a gweithio mewn timau llai o faint yn unol â chanllawiau gan yr Awdurdodau Iechyd priodol, ac rydym yn parhau i fonitro'r mesurau.
Arolwg Haint COVID-19
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cyd-arwain astudiaeth fawr gan y llywodraeth i dracio presenoldeb y coronafeirws (COVID-19) ymhlith y boblogaeth. Bydd yr astudiaeth o gartrefi yn darparu gwybodaeth hanfodol am y gyfradd heintio bresennol, yn ogystal â helpu i nodi faint o bobl sy'n debygol o fod wedi datblygu gwrthgyrff i'r feirws. Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol i'n helpu i ddeall sut mae ein hamddiffyniad rhag cael heintiau newydd yn newid ar ôl cael ein brechu a'n heintio, sy'n galluogi'r llywodraeth i benderfynu os a phryd y bydd ein lefelau amddiffyn yn disgyn lle y gall fod angen brechiadau atgyfnerthu. Mae hefyd yn ein galluogi i nodi a oes grwpiau penodol, fel unigolion hŷn neu'r rhai â chyflyrau iechyd tymor hir, a all fod eu hangen yn gynt. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am Arolwg Haint COVID-19 ar ein gwefan.
Casglu data gan fusnesau
Roedd ein harolygon busnes eisoes yn cael eu cynnal ar lein neu drwy'r post, felly mae'r rhain wedi bod yn parhau fel arfer. Gwnaethom greu arolwg ar-lein sy'n ymwneud ag effaith y coronafeirws ar fusnesau'n benodol, gan gwmpasu newidiadau mewn cyflogaeth, trosiant a disgwyliadau busnes. Mae'r data ar gael yma.
Nid ydym yn ymweld â siopau na busnesau wyneb yn wyneb o hyd i gasglu gwybodaeth am brisiau defnyddwyr, a gaiff ei defnyddio yn ein hystadegau chwyddiant. Rydym ni'n parhau i gasglu'r prisiau hyn gan siopau a busnesau o bell dros y rhyngrwyd a'r ffôn.
Datblygiadau pellach
Mae'r dudalen hon yn dangos y gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i fonitro effaith y coronafeirws (COVID-19). Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon er mwyn esbonio datblygiadau pellach.