Cynnwys
- Prif bwyntiau
- Trosolwg o'n hymchwil i brofiadau pobl Roma
- Profiadau o gyrraedd ac ymgartrefu yng Nghymru a Lloegr
- Cael gafael ar wasanaethau yng Nghymru a Lloegr
- Cynhwysiant, allgáu a pherthyn yng Nghymru a Lloegr
- Y rhai sy'n ystyried eu hunain yn Roma
- Dyheadau a gobeithion ar gyfer y dyfodol
- Profiadau bywyd pobl Roma yng Nghymru a Lloegr
- Rhestr termau
- Methodoleg
- Dolenni cysylltiedig
- Cyfeirio at yr erthygl hon
1. Prif bwyntiau
Mae pobl sy'n ystyried eu hunain yn Roma yng Nghymru a Lloegr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys y rhai sydd wedi mudo o wledydd eraill yn Ewrop a'r rhai a aned yn y DU.
Nododd llawer o'r cyfranogwyr na chawsant eu geni yn y DU fod gwahaniaethu ar sail ethnig mewn gwledydd gwreiddiol yn ffactor pwysig a oedd yn arwain at fudo, ochr yn ochr ag achosion o erlid a thrawma rhwng cenedlaethau, a oedd yn dylanwadu ar hunaniaethau, canfyddiadau o ddiogelwch ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Nododd y cyfranogwyr na chawsant eu geni yn y DU yn aml eu bod yn teimlo bod croeso iddynt yn y DU, er bod rhai cyfranogwyr ar draws y sampl ehangach hefyd wedi nodi profiadau o wahaniaethu a stereoteipio ar sail eu hethnigrwydd ac agweddau eraill ar hunaniaeth, gan gynnwys cenedligrwydd.
Roedd y cyfranogwyr a aned yn y DU a'r rhai na chawsant eu geni yn y DU o'r farn mai ymwybyddiaeth gyfyngedig oedd gan y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr o'r Roma fel grŵp ethnig penodol; roedd hyn yn galluogi i unigolion ddewis p'un a oeddent am ddatgelu eu hunaniaeth ai peidio yn dibynnu ar ba mor ddiogel roeddent yn teimlo, ond roedd hefyd yn creu rhwystrau i ddarparu gwasanaethau effeithiol.
Awgrymodd y cyfranogwyr ffyrdd o wella lefelau ymgysylltu pobl Roma â gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys drwy addysgu darparwyr gwasanaethau am dreftadaeth Roma, eu profiadau o wahaniaethu a'u hanghenion penodol, gwella cynrychiolaeth Roma mewn sefydliadau cyhoeddus, cynyddu sgiliau digidol ac iaith cymunedau Roma, a datblygu Strategaeth Roma Genedlaethol.
Nodwyd bod argaeledd cyfyngedig data ar boblogaethau Roma yn y DU yn rhwystr sylfaenol i ddarparu gwasanaethau ar sail gwybodaeth, a nododd y cyfranogwyr nad yw categorïau ethnigrwydd Roma yn cael eu cynnwys yn gyson wrth gasglu data a bod pryderon ynghylch gwahaniaethu hefyd yn arwain at amharodrwydd i ddatgelu eu hunaniaeth.
Ystyriwyd yn gyffredinol bod dathlu cerddoriaeth, dawns, bwyd a ffyrdd eraill o fynegi hunaniaeth Roma yn ffordd o ennyn chwilfrydedd am y boblogaeth Roma, annog deialog a meithrin cydberthnasau â chymunedau eraill nad ydynt yn Roma.
Mae fideo byr sy’n dangos ein prif ganfyddiadau hefyd ar gael yn Saesneg ac yn y pum amrywiad o Romani.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Trosolwg o'n hymchwil i brofiadau pobl Roma
Y Roma yn Ewrop a'r DU
Mae'r Roma wedi byw yn Ewrop ers dros chwe chanrif, gan ymgartrefu ar draws y cyfandir, fel y nodir yng nghyhoeddiad Cyngor Ewrop, Protecting the rights of Roma. Mae'r term "Roma" yn cwmpasu grwpiau poblogaeth gwahanol, gyda nifer o draddodiadau, credoau a phrofiadau y mae cyd-destunau cymdeithasol-wleidyddol ehangach y gwledydd lle maent yn byw yn dylanwadu arnynt. Cymeradwywyd y term yn ystod cyfnod cyntaf Cyngres Romani'r Byd yn 1971, a sefydlodd anthem a baner y Roma hefyd. Mae rhai Roma yn siarad un o sawl amrywiad ar iaith Roma, sef Romani, yn ogystal ag iaith/ieithoedd y gwledydd lle maent yn byw.
Yn hanesyddol ac yn y byd sydd ohoni, mae rhai wedi cyfeirio at Roma fel "Sipsiwn". I'r rhai sy'n ystyried eu hunain yn Roma, gall cyfeiriadau atynt fel "Sipsiwn" fod yn sarhaus. Gall y ffaith bod y term "Sipsiwn" weithiau'n cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd difrïol waethygu hyn, yn ôl y Rhwydwaith Ewropeaidd Yn Erbyn Hiliaeth.
Er bod hanes mudo'r Roma i'r DU yn gymhleth, mudodd y rhan fwyaf yn dilyn cytuniadau derbyn yr UE yn 2004 a 2007, a cheisiodd rhai loches yn y 1990au hefyd, yn ôl y Grŵp Cymorth Roma. Nododd dros 103,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr eu bod yn ystyried eu hunain yn Roma yng Nghyfrifiad 2021. Fodd bynnag, mae awgrymiadau y gallai'r nifer gwirioneddol fod yn llawer uwch, fel y nododd The Traveller Movement yn ei bapur briffio ar Gyfrifiad 2021 i'r boblogaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae data diweddar o gyfrifiad yn yr Alban a data o gyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon yn nodi bod 3,218 a 1,529 o unigolion yn ystyried eu hunain yn Roma, yn y drefn honno. Mae Cofnodion Cenedlaethol yr Alban hefyd wedi nodi problemau wrth adrodd ar ethnigrwydd, gan nodi yn ei adroddiad Sicrhau Ansawdd ar amcangyfrifon poblogaeth a grwpiau ethnig y gallai rhai unigolion a aned yn Rhufain, yr Eidal, fod wedi dewis y categori Roma ar gam.
Mae gan y Roma hanes o erlid sy'n ymestyn dros sawl canrif. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys dros 500 mlynedd o gaethwasiaeth yn nhiriogaethau Rwmania (darllenwch fwy yn llyfr Ian F Hancock, We are the Romani People), difodiant yn ystod yr Holocost, sef "Porrajmos" (darllenwch fwy yn erthygl Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, The Roma Genocide), diffrwythloni gorfodol ac addysg ar wahân (darllenwch fwy yn llyfr Ryan Powell a Huub van Baar, The Invisibilization of Anti-Roma Racisms). Mae Cyngor Ewrop wedi cyhoeddi tystiolaeth bod Roma yn parhau i wynebu gwahaniaethu ac agweddau gwrth-sipsiwn.
Mae tystiolaeth o'r DU (darllenwch fwy yng nghanllawiau'r Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, Improving Roma health) ac Ewrop (darllenwch fwy yn adroddiad Asiantaeth yr Undeb Ewropeaidd dros Hawliau Sylfaenol, Perspectives from the Roma Survey 2024) yn dangos bod gan gymunedau Roma ddisgwyliad oes is a'u bod yn wynebu canlyniadau negyddol anghymesur mewn sawl maes, gan gynnwys cyflogaeth, iechyd, addysg a thai. Mae tystiolaeth hefyd y gall canlyniadau amrywio ar gyfer grwpiau cenedlaethol gwahanol. Er enghraifft, roedd Roma o Slofacia a Rwmania yn fwy tebygol o nodi gorlenwi yng Nghyfrifiad 2021.
Term ambarél Sipsiwn, Roma, Teithwyr
Yng nghyd-destun polisi'r DU, mae Roma yn aml yn cael eu grwpio gyda'r rhai sy'n ystyried eu hunain yn Sipsiwn neu Deithwyr o dan gategori grŵp ethnig cyfun "Sipsiwn/Roma/Teithwyr". Yn ôl GOV.UK, Ethnicity facts and figures, mae'r cyhoedd yn ystyried y grwpiau hyn fel un grŵp ethnig ar gam. Er gwaethaf hyn, cydnabyddir yn gyffredinol fod gan bob un o'r grwpiau hyn anghenion a heriau gwahanol, a bod profiadau llawer o Roma yn cael eu llywio gan brofiadau mudo a chyn-fudo yn eu gwledydd gwreiddiol (gweler adroddiad Migration Yorkshire, National Roma Network 2015 - 2017). At hynny, mae'r rhan fwyaf o Roma yn y DU a'r UE yn byw mewn llety sefydlog ac yn dilyn ffyrdd sefydlog o fyw, fel y nodir gan James yn Criminalising Gypsies, Roma and Travellers in the UK.
Cyfyngiadau data ar ethnigrwydd
Yn 2019, tynnodd adroddiad y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau ar yr anghydraddoldebau a wynebir gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr sylw at yr angen am ddata gwell yn ymwneud â'r grwpiau hyn. Cyfrifiadau diweddar ledled y DU oedd y cyntaf i gynnwys blwch ticio "Roma" ar wahân. Mae Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth wrthi'n adolygu'r broses o gasglu data ar ethnigrwydd yn y sector cyhoeddus, a bwriedir cyhoeddi'r safon newydd erbyn diwedd 2026. Mewn ymateb i'r adolygiad, tynnodd papur briffio yn cyfuno safbwyntiau gan sefydliadau cymdeithas sifil ac academyddion (PDF, 4.3MB) sylw at bwysigrwydd data wedi'u dadgyfuno ar ethnigrwydd.
Er bod safonau data a dosbarthu yn gwella, mae heriau o ran sicrhau cynrychiolaeth gywir yn bodoli o hyd. Gall unigolion amau'r rhesymau dros gasglu data a dewis peidio â disgrifio eu hunain. At hynny, gall cyfraddau ymateb neu feintiau samplau bach olygu bod angen cyfuno data Roma â grwpiau ethnig eraill er mwyn lleihau'r risg o ddatgelu a galluogi gwaith dadansoddi. Weithiau mae angen cyfuno er mwyn sicrhau cysondeb rhwng ffynonellau data gwahanol. Gall hyn guddio gwahaniaethau rhwng grwpiau a dylanwadu ar y ffordd y caiff eu profiadau eu dehongli.
Yr astudiaeth hon
Yn 2021, cyhoeddodd y Tasglu Data Cynhwysol adroddiad a oedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwella cynhwysiant data a thystiolaeth y DU. Cyhoeddodd yr Ystadegydd Cenedlaethol ymateb i adroddiad y Tasglu Data Cynhwysol, gan ymrwymo i gryfhau seilwaith data'r DU ac ehangu dulliau ar gyfer deall profiadau bywyd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Ymhlith y rhain, rhoddwyd blaenoriaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ar ôl i'r Tasglu eu nodi fel rhai o'r prif grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, yn 2022 cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) astudiaeth yn archwilio profiadau bywyd Sipsiwn a Theithwyr. Yn dilyn mewnbwn gan grŵp cynghori'r astudiaeth, cytunwyd y dylid archwilio profiadau Roma drwy brosiect ymchwil ar wahân, gan gydnabod eu hunaniaethau, eu profiadau a'u hanghenion unigryw. Gwnaeth y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr hefyd gais am dystiolaeth ar brofiadau bywyd Roma.
Mae sawl adran o'r llywodraeth yn cefnogi'r ymchwil hon, gan gynnwys yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adran Addysg, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Swyddfa'r Cabinet, y Swyddfa Gartref, a Llywodraeth Cymru. Mynegodd y rhanddeiliaid hyn awydd i ddeall sut mae profiadau bywyd Roma yn llywio eu canlyniadau ar draws agweddau gwahanol ar fywyd. Roeddent hefyd yn awyddus i archwilio profiadau o ryngweithio â gwasanaethau, gyda'r bwriad o gyflwyno gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i ystyriaethau polisi. Cymerodd cynrychiolwyr o'r adrannau hyn ran mewn grwpiau ffocws gyda chyfranogwyr Roma a rhoesant fewnbwn rheolaidd ar gyd-destun polisi, gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid a meysydd o ddiddordeb fel rhan o'r grŵp cynghori trawslywodraethol.
Mae'r ymchwil hon yn archwilio profiadau bywyd pobl Roma yng Nghymru a Lloegr, gan ganolbwyntio ar hunaniaeth, mudo, anghenion, a rhyngweithiadau â gwasanaethau a sefydliadau, gan gynnwys addysg, tai, gofal iechyd a chyflogaeth. Dewiswyd y pynciau ar sail y canlynol:
- gweithgarwch ymgysylltu â chynrychiolwyr o gymunedau Roma, ymchwilwyr prifysgolion, sefydliadau cymdeithas sifil, a chydweithwyr o adrannau eraill o'r llywodraeth
- adolygiad o dystiolaeth bresennol ar brofiadau pobl Roma yn y DU ac Ewrop
- ein hymchwil flaenorol gyda Sipsiwn a Theithwyr er mwyn gallu cymharu profiadau, o ystyried y ffaith bod y grwpiau hyn yn aml yn cael eu cyfuno mewn cyd-destunau data a pholisi
Er y gall Roma yng Nghymru a Lloegr rannu rhai profiadau â grwpiau eraill, fel y rhai sy'n ystyried eu hunain yn Sipsiwn neu Deithwyr, neu fewnfudwyr nad ydynt yn Roma, mae canfyddiadau'r ymchwil hon yn dangos bod y profiadau hyn yn cyfuno mewn ffyrdd nodedig â phrofiadau cyn-mudo Roma a ffactorau eraill i lywio hunaniaeth, profiadau byw ac anghenion Roma.
Archwiliwyd y pynciau drwy 63 o gyfweliadau manwl, gan ddefnyddio canllawiau pwnc lled-strwythuredig i alluogi'r cyfranogwyr i godi blaenoriaethau ychwanegol. Roedd yr ymchwil hefyd yn cynnwys 19 o gyfweliadau â hysbyswyr allweddol o sefydliadau a gwasanaethau sy'n gweithio gyda Roma, a phum grŵp ffocws gyda chyfranogwyr Roma, darparwyr gwasanaethau, ymchwilwyr a llywodraeth leol a chanolog.
Gwnaethom fabwysiadu dull ymchwil cymheiriaid ar gyfer cyfweliadau â chyfranogwyr Roma, fel y nodir yn Adran 10: Methodoleg. Er mwyn adlewyrchu'r amrywiaeth mewn cymunedau Roma, roedd y sampl yn cynnwys unigolion Roma a oedd yn byw mewn pum lleoliad yng Nghymru a Lloegr, a oedd naill ai wedi mudo i'r DU, neu wedi'u geni yno. Roedd y cyfranogwyr na chawsant eu geni yn y DU wedi dod o chwe gwlad wahanol ac yn cynrychioli amrywiaeth eang o gefndiroedd o ran addysg, cyflogaeth a mudo. Ceir rhagor o fanylion am y sampl a sicrhawyd yn ein set ddata gysylltiedig.
Ffugenwau yw'r holl enwau a ddefnyddir yn yr adroddiad. Nid yw'r dyfyniadau o'r grwpiau ffocws a'r cyfweliadau â hysbyswyr allweddol yn cynnwys gwybodaeth am nodweddion y cyfranogwyr, gan na chafodd y wybodaeth hon ei chasglu.
Cyfieithu a'n defnydd o derminoleg
Cynhaliwyd cyfweliadau â chyfranogwyr yn eu dewis ieithoedd. Lle y cafodd cyfweliadau eu cynnal mewn ieithoedd heblaw Saesneg, cawsant eu cyfieithu i'r Saesneg wedi hynny gan ymchwilwyr cymheiriaid Roma. Mae nifer o'r dyfyniadau yn yr adroddiad hwn yn cynnwys cyfranogwyr yn cyfeirio atynt eu hunain fel "Sipsiwn". Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn adlewyrchu cyfieithiad llythrennol o'r geiriau "țigan" (Rwmaneg) neu "cigán" (Slofaceg), neu'r hyn sy'n cyfateb mewn ieithoedd eraill, yn hytrach na chyfeirio at y grŵp ethnig Sipsiwn Romani, sy'n wahanol i Roma. Fodd bynnag, gan nad yw ystyr bwriadedig y siaradwr bob amser yn glir, er mwyn sicrhau cysondeb ac yn unol â'n polisi ar adrodd ar grwpiau ethnig, rydym wedi defnyddio priflythyren wrth gyfeirio at "Sipsiwn" drwyddi draw. Fel y trafodir yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, er bod y term "Sipsiwn" weithiau'n cael ei ddefnyddio mewn cymunedau Roma mewn cyd-destunau rhyngbersonol, ystyrir yn gyffredinol ei fod yn sarhaus pan gaiff ei ddefnyddio gan unigolion y tu allan i'r cymunedau hyn, neu fel cyfuniad o grwpiau ethnig gwahanol.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Profiadau o gyrraedd ac ymgartrefu yng Nghymru a Lloegr
Myfyriodd y cyfranogwyr ar eu profiad o ymgartrefu yn y DU, gan rannu eu cymhellion dros fudo a heriau cyflawni sefydlogrwydd mewn gwlad newydd. Er bod rhai o'r heriau yn ymddangos yn debyg i’r rhai a ddogfennwyd ymhlith grwpiau mudwyr eraill, pwysleisiodd y cyfranogwyr yn gyson brofiadau o wahaniaethu cyn mudo, a oedd wedi cael dylanwad parhaol ar eu disgwyliadau a’u profiadau o fywyd yn y DU, yn eu barn nhw.
Y sampl o gyfranogwyr
Roedd amgylchiadau'r cyfranogwyr wrth gyrraedd y DU yn amrywio. Roedd nifer bach yn fudwyr ail genhedlaeth a aned yn y DU, ond roedd y rhan fwyaf wedi cyrraedd naill ai cyn iddynt fod yn 13 oed, neu pan oeddent rhwng 20 a 29 oed. Roedd niferoedd llai wedi mudo yn ystod llencyndod neu'n ddiweddarach mewn bywyd hyd at ganol eu 50au.
Roedd y sampl yn cynnwys cyfranogwyr o'r Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Gwlad Pwyl, Rwmania, Bwlgaria, a Hwngari. Gwladolion Rwmania a Bwlgaria oedd y rhai a oedd wedi cyrraedd fwyaf diweddar fel arfer, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi byw yn y DU am lai na 10 mlynedd. Roedd yn ymddangos bod cyfranogwyr o Hwngari wedi ymsefydlu'n fwy, ac roeddent yn aml wedi bod yn byw yn y DU am bron 10 mlynedd neu fwy. Roedd gwladolion Slofacia, sef y grŵp mwyaf yn y sampl, wedi bod yn y DU rhwng 6 a 27 mlynedd, sy'n awgrymu gweithgarwch mudo parhaus dros amser. Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr o Weriniaeth Tsiec, ac yn enwedig Gwlad Pwyl, wedi ymsefydlu'n fwy cyson, ar ôl mudo dros 15 ac 20 mlynedd yn ôl fel arfer, yn y drefn honno.
Mae'r patrymau hyn yn adlewyrchu amseriad cytuniadau derbyn yr UE. Ymunodd Gwlad Pwyl, y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, a Hwngari â'r UE yn 2004, a rhoddwyd hawliau i'w gwladolion fyw a gweithio yn y DU ar unwaith. Ymunodd Rwmania a Bwlgaria yn 2007 ond gwnaethant wynebu cyfyngiadau yn y farchnad lafur tan 2014. Cyrhaeddodd nifer bach o gyfranogwyr o Wlad Pwyl a Slofacia cyn 2004, gan geisio lloches rhag erledigaeth, sy'n adlewyrchu tueddiadau mudo ehangach.
Profiadau cyn mudo i'r DU
Disgrifiodd y cyfranogwyr atgofion cadarnhaol o fywyd cyn mudo i'r DU yn ogystal â phrofiadau mwy heriol o wahaniaethu a chyfleoedd cyfyngedig yn gysylltiedig â'u hethnigrwydd Roma. Roedd yn ymddangos bod y profiadau hyn yn ffactorau pwysig a oedd wedi sbarduno'r cyfranogwyr i fudo, gan lywio dyheadau'r cyfranogwyr am fywyd yn y DU. Roeddent yn cynnwys profiadau o sefydliadau cyhoeddus fel rhai annibynadwy, gan lywio disgwyliadau tebyg o sefydliadau yn y DU.
Ymhlith yr agweddau gwerthfawr ar eu bywydau cyn symud i'r DU roedd atgofion o'u plentyndod a'u hieuenctid, bywyd cefn gwlad, digwyddiadau teuluol, ac ymdeimlad cryf o gymuned.
Roeddwn i'n mwynhau lle roedden ni'n byw yn y pentref, roedd yn ffordd syml o fyw... Cyn cael plant, byddwn i'n mynd allan gyda fy nghefndryd ac yn aros i fyny drwy'r nos. Bydden ni'n paratoi'r tân... bydden nhw'n dod â'u gitâr gyda nhw, a bydden ni'n aros i fyny drwy'r nos yn canu, dawnsio, siarad, bwyta... dyna'r amseroedd gorau... Hyd yn oed ar ôl cael plant, doedd dim rhaid i mi boeni mewn gwirionedd... roedd rhywun bob amser yn y tŷ yn eu gwylio.
Rhoddodd rhai enghreifftiau o ryngweithiadau cadarnhaol eu teuluoedd â phobl nad oeddent yn Roma, gan gynnwys mewn ysgolion, cymdogaethau a thrwy'r eglwys.
Daeth [mam] yn fwy cyfeillgar â Rwmaniaid [nad oeddent yn Roma] oherwydd yr eglwys, a gwnaeth gyfarfod â llawer o bobl dda nad oedden nhw'n gwahaniaethu yn ei herbyn gan ei bod hi'n Roma. Roedden nhw'n ei gweld hi... fel bod dynol ac yn ei chefnogi.
Er gwaethaf yr atgofion cadarnhaol hyn, roedd profiadau anodd yn amlwg iawn yn straeon y cyfranogwyr, yn enwedig achosion o wahaniaethu, cam-drin ac erledigaeth hanesyddol. Roedd atgofion o'r Holocost yn dal i fodoli mewn teuluoedd ac yn parhau i lywio hunaniaeth ac ymddiriedaeth ar draws y cenedlaethau.
Roeddwn i'n teimlo fel dieithryn yn fy ysgol yn ôl yn Rwmania... gofynnodd fy rhieni i mi guddio fy hunaniaeth... fel na fyddai pobl yn gwahaniaethu yn fy erbyn... Roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth yn bod arna i... Dwi'n deall nawr eu bod wedi gwneud hynny oherwydd etifeddiaeth; yn trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn fy nheulu... oherwydd ofn erledigaeth, gan eu bod nhw'n rhan o alltudion yr Holocost yn Rwmania... gan eu bod nhw eisiau fy amddiffyn.
Nododd y cyfranogwyr brofiadau uniongyrchol cyfoes o fygythiadau corfforol, gelyniaeth, allgáu cymdeithasol, stereoteipio a throseddoli yn gysylltiedig â'u hethnigrwydd Roma yn eu gwledydd gwreiddiol.
Rydych chi'n neidio ar dram, ac mae arwydd yno; 'dim Sipsiwn ar y tram hwn'... Roedd yr arwydd wedi'i ysgrifennu gan bobl, ar bapur, ac wedi'i roi y tu ôl i'r plastig a'i osod â sgriwiau, felly mae'n rhaid bod y gyrrwr wedi'i weld.
Doedd pobl ddim eisiau ni yno. Pan fydden nhw'n yfed, bydden nhw'n dod at y tŷ ac yn taflu cerrig ato.
Yn Rwmania, yn oedolyn ac yn cerdded ar y stryd un diwrnod... Clywais y fam o'm blaen yn dweud wrth ei phlentyn bach, ‘dere'n agos ata i, dere'n agos ata i. Os na, bydd y Roma yn dy ddwyn.’
Nododd y cyfranogwyr fod unigolion â chroen tywyllach yn wynebu mwy o risg o wahaniaethu, gan eu bod yn haws eu hadnabod fel Roma mewn cyd-destunau ag agweddau gwrth-Roma cryf ac agweddau hiliol ehangach. Tynnodd rhai sylw at y ffaith bod grwpiau lleiafrifol eraill hefyd yn wynebu gwahaniaethu, a bod amrywiaeth ethnig gyfyngedig yn eu gwledydd tarddiad yn gwaethygu'r risgiau hyn, yn eu barn nhw.
Yn ôl yn Rwmania, roedd gwahaniaethu ar sail lliw croen... Dwi'n wahanol, dw i 100% yn wahanol. Oherwydd lliw fy nghroen, oherwydd, yn gorfforol yn unig, dwi'n wahanol... Dw i ychydig yn dywyllach... Byddai pobl yn gwybod fy mod i'n rhywbeth arall – mai Roma ydw i.
Nodwyd achosion o wahaniaethu sefydliadol yn helaeth. Er bod rhai cyfranogwyr o Fwlgaria a Hwngari wedi disgrifio amgylcheddau ysgol cefnogol, roedd y prif naratif yn canolbwyntio ar ddisgwyliadau isel gan athrawon a chyfleoedd cyfyngedig. Weithiau nododd cyfranogwyr o Slofacia, Gweriniaeth Tsiec a Rwmania eu bod wedi cael eu rhoi mewn dosbarthiadau Roma ar wahân neu eu gwahardd o ysgolion prif ffrwd.
Yn yr ysgol yn Slofacia, byddech chi'n gweld dosbarth yn llawn o blant Roma a byddai gan yr athrawon agwedd ofnadwy.
Ceisiodd fy mam fy nghofrestru yn yr ysgol, ond oherwydd bod fy mhapurau yn nodi fy mod yn Roma, agwedd y pennaeth oedd – Dydw i ddim am gael hynny yn fy ysgol i, dydw i ddim eisiau hynny yn fy ysgol i...
Os byddwch chi'n mynd i ysgol arbennig, does gennych chi ddim llawer i ddewis ohono, dim ond gwaith adeiladu, coginio, gwneud dillad ac ati… dim ond pethau sylfaenol iawn. Ond doedden nhw ddim hyd yn oed yn fodlon i mi fynd i ysgol normal.
Roedd cyfleoedd addysgol cyfyngedig yn effeithio ar y gallu i feithrin sgiliau a rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol, a nododd y cyfranogwyr hefyd achosion lle gwrthodwyd swyddi iddynt oherwydd eu hethnigrwydd Roma, er bod ganddynt y cymwysterau perthnasol.
Pe baech chi'n mynd i chwilio am swydd, yr ateb bob amser fyddai: “Na, rwyt ti’n Sipsiwn”... Roeddwn i'n ddylunydd paentio cymwysedig a doedd cael cymhwyster ddim hyd yn oed yn helpu. Doedden nhw ddim eisiau unrhyw beth i'w wneud â ni.
Dywedodd rhai hefyd fod cynigion swydd wedi cael eu tynnu'n ôl ar ôl i'w hethnigrwydd ddod i'r amlwg.
Gwnes i gais am swyddi dros y ffôn... Dywedodd: 'Mae gen i le i chi'... Dros y ffôn, roedd popeth yn iawn. Pan welodd hi fi, wnaeth hi ddim hyd yn oed edrych ar fy wyneb... Edrychodd hi heibio i mi... ‘Mae'n ddrwg gen i. Does gennyn ni ddim swydd i chi yma'.
Cafodd profiadau o'r fath eu nodi'n amlach gan gyfranogwyr a oedd wedi mudo fel oedolion neu yn eu harddegau. Fodd bynnag, cyfeiriodd cyfranogwyr iau, a oedd wedi mudo'n gynnar yn ystod eu plentyndod neu a aned yn y DU, weithiau at straeon teuluol a oedd yn parhau i lywio eu canfyddiadau.
Clywais lwyth o straeon. Yr heddlu, pa mor annheg maen nhw'n trin y Roma, bod y bobl yn hiliol tuag at ei gilydd, pa mor anodd yw cael swydd yno, oherwydd y ffordd mae'r Gadjo [sydd ddim yn Roma] yn eich trin. Dw i wedi clywed llawer o straeon, gan gynnwys gan fy rhieni, teulu fy ffrindiau. Mae pawb wedi dweud wrtha i sut mae pethau yno.
Roedd profiadau blaenorol o wahaniaethu a chyfleoedd cyfyngedig ymhlith y prif ffactorau a oedd yn dylanwadu ar benderfyniadau pobl i fudo, ac yn llywio eu gobeithion a'u dyheadau am fywyd yn y DU. Roedd y rhain yn cynnwys yr angen am ddiogelwch ac ymdeimlad o berthyn, yn ogystal â chyfleoedd addysgol gwell i blant, a mynediad at gyflogaeth.
Fy mhrif obaith oedd y gallai fy mab fynd i'r ysgol a theimlo ei fod yn perthyn. Yn Slofacia, roedd pethau'n anodd... Roeddwn i hefyd yn gobeithio dod o hyd i rywfaint o waith, teimlo'n ddefnyddiol, creu bywyd. Doedden ni ddim yn disgwyl i bopeth fod yn hawdd, ond roedden ni'n gobeithio y bydden ni'n cael cyfle teg.
Roedd yn ymddangos bod profiadau cyn mudo hefyd yn llywio lefelau ymddiriedaeth mewn unigolion a sefydliadau yn y DU, fel y dangoswyd gan Pavol, darparwr gwasanaeth y cafodd ei fam ei diffrwythloni'n orfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr arfer hwn, a effeithiodd ar lawer o fenywod Roma yn Slofacia hyd at ddechrau'r 2000au, yn adroddiad Body and Soul a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Hawliau Atgenhedlu a'r Ganolfan Hawliau Sifil a Dynol (PDF, 997KB). Nododd Pavol y gallai'r trawma parhaol hyn ddylanwadu ar barodrwydd i geisio cymorth meddygol neu gael profion sgrinio rheolaidd.
Mae'r stigma hwnnw yn bodoli o hyd wrth weld meddyg a mynychu apwyntiadau neu gael llythyr. Er enghraifft, cafodd fy mam lythyr yn ei gwahodd am brawf ceg y groth ac eglurodd fy chwaer hynny iddi. Dywedodd – 'Na, dydw i ddim yn gadael i'r meddyg fynd yn agos ata i byth eto ar ôl beth ddigwyddodd i mi yn Slofacia'.
Teithiau i'r DU a phrofiadau wrth gyrraedd
Rhannodd y cyfranogwyr yr hyn a oedd wedi eu hysbrydoli i fudo i'r DU a gwnaethant drafod eu profiadau o ddechrau o'r newydd mewn gwlad newydd, gan gynnwys atgofion cynnar dylanwadol cadarnhaol ac anodd.
Dywedodd y cyfranogwyr yn gyson fod perthnasau neu ffrindiau a oedd wedi mudo yn gynharach wedi eu galluogi i fudo i'r DU, yn aml drwy estyn gwahoddiadau a rhannu straeon cadarnhaol am gyfleoedd gwaith ac addysg. Mae hyn yn adlewyrchu tystiolaeth sefydledig o bwysigrwydd rhwydweithiau cymdeithasol i grwpiau mudwyr (darllenwch fwy yn erthygl Bilecen a Lubbers a gyhoeddwyd yn 2021, The networked character of migration and transnationalism).
Cefais help gan fy chwaer. Gwnaeth fy ngwahodd yma a dywedodd wrtha i fod gwaith ar gael mewn ffatri.
Dywedodd fy nheulu sy'n byw yma wrtha i am aros a dod â'r plant. Dywedon nhw y byddai'n well i mi a'r plant. Bydda i'n dechrau gweithio a bydd y plant yn mynd i'r ysgol.
Roedd cyfranogwyr â dibynyddion yn mabwysiadu strategaethau mudo gwahanol, gyda rhai yn symud i'r DU gyda'i gilydd fel teulu, ac eraill yn mudo ar eu pen eu hunain yn gyntaf i gael sefydlogrwydd, cyn i'w perthnasau ymuno â nhw yn ddiweddarach. Gwelwyd bod cyfnodau ar wahân yn effeithio ar lesiant ac yn cynyddu straen ymgartrefu mewn gwlad newydd.
Byddai fy ngwraig yn fy ffonio ac yn gofyn i mi ddod adref. Byddwn i'n dweud na wrthi... Byddwn i'n dweud bod yn rhaid i ni ddal ati rywsut... Yna cawson ni ein swyddi ... A gwnaethon ni ffonio ein teuluoedd i ddweud wrthyn nhw am ddod yma. Daeth fy ngwraig a'm plant, ac roedd bywyd yn well.
Dywedodd llawer o'r cyfranogwyr eu bod yn teimlo'n nerfus ac yn gyffrous wrth gyrraedd y DU. Roedd rhyngweithiadau cynnar ag unigolion yn y DU yn aml yn ffurfio atgofion pwysig ac yn amrywio o garedigrwydd croesawgar i brofiadau mwy cymysg.
Roedd ein diwrnod cyntaf yn gyffrous iawn, iawn, oherwydd roedd pethau newydd nad oedden ni wedi eu gweld ... roedd pobl yn gwenu ... Dwi'n cofio bod gennyn ni gymydog a fyddai'n dod allan o'r tŷ drws nesaf i'n gweld ac yn dweud: 'Sut ydych chi?', ac yn cynnig losin i ni, ac roeddwn i'n falch iawn o weld hynny...
Roedd gan eraill atgofion o brofiadau mwy anodd ar ôl cyrraedd. Roedd Cristina, a symudodd i'r DU yn gynnar yn ei phlentyndod, yn cofio ymweliad cyntaf ei theulu â siop leol. Roedd y derbynnydd arian a'r cwsmeriaid eraill wedi mynd yn rhwystredig gan fod ei rhieni yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu yn Saesneg, ac roedd rhai ohonynt wedi chwerthin arnynt. Roedd yr atgof o ddylanwad y digwyddiad hwnnw ar ei hunan-barch yn fyw o hyd, sawl blwyddyn yn ddiweddarach.
Gwnaeth i mi deimlo'n ansicr ... Gwnaeth i mi deimlo'n isel iawn amdana i fy hun. Yn fy mhen, roeddwn i'n meddwl – 'pam mae pobl mor feirniadol, mae'n brofiad newydd i mi, mae'n anodd iawn i mi. Dyma'r diwrnod cyntaf a... Dydw i ddim yn gwybod sut i siarad na beth i'w wneud'.
Roedd rhai cyfranogwyr yn dychwelyd i'w gwledydd am gyfnodau estynedig oherwydd cyfrifoldebau gofalu neu driniaeth feddygol cyn dychwelyd i'r DU. Roedd cyfranogwyr hefyd yn cynnal cysylltiadau trawswladol drwy ymweliadau teuluol, mynychu digwyddiadau pwysig, darparu cymorth ariannol i berthnasau, neu barhau i fod yn berchen ar eiddo yn eu gwlad wreiddiol.
Creu sefydlogrwydd yn y DU
Roedd profiadau o ymgartrefu, gan gynnwys dod o hyd i dai, cyflogaeth ac addasu i amgylchedd newydd, yn amrywio'n fawr ac yn dibynnu'n rhannol ar fynediad at adnoddau, yn enwedig rhwydweithiau cymdeithasol a chyfleoedd addysgol yn eu gwledydd gwreiddiol. Dangosir hyn drwy'r astudiaethau achos canlynol, sy'n cyflwyno profiadau cyferbyniol Janos a Johnny.
Yn blentyn, roedd Janos yn gystadleuol, a bu hynny'n sbardun iddo wneud yn dda yn yr ysgol. Serch hynny, roedd yn disgwyl dechrau gweithio gyda'i ewythr ar ôl gadael yr ysgol gynradd, yn union fel y gwnaeth ei gefndryd. Gwelodd ei athro botensial Janos ac, ar ôl cael cefnogaeth ei rieni, llenwodd ffurflen gais ar gyfer ysgol uwchradd ar ei ran, gan ddweud wrtho'n syml – 'Llofnoda'r ffurflen, mae angen i ti astudio'.
Yn ei ysgol nesaf, cyfarfu Janos ag athro cefnogol arall a fynnodd ei fod yn mynd i'r brifysgol. Cwblhaodd Janos ei radd, gyda chymorth sefydliad allanol a oedd yn gweithio gyda Roma ifanc mewn addysg uwch.
Ar ôl gorffen ei astudiaethau, symudodd Janos i'r DU gyda'i wraig, gyda chymorth brodyr a chwiorydd a oedd eisoes yn byw yma. Cafodd ambell swydd fach i ddechrau, daeth o hyd i le i'w rentu ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach, sicrhaodd rôl broffesiynol, gan ddatblygu ei yrfa'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf.
(Janos, dyn Roma o Hwngari, 30 i 39 oed, sy'n byw yn y DU ers 10 mlynedd neu lai)
Aeth Johnny i ysgol arbennig, fel y rhan fwyaf o blant Roma yn ei dref. Roedd yn awyddus i ddysgu, ond roedd yr athrawon yn ei drin fel pe na allai wneud llawer ac yn cynnig fawr ddim cymorth. Ar ôl gorffen yr ysgol, nid oedd yn ymddangos bod llawer o ddewisiadau ar gael iddo, felly penderfynodd hyfforddi'n weithiwr adeiladu.
Nid oedd bywyd yn hawdd, heb fawr ddim gwaith a sefydlogrwydd, felly pan awgrymodd aelod o'i deulu y dylai fentro'i lwc yn y DU, ni phetrusodd Johnny. Cyrhaeddodd y DU ac arhosodd gyda pherthynas a wnaeth ei gynghori i gysylltu ag asiantaeth swyddi. Gan ddefnyddio cymysgedd o ystumiau llaw ac ambell ymadrodd Saesneg yr oedd wedi eu dysgu, llwyddodd i gael gwaith mewn ffatri.
Ond yna, dywedodd perthynas Johnny na allai aros gyda hi mwyach. Heb unman i fynd, bu'n rhaid iddo sgwatio mewn fflat gwag heb drydan. Un diwrnod, cerddodd y landlord i mewn. Er syndod i Johnny, cytunodd iddo aros yno am rent bach a rhoddodd gontract iddo. Gan deimlo eu bod eisoes wedi bod ar wahân am ormod o amser, penderfynodd Johnny y gallai ei wraig a'i blant ymuno ag ef nawr.
Ar ôl hynny, doedd pethau ddim bob amser yn hawdd, weithiau doedd dim gwaith, ond dros amser teimlodd Johnny fod bywyd yn dod yn haws. Symudodd dŷ sawl gwaith, gorffennodd ei blant yn yr ysgol, ac mae'n teimlo mai'r DU yw ei gartref nawr.
(Johnny, dyn Roma o Weriniaeth Tsiec, 40 i 49 oed, sy'n byw yn y DU ers dros 20 mlynedd)
Roedd cymorth perthnasau a ffrindiau yn hanfodol wrth gael tai yn y dyddiau cynnar yn y DU. Roedd rhai, fel Janos, wedi llwyddo i sicrhau digon o incwm a symud i drefniadau byw annibynnol yn gyflym. I eraill, roedd casglu arian a dogfennaeth briodol yn broses hirach. Gallai aros gyda theulu estynedig fod yn ansicr, fel yn achos Johnny, ac roedd yn aml yn gysylltiedig â phreifatrwydd cyfyngedig ac, weithiau, gorlenwi, gan ddylanwadu ar lesiant cyffredinol.
Roedd cymaint ohonon ni [yn nhŷ fy ewythr] ar un adeg, bydden ni i gyd yn cysgu wrth ymyl ein gilydd ... felly doedd pethau ddim yn hawdd ... ond gwnaethant ein helpu ni'n fawr.
Roedd symud [o dŷ fy mherthynas i'n fflat ein hunain] yn teimlo fel rhyddid. O'r diwedd roedd gen i fy lle fy hun. Roeddwn i'n gallu anadlu. Roedd gan fy mab ei wely ei hun. Gwnaeth wahaniaeth mawr i'n hiechyd meddwl.
Roedd profiadau ar ôl dod o hyd i'w llety eu hunain yn amrywio, gyda rhai yn mynegi boddhad ag ansawdd y tai, ac eraill yn nodi heriau fel amodau byw israddol. Roedd y rhain yn cynnwys llwydni, plâu, a phrinder dodrefn. Er nad yw'r profiadau hyn yn unigryw i'r Roma, tynnir sylw atynt yma oherwydd gall amodau byw gwael, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n wynebu llawer o anfanteision, effeithio ymhellach ar iechyd a llesiant pobl.
Mae lleithder yn beryglus i bobl... Mae gen i ŵr sydd â diabetes ac sy'n dioddef o amrywiol gyflyrau cronig, fel problemau gyda'r ysgyfaint, ac roedd hynny i gyd yn gwneud pethau'n waeth. Roedd y lleithder yn wael iawn.
Dywedodd rhai cyfranogwyr fod asiantau annibynadwy wedi manteisio arnynt drwy gasglu rhent heb ei drosglwyddo i'r landlordiaid, gan greu sefyllfaoedd ansicr a oedd weithiau'n arwain at deuluoedd yn cael eu troi allan ar gam heb fawr ddim rhybudd, os o gwbl.
Roedden ni'n talu'r asiant, ond doedd yr asiant ddim yn talu'r landlordiaid. Dyna oedd dechrau'r cyfan, ac yn y pen draw, pan wnaethon nhw ein cicio ni allan o'r tŷ… roedden ni'n ddigartref am wythnos. A phan ddaethon ni o hyd i'r tŷ hwn, gwnaethon nhw gysylltu â ni [i ddweud] mai camddealltwriaeth oedd y cyfan.
Roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr wedi profi sefydlogrwydd tai dros amser. Fodd bynnag, roedd rhai, yn enwedig ymhlith y rhai a oedd wedi byw yn y DU am gyfnod byrrach, yn parhau i wynebu heriau. Roedd y rhain yn gysylltiedig â fforddiadwyedd tai yng nghyd-destun yr argyfwng tai ehangach, yn ogystal ag anawsterau wrth geisio cael tai cymdeithasol a oedd yn gysylltiedig â rhwystrau eraill wrth gael gafael ar wasanaethau. Roedd unigolion a oedd yn teithio i’w gwledydd gwreiddiol am gyfnodau hir yn wynebu heriau ychwanegol, gan fod bylchau yn y dystiolaeth ofynnol yn ei gwneud hi’n anodd cael tai.
Mewn achosion fel ein un ni, pan fydd pobl yn gadael y wlad am resymau gwahanol, fel pandemig, problemau iechyd, rhesymau difrifol – pan fyddan nhw’n dod yn ôl mae’n anodd dangos tystiolaeth o’u hincwm, felly mae bron yn amhosibl rhentu tŷ.
Roedd nifer bach o'r cyfranogwyr wedi llwyddo i sicrhau cyflogaeth sefydlog cyn cyrraedd y DU neu'n fuan ar ôl hynny, ond roedd y rhan fwyaf wedi cymryd rolau lefel mynediad, llai sicr i ddechrau, yn aml ym maes gweithgynhyrchu, adeiladu, glanhau neu letygarwch. Roedd hyn yn aml wedi'i drefnu drwy asiantaethau ac ar gontractau dim oriau, gan gyfrannu at ansicrwydd swyddi ac, ar adegau, pwysau i dderbyn amodau gwaith anniogel a allai effeithio ar iechyd hirdymor.
Roeddwn i'n rhy flinedig. Doedd gen i ddim nerth, a syrthiais i'r llawr. [Treuliais ychydig fisoedd mewn ysbyty ar ôl hynny]. Roeddwn i'n gweithio gormod. Pan wnaethon nhw sylwi fy mod i'n gallu gwneud cymaint, roedden nhw'n fy anfon i bob adran fel pacio a phethau felly. A phan fyddan nhw'n eich rhoi chi yno rydych chi'n mynd mor flinedig... Roeddwn i newydd gyrraedd ac roedd angen y swydd hon arna i. Doedd gennyn ni ddim ein lle ein hunain na dim.
Roedd y swydd ar y safle adeiladu yn anodd iawn. Roedd yn rhaid i ni gario briciau a llwythi trwm o 300kg. Ac roedd yn rhaid i ni gario'r holl bwysau hwnnw ar ein cefn. Ac oherwydd hynny, hyd yn oed nawr, mae gen i bwysedd gwaed uchel… neu oherwydd y bwyd afiach roedden ni'n ei fwyta, oherwydd doedd gennych chi ddim amser, felly roedd yn rhaid i chi fwyta'n gyflym.
Mae cysylltiadau tebyg rhwng amodau tai a chyflogaeth gwael a chanlyniadau iechyd gwael hefyd wedi'u nodi ymhlith Sipsiwn a Theithwyr, fel y dangosir yn ein bwletin Profiadau bywyd Sipsiwn a Theithwyr, iechyd, Cymru a Lloegr: 2022. Fodd bynnag, i'r cyfranogwyr Roma na chawsant eu geni yn y DU, nodwyd bod profiadau mudo a rhwystrau iaith weithiau'n arwain at fwy o ansicrwydd wrth geisio sicrhau cyflogaeth a thai.
Yn aml roedd dyddiau cynnar y broses ymgartrefu wedi'u nodweddu gan heriau wrth ddefnyddio systemau anghyfarwydd, fel cofrestru â meddygon neu gael mynediad at addysg, gyda'r rhai heb gymorth gan deulu neu ffrindiau weithiau'n wynebu oedi wrth gael gafael ar wasanaethau hanfodol.
Am flwyddyn dda, hanner blwyddyn, byddwn i'n dweud [wnes i ddim mynd i'r ysgol] ... Doedden ni ddim yn adnabod neb. Doedden ni ddim yn gwybod dim. Doedd gennyn ni neb o'n cwmpas a allai ddangos i ni beth i'w wneud, sut i'w wneud, ble i ddechrau, y bywyd, mewn gwlad wahanol.
Profiadau o system fewnfudo'r DU
Roedd y newidiadau i'r rheoliadau mewnfudo yn dilyn Brexit yn ei gwneud yn ofynnol i fewnfudwyr o'r UE a oedd eisoes yn byw yn y DU gymryd camau i sicrhau eu statws mewnfudo. Rhoddir esboniad o'r mathau o statws mewnfudo o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn Adran 9: Rhestr termau.
Disgrifiodd y cyfranogwyr heriau wrth ddefnyddio system fewnfudo'r DU, gan gynnwys sicrhau eu statws a dangos tystiolaeth ohono, a oedd yn effeithio ar fywyd bob dydd. Gall grwpiau mudwr eraill wynebu'r heriau hyn hefyd, fel y nodwyd yn adroddiad The Migration Observatory, Migrants' experiences of the UK immigration system. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol y gall llythrennedd cyfyngedig, sy'n aml yn gysylltiedig ag allgáu addysgol blaenorol, waethygu'r anawsterau hyn ymhellach i rai unigolion Roma.
Dywedwyd bod system fewnfudo'r DU yn gymhleth, ac weithiau'n ddryslyd, yn enwedig wrth ddangos tystiolaeth o breswyliad parhaus. Roedd rhai teuluoedd fel arfer yn cofrestru â gwasanaethau o dan enwau'r dynion, gan roi'r menywod o dan anfantais yn anfwriadol pan oedd angen dangos prawf.
Does dim llawer o Roma yn gallu cael y statws, er eu bod wedi byw yma am amser hir iawn. Dydyn nhw ddim yn gallu ei gael oherwydd... yn enwedig menywod, dydyn nhw ddim yn gallu dangos eu bod wedi byw yn barhaus yn y DU am bum mlynedd... hyd yn oed os oes ganddyn nhw dŷ; bydd yn enw eu gŵr, bydd y contractau a phopeth yn ei enw ef, y biliau, yn ei enw ef, wyddoch chi, dyw menywod ddim yn rhan o hyn.
Roedd yr anawsterau hyn yn ymestyn i'r rhai mewn amgylchiadau mwy ansicr. Pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol fod yr unigolion mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai a gafodd eu masnachu neu a oedd yn gwneud gwaith arian mewn llaw, yn wynebu heriau wrth geisio casglu tystiolaeth.
Pobl a gafodd eu masnachu, cawson nhw eu cludo yma, doedd ganddyn nhw ddim mynediad at wybodaeth, cawson nhw eu gorfodi i wneud swyddi gwahanol am gyflog isel a doedd y bobl hyn ddim yn gallu gwneud cais am nad oedd ganddyn nhw unrhyw gyflogaeth, tystiolaeth, doedden nhw ddim wedi'u cofrestru â meddygon teulu, doedden nhw ddim yn gallu profi eu bod yma.
Mae gen i brofiad o ymgeisydd a oedd yn gwneud gwaith arian mewn llaw a gofynnodd i'w gyflogwr roi llythyr iddo i ddangos ei fod wedi bod yn gweithio iddo... Does dim gobaith o gael unrhyw ddogfennau, unrhyw lythyrau at ddibenion mewnfudo, gan y cyflogwyr hynny.
Roedd heriau ychwanegol yn gysylltiedig â digideiddio prosesau mewnfudo. Mae oedran, statws economaidd-gymdeithasol neu anabledd ymhlith y ffactorau pwysig sy'n dylanwadu ar allgáu digidol, yn ôl adroddiad Pwyllgor Cyfathrebu a Digidol Tŷ'r Arglwyddi ar allgáu digidol yn y DU. Disgrifiodd y cyfranogwyr anawsterau wrth ddefnyddio systemau ar-lein, rheoli negeseuon e-bost, a chael mynediad i'w cyfrifon i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol. Disgrifiodd yr hysbyswyr allweddol yr un broblem, gan ychwanegu y gall mynediad cyfyngedig at ddyfeisiau a rhwystrau iaith waethygu heriau digidol. Ystyriwyd bod digideiddio hefyd yn peri problemau yng nghyd-destun llythrennedd gweithredol cyfyngedig ymhlith rhai Roma, a oedd yn gysylltiedig â phrofiadau o allgáu addysgol cyn mudo.
All rhai... ddim darllen. Mae gennyn ni oedolion Roma heb lythrennedd; dydyn nhw ddim yn gallu darllen am nad oes ganddyn nhw gefndir addysg. Yn ail, dydyn nhw ddim yn gwybod sut i ddefnyddio ffôn clyfar. Yn drydydd, rhwystr iaith, er eu bod yn gallu darllen yn Rwmaneg, allan nhw ddim deall Saesneg.
Disgrifiodd rhai cyfranogwyr anawsterau wrth gael cymorth dibynadwy, a allai arwain at rywun yn manteisio arnynt neu'n rhoi cyngor anghywir iddynt, gan achosi oedi ac effeithio'n negyddol ar eu ceisiadau.
Pan ddaeth [fy ngŵr]... gwnaethon ni gais am statws preswylio. Ond ar y dechrau, doedden ni ddim yn deall Saesneg, doedden ni ddim yn gwybod beth oedd e-bost, doedden ni ddim yn gwybod unrhyw beth o gwbl. Yna gofynnodd i bobl eraill ei helpu. Yn anffodus, mae'n debyg nad oedd y bobl hynny'n gwybod chwaith, a gwnaethon nhw gais ffug, a rhoi tystiolaeth ffug. Doedden ni ddim yn gwybod.
Roedd bylchau hefyd mewn dealltwriaeth o ran sut i symud o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a'r hawliau sy'n gysylltiedig â phob un. Nododd hysbyswyr allweddol fylchau tebyg mewn gwybodaeth ymhlith staff rai gwasanaethau statudol, er enghraifft ynghylch defnyddio codau rhannu i gadarnhau statws, a allai effeithio ar y gallu i gael gafael ar wasanaethau.
O'm profiad i o weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid, mae gwybodaeth gyfyngedig iawn am y codau rhannu o fewn gwasanaethau, felly dydyn nhw ddim yn gallu rhoi'r cyngor sydd ei angen ar unigolion... Felly hyd yn oed pan fydd pobl yn cyflwyno'r peth cywir, maen nhw'n cael gwybod bod angen iddyn nhw gyflwyno rhywbeth arall ac felly mae pobl yn drysu.
Heb statws mewnfudo, mae unigolion yn wynebu rhwystrau i gael cyflogaeth gyfreithlon, tai a gofal iechyd. Nododd hysbyswyr allweddol y gall heriau wrth ddefnyddio'r system fewnfudo wthio pobl i sefyllfaoedd ansicr, gan gynnwys dyled ac ansicrwydd. Rhannodd Ille ei brofiad o gefnogi cleient mewn amgylchiadau o'r fath:
Mae hawl ganddi i wneud cais i'r Cynllun Preswylio, gwnaeth gais ond dyw hi ddim yn darllen negeseuon e-bost yn Saesneg felly allai hi ddim darparu tystiolaeth, gwnaeth gais sawl gwaith, nawr maen nhw wedi cael bil gan y GIG i dalu am ei genedigaeth, er bod gan y gŵr statws preswylydd cyn-sefydlog, does ganddi hi ddim... felly nawr mae angen iddi dalu £11,000 am yr enedigaeth yn yr ysbyty.
Gwella hygyrchedd y system fewnfudo
Rhannodd y cyfranogwyr a'r hysbyswyr allweddol eu barn am sut y gellid gwella gallu Roma i gael gafael ar wasanaethau, fel y nodir yn Adran 4: Cael gafael ar wasanaethau yng Nghymru a Lloegr. Digwyddodd hyn mewn pum grŵp ffocws, gyda phob un ohonynt yn archwilio pwnc gwahanol, ac yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau Roma, hysbyswyr allweddol, darparwyr gwasanaethau, a chynrychiolwyr o adrannau perthnasol y llywodraeth. Er bod llawer o'r awgrymiadau ehangach a drafodwyd yn y grwpiau ffocws yn berthnasol i ddefnyddio'r system fewnfudo, rhannodd yr hysbyswyr allweddol syniadau hefyd a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar helpu pobl i ymgysylltu â hi.
Gwnaethant nodi bod angen prosesau symlach o ran dangos tystiolaeth o breswylio a chadarnhau statws mewnfudo. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys:
- archwilio potensial data gweinyddol, fel data'r GIG, fel prawf o breswyliad parhaus
- derbyn tystiolaeth gan sefydliadau dibynadwy, fel ysgolion neu feddygfeydd, i ddangos presenoldeb yn y wlad
- archwilio ffyrdd amgen o gadarnhau statws mewnfudo, er enghraifft drwy basbortau neu ddogfennau adnabod digidol
Er enghraifft, awgrymodd Adrian y dylid derbyn tystiolaeth gan ysgolion fel sefydliad dibynadwy.
O ran mamau, er enghraifft, does ganddyn nhw ddim llawer o dystiolaeth ond maen nhw wedi bod yn mynd â'u plant i'r ysgol bob dydd, felly pe bai'r ysgol yn gallu cadarnhau, 'Rydym wedi gweld y fam hon'… efallai pe bai gan yr ysgol dempled neu rywbeth tebyg i'w ddefnyddio fel ei bod hi'n hawdd iawn i'r ysgol wneud hynny... Dwi'n credu y gallai rhieni wneud hynny, a byddai'n ddigon hawdd cael rhywbeth fel hynny.
Pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol hefyd fod angen gwella dealltwriaeth o'r gofynion ar gyfer profi statws mewnfudo ymhlith sefydliadau cyhoeddus. Awgrymwyd atebion posibl, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus ddynodi arbenigwr "statws digidol" (awgrymwyd gan Sophie, hysbysydd allweddol nad yw'n Roma, llywodraeth leol).
Roedd yr hysbyswyr allweddol yn gwerthfawrogi ymdrechion parhaus Tîm Unigolion Agored i Niwed y Swyddfa Gartref i gefnogi'r unigolion mwyaf agored i niwed a phwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys sefydliadau Roma ar lawr gwlad i wella cyrhaeddiad ac ennyn ymddiriedaeth.
Cael a rhoi cymorth
Dywedwyd bod rhwydweithiau teuluol a chymunedol yn ffynonellau cymorth hanfodol wrth ymgartrefu, ac roedd rhai cyfranogwyr hefyd wedi cael cymorth gan gynghorau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cymdeithas sifil (CSOs), gan gynnwys cymorth mewn argyfwng, cyngor ar hawliau ac arweiniad wrth ddefnyddio systemau anghyfarwydd.
Roedd cymryd rhan yn y gymuned wedi helpu'n fawr. Roeddwn i'n mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau blynyddol. Nid cyfarfodydd anffurfiol yn unig oedden nhw. Roedd cyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol o wahanol sefydliadau a oedd yn deall y system ac yn egluro popeth... O fewn chwe mis, roeddwn i'n deall pethau fel hawliau a pholisïau tai. Dechreuais edrych ar bethau yn fwy o ddifrif. Beth yw eich hawliau? Beth gallwch chi ei wneud? Cefais lawer o wybodaeth gan y sefydliad cymdeithas sifil.
Roedd cyflawni sefydlogrwydd yn aml yn gysylltiedig ag awydd i roi rhywbeth yn ôl i eraill. Roedd llawer o gyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sefydliadau gwirfoddol, gan gefnogi cymunedau Roma a chymunedau eraill. Dywedodd Elsa, gwirfoddolwr gweithgar, ei bod wedi helpu eraill fel ffordd o lywio ei dewisiadau a chreu ymdeimlad cryf o foddhad. Roedd ei phrofiadau heriol ei hun o ymgartrefu yn y DU wedi rhoi dealltwriaeth iddi o anghenion ac wedi ei chymell i gefnogi eraill ar eu taith.
Dwi'n credu mai fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd oedd y cyfnod anoddaf a wnaeth lywio pwy ydw i nawr... Doedd gen i neb i ddal fy llaw ac i arwain y ffordd. Felly pan rwy'n gweld rhywun yn yr un sefyllfa, dw i am ddal ei law ac arwain y ffordd.
4. Cael gafael ar wasanaethau yng Nghymru a Lloegr
Tynnodd y cyfranogwyr a'r hysbyswyr allweddol sylw at amrywiaeth o rwystrau trawsbynciol a oedd yn dylanwadu ar y gallu i gael gafael ar wasanaethau, megis:
- addysg
- tai
- iechyd
- cyflogaeth
Roedd enghreifftiau o rwystrau yn cynnwys:
- sgiliau Saesneg cyfyngedig ymhlith rhai Roma
- diffyg dealltwriaeth o hanes, cyd-destunau diwylliannol ac anghenion Roma ymhlith darparwyr gwasanaethau
Dywedodd yr hysbyswyr allweddol hefyd fod data cyfyngedig ar boblogaethau Roma yn her i ddarparu gwasanaethau effeithiol. Nodwyd bod angen gwneud y canlynol:
- cynyddu cynrychiolaeth Roma mewn sefydliadau cyhoeddus
- gwella sgiliau digidol a gweinyddol o fewn cymunedau Roma
- cynyddu dealltwriaeth o brofiadau Roma ymhlith darparwyr gwasanaeth
- datblygu Strategaeth Roma Genedlaethol sy'n debyg i'r rhai a ddefnyddir gan aelod-wladwriaethau'r UE
Sgiliau iaith
Roedd sgiliau Saesneg yn amrywio ymhlith y cyfranogwyr. O blith y 63 o gyfweliadau, cynhaliwyd 17 yn Saesneg, gyda'r cyfranogwyr iau, a fynychodd yr ysgol yn y DU, yn rhugl ar y cyfan, a sgiliau'r oedolion yn gymysg. Roedd rhwystrau, gan gynnwys cost dosbarthiadau a phwysau bywyd, yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddysgu, yn enwedig ymhlith unigolion mwy agored i niwed. Tynnodd Xena sylw at y ffaith bod y gallu i ddysgu iaith yn dibynnu ar sefydlogrwydd ac adnoddau:
Dim ond y rhai sydd wir yn gadarn ac wedi ymgartrefu ac sydd ag incwm sy'n mynd i ddosbarthiadau ESOL [Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill].
Ystyriwyd bod iaith yn her sylweddol i ymgysylltu â gwasanaethau yn y DU. Ym maes gofal iechyd, gallai sgiliau Saesneg cyfyngedig gyfyngu ar y gallu i gael gofal sylfaenol, lleihau dealltwriaeth o ddiagnosisau, a rhwystro pobl rhag gwneud penderfyniadau gwybodus. Disgrifiodd un cyfranogwr o Hwngari achos lle gofynnwyd i berthynas iddo gydsynio i'w roi ar beiriant anadlu tra roedd yn anymwybodol. Cytunodd i hynny, gan feddwl ar gam mai cais i droi ffan ymlaen ydoedd, er mwyn darparu awyr iach. Er nad oedd hi'n sylweddoli hynny, roedd hi'n gwneud penderfyniad a allai newid bywyd.
Nodwyd yn aml hefyd fod heriau iaith a diffyg dealltwriaeth yn effeithio ar allu rhieni i gyfathrebu ag ysgolion, gan gyfyngu ar eu gallu i weithredu ar y wybodaeth roeddent yn ei chael. Dywedodd rhai cyfranogwyr y byddent wedi croesawu mwy o gymorth gan ysgolion wrth egluro gwybodaeth bwysig. Er enghraifft, roedd un cyfranogwr yn cofio cael llythyr yn nodi bod gan ei phlentyn anghenion arbennig, ond ar y pryd, nid oedd yn gallu ei ddeall ac roedd yn teimlo nad oedd unrhyw gymorth ar gael:
Wnaeth neb esbonio beth yw anghenion arbennig.
Roedd sgiliau cyfyngedig hefyd yn gysylltiedig ag anawsterau wrth arfer hawliau a herio arferion cyflogaeth annheg, gan gynyddu'r risg y byddai cyflogwyr yn manteisio ar unigolion. Dywedodd Carmen fod y rhwystr iaith cychwynnol wedi ei gwneud hi’n anodd iddi sefyll i fyny i’r rheolwyr, a oedd yn aml yn rhoi'r gwaith oergell iddi hi, yn hytrach na’i rannu’n deg:
Roedd y bobl, dw i'n meddwl, yn cymryd mantais ohonon ni ac yn ein hanfon i'r mannau oer... Ond am nad oedden ni'n deall yr iaith, doedden ni ddim yn gallu ei siarad; felly bydden ni'n cytuno i fynd. Yna, yn araf, dywedais... nad oedd hynny'n iawn ac y dylen nhw anfon y gweithwyr eraill yno hefyd... yna... gwellodd pethau.
Anghenion cyfieithu
Er i'r cyfranogwyr nodi y gallai cyfieithwyr chwarae rhan bwysig wrth liniaru rhwystrau iaith, amlygodd eu profiadau gymhlethdod o ran cael gafael ar gymorth iaith addas. Roedd un her yn ymwneud â'r amrywiaeth ieithyddol unigryw o fewn cymunedau Roma. Roedd y cyfranogwyr yn siarad amrywiaeth o ieithoedd, ac roedd eu rhuglder yn amrywio'n sylweddol, gyda rhai pobl ifanc, er enghraifft, yn rhugl mewn Romani a Saesneg, ond nid yn iaith gwlad wreiddiol eu teuluoedd. Roedd amrywiadau sylweddol o fewn yr iaith Romani hefyd: roedd y cyfranogwyr a oedd yn ei siarad yn defnyddio amrywiolion gwahanol.
Pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol y gallai dealltwriaeth gyfyngedig darparwyr gwasanaethau o Roma fel grŵp ethnig penodol arwain at dybiaethau anghywir am iaith gyntaf unigolyn. Gall hyn effeithio ar y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, yn enwedig lle defnyddir geirfa arbenigol neu gymhleth. Pwysleisiodd Elle, unigolyn Roma o Rwmania sy'n gweithio mewn sefydliad cymdeithas sifil, fod aelodau'r gymuned y mae'n ei chefnogi yn aml yn ei chael hi'n anodd deall y Rwmaneg ffurfiol a ddefnyddir gan gyfieithwyr nad ydynt yn Roma. Lle nad yw darparwyr gwasanaethau yn ymwybodol o’r heriau hyn, gall camddealltwriaethau godi, fel camgymryd bod diffyg gweithredu gan unigolyn yn fater o ddewis yn hytrach nag o ganlyniad i ddealltwriaeth gyfyngedig:
Maen nhw'n tybio bod sgiliau cyfathrebu yn dda. Ac os nad yw rhieni'n gwneud rhywbeth, maen nhw'n tybio mai'r rheswm dros hynny yw am eu bod yn dewis peidio â'i wneud, yn hytrach nag am nad ydyn nhw'n deall.
Yng nghyd-destun gwasanaethau cymdeithasol, awgrymodd yr hysbyswyr allweddol fod rhagdybiaethau anghywir am iaith gyntaf teulu yn cynyddu'r risg o gamddehongli deinameg deuluol yn ystod adolygiad achos. Rhoddodd Magda enghreifftiau lle roedd cyfieithwyr nad oeddent yn Roma wedi cael eu darparu ar gyfer teuluoedd â phlant a oedd wedi cael eu rhoi mewn gofal a lle roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio ieithoedd cenedlaethol yn y cyfarfodydd dan oruchwyliaeth fel bod y gwasanaethau yn gallu eu deall. Dywedodd, "yn sydyn mae'r plant hynny wedi drysu'n lân ac yn cael eu rhoi mewn sefyllfa ofnadwy lle mae eu rhieni'n siarad â nhw mewn iaith dydyn nhw ddim yn ei deall". Felly, teimlwyd ei bod yn hanfodol bod sefydliadau sy'n gweithio gyda Roma yn datblygu dealltwriaeth o'u hamrywiaeth ieithyddol ac yn osgoi gwneud rhagdybiaethau am anghenion cyfieithu.
Roedd her arall yn ymwneud ag ymddiriedaeth gyfyngedig cymunedau mewn cyfieithwyr nad ydynt yn Roma o'u gwledydd gwreiddiol a phryderon y gallent achosi niwed. Mynegodd nifer o'r cyfranogwyr ddiffyg ymddiriedaeth a oedd yn deillio o brofiadau cyn-fudo ac, weithiau, wedi'i atgyfnerthu drwy ryngweithiadau yn y DU. Soniodd rhai o'r cyfranogwyr o Rwmania, y Weriniaeth Tsiec a Slofacia am brofiadau negyddol gyda chyfieithwyr a chynorthwywyr addysgu nad oeddent yn Roma:
Ar y dechrau pan ddechreuodd fy meibion roedd popeth yn wych, ond yn ddiweddarach, cawson ni'r cyfieithwyr Tsieceg a Slofaceg a dechreuodd y problemau. Dechreuon nhw wahaniaethu rhwng y Roma a'r Saeson... daethon nhw â'r system yma i'n hysgolion...
Cafodd y farn hon ei hatgyfnerthu gan yr hysbyswyr allweddol, a nododd fod cyfieithwyr weithiau'n dibynnu ar eu rhagdybiaethau rhagfarnllyd eu hunain yn hytrach na chyfieithu gair am air. Nododd Adriana, unigolyn Roma o Rwmania sy'n gweithio mewn sefydliad cymdeithas sifil, y gall hyn "arwain at gyfieithiad hiliol o'r hyn y mae'r person wedi'i ddweud" a bod risg y gallai ragfarnu safbwyntiau darparwyr gwasanaethau.
Er mwyn mynd i'r afael â'r gallu cyfyngedig i gael cyfieithwyr addas, roedd llawer o oedolion â Saesneg cyfyngedig yn dibynnu ar eu plant i gyfieithu, weithiau ar gais darparwyr gwasanaethau, gan eu rhoi mewn rolau amhriodol i'w hoedran. Gallai cyfieithu mewn lleoliadau cymhleth, fel apwyntiadau meddygol, fod y tu hwnt i ddealltwriaeth pobl ifanc, ni waeth pa mor rhugl oeddent yn Saesneg.
Roedden ni'n arfer mynd at y meddyg gyda [ein rhieni], roedd yn rhaid i ni esbonio popeth i'r meddyg, a oedd yn anodd fel plentyn 13/14 oed. Doedden ni ddim yn gwybod y termau a oedd yn cael eu defnyddio.
Gallai hyn arwain at gamddiagnosis, fel yn achos gŵr Liliana. Ar ôl i'w gais am gyfieithydd gael ei wrthod, aeth i apwyntiad meddyg teulu gyda'i fab, ac oherwydd camgyfathrebu, cafodd driniaeth ar gyfer iselder er nad oedd yn dioddef o'r cyflwr.
Tynnodd cyfranogwyr eraill sylw at sensitifrwydd ynghylch trafod problemau iechyd o flaen perthnasau, yn enwedig y rhai o oedran a rhyw gwahanol. Nododd Claudiu, sy'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol ei hun, fod osgoi trafod pynciau o'r fath yn ffordd o ddangos parch i rai Roma (cyfranogwr Roma o Rwmania, grŵp ffocws). Fodd bynnag, gallai olygu na chaiff rhai symptomau, yn enwedig y rhai yr ystyrir eu bod yn fwy sensitif, eu trafod, a allai arwain at ddiagnosis anghywir.
Roedd plant a nodwyd yn y categori "Sipsiwn neu Roma" ymhlith y rhai â'r cyfraddau uchaf o ran absenoldeb o'r ysgol yn Lloegr, yn ôl adroddiad yr Adran Addysg ar ddata absenoldeb disgyblion ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025. Nododd y cyfranogwyr fod yr heriau a wynebir wrth geisio trefnu cyfieithydd priodol yn ffactor a oedd yn cyfrannu at hyn. Roedd rhai yn goresgyn yr heriau hyn drwy deithio i gael gofal iechyd dramor, a allai amharu ar bresenoldeb plant yn yr ysgol. Dywedodd Milena, (merch Roma o Fwlgaria, 14 i 19 oed, sy'n byw yn y DU ers 10 mlynedd neu lai) ei bod wedi colli ei lle yn y coleg ar ôl treulio ychydig wythnosau dramor oherwydd argyfwng meddygol. Roedd sawl cyfranogwr hefyd yn cofio colli diwrnodau ysgol oherwydd cyfrifoldebau cyfieithu.
Roedd yn rhaid i mi gael fy nhynnu allan o'r ysgol sawl gwaith oherwydd bod gan fy rhieni apwyntiad yn rhywle. Doedden nhw ddim yn siarad Saesneg ac roedd llawer o gyfieithwyr yn hiliol iawn, a fydden nhw ddim yn cyfieithu'r hyn y byddai fy rhieni'n ei ddweud.
Y gallu i gael gafael ar wasanaethau a bylchau mewn dealltwriaeth o gymunedau Roma
Nododd cyfranogwyr a hysbyswyr allweddol dro ar ôl tro nad oedd rhai darparwyr gwasanaethau yn deall cymunedau Roma, a'u bod yn aml yn eu cyfuno â mudwyr eraill o'r UE neu â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Gwnaethant bwysleisio ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r gwahaniaethu hirdymor a wynebir gan Roma a'i effeithiau ar lefelau mynediad at addysg ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, ochr yn ochr â'r diffyg hyblygrwydd o ran y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Barn gyffredin oedd bod dulliau o ymgysylltu â gwasanaethau yn aml yn eithrio pobl â llythrennedd a sgiliau digidol cyfyngedig. Roedd enghreifftiau’n cynnwys dibyniaeth ar apiau i hwyluso cyfathrebu ag ysgolion neu wasanaethau tai, yn ogystal ag ar gyfer archebu apwyntiadau meddygol.
Mae fy nhad yn Roma, ac yn Rwmania roedden ni'n cael ein hymyleiddio a does dim gwahaniaeth gen i ddweud, aeth fy nhad ddim i'r ysgol felly dyw e ddim yn gwybod sut i ddarllen nac ysgrifennu... Felly mae'n anodd iawn iddo drefnu apwyntiad dros y ffôn... Dwi'n credu y dylai pobl fel fy nhad allu dewis mynd yno a threfnu apwyntiad [yn y dderbynfa].
Rhannodd hysbyswyr allweddol hefyd enghreifftiau lle roedd gwasanaethau wedi anwybyddu sefyllfaoedd ansicr unigolion agored i niwed. Roedd un enghraifft gyffredin yn ymwneud â theuluoedd yn cael eu cosbi am lai o bresenoldeb yn yr ysgol, ar ôl cael eu symud i lety dros dro ymhell o'r ysgol:
Gostyngodd eu cyfraddau presenoldeb yn sylweddol ond roedd hi'n dal i geisio gwneud yn siŵr bod y plant yn mynd i'r ysgol, ac ymateb yr ysgol i'r gostyngiad hwnnw mewn presenoldeb, er gwaethaf y ffaith ei bod wedi cael ei cham-drin yn ddomestig, nad oedd hi'n siarad llawer o Saesneg ei hun, ei bod wedi cael ei symud i rywle y tu allan i Lundain, a bod ei hincwm wedi gostwng yn sylweddol, oedd mynd â hi i'r llys a gwneud iddi dalu dirwy.
Gwnaethant hefyd dynnu sylw at y ffaith y gallai ymwybyddiaeth gyfyngedig o arferion diwylliannol penodol arwain at gamddehongliadau ac effeithio ar ganlyniadau. Disgrifiodd Adela, gweithiwr mewn sefydliad cymdeithas sifil, achos lle roedd gweithiwr cymdeithasol wedi nodi'r ffaith bod mam-gu yn defnyddio enw amgen ar gyfer ei hŵyr fel tystiolaeth o gydberthynas wan, pan oedd hyn, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu arferion enwi cyffredin cymunedau Roma ac yn dynodi cydberthynas agos.
Gwelwyd bod ymwybyddiaeth sefydliadol gyfyngedig o brofiadau o anfantais yn gwanhau ymddiriedaeth unigolion mewn gwasanaethau ymhellach, ac i lawer, roedd yr ymddiriedaeth honno eisoes wedi'i gwanhau cyn iddynt fudo. Gallai hyn olygu bod unigolion yn osgoi ceisio cymorth pan oedd angen, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, am eu bod yn ofni y byddai gwasanaethau yn cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol. Tynnodd y cyfranogwyr sylw hefyd at yr angen am fwy o wybodaeth a'r angen i godi ymwybyddiaeth o gyfrinachedd a rhesymau am atgyfeiriadau.
Os bydda i'n mynd at y meddyg ac yn dweud bod gen i iselder, bydd yn ffonio'r gwasanaethau cymdeithasol ac yn dweud bod gen i iselder ac na alla i ofalu am fy merch.
Roeddwn i'n teimlo o dan straen mawr ychydig flynyddoedd yn ôl ac roedd hi'n mynd yn anoddach ac anoddach ymdopi â'r pwysau a'r straen. Felly, cysylltais â'r meddyg teulu a ddywedodd, 'Efallai y bydd angen rhywfaint o therapi arnoch chi'. Felly, trefnais apwyntiad ac yn fuan iawn cyn yr apwyntiad, sylweddolais, ‘Arhosa eiliad. Dwi'n fam sengl, os bydda i'n rhannu rhywbeth wrth i ni drafod, efallai y bydd hynny'n achosi mwy o broblemau mewn gwirionedd. Dydw i ddim am fynd.’
Eithrio a data
Nododd yr hysbyswyr allweddol fod argaeledd cyfyngedig data am boblogaethau Roma yn y DU yn rhwystr sylfaenol i ddarparu gwasanaethau ar sail gwybodaeth. Gwnaethant dynnu sylw at sawl ffactor sy'n cyfrannu at gynrychiolaeth wael o bobl Roma yn y data sydd ar gael, gan gynnwys prosesau casglu anghyson ar gyfer data am ethnigrwydd, sy'n cyfyngu ar ddealltwriaeth o gyfran y mudwyr o'r UE sy'n Roma.
Does neb yn casglu data am ethnigrwydd... yn ôl data'r Swyddfa Gartref mae [dros 20,000] o Fwlgariaid yn [ein hawdurdod lleol]... ond does neb yn gwybod faint ohonyn nhw sy'n Roma.
Weithiau lle caiff data am ethnigrwydd eu casglu, mae'r opsiwn "Roma" wedi'i gynnwys o fewn y blwch ticio "Sipsiwn, Roma, Teithwyr". Y farn gyffredinol oedd bod hyn yn peri problemau, oherwydd profiadau ac anghenion gwahanol y cymunedau hyn. Pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol fod Roma fel arfer yn bobl sefydlog yn hytrach na nomadaidd ac y gallant wynebu rhwystrau ychwanegol sy'n deillio o'r ffaith eu bod yn fewnfudwyr a'u hanes cyn mudo. Teimlai rhai cyfranogwyr nad oedd blwch ticio "Sipsiwn, Roma, Teithwyr" yn cynrychioli eu hunaniaeth ac nid oeddent yn teimlo'n gyfforddus yn ticio’r opsiwn hwn:
Maen nhw'n rhoi opsiwn 'Sipsiwn, Roma, Teithwyr' sy'n golygu rhywbeth cwbl wahanol. Mae'r gair 'Sipsiwn' hefyd yn fy nghynhyrfu pan rwy'n ei weld... Dwi'n meddwl 'Oes angen i mi dicio fan 'na?'
Archwilir y cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio'r term "Sipsiwn" yn fanylach yn Adran 6: Y rhai sy'n ystyried eu hunain yn Roma.
Ochr yn ochr â'r heriau hyn, nododd y cyfranogwyr a'r hysbyswyr allweddol fod ymddiriedaeth gyfyngedig mewn sefydliadau cyhoeddus yn rhwystr i gynrychiolaeth data effeithiol. Mynegodd sawl cyfranogwr nad oeddent bob amser yn teimlo'n ddiogel i ddatgelu eu hethnigrwydd Roma oherwydd camddefnydd hanesyddol o ddata o'r fath mewn gwledydd eraill, y mae etifeddiaeth hynny yn parhau i danseilio hyder yn y ffordd y gall data gael eu defnyddio. Ceir rhagor o fanylion yn Adran 6: Y rhai sy'n ystyried eu hunain yn Roma.
Felly, pryd bynnag y bydd cyfrifiad yn cael ei gynnal ar gyfer y gymuned Roma, bydd aelodau'r gymuned Roma yn ceisio dianc rhagddo, ac yn ceisio osgoi datgan eu hunaniaeth ethnig gymaint â phosibl. Oherwydd yn fuan ar ôl i'r cyfrifiad gael ei gynnal, byddai rhywbeth ofnadwy yn digwydd. Alltudio, saethu, arestio... felly i ni fel cymuned, pryd bynnag y bydd rhywun eisiau ein cyfrif a'n dynodi yn ôl ein proffil ethnig, mae hyn yn newyddion drwg.
Hyd heddiw, dydw i erioed wedi dweud fy mod yn Roma ... mewn unrhyw ffurflen ... oherwydd mae arna i ofn os bydda i'n mynd at y meddyg ... bydd yn gweld Roma, bydd yn ... fy lladd, wn i ddim ... Er enghraifft ar gyfer arbrawf neu rywbeth, oherwydd mae hynny wedi digwydd ... yn y gorffennol, felly mae arna i ofn y bydd yn gwneud rhywbeth.
Gwelliannau a awgrymwyd mewn perthynas â'r gallu i gael gafael ar wasanaethau
Yn ystod trafodaethau'r grwpiau ffocws gyda darparwyr gwasanaethau a chynrychiolwyr o adrannau perthnasol y llywodraeth, awgrymodd y cyfranogwyr a'r hysbyswyr allweddol amrywiaeth o ffyrdd o wella cynhwysiant a lleihau rhwystrau i Roma gael gafael ar wasanaethau. Roedd un thema gyffredin yn adlewyrchu’r angen i wella dealltwriaeth darparwyr gwasanaethau o gymunedau Roma, gan gynnwys cyd-destun ehangach gwahaniaethu a’i effeithiau:
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda ... gweithwyr proffesiynol ac yn eu helpu i ddeall mwy amdanom ni. Eu helpu i ddeall o ble rydyn ni'n dod oherwydd bod ein cyfleoedd bywyd wedi bod mor wahanol i eraill...
Awgrymwyd y dylid darparu hyfforddiant a arweinir gan y gymuned a chydnabuwyd bod llawer o ddarparwyr gwasanaethau eisoes wedi gwneud ymdrechion i drefnu'r hyfforddiant hwn. Awgrymodd yr hysbyswyr allweddol y gellid ymgorffori hyfforddiant o'r fath mewn datblygiad proffesiynol cynnar, a phwysleisiodd un fod yn “rhaid iddo ddigwydd yn gynnar iawn, pan fydd pobl yn fyfyrwyr oherwydd dyna'r... ffordd gywir o sicrhau newid hirdymor... newid agweddau cyfan y gweithlu” (Natalie, hysbysydd allweddol nad yw'n Roma). Pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol hefyd bwysigrwydd cydweithio ystyrlon rhwng darparwyr gwasanaethau a sefydliadau ar lawr gwlad, er mwyn cefnogi ymgysylltiad effeithiol a chydberthnasau dibynadwy.
Teimlwyd hefyd fod cynrychiolaeth gynyddol o Roma mewn lleoliadau gwahanol, gan gynnwys sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus, yn hanfodol. Rhannodd y cyfranogwyr enghreifftiau cadarnhaol o ysgolion a darparwyr gofal iechyd yn cyflogi staff Roma i liniaru heriau cyfathrebu a meithrin ymddiriedaeth. Soniodd Elena am ei phrofiad ei hun o weithio mewn ysgol. Disgrifiodd gychwyn cyfarfodydd gyda rhieni Roma, a sicrhau presenoldeb uchel gan unigolion nad oeddent wedi ymgysylltu fawr ddim â'r ysgol cyn hynny:
Gwahoddais y rhieni i'r cyfarfod cyntaf, a gynhaliwyd gennyf i, a daeth y mwyafrif ohonyn nhw... Gwahoddais y bwrdd, y cadeirydd a'r pennaeth, a dywedon nhw... rwyt ti wedi llwyddo i ddod â phawb ynghyd.
Pwysleisiwyd hefyd fod angen cynyddu amlygrwydd cymunedau Roma, gan gynnwys drwy ymgorffori hanes Roma yng nghwricwlwm ysgolion. Pwysleisiodd y cyfranogwyr bwysigrwydd sicrhau bod Roma yn cael eu cynrychioli mewn cyd-destunau bob dydd, fel deunyddiau neu ymgyrchoedd cyhoeddus, er mwyn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u gweld. Rhannodd Ana enghraifft o'i thiwtor prifysgol yn y DU, a wnaeth gynnwys cymeriad Roma mewn astudiaeth achos ar gyfer ei modiwl:
Roedd hi'n gwybod fy mod i'n Roma, a gwnaeth hi gynnwys enghraifft o Roma, un gadarnhaol... er mwyn i mi allu uniaethu â'r cymeriad a dychmygu sut roedd yn teimlo... Roedd yn bwerus.
Dywedodd Xena nad yw Roma yn aml yn fwy nag “ystadegyn negyddol” ac mai'r hyn a fydd “yn gwneud pethau'n well yw… gweld mwy o Roma… enghreifftiau gwirioneddol o fywydau Roma a’r brwydrau maen nhw’n eu hwynebu” (menyw Roma o Wladwriaeth Tsiec, 40 i 49 oed, sy'n byw yn y DU ers rhwng 11 ac 20 mlynedd).
Roedd ymdeimlad o obaith y gallai mentrau o'r fath gefnogi cynrychiolaeth fwy cynnil a realistig o Roma, herio stereoteipiau, a helpu unigolion i deimlo'n ddiogel i ddatgelu eu hunaniaeth.
Pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol hefyd bwysigrwydd meithrin gallu ymhlith aelodau agored i niwed o'r cymunedau drwy gynnig hyfforddiant sgiliau digidol neu ddosbarthiadau Saesneg fforddiadwy.
Felly dwi'n credu mai un ateb posibl, ond mae'n rhywbeth tymor canolig, tymor hir... yw addysgu aelodau o'r gymuned Roma, gwella eu sgiliau digidol a lefel eu Saesneg, a darparu dosbarthiadau ESOL... mae hynny'n un ffordd ymlaen, a byddai eu helpu i ddysgu sgiliau sylfaenol o leiaf, fel ysgrifennu e-bost, chwilio am rywbeth ar Google, yn gwneud gwahaniaeth mawr yn eu bywydau.
Roeddent hefyd yn dadlau bod angen ffyrdd mwy hyblyg o gael gafael ar wasanaethau a chyfathrebu â nhw, gan gynnwys dewisiadau amgen yn lle systemau cwbl ddigidol, a bod angen gwybodaeth glir a hygyrch am y cymorth sydd ar gael gan awdurdodau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil.
Dwi'n credu mai un o'r atebion… pe bai cofrestr ar gael i ddangos… pa fath o gymorth mae pob bwrdeistref yn ei gynnig i'r bobl sy'n byw yn y fwrdeistref, oherwydd mae'n gyfrinachol iawn, wyddoch chi… Felly, mae angen ei diweddaru hefyd... a'r holl sefydliadau sy'n helpu ym mhob bwrdeistref a pha fath o gymorth maen nhw'n ei gynnig.
Disgwylir i aelod-wladwriaethau'r UE ddatblygu Strategaethau Cenedlaethol ar gyfer Integreiddio Roma er mwyn sicrhau camau gweithredu cydlynol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, fel yr amlinellir yn fframwaith strategol ar gyfer cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad 2020 y Comisiwn Ewropeaidd. Disgrifiodd yr hysbyswyr allweddol waith eirioli i annog camau i fabwysiadu dull hirdymor tebyg, dan arweiniad y llywodraeth, yn y DU.
Er i'r hysbyswyr allweddol nodi bod angen datblygu sefydliadau ar lawr gwlad ymhellach er mwyn gwella gallu pobl Roma i gael gafael ar gymorth ledled y DU, roeddent hefyd yn cydnabod bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud hyd yn hyn. Teimlwyd bod datblygu gallu cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf wedi helpu i greu modelau rôl amlwg a meithrin balchder ymhlith cenedlaethau iau:
Dwi wedi bod yn gweithio... gyda'r gymuned Roma ers cryn amser a dwi'n credu bod newid enfawr wedi bod dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf, felly nawr dwi'n credu ei bod hi'n wych gweld wynebau newydd oherwydd pan ddechreuon ni arni, dim ond pump unigolyn ar fwrdd oedd gennyn ni. Dwi'n credu bod angen dathlu hynny a dwi'n credu y bydd hynny'n helpu... er mwyn i'r genhedlaeth iau deimlo '[rydyn ni'n] falch o fod yn Roma oherwydd mae gennyn ni'r modelau rôl yma'.
5. Cynhwysiant, allgáu a pherthyn yng Nghymru a Lloegr
Roedd naratifau’r cyfranogwyr yn tynnu sylw at y ffordd roeddent wedi meithrin cydberthnasau ac ymdeimlad o berthyn yn y DU. Roeddent yn adlewyrchu ymdeimlad cryf o deimlo’n fwy diogel a bod mwy o groeso iddynt yn y DU nag yn eu gwledydd gwreiddiol, er eu bod wedi nodi profiadau o wahaniaethu a stereoteipio hefyd. Roedd y rhain yn ymwneud â'u hunaniaeth Roma (yn enwedig ymhlith cyfranogwyr iau, y cyfeiriwyd atynt weithiau fel "Sipsiwn" yn yr ysgol) ac agweddau eraill ar hunaniaeth, gan gynnwys lliw croen a statws mudwr. Ystyriwyd bod rhannu agweddau ar dreftadaeth ddiwylliannol Roma ag eraill yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol a chyd-ddealltwriaeth â chymunedau eraill.
Teimlo bod croeso iddynt
Ar draws y sampl, barn gyffredinol y cyfranogwyr oedd bod y DU yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd na'u gwledydd gwreiddiol, a bod llai o ymwybyddiaeth o hunaniaeth Roma yn cynnig mwy o gyfle i fod yn anhysbys a'r gallu i ddewis a ddylid ei datgelu. Er bod y diffyg amlygrwydd hwn, fel y trafodwyd yn Adran 4: Cael gafael ar wasanaethau yng Nghymru a Lloegr, hefyd yn cael ei ystyried yn her sylweddol i ddarparu gwasanaethau effeithiol, roedd rhai cyfranogwyr o'r farn ei fod yn fuddiol wrth ryngweithio'n uniongyrchol, yn enwedig yng ngoleuni profiadau blaenorol o wahaniaethu.
Mae'n well gan lawer o Roma ddweud eu bod yn Rwmaniaid, yn Fwlgariaid. Rydyn ni'n dod o Slofacia... Gwlad Pwyl, ond nid Roma. Oherwydd eu profiad gwael yn y gwledydd maen nhw'n dod ohonyn nhw... [Yn y DU] gallai rhai pobl o Ddwyrain Ewrop adnabod Roma yn ôl lliw eu [croen]... Ond dydy'r rhan fwyaf o bobl, pobl Prydain, ddim yn gallu gwneud hynny. Felly, rywsut, mae'n fantais gallu dweud eich bod yn Roma neu guddio hynny.
[Yn y DU, mae pobl] yn synnu gan eu bod yn meddwl ein bod yn Fwslimiaid, neu'n Bacistaniaid, neu'n Gwrdiaid. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth yw Roma.
Roedd teimladau o gynhwysiant yn amlwg iawn ymhlith y cyfranogwyr ac, i'r cyfranogwyr na chawsant eu geni yn y DU, roeddent yn aml yn wahanol iawn i brofiadau cyn mudo. Dywedodd sawl cyfranogwr eu bod yn cael eu trin fel unigolion yn y DU ac nad oeddent yn cael eu stereoteipio ar sail y ffaith eu bod yn Roma. Teimlwyd bod hyn yn cefnogi ymdeimlad o ddiogelwch, a phwysleisiodd rhai eu bod yn teimlo'n fwy rhydd i fynegi eu hunaniaeth Roma yn gyhoeddus.
Yn y DU, dwi'n gallu bod yn fi, Xena, wyddoch chi, ac mae bod yn Roma yn ychwanegiad hyfryd at hynny... Ond yng Ngweriniaeth Tsiec, cyn gynted ag y bydda i'n mynd allan yn gyhoeddus, rwy'n rhywun arall. Dwi'n tynnu fy nghlustdlysau cylch. Dydw i ddim yn ceisio edrych yn Wyn, ond dwi'n ceisio edrych yn llai tebyg i 'Sipsiwn' nodweddiadol ... Ond yma, dwi'n falch. Dwi wrth fy modd.
Byddwn i'n dweud, er enghraifft, yng Ngwlad Pwyl, os bydda i'n cerdded gyda fy merch neu fy wyrion, dydyn ni ddim o reidrwydd yn siarad Romani, oherwydd mae pawb yn dechrau syllu arnon ni. Ond yma, rydyn ni'n gallu siarad yn rhydd, a does neb yn poeni.
Roedd profiadau cadarnhaol o ryngweithio cymdeithasol yn cyfrannu at fwy o ymddiriedaeth mewn pobl nad ydynt yn Roma ymhlith rhai cyfranogwyr.
Dwi wedi gweld llawer o newid… newid yn fy nghymeriad; fy marn am bobl sydd ddim yn Roma. Gartref, roedd gennym ni farn wahanol am bobl nad oedden nhw'n Roma. Yma, mae popeth wedi newid. Roeddwn i'n arfer meddwl bod pawb yn ein casáu. Roeddwn i'n meddwl bod y byd i gyd yn ein casáu. Ond ers dod i'r DU, dwi wedi gweld nad ydyn nhw'n gwahaniaethu rhyngom ni a'u bod nhw'n fy hoffi fel rydw i.
Profiadau o elyniaeth a stereoteipio
Ochr yn ochr â'r naratifau hyn o dderbyn, soniodd y cyfranogwyr hefyd am brofiadau o allgáu, gwahaniaethu ac aflonyddu. Dywedodd rhai pobl ifanc, gan gynnwys y rhai a oedd wedi tyfu i fyny yn y DU, eu bod wedi cael eu targedu ar sail eu hethnigrwydd Roma. Roedd sawl un yn cofio cael eu sarhau a'u bwlio oherwydd eu hil yn yr ysgol:
Roedden nhw'n dweud 'Wyt ti'n mynd i ddwyn rhywbeth o'r siop oherwydd does gen ti ddim arian? Wyt ti'n mynd i fyw ar fudd-daliadau cymdeithasol? Does dim angen i ti siarad oherwydd mae gen ti acen, rwyt ti'n Sipsiwn’... Dywedais wrth yr athro, a wnaeth yr athro ddim byd am y peth.
Y farn gyffredin ymhlith pobl ifanc a rhieni oedd nad oedd digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag achosion o fwlio, ac roedd rhai o'r farn bod disgyblion Roma a oedd yn ceisio amddiffyn eu hunain yn fwy tebygol o wynebu camau disgyblu a gwaharddiadau.
Dw i wedi cael fy ngwahardd o'r ysgol hefyd a hynny oherwydd bod myfyriwr arall yn ymddwyn yn hiliol, yn fy mwlio, a sefais i fyny drosof fy hun. Wnaeth y plentyn hwnnw ddim mynd i drafferth, fi wnaeth.
Yn fwy cyffredin, disgrifiodd y cyfranogwyr brofiadau o wahaniaethu yn gysylltiedig ag agweddau eraill ar eu hunaniaeth fel rhywedd neu liw croen.
[Yn y DU] nid oherwydd fy mod i'n Sipsiwn, ond efallai oherwydd fy mod i'n fewnfudwr, neu'n fenyw, wyddoch chi, efallai oherwydd fy mod i'n frown, neu fod gen i acen, ond dydy'r peth ddim yn wrth-Sipsiwn.
I gyfranogwyr o Rwmania, roedd cenedligrwydd yn ffynhonnell stereoteipio a thriniaeth annheg a nodwyd yn aml.
Maen nhw'n clywed eich bod chi'n Rwmaniad, ac maen nhw'n eich trin chi'n wael.
Weithiau... Dydw i ddim yn dweud wrth bobl fy mod o Rwmania. Os mai dim ond unwaith bydda i'n cwrdd â nhw, bydda i'n dweud fy mod o Ddwyrain Ewrop. Fydda i ddim yn dweud yn benodol o ble. Oherwydd dwi'n credu mai ni yw'r grŵp ethnig o Ddwyrain Ewrop sy'n wynebu'r gwahaniaethu mwyaf.
Roedd pryderon ehangach hefyd ynghylch agweddau gwrth-fewnfudo cynyddol yn y DU, yn enwedig yn dilyn Brexit, a dywedwyd bod digwyddiadau fel y terfysgoedd yn Southport yn ystod haf 2024 wedi cael effaith emosiynol sylweddol ac wedi tanseilio ymdeimlad o ddiogelwch rhai cyfranogwyr a'u rhyddid i fynd allan yn gyhoeddus.
[Bu'n rhaid i mi] ddweud wrth fy mam, 'paid â mynd, paid â gadael i fy merch fynd allan, nac agor y drws na chwarae o flaen y tŷ' oherwydd roeddwn i'n ofni y byddai rhywun yn dechrau sgrechian ar fy merch oherwydd bod ganddi groen mwy tywyll. Wyddoch chi, roedd arna i ofn. Roedd yn gyfnod brawychus bryd hynny.
Teimlwyd bod y gefnogaeth a ddangosodd aelodau o'r cyhoedd i fewnfudwyr yn ystod y terfysgoedd yn ystyrlon, ac roedd wedi creu argraff bwerus ar y cyfranogwyr. Dywedodd Florin:
Ond yna, cawson ni wers gan y Saeson. Yng nghanol y ddinas, dechreuodd grŵp o bobl ifanc boeni mewnfudwr – roedden nhw'n dweud pethau cas wrtho. Gwnaeth rhai Saeson a oedd yn siopa gyda'u teuluoedd ollwng popeth a mynd draw, gafael yn y plant hynny wrth eu coler ... a dweud wrthyn nhw am adael llonydd i'r dyn. Allwn i ddim credu'r peth.
Ceisio meithrin cydberthnasau agos
Disgrifiodd y cyfranogwyr amrywiaeth o ffynonellau cydberthnasau ystyrlon a oedd yn rhoi ymdeimlad o berthyn iddynt. I lawer ar draws y grwpiau, daeth teulu i'r amlwg fel angor canolog. Dywedodd y cyfranogwyr eu bod yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser gyda pherthnasau ac mai'r cydberthnasau hyn oedd prif ffynhonnell eu cwmnïaeth a'u cyfeillgarwch.
Fy mam, fy chwiorydd, fy ngŵr a fy mhlant yw fy ffrindiau pennaf.
Er bod rhai cyfranogwyr wedi dweud nad oedd unrhyw rwydweithiau Roma lle roedden nhw'n byw neu nad oeddent wedi ceisio ymuno â nhw, roedd cysylltiadau o'r fath yn bwysig i lawer o gyfranogwyr iau a hŷn, ac fel arfer roeddent yn cynnwys Roma a oedd o'r un wlad ac a oedd yn siarad yr un iaith neu amrywiad ar Romani.
Roedd rhwydweithiau cymdeithasol o'r fath yn aml yn seiliedig ar brofiadau cyffredin, fel bod yn rhiant, astudio yn y brifysgol, neu fod ar gamau tebyg mewn bywyd, a dywedwyd eu bod yn cynnig ymdeimlad o ddealltwriaeth, diogelwch a rhyddid i fynegi eu hunain, ochr yn ochr â threftadaeth a thraddodiadau cyffredin:
Dwi'n teimlo'n well pan fydda i gyda'r gymuned Roma. Mae gennyn ni ein traddodiadau ac rydyn ni'n gwrando ar ganeuon ac yn cael partïon. Dwi'n dal i gwrdd â'r lleill, ond dwi'n colli'r traddodiadau yno. Dydych chi ddim yn gallu ymddwyn fel rydych chi eisiau.
Y tro cyntaf byddwch chi'n edrych ar rywun mae yna gysylltiad sylfaenol. Pan fydd rhywun yn edrych i fyw llygad rhywun arall... I mi, mae pobl Roma yn teimlo'n gyfarwydd ac rydych chi'n meddwl 'Dwi'n dy nabod di'.
Dywedodd rhai, yn enwedig cyfranogwyr o Rwmania yn Nwyrain Lloegr a chyfranogwyr o Fwlgaria a Gwlad Pwyl yn Llundain, fod cymunedau ffydd yn ffynhonnell cydberthnasau ystyrlon bwysig. Roedd yn ymddangos bod cymunedau ffydd sefydledig yn bodoli yn yr ardaloedd hyn, a oedd yn cynnig cyfle i gyfranogwyr o oedrannau gwahanol wneud ffrindiau. Dywedwyd hefyd eu bod yn rhoi ymdeimlad o “heddwch a chysur” (Lucyna, 50 i 59 oed, o Wlad Pwyl, sy'n byw yn y DU ers dros 20 mlynedd). Fodd bynnag, nid oedd cymunedau o'r fath yr un mor hygyrch i bawb. Dywedodd rhai cyfranogwyr nad oedd unrhyw eglwysi a oedd yn adlewyrchu eu ffydd neu'n cynnig gwasanaethau yn eu dewis iaith yn lleol.
Dywedodd pobl ifanc eu bod wedi gwneud ffrindiau drwy ysgolion a grwpiau diddordeb hamdden. Roedd rhai yn ffafrio cydberthnasau â Roma eraill, ac roedd gan eraill rwydweithiau cymysg. Roedd mannau gwaith yn bwysig i oedolion, ac yn aml yn cynnig cyfleoedd i gysylltu â phobl nad ydynt yn Roma ac i feithrin rhwydweithiau cefnogol. Rhoddwyd un enghraifft o hyn gan Ferenc, a ddywedodd fod ei ffrindiau gwaith fel teulu, a bod ei fos wedi ei gefnogi drwy argyfwng:
Dywedodd wrtha i, 'tra byddi di yma yn y DU heb dy dad, bydda i'n dad i ti. Os bydd angen help arnat ti, bydda i'n dy gefnogi’.
Dywedwyd bod sgiliau Saesneg yn hanfodol i feithrin cydberthnasau â phobl y tu allan i gymunedau Roma a chymunedau o'r un wlad, ac i feithrin ymdeimlad o gynhwysiant. Gallai sgiliau Saesneg cyfyngedig fod yn rhwystr i feithrin cydberthnasau ystyrlon y tu hwnt i'r rhwydweithiau hyn, a dywedodd rhai fod hyn yn dylanwadu ar eu gallu i fynegi eu personoliaeth, a allai effeithio'n negyddol ar hunan-barch.
Dydw i ddim yn deall yr iaith yn dda, felly mae'n fwy anodd cyfathrebu. Dwi'n teimlo fy mod yn siarad â wal neu dros y ffôn. Er fy mod i'n gweld y person, dydw i ddim yn gallu deall ei feddylfryd llawn.
Yr iaith... Dwi'n dal i ddysgu. Weithiau dwi eisiau dweud mwy, i esbonio fy hun, ond does gen i ddim y geiriau. A dwi'n poeni bod pobl yn meddwl fy mod yn dwp, dim ond am nad ydw i'n gallu siarad yn rhugl.
Roedd llawer o'r farn bod meithrin cydberthnasau ag unigolion nad ydynt yn Roma yn werth chweil. Pwysleisiodd cyfranogwyr y manteision o ran gwella Saesneg, yn ogystal â thwf personol ehangach. Rhannodd Attila ei brofiadau o gysylltu â chymuned ryngwladol a phwysleisiodd werth ffurfiannol hynny o ran ei agwedd a'i hunaniaeth:
Dyma gymuned a ddiffiniodd pwy rwy'n dysgu oddi wrthyn nhw am fywyd, drwy weld sut roedden nhw'n byw ac yn gweithio gyda'i gilydd... Gall rhywun wella ei fywyd mewn sawl ffordd. Dydych chi ddim yn cadw at un gymuned yn unig… Mae hyn yn bwysig fel nad ydych chi'n glynu wrth un sefyllfa ond yn hytrach yn gadael i bethau droi o'ch cwmpas. Peidiwch â gadael i chi'ch hun gael eich dal yn yr un hen rigol.
Cyfeiriodd y cyfranogwyr a ddywedodd eu bod yn teimlo'n ynysig yn y DU at rwydweithiau teulu a chyfeillgarwch cyfyngedig. Dywedwyd bod yr unigrwydd hwn yn cael effaith negyddol ar eu llesiant a'u hiechyd meddwl, a'i fod yn cyfrannu at dristwch, straen a diffyg cysylltiad:
Pan nad oes gennych chi deulu, does gennych chi ddim neb yma, mae'n anodd iawn, rydych chi ar eich pen eich hun, rydych chi'n teimlo'n unig, dydych chi ddim yn gwybod sut i fod yn bositif, gyda phwy i siarad.
Hefyd, dywedodd cyfranogwyr a oedd wedi gweld achosion o ynysu cymdeithasol ymhlith cymunedau Roma ehangach eu bod wedi cymryd camau i helpu i fynd i'r afael â hyn. Rhoddwyd un enghraifft gan Alzbeta, a oedd wedi sefydlu grŵp lleol er mwyn dod ag unigolion Roma ynghyd i feithrin cydberthnasau a rhannu gwybodaeth:
Gwnaethon ni sefydlu'r grŵp o bobl... Daeth y plant. Roedden nhw mewn neuadd yn chwarae gyda'r hyfforddwr, ac roedden ni mewn ystafell arall gyda'r rhieni. Cawson ni hwyl, cawson ni fwyd, cawson ni bopeth, ac rydyn ni wedi bod yn cwrdd drwy'r flwyddyn.
Rhannu treftadaeth er mwyn meithrin cydberthnasau
Roedd llawer o'r farn bod arddangos cerddoriaeth, dawns, bwyd a ffyrdd eraill o fynegi hunaniaeth Roma yn ffordd o ennyn chwilfrydedd am dreftadaeth Roma, annog deialog a meithrin cydberthnasau â chymunedau eraill. Disgrifiodd cyfranogwyr ifanc brofiadau cadarnhaol o rannu eu harferion diwylliannol â chyfoedion drwy ddiwrnodau diwylliannol a drefnwyd gan ysgolion i ddathlu amrywiaeth a rhyngweithiadau anffurfiol:
Mae fy ffrind gorau yn dod o Iwerddon, ac mae hi hefyd yn Deithiwr. Rwy'n dysgu am ei diwylliant hi, ac mae hi'n dysgu am fy niwylliant i. Mae'n gallu dawnsio dawns Roma, mae'n defnyddio geiriau Roma, ac mae hi hefyd yn hoffi ein prydau bwyd Roma.
Teimlwyd bod Diwrnod Rhyngwladol Roma, sy'n cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 8 Ebrill, yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu. Roedd rhai cyfranogwyr yn rhan o'r gwaith o drefnu digwyddiadau i’w ddathlu yn eu hardal leol ac roeddent yn falch iawn o'r ymateb i'r digwyddiadau hyn:
Gwnaethon ni gynnal ein Diwrnod Roma; roedd gennyn ni ein bwyd ein hunain yno a gŵyl ddawns. Nid dim ond ni oedd yno, ond pobl o bob cwr o'r byd hefyd. Gwnaethon nhw roi cynnig ar ein bwyd traddodiadol... Daeth rhai gwleidyddion hefyd. Gwnaethon nhw roi cynnig ar bopeth... Doedd dim hiliaeth yn erbyn Sipsiwn na dim byd felly. Roedden nhw wrth eu bodd a gwnaethon nhw hyd yn oed ddawnsio gyda ni.
Yn yr un modd, pwysleisiodd yr hysbyswyr allweddol werth creu cyfleoedd i ddysgu am Roma. Roeddent o'r farn bod hyn yn bwysig er mwyn herio stereoteipiau, cymryd rhan mewn deialog ystyrlon a chreu cymunedau mwy cysylltiedig:
Addysg yw'r peth pwysicaf... addysgu athrawon, cymdogion, a'r cyhoedd amdanon ni a'n diwylliant. A yw'n ymwneud â'r stereoteipiau a'r agweddau negyddol sy'n gysylltiedig â'r term “Roma”? Neu a yw'n ymwneud mwy â'r pethau cadarnhaol... ein cerddoriaeth, a'r ffaith ein bod yn dalentog iawn, yn grefftwyr, a bod gennym lawer o dalentau fel cymuned. Dyna'r pethau mae angen i ni eu cyfleu, ac yn enwedig y ffaith bod hon yn bennod mewn hanes.
Diffinio cartref: perthyn a lle
Cafodd y cysyniad o "gartref" ei drafod yn aml mewn cyfweliadau. Ar draws y sampl, roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr na chawsant eu geni yn y DU yn tueddu i gyfeirio at eu gwledydd gwreiddiol wrth sôn am eu cartref. Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddynt yn benodol ble oedd yn teimlo fel cartref iddynt neu ble roeddent yn teimlo eu bod yn perthyn, roedd y sylwadau yn amrywio. Nododd rhai y DU, nododd eraill y trefi lle cawsant eu magu a'u gwledydd gwreiddiol, ac roedd rhai yn teimlo nad oedd ganddynt gartref.
Wrth esbonio beth roedd "cartref" yn ei olygu iddynt, canolbwyntiodd y cyfranogwyr ar dair thema: teulu, diogelwch, a hanes personol. I rai, roedd y ffaith bod ganddynt deulu agos dramor yn ei gwneud hi'n anodd iddynt ymgartrefu'n llawn yn y DU. I eraill, roedd y ffaith bod ganddynt deulu yn y DU yn gwella eu cydberthnasau a'u hymdeimlad o berthyn i bob golwg.
Rydw i'n bendant yn fwy cartrefol yn y DU nag yn unrhyw le arall. Ond i mi, fy nghartref yw lle mae fy nheulu. Oni bai bod fy nheulu yno, mae'n debyg na fyddwn i'n galw'r Weriniaeth Tsiec yn gartref.
Mae gen i deulu, plant, gŵr, a thŷ yma yn y DU, ac mae'n hyfryd iawn. Mae'n teimlo fel cartref.
Ymhlith y cyfranogwyr hŷn, roedd teimlo'n fwy diogel a'u bod yn cael eu derbyn yn fwy ar ôl symud i'r DU yn ffactor pwysig a oedd yn eu helpu i feithrin cysylltiadau a theimlo fel pe bai'n gartref iddynt.
Roeddwn i'n teimlo'n brydferth gan nad oedd neb yn symud i ffwrdd oddi wrtha i ... Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i'r cartref cywir ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n wir am byth.
Mae wir yn teimlo fel cartref. Rwy'n teimlo'n llawer mwy diogel yma nag yng Ngwlad Pwyl.
Ystyriwyd hefyd fod cyflawni cerrig milltir a digwyddiadau pwysig mewn bywyd, fel tyfu i fyny, genedigaeth neu adeiladu gyrfa, yn dylanwadu'n gryf ar y ddealltwriaeth o gartref. I rai o'r cyfranogwyr iau, roedd yn ymddangos bod byw drwy'r digwyddiadau hyn yn y DU yn atgyfnerthu eu hymdeimlad o berthyn i'r wlad. Pwysleisiodd eraill, ar draws grwpiau oedran gwahanol, y cysylltiad parhaus â'u gwledydd gwreiddiol, yn seiliedig ar atgofion, hanes personol a man geni:
Hwngari yw fy nghartref o hyd. Dyna fy ngwlad enedigol. Dyw'r ffaith fy mod yn byw yma ddim yn newid pwy ydw i na'r hyn y bydda i.
Cefais fy magu yng Ngwlad Pwyl, felly mae'r wlad honno'n agos iawn at fy nghalon... Lle bynnag y cawsoch chi eich geni, rydych chi'n teimlo cysylltiad â'r lle hwnnw. Mae'r ardal lle cefais fy ngeni, fy mhentref, yn bwysig i mi. Dyna lle mae fy ngwreiddiau... Nawr, mae dros 20 mlynedd ers i mi symud yma, ond mae atyniad lle cefais fy magu, lle es i i'r ysgol, yn dal i fod yn gryf.
Roedd rhai o'r cyfranogwyr oedd â phlant yn tyfu i fyny yn y DU yn teimlo nad oedd eu plant yn teimlo cysylltiad â gwledydd gwreiddiol eu rhieni, a'u bod, yn hytrach, yn ystyried y DU yn gartref iddynt.
Pan fyddwn ni'n mynd adref i'r Weriniaeth Tsiec… dydy ein plant ddim wedi arfer â'r lle. Byddan nhw'n edrych ymlaen at fynd, ond ar ôl deuddydd neu dri, byddan nhw'n dweud: 'dad, gawn ni fynd adref?'. 'Ond rydych chi gartref yma!’ ac maen nhw'n dweud: 'na, yn Lloegr mae ein cartref ni'
Thema gyson oedd yr awydd i gynnal cydbwysedd rhwng cadw cysylltiad â threftadaeth y cyfranogwyr a meithrin ymdeimlad o berthyn yn y DU. Yn aml, roedd gan y cyfranogwyr gysylltiadau parhaus â'u gwledydd gwreiddiol. Ar yr un pryd, roedd llawer yn croesawu cysylltiadau cynyddol â'r DU, yn cymryd rhan mewn dathliadau diwylliannol Prydeinig ac yn ymfalchïo yn sgiliau Saesneg eu plant.
Nôl i'r tabl cynnwys6. Y rhai sy'n ystyried eu hunain yn Roma
Daeth i'r amlwg bod gan y cyfranogwyr hunaniaethau aml-haen, gyda "Roma" yn un agwedd o blith nifer, gan gynnwys hunaniaethau cenedlaethol a phroffesiynol. Amlygodd eu myfyrdodau ar y termau a ddefnyddir i ddisgrifio eu hunaniaeth ethnig densiynau ynghylch iaith a chategoreiddio. Dywedodd y cyfranogwyr fod eu hunaniaethau'n cael eu herio gan eraill ar adegau, a oedd yn atgyfnerthu stereoteipiau ac allgáu. Roedd penderfyniadau ynghylch datgelu ethnigrwydd yn aml yn strategol ac yn seiliedig ar brofiadau blaenorol a pharhaus o wahaniaethu, a phryderon ynghylch barn pobl am hunaniaeth Roma.
Hunaniaethau haenog
Gwahoddwyd y cyfranogwyr i fyfyrio ar y prif ddylanwadau a oedd wedi llunio pwy ydynt heddiw. Amlygodd eu hymatebion agweddau haenog niferus ar hunaniaeth a oedd yn bwysig i'w dealltwriaeth o'u hunain, yn eu barn nhw.
Daeth i'r amlwg bod hanes personol yn un o elfennau craidd hunaniaeth i lawer o gyfranogwyr, yr oedd eu naratifau'n pwysleisio atgofion o leoedd a chymunedau lle y cawsant eu magu. Myfyriodd Janos ar ei blentyndod mewn anheddiad Roma, gan ddisgrifio ymdeimlad o fraint gallu dweud bod doethineb aelodau hŷn y gymuned wedi'i lunio:
Roeddwn i'n lwcus, oherwydd dwi'n credu mai fi oedd y genhedlaeth olaf a welodd bobl hŷn fel y Roma yn dod ynghyd a'r hyn roedden nhw'n siarad amdano… yr athroniaeth roedden nhw'n siarad amdani... a dweud y gwir, y math o beth rydych chi'n darllen amdano mewn llyfrau nawr... er enghraifft, byw am yr eiliad… a phrofi'r hyn ydych chi, y bobl sy'n gwmni i chi, a'r hyn sydd o'ch cwmpas ar y pryd.
Dywedodd llawer o'r cyfranogwyr fod rolau proffesiynol yn ddylanwad pwysig ar hunaniaeth, yn enwedig mewn perthynas â rhoi sicrwydd materol i deuluoedd a chyfrannu at ymdeimlad o gyflawniad personol. Dywedodd Ferenc fod sicrhau cyflogaeth sefydlog wedi gwella ei ymdeimlad o hunaniaeth, a gafodd ei atgyfnerthu pan gyfarfu â hen gydnabod yn ystod gwyliau yn Hwngari:
Alla i ddim esbonio'r pŵer a'r teimlad da a roddodd hynny i mi. Dim ond tynnu ei goes oeddwn i, ond roeddwn i'n teimlo'n dda am y peth. Felly, roeddwn i'n gallu dangos fy mod i wedi cyflawni rhywbeth hefyd a dangos fy mod i'n rhywun hefyd.
Dywedodd y cyfranogwyr hefyd fod bod yn Roma yn elfen annatod o bwy ydynt. Roedd pwysigrwydd hanes Roma yn amlwg. Ar draws grwpiau oedran gwahanol, mynegodd llawer ymrwymiad cryf i godi ymwybyddiaeth o'r troseddau hanesyddol yn erbyn Roma drwy siarad mewn ysgolion neu drwy eu gwaith eirioli.
Mae hefyd yn bwysig iawn i mi siarad am yr Holocost anghofiedig, Holocost y Roma. Mae hyn hefyd yn rhan bwysig iawn o fy ngwaith.
Ochr yn ochr â hunaniaeth Roma ehangach, dywedodd cyfranogwyr weithiau eu bod yn perthyn i grwpiau Roma penodol, fel Olah, neu Kalaydji. Roedd llawer ohonynt yn croesawu eu hunaniaethau cenedlaethol hefyd, gan ddweud, er enghraifft, eu bod yn Tsieciaid neu'n Bwyliaid neu, yn enwedig ymhlith y rhai a oedd yn tyfu i fyny yn y DU, yn Brydeinwyr.
Dwi'n dweud wrth bobl fy mod i'n frodor o Weriniaeth Tsiec. Wel, iawn, byddwn i hefyd yn dweud fy mod i'n fwy Prydeinig a Tsiecaidd, oherwydd bod gen i werthoedd mwy Prydeinig, gan mai dyma lle cefais fy magu, a dydw i ddim yn gallu siarad yr iaith [Tsiec] gystal.
Dwi'n ystyried fy hun yn Roma, o Slofacia. Ond mae rhan fach ohona i'n Brydeinig nawr hefyd. Dim ond rhan fach, ond dwi'n dechrau teimlo felly. Mae fy mab yn dweud ei fod yn Slofac ac yn Brydeinig. Mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n falch. Dwi am iddo dyfu i fyny gan wybod pwy ydyw ond hefyd gan deimlo ei fod yn perthyn yma.
Cadw cysylltiad â gwreiddiau, treftadaeth a ffydd
Gwahoddwyd y cyfranogwyr i fyfyrio ar yr hyn yr oedd bod yn Roma yn ei olygu iddynt. Er bod gwerthoedd, traddodiadau neu arferion diwylliannol yn amrywio, roedd sawl un yn gyffredin. Tynnodd llawer sylw at bwysigrwydd dod ynghyd i rannu prydau bwyd, o amgylch barbeciws a choelcerthi, yn ogystal â chwarae cerddoriaeth a dawnsio.
... aros gyda'n gilydd, coginio gyda'n gilydd... gwneud coelcerth a chwarae cerddoriaeth. Dyma'r pethau rydyn ni'n eu mwynhau fel Roma. Aros gyda'n gilydd, bod gyda'n gilydd a mwynhau'r awyrgylch.
Mae dawnsio yn rhan fawr o ddiwylliant Roma. Rydyn ni'n chwerthin, yn treulio amser – yn cael amser da.
Siaradodd nifer o gyfranogwyr ar draws grwpiau oedran gwahanol am chwarae offerynnau cerdd, perfformio mewn bandiau, neu ymuno â grwpiau dawns. Weithiau, roedd cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn cael ei ystyried yn bwysig er mwyn cynnal cysylltiad â'u treftadaeth ar ôl ymgartrefu yn y DU. Dywedodd un fam, gan fod ei phlant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser gyda chyfoedion o Loegr, bod mynd i grŵp dawns Roma yn rhoi cyfle iddynt "ddysgu am ein diwylliant ni hefyd" (Judit, menyw Roma o Hwngari, 30 i 39 oed, sy'n byw yn y DU ers 10 mlynedd neu lai).
Ar draws y sampl, tynnodd cyfranogwyr sylw hefyd at nifer o werthoedd cyson a oedd yn ganolog i'w hunaniaeth yn eu barn nhw, ac yr oedd unigolion â nodweddion gwahanol yn eu rhannu. Roedd y rhain yn cynnwys ffocws ar deulu, cyfrifoldeb dros berthnasau, a pharch at eraill, yn enwedig at genedlaethau hŷn.
Parch at bobl hŷn a chymorth teulu ar adegau anodd – mae hynny'n bwysig yn ein diwylliant ni.
Pwysleisiodd llawer bwysigrwydd cymuned hefyd. Dywedodd sawl cyfranogwr fod y gymuned Roma yn estyniad i'r teulu, gan dynnu sylw at bwysigrwydd undod dros unigoliaeth.
Does dim y fath beth ag unigolyn neu unigoliaeth. Dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae'n gymuned.
Pan fydd rhywbeth yn digwydd i Roma arall, mae'n brifo. Hyd yn oed os ydyn nhw'n ddieithryn, mae'n effeithio arnoch chi'n fawr. Mae pob Roma wedi'i gysylltu rywsut, fel un teulu mawr.
Ystyriwyd bod anthem a baner y Roma yn symbolau pwysig o berthyn, yr oedd iddynt arwyddocâd penodol o ran meithrin ymdeimlad o hunaniaeth ac undod mewn cymuned drawswladol:
Mae baner y Roma yn golygu... rydyn ni i gyd wedi ein gwasgaru ar hyd a lled y byd ond does gennym ni ddim ein gwlad ein hunain... Mae'r lliw gwyrdd ar y faner yn cynrychioli glaswellt a'r ddaear, mae'r glas yn cynrychioli'r awyr, ac mae'r olwyn ar y faner yn cynrychioli'r ffaith ein bod ni i gyd o gwmpas y byd, yn teithio i bobman. Mae'r faner hefyd yn golygu y byddwn ni i gyd gyda'n gilydd bob amser, ac y byddwn ni bob amser yn Roma.
Roedd y gwerthoedd sy'n gysylltiedig â theulu a chymuned hefyd yn gysylltiedig ag ymdeimlad cryf o gydgyfnewid. Pwysleisiodd y cyfranogwyr bwysigrwydd empathi a helpu eraill, a nododd llawer fod hynny'n arwain at weithredoedd ymarferol, fel gwirfoddoli neu gefnogi eraill mewn angen.
Thema gyson yn ymatebion y cyfranogwyr oedd pwysigrwydd ffydd ac ysbrydolrwydd. Roedd y cyfranogwyr yn uniaethu ag amrywiaeth o gredoau, gan gynnwys Cristnogaeth Uniongred a Phentecostaidd, Islam a mudiad Tystion Jehofa. O fewn y naratifau am ffydd, disgrifiwyd Duw fel pŵer uwch, a oedd yn creu pawb yn gyfartal ac yn amddiffyn mewn sefyllfaoedd y tu hwnt i reolaeth unigolyn.
I ni, mae'n bwysig iawn bod Duw yn rhan o'n bywydau, a bod [fy merch] yn deall gobaith a chymorth Duw... Dw i am iddi deimlo nad yw hi byth ar ei phen ei hun, a bod Duw gyda ni drwy'r amser.
Dywedodd y cyfranogwyr fod astudio testun crefyddol a gweddi yn ffyrdd o fynd yn agosach at y pŵer uwch a meithrin doethineb. Credwyd bod ffydd yn rhoi canllawiau ar gyfer bywyd, cyfeiriad moesol, ymdeimlad o ystyr a chymorth emosiynol.
Mae bod yn Gristion... yn rhywbeth personol mewn gwirionedd, yn gydberthynas â Duw... Felly, os ydw i'n agos at Dduw... os ydw i'n dilyn yr hyn mae Duw yn ei ddweud... Mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus. Os ydw i'n gwneud hynny i gyd, mae popeth yn gwneud synnwyr. Mae fy mywyd yn gwneud synnwyr ... Ac mae popeth yn syrthio i'w le a dwi'n gwybod fy mod i'n cael fy amddiffyn. Dwi'n gwybod bod fy mab yn cael ei amddiffyn oherwydd ni allwn amddiffyn ein plant llawer.
Mae'r Beibl... yn cynnig cymorth. A phob tro dwi'n ei ddarllen, mae'n rhyddhau'r holl straen, mae'n rhyddhau'r holl rwystredigaeth ac anobaith, ac yn fy helpu.
At hynny, disgrifiodd rhai o'r cyfranogwyr o Hwngari, Slofacia a Rwmania bwysigrwydd priodas barhaus a chynnal agweddau cymunedol yn ymwneud â dangos parch wrth ryngweithio â phobl o'r rhyw arall.
Y peth pwysicaf yw priodi'n “bur”. Os bydd hi'n dewis gŵr y mae hi'n ei garu, bydd angen iddyn nhw aros gyda'i gilydd am byth. Dywedais wrth fy merched fod yn rhaid iddyn nhw aros gyda'u dewis wŷr.
Pan fyddwn ni mewn sefyllfa lle mae dynion yn eistedd gyda'i gilydd, does dim rhaid i fy ngŵr ddweud wrtha i am fynd i ffwrdd. Dwi'n gwybod yn awtomatig, pan fydd dynion yn eistedd wrth fwrdd, na ddylwn i fynd i mewn i'r ystafell honno... Hyd yn oed pan oeddwn i'n byw yn Hwngari ac yn mynd allan, dim ond gyda'r merched y byddwn i'n mynd allan. Dydyn ni ddim yn cysylltu â dynion eraill. Rydyn ni'n parchu ein gwŷr, ein teuluoedd.
Newid gwerthoedd a thraddodiadau
Esboniodd y cyfranogwyr nad oedd rhai gwerthoedd a dderbyniwyd yn gyffredin gan eu cymunedau yn cyd-fynd â'u credoau a'u hunaniaethau eu hunain weithiau. Disgrifiodd rhai wrthdaro mewnol ac anawsterau wrth lywio eu hunaniaeth fel person hoyw, neu fam sengl yng nghyd-destun disgwyliadau cymunedau ehangach. Weithiau, roedd hyn yn gysylltiedig ag awydd i herio'r normau hyn, fel y disgrifiodd Ingrid, yr oedd ei rhieni wedi ei chael hi'n anodd derbyn ei phenderfyniad i ysgaru â'i gŵr. Wrth fagu ei phlant ei hun, roedd Ingrid am iddyn nhw "wybod y gallan nhw ailbriodi... ac y gallan nhw siarad am y peth" (menyw Roma o Slofacia, 20 i 29 oed, sy'n byw yn y DU ers 10 mlynedd neu lai).
Tynnodd y cyfranogwyr sylw hefyd at y ffaith bod traddodiadau a gwerthoedd yn newid yn barhaus. Roedd enghreifftiau'n cynnwys disgwyliadau sy'n newid ynghylch rolau rhywedd. Tynnodd Ana ac Alzbeta sylw at y ffaith, er bod disgwyl yn draddodiadol i fenywod ofalu am y teulu ac i ddynion ennill y cyflog, bod y rolau hyn yn dod yn fwyfwy hyblyg.
Yn y gorffennol, doedden ni ddim yn gweld cymaint o fenywod Roma yn gweithio. Ond mae pethau wedi newid erbyn hyn, ac rydych chi'n gweld llawer o fenywod yn gweithio, yn astudio yn y brifysgol.
A hefyd dyw'r mamau hyn ddim yn [dweud wrth eu meibion] 'Elli di ddim mynd i mewn i'r gegin...' Maen nhw'n fwy tebygol o ddweud, 'Dere i baratoi dy hun ar gyfer bywyd oherwydd does dim angen i ti ddibynnu'n gyfan gwbl ar fenywod.'
Ochr yn ochr â chydnabod y newidiadau hyn, lleisiodd rhai cyfranogwyr bryderon ynghylch colli gwerthoedd a oedd yn elfennau pwysig o hunaniaeth Roma, yn eu barn nhw. Roedd y rhain yn cynnwys ofnau ynghylch colli ffydd, colli cymuned, a symudiad tuag at unigoliaeth.
Y cyfan y byddwn i am ei newid yw i [Roma] fod gyda Duw eto. Dilyn Duw...
Fyddwn i ddim yn dweud bod pethau'n dda y dyddiau hyn... Mae pawb yn byw eu bywydau eu hunain, a dydyn nhw ddim am helpu eraill. Roedden ni'n arfer gwneud mwy gyda'n gilydd ... roedden ni'n helpu ein gilydd ...
Roedd pryderon hefyd ynghylch colli cysylltiad â threftadaeth, a ddangoswyd gan y lleihad canfyddedig yn y defnydd o'r iaith Romani ymhlith rhai grwpiau Roma. Credwyd bod hyn yn gysylltiedig ag erledigaeth hanesyddol, pwysau i integreiddio, a mudo. Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod yn teimlo cywilydd am y ffaith nad oeddent yn gallu siarad yr iaith yn rhugl, ac roedd eraill yn teimlo'n emosiynol ynglŷn â cholli ased diwylliannol:
Mae'r iaith yn diflannu. Mae'n drist iawn.
Tensiynau ynghylch termau a ddefnyddir i ddisgrifio hunaniaeth Roma
Tynnodd naratifau'r cyfranogwyr sylw at densiynau ynghylch termau a ddefnyddir i ddisgrifio hunaniaeth Roma.
Disgrifiodd nifer o gyfranogwyr, ar draws y grwpiau, eu hunain fel "Sipsiwn". Yn y cyd-destun hwn, nid oedd y term yn cyfeirio at y grŵp ethnig Sipsiwn Romani ond yn adlewyrchu cyfieithiad o "țigan" (yn Rwmaneg, neu'r hyn sy'n cyfateb iddo mewn ieithoedd eraill), sef enw anffurfiol a ddefnyddir weithiau ar gyfer Roma ledled Ewrop. Er bod y term yn aml yn cael ei groesawu mewn cyd-destunau cymdeithasol anffurfiol, dywedodd llawer o gyfranogwyr eu bod yn teimlo'n anghyfforddus pan fydd eraill yn ei ddefnyddio. Roedd yn aml yn gysylltiedig â barn negyddol a stereoteipiau, ac yn cael ei ystyried yn rhywbeth a orfodwyd yn allanol drwy hanes, i stigmateiddio Roma.
Mae'r gair 'Sipsiwn' yn derm hiliol iawn, iawn. Yn fy marn i, mae'r un mor hiliol â'r gair-N oherwydd nid fi wnaeth ddewis yr enw, nid pobl Roma wnaeth ddewis yr enw iddyn nhw eu hunain, pobl o'r tu allan roddodd yr enw iddyn nhw… Hefyd, mae'r ymadrodd Saesneg, 'to gyp', sy'n golygu dwyn rhywbeth, yn gysylltiedig â hynny hefyd... dyw llawer o bobl Roma ddim yn hoffi hwnnw, ond eto mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n gyffredin.
Pan fydd fy athrawon yn defnyddio'r gair 'Sipsiwn', bydda i'n eu cywiro'n syth ac yn dweud… 'oeddech chi'n gwybod bod 'Sipsiwn' yn air hiliol? Dyna roedd Hitler yn arfer ein galw.’ A byddan nhw'n dweud… 'beth?' Bydda i'n dweud: 'onid ydych chi'n gwybod hynny? Ac o hyn ymlaen mae'n rhaid i chi ddefnyddio 'Roma'’ (chwerthin). Dyna dwi'n ei ddweud wrth bawb.
Tynnodd y cyfranogwyr sylw'n gyson at yr angen i addysgu darparwyr gwasanaethau yn y DU am y tensiynau hyn er mwyn cefnogi cydberthnasau dibynadwy a chynrychiolaeth deg. Disgrifiodd Sabina brofiad ei pherthynas o gefnogi teulu Roma arall wrth ymwneud â'r gwasanaethau cymdeithasol. Roedd yn cofio clywed y fam yn gofyn i’r gweithiwr cymdeithasol adael ar ôl iddo gyfeirio at y teulu sawl gwaith fel “Sipsiwn”. Dywedodd y gweithiwr cymdeithasol yn ddiweddarach ei fod wedi dehongli hynny fel ymddygiad ymosodol. Wrth fyfyrio ar hyn, nododd Sabina:
Ddylech chi ddim dod i mewn i dŷ rhywun heb ddeall y gymuned a heb ddeall beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn oherwydd mae hynny'n ofnadwy o sarhaus i rywun nad yw'n adnabod hynny fel hunaniaeth.
Teimlwyd hefyd fod defnyddio'r term “Sipsiwn” yn adlewyrchu dryswch ac yn atgyfnerthu'r gamdybiaeth bod Roma a Sipsiwn Romani yn un grŵp.
Mae angen addysgu rhai pobl am hynny. Roedd rhai o fy athrawon yn cyfeirio aton ni fel Sipsiwn hefyd, ac mae Sipsiwn a Roma yn ddau beth gwahanol, a dydy pobl ddim hyd yn oed yn gwybod hynny.
Y farn gyffredinol ymhlith y cyfranogwyr oedd bod y term Roma yn fwy priodol i adlewyrchu hanes a hunaniaeth unigryw'r cyfranogwyr.
Herio hunaniaethau
Cyfeiriodd y cyfranogwyr at brofiadau lle roedd eraill wedi cwestiynu, herio neu wadu eu hunaniaeth genedlaethol neu eu hunaniaeth Roma, a ystyriwyd yn ffordd o eithrio neu stereoteipio. Disgrifiodd y cyfranogwyr sefyllfaoedd yn eu gwledydd gwreiddiol, lle cafodd eu hawl i uniaethu â'r genedl honno ei herio. Roedd un cyfranogwr yn cofio llenwi ffurflen a oedd yn cynnwys cwestiwn am genedligrwydd, yn ystod ei wasanaeth milwrol. Pan welodd y ffurflen eto yn ddiweddarach, sylweddolodd fod ei ateb, sef "Bwlgaraidd", wedi cael ei groesi allan.
Disgrifiwyd profiadau tebyg o herio hunaniaeth genedlaethol ac ymdeimlad o berthyn mewn lleoliadau addysgol mewn gwledydd gwreiddiol. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn cynnwys cael eu hatal gan yr athrawon rhag cymryd rhan mewn dathliadau traddodiadol, ac mewn achosion eraill, cael eu heithrio ymhlith eu cyfoedion. Er enghraifft, trafododd Alina brofiad ei brawd yn ystod perfformiad ysgol yn Rwmania:
Roedd ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Rwmania. Dychmygwch 30 o blant tua saith oed... roedd yn rhaid iddyn nhw ddal baner Rwmania... ac yna dywedodd un o'r bechgyn eraill, 'Elli di ddim cyffwrdd â'r faner oherwydd rwyt ti'n Roma, rwyt ti'n Sipsiwn. Elli di ddim cyffwrdd â'r faner yma.’
Disgrifiodd cyfranogwyr eraill brofiadau lle cafodd eu hunaniaeth Roma ei chwestiynu neu ei herio gan eraill, yn enwedig pan nad oedd eu profiadau a'u cyflawniadau'n cyd-fynd â stereoteipiau negyddol cyffredinol. Roedd llawer yn teimlo bod cynrychioliadau cyhoeddus o Roma yn pwysleisio natur agored i niwed, gan olygu nad oedd llawer o le i naratifau a oedd yn gwyro oddi wrth hynny. Credwyd bod hyn yn ymyleiddio Roma nad oeddent yn cael eu hystyried yn agored i niwed, ac yn atgyfnerthu stereoteipiau cul a chyfyngol ynghylch hunaniaeth Roma.
Maen nhw'n credu bod pob Roma yn byw mewn pabell neu garafán neu bethau felly, ac os byddan nhw'n gweld rhywun addysgedig, maen nhw'n tybio nad ydych chi'n Roma mwyach. Na, rwy'n dal i fod yn Roma, ond cefais gyfleoedd eraill… Ac mae miliynau o bobl fel fi, ond rydyn ni'n fwy anweledig... Oherwydd pan fyddwch chi'n dechrau cael addysg, yn cael swydd dda, maen nhw'n dweud, 'Ah, mae'r un yma wedi stopio fod yn Roma, gan fod Roma yn rhywbeth negyddol'.
Weithiau mae pobl hyd yn oed yn gofyn i mi, nawr, yma, pan fyddan nhw'n fy ngweld, a phan fydda i'n dweud lle dwi'n gweithio a beth dwi'n ei wneud; maen nhw'n gofyn… 'Wyt ti wir yn Roma? Efallai dy fod yn gymysgedd o Wyn neu rywbeth'. Nid oherwydd fy nghroen, ond oherwydd yr hyn dwi wedi ei gyflawni a phwy ydw i, y ffordd dwi'n siarad, y ffordd dwi'n mynegi fy hun, yr hyn dwi'n ei wneud ac ati.
Datgelu ethnigrwydd Roma
Tynnodd naratifau'r cyfranogwyr sylw at densiynau parhaus sy'n gysylltiedig â datgelu ethnigrwydd Roma. Er bod rhai wedi dweud eu bod yn gyfforddus yn rhannu eu hunaniaeth ethnig, daeth ofn datgelu i'r amlwg fel thema gref a chyson. Y farn gyffredinol oedd bod rhannu ethnigrwydd yn arwain at risg o wahaniaethu, stereoteipio, neu niwed uniongyrchol. Dywedodd y cyfranogwyr yn aml fod yr ofnau hyn wedi'u gwreiddio'n ddwfn, yn seiliedig ar brofiadau blaenorol, ac yn cael eu hatgyfnerthu gan agweddau a chynrychioliadau cymdeithasol ehangach.
Hyd yn oed nawr, weithiau fydda i ddim yn dweud fy mod i'n Roma neu'n Sipsiwn oherwydd y stereoteipiau ac oherwydd beth fyddai'n digwydd. Ac mae hynny wedi llunio pwy ydw i heddiw. Weithiau dwi'n dal i ofni dweud wrth bobl pwy ydw i go iawn.
Mynegwyd teimladau tebyg gan gyfranogwyr o genhedloedd ac oedrannau gwahanol, gan gynnwys y rhai a oedd wedi tyfu i fyny yn y DU. Roedd yn ymddangos bod trawma rhwng cenedlaethau a phrofiadau uniongyrchol o wahaniaethu wedi dylanwadu ar y canfyddiadau hyn. Dywedodd rhai pobl ifanc fod eu rhieni, wrth geisio eu hamddiffyn, wedi eu hannog i guddio eu hethnigrwydd, barn a oedd weithiau'n wedi'i hatgyfnerthu gan eu profiadau eu hunain.
Dywedodd [fy rhieni] wrtha i am beidio â dweud wrth neb fy mod i'n Roma… Ar y pryd, doeddwn i ddim yn deall pam… Oherwydd roeddwn i'n meddwl… Plentyn ydw i, pam fyddai [pobl] yn poeni am fy niwylliant? A nawr… dwi'n clywed rhywun yn gweiddi arna i ac yn fy ngalw i'n 'fudr'… Felly, dwi'n deall nawr beth roedd fy rhieni'n ei olygu… roedden nhw'n ceisio fy amddiffyn rhag teimlo'r hiliaeth yma mor ifanc.
Dywedwyd bod datgelu ethnigrwydd yn rhywbeth strategol ac yn dibynnu ar y cyd-destun. Daeth parch, chwilfrydedd a charedigrwydd i'r amlwg fel ffactorau pwysig wrth helpu cyfranogwyr i deimlo'n ddiogel i drafod eu hunaniaeth ethnig. Roedd meithrin cydberthnasau dibynadwy yn aml yn cymryd amser. Cafodd ysgolion eu henwi'n gyson ymhlith y lleoliadau a allai, drwy ryngweithio cadarnhaol rheolaidd, feithrin ymdeimlad o ddiogelwch wrth drafod hunaniaeth ethnig.
Dwi'n dweud wrth bobl fy mod i o Slofacia, ond dydw i ddim bob amser yn dweud fy mod i'n Roma. Mae'n dibynnu. Mae rhai pobl yn chwilfrydig ac yn garedig. Ond dydy hynny ddim yn wir am bawb. Mae stigma o hyd. Yn ysgol fy mab, ddywedais i ddim i ddechrau, ond penderfynais wneud yn ddiweddarach, ac roedden nhw'n gefnogol. Ond yn y ganolfan gwaith, newidiodd y tôn yn syth ar ôl i mi ddweud. Felly, dwi'n dewis yn ofalus.
I'r rhai a oedd yn teimlo'n fwy cyfforddus yn datgelu eu hunaniaeth, roedd yn ymddangos bod presenoldeb modelau rôl cryf o fewn teuluoedd a'r cymunedau ehangach, cymryd rhan mewn rhaglenni sy'n dathlu hunaniaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol Roma, ymwneud â sefydliadau cymdeithas sifil Roma, a rhyngweithiadau cadarnhaol â phobl nad ydynt yn Roma, wedi dylanwadu ar hyn. Gallai'r profiadau hyn annog unigolion i fabwysiadu rolau eirioli.
Dywedodd rhai cyfranogwyr fod eiriolaeth yn ffordd o adennill hunaniaeth yn wyneb gormes a herio stereoteipiau niweidiol. Rhoddodd pobl ifanc enghreifftiau o addysgu eu cyfoedion i gefnogi dealltwriaeth fanylach o Roma. Dywedodd Ana ei bod wedi dweud wrth gydweithwyr yn y gwaith ei bod hi'n Roma er mwyn rhagweld ac osgoi sylwadau difrïol posibl. Soniodd eraill am rannu eu hunaniaeth fel ffordd o ddangos esiampl a meithrin ymdeimlad o falchder ymhlith Roma eraill, a oedd yn hanfodol, yn eu barn nhw, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Rydyn ni'n helpu ac yn cefnogi pobl i fod yn falch ohonyn nhw eu hunain, yn hyrwyddo ac yn codi ymwybyddiaeth o bwy ydyn ni, ac yna gall y genhedlaeth nesaf fod yn falch o'r cysylltiad yma.
7. Dyheadau a gobeithion ar gyfer y dyfodol
Roedd dyheadau a gobeithion ar gyfer y dyfodol yn amrywio ymhlith cyfranogwyr o grwpiau oedran gwahanol, gan adlewyrchu eu camau amrywiol mewn bywyd. Roedd dyheadau cyfranogwyr iau, yr oedd llawer ohonynt yn dal i fod mewn addysg, yn canolbwyntio ar yrfaoedd yn y dyfodol, mewn meysydd fel y gyfraith, meddygaeth, plismona, busnes, a gwasanaethau gwallt a harddwch, ymhlith eraill. Gwnaethant ddisgrifio gweithio tuag at gyflawni'r nodau hyn, gan gynnwys dysgu sgiliau drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwneud penderfyniadau strategol am eu haddysg yn y coleg a'r brifysgol.
Bydda i'n astudio'r gyfraith, troseddeg a busnes [yn y coleg]. Dwi'n credu y bydd hynny'n fy helpu yn y dyfodol pan fydda i am fod yn gyfreithiwr.
Pan ofynnwyd am eu cymhellion, daeth sawl thema i'r amlwg yn ymatebion y bobl ifanc. Rhannodd rhai eu gobeithion i wella eu sefyllfa economaidd, gan gysylltu'r dyheadau hyn yn aml ag ymdeimlad o gyfrifoldeb dros eu teuluoedd. Er enghraifft, roedd Bence yn gobeithio y byddai ei siop barbwr yn y dyfodol yn creu cyfleoedd cyflogaeth i'w berthnasau. Yn yr un modd, dywedodd Jana fod ei hymrwymiad i addysg a gwaith ar y penwythnos wedi'i ysgogi gan ei hawydd i gefnogi ei rhieni:
Dw i wedi gweld fy rhieni yn ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol felly dyna pam dwi'n mynd i'r ysgol ac yn gweithio. Er mwyn iddyn nhw gael y bywyd maen nhw'n eu haeddu.
Ymhlith y cymhellion pwysig eraill roedd awydd cyfranogwyr i ddangos iddyn nhw eu hunain ac i eraill yr hyn y gallant ei gyflawni, herio stereoteipiau, ac ennyn balchder eu teulu. Roedd pobl ifanc hefyd yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd gwell sydd ar gael yn y DU, yn eu barn nhw:
Dwi'n gwybod bod opsiynau ar gael ym Mwlgaria, ond maen nhw'n llai tebygol o ddod yn wir yno. Felly, dwi'n manteisio ar fod yma ac yn gwneud rhywbeth na fyddai gen i'r fantais o allu ei wneud ym Mwlgaria.
Roedd y dyheadau a fynegwyd gan gyfranogwyr rhwng 20 a 55 oed yn tueddu i ganolbwyntio ar dwf personol a gwella eu hamgylchiadau presennol, yn ogystal â'u hawydd i'w plant gael addysg, cyflogaeth sicr, a chyfleoedd economaidd-gymdeithasol. Roedd enghreifftiau o nodau personol yn cynnwys gwella sgiliau Saesneg, datblygu eu gyrfa ac ennill cymwysterau ychwanegol. Soniodd rhai cyfranogwyr am fynychu dosbarthiadau Saesneg gyda'r nos neu, fel Eszter, dilyn cwrs addysg i oedolion:
Cefais gyfle i astudio yma. Cofrestrais ar gyfer cwrs; Dwi yn y drydedd flwyddyn, a bydda i'n graddio y flwyddyn nesaf. Felly, do, ar ôl i mi droi'n 30, daeth cyflawni mwy mewn bywyd yn bwysig iawn i mi.
Roedd gan eraill lwybrau clir ar gyfer symud ymlaen yn eu proffesiynau, ac i rai, y flaenoriaeth oedd dod o hyd i gyflogaeth fwy sefydlog â chyflog gwell. Trafododd rhai cyfranogwyr eiriolaeth a gwaith pwrpasol hefyd fel ffordd o ddatblygu eu sgiliau i wella bywydau eraill.
Dwi eisiau swydd lle galla i helpu pobl... Byddwn i wrth fy modd yn astudio rhywbeth a fyddai'n fy helpu i gefnogi ein pobl Roma, yn hen ac ifanc. Fel fy mod i'n gallu dod yn rhyw fath o ysbrydoliaeth.
Mae'r bobl Wyn sydd ddim yn Roma yn gwneud cymaint droson ni, ac maen nhw'n ein helpu ni gymaint. Maen nhw'n siarad ar ein rhan. Mae angen i ni sefyll i fyny a dechrau siarad droson ni ein hunain. Ond yr unig ffordd o wneud hynny yw drwy gael addysg... Dydw i ddim yn poeni am deitlau, [dilynais gwrs gradd] oherwydd roeddwn i'n gwybod y byddai'n fy helpu i gyrraedd y lefelau uwch, ac y byddai gen i fwy o lais.
Roedd y rhai dros 55 oed yn tueddu i fynegi gobaith am sicrwydd a bywyd da i'w teuluoedd. Gwnaethant bwysleisio pwysigrwydd iechyd da, llesiant emosiynol, twf ysbrydol, a chydberthnasau teuluol, dros gyfoeth materol.
Fy mreuddwyd yw bod yn gyfoethog yn emosiynol, nid yn ariannol. Gweld fy nheulu yn tyfu... fy mhlant, fy wyrion, ac yn y pen draw, eu plant nhw. Dyna'r cyfoeth dwi'n breuddwydio amdano. Byw'n ddigon hir i weld hynny, a'i fwynhau.
Does dim angen unrhyw beth arnon ni, dim ond i'n plant gyflawni rhywbeth yn y byd hwn.
Mynegodd rhai ymdeimlad o ddiolchgarwch hefyd, wrth iddynt fyfyrio ar eu bywydau:
Pan fyddwn ni'n gadael y byd hwn, fyddwn ni ddim yn mynd ag unrhyw beth gyda ni i'r ochr arall heblaw'r dillad sydd arnon ni a'r arch y byddan nhw'n ein rhoi ni ynddi. Dwi'n ddiolchgar am bopeth.
8. Profiadau bywyd pobl Roma yng Nghymru a Lloegr
Profiadau bywyd pobl Roma yng Nghymru a Lloegr: Gwybodaeth sampl
Set ddata | Rhyddhawyd ar 22 Medi 2026
Gwybodaeth sampl ar gyfer ymchwil ansoddol ar brofiadau bywyd pobl Roma yng Nghymru a Lloegr.
9. Rhestr termau
Gadze neu Gadjo
Term a ddefnyddir yn gyffredin gan Roma i ddisgrifio pobl o darddiad nad yw'n Roma.
Sefydliadau cymdeithas sifil (CSO's)
Sefydliadau a gofrestrwyd yn ffurfiol sy'n gweithredu'n annibynnol ar y llywodraeth i hyrwyddo buddiannau cyhoeddus neu gymunedol yn hytrach na chynhyrchu elw. Mae enghreifftiau'n cynnwys elusennau, cwmnïau buddiannau cymunedol, a chwmnïau cydweithredol.
Cyfranogwyr
Yn yr ymchwil hon, mae'r term yn cyfeirio at unigolion Roma a gymerodd ran mewn cyfweliadau a grwpiau ffocws i rannu eu profiadau.
Hysbyswyr allweddol
Yn yr ymchwil hon, mae'r term yn cyfeirio at ddarparwyr gwasanaethau, o gefndiroedd Roma a chefndiroedd eraill, a gymerodd ran mewn rhinwedd broffesiynol, gan gyfrannu eu profiadau a'u harbenigedd o weithio gyda chymunedau Roma a'u cefnogi. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol, llywodraeth leol a gwasanaethau (er enghraifft, addysg, iechyd a'r gyfraith).
Statws mewnfudo
Caniatâd neu hawl person i fod yn y DU o dan gyfraith mewnfudo, ac unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'r caniatâd hwnnw, sy'n pennu'r hyn y gallant ei wneud yn y DU, fel gweithio, astudio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Mae'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn berthnasol i'r rhai a oedd yn byw yn y DU cyn diwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit am 11pm ar 31 Rhagfyr 2020, ac sy'n ddinasyddion o:
- yr Undeb Ewropeaidd (UE)
- gwledydd eraill yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
- Y Swistir
Yn unol â Chytundebau Hawliau Dinasyddion, mae'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn rhoi caniatâd i bobl yn y categorïau hyn, ac aelodau o'u teulu, ddod i mewn i'r DU, neu aros yn y DU.
Statws preswylydd sefydlog
Caniatâd amhenodol i ddod i mewn (ILE) neu ganiatâd amhenodol i aros (ILR) a roddir o dan y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, fel arfer lle mae'r person wedi byw yn y DU am gyfnod parhaus o bum mlynedd (a elwir yn "breswyliad parhaus"). Mae statws preswylydd sefydlog yn golygu bod gan berson statws mewnfudo o dan gyfraith y DU ac nad oes terfyn amser ar ba mor hir y gall aros yn y DU. Gall pobl â statws preswylydd sefydlog weithio, astudio, defnyddio'r GIG, manteisio ar gronfeydd cyhoeddus fel budd-daliadau a phensiynau (os ydynt yn gymwys ar eu cyfer), a theithio i mewn ac allan o'r DU, yn amodol ar gyfyngiadau amser.
Statws preswylydd cyn-sefydlog
Caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn (LTE) neu ganiatâd cyfyngedig i aros (LTR) a roddir o dan y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, am gyfnod o bum mlynedd i ddechrau. Mae statws preswylydd cyn-sefydlog yn golygu bod gan berson statws mewnfudo o dan gyfraith y DU ac y gall weithio, astudio, defnyddio'r GIG, manteisio ar gronfeydd cyhoeddus fel budd-daliadau a phensiynau (os ydynt yn gymwys ar eu cyfer), a theithio i mewn ac allan o'r DU, yn amodol ar gyfyngiadau amser.
Gall deiliaid statws preswylydd cyn-sefydlog wneud cais am statws preswylydd sefydlog cyn gynted ag y byddant wedi cronni pum mlynedd o breswyliad parhaus yn y DU. Mewn rhai achosion, gellir trosi statws preswylydd cyn-sefydlog yn statws preswylydd sefydlog yn awtomatig, heb i'r deiliad orfod gwneud cais pellach i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Cod rhannu
Cod unigryw a gynhyrchir drwy system ar-lein Fisâu a Mewnfudo'r DU, sy'n caniatáu i unigolion brofi eu statws mewnfudo o dan y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Gall cyflogwyr, landlordiaid a darparwyr gwasanaethau ddefnyddio'r cod hwn i gadarnhau hawl person i weithio, rhentu a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn y DU.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Methodoleg
Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yr ymchwil hon mewn partneriaeth â Migration Yorkshire, elusen Roma Support Group (RSG) a Phrifysgol Sheffield. Mae gan y sefydliadau hyn ddealltwriaeth fanwl o gymunedau Roma a rhwydweithiau sefydledig, a ddatblygwyd drwy flynyddoedd o brofiad o ddarparu cymorth a chynnal ymchwil gyda Roma.
Cafodd yr ymchwil ei llywio a'i harwain gan ddau grŵp cynghori drwy gydol cylch y prosiect, gan gynnwys mireinio ffocws yr astudiaeth, datblygu deunyddiau i gyfranogwyr, ac ymgynghori ar ganfyddiadau cynnar a'r strategaeth lledaenu. Roedd un grŵp yn cynnig arbenigedd yn seiliedig ar brofiad bywyd a dealltwriaeth broffesiynol o'r cymunedau. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys academyddion, aelodau o gymunedau Roma, a sefydliadau cymdeithas sifil. Roedd yr ail grŵp yn helpu i sicrhau perthnasedd i bolisi a gwasanaethau drwy ddod â chydweithwyr o adrannau llywodraeth ganolog a Llywodraeth Cymru ynghyd, a roddodd gyngor ar gyd-destun polisi, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a meysydd o ddiddordeb.
Gwnaethom fabwysiadu dull ymchwil cymheiriaid i hwyluso mynediad at gymunedau, galluogi cyfranogwyr i fynegi eu hunain yn eu dewis iaith, a helpu i fynd i'r afael ag anghydbwysedd pŵer yn ystod cyfweliadau. Casglwyd y data drwy 63 o gyfweliadau manwl rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2025. O blith y rhain, cafodd 54 eu cynnal gan 11 o ymchwilwyr cymheiriaid, a chafodd 9 eu cynnal gan ymchwilydd profiadol nad yw'n Roma i gefnogi hyfforddiant ymchwilwyr cymheiriaid a lliniaru problemau o ran argaeledd.
Cynhaliwyd y cyfweliadau, a barodd tua awr, wyneb yn wyneb yn bennaf, gydag 11 o gyfranogwyr yn dewis cael eu cyfweld ar-lein. Roedd dros hanner y rhai a gafodd eu cyfweld ar-lein rhwng 14 a 18 oed, a dewisodd rhai o'r cyfranogwyr hŷn yr opsiwn hwn oherwydd problemau symudedd neu am nad oeddent yn teimlo'n gyfforddus yn cael eu cyfweld wyneb yn wyneb, pan nad oedd ymchwilydd cymheiriaid o'r un rhyw ar gael.
Roedd y sampl yn cynnwys Roma o chwe gwlad wreiddiol:
- Y Weriniaeth Tsiec
- Bwlgaria
- Hwngari
- Gwlad Pwyl
- Rwmania
- Slofacia
Roedd y sampl hefyd yn cynnwys y rhai a aned yn y DU. Cafodd y cyfranogwyr eu recriwtio mewn pum lleoliad ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys:
- Dwyrain Lloegr
- Gogledd-orllewin Lloegr
- Llundain
- Swydd Efrog a Humber
- Cymru
Cafodd y gwledydd gwreiddiol a'r lleoliadau ymchwil eu dewis ar sail ymgyngoriadau â phartneriaid ymchwil a grwpiau cynghori. Cynlluniwyd y sampl i gyflawni'r nodau canlynol:
- nodi ac archwilio profiadau amrywiol unigolion o grwpiau Roma gwahanol, gan gynrychioli credoau, traddodiadau, hanesion mudo a phatrymau anheddu gwahanol yn y DU
- casglu ystod amrywiol o safbwyntiau ar draws grwpiau rhyw ac oedran
- cydnabod bod profiadau unigolion yn cael eu llywio nid yn unig gan eu cefndir ond hefyd gan y cyd-destunau lleol y maent yn byw ynddynt, ac osgoi gorgynrychioli tystiolaeth o un ardal leol
- helpu i recriwtio cyfranogwyr drwy gynnwys lleoliadau â phoblogaethau Roma uchel a sefydliadau cymdeithas sifil presennol
Cynhaliwyd y cyfweliadau yn newis ieithoedd y cyfranogwyr, gan gynnwys Romani, Saesneg, ac ieithoedd y gwledydd gwreiddiol. Cafodd y cyfranogwyr eu had-dalu am eu hamser.
Yn ogystal â hyn, cynhaliodd tîm y SYG gyfweliadau ar-lein â 19 o hysbyswyr allweddol o sefydliadau cymdeithas sifil sy'n cefnogi Roma, llywodraeth leol, a gwasanaethau, fel iechyd ac addysg. Nod y cyfweliadau hyn oedd rhoi dealltwriaeth gyd-destunol o'r heriau a wynebir gan Roma ac archwilio'r rhain o safbwynt darparwyr gwasanaethau.
Ar y cyd ag elusen Roma Support Group, hwylusodd tîm y SYG bum grŵp ffocws hefyd, gan ddod ag aelodau o gymunedau, darparwyr gwasanaethau, llywodraeth leol a llywodraeth ganolog ynghyd. Ffocws y trafodaethau oedd canfyddiadau cychwynnol y cyfweliadau ac archwiliwyd safbwyntiau cyfranogwyr am y prif heriau, yn ogystal â'u hawgrymiadau ar gyfer gwelliannau posibl, gyda'r nod o ddarparu gwybodaeth a allai lywio'r gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol.
Gweithio gydag ymchwilwyr cymheiriaid
Cafodd yr ymchwilwyr cymheiriaid eu recriwtio gan ein hymchwil o'r chwe grŵp cenedlaethol a oedd yn rhan o'r ymchwil hon. Gwnaed ymdrechion i gynnwys cydbwysedd o wrywod a menywod o oedrannau gwahanol ac i baru cyfwelwyr a chyfranogwyr ar sail y nodweddion hyn lle bo modd, er mwyn cefnogi cysur a rhyddid mynegiant.
Cafodd yr ymchwilwyr cymheiriaid hyfforddiant gan Brifysgol Sheffield a'r SYG ar dechnegau cyfweld, diogelu data, moeseg a diogelu. Darparodd ymchwilydd Migration Yorkshire gymorth a mentora un-i-un drwy gydol y broses o gasglu data. Cynigiwyd cymorth ac adborth manwl, ar sail unigol, ar ôl y cyfweliadau cyntaf.
Cynhaliodd tîm y SYG gyfarfodydd ar-lein bob pythefnos lle rhannodd yr ymchwilwyr cymheiriaid eu profiadau o gyfweld, gan fyfyrio ar y themâu a oedd yn dod i'r amlwg a chael cymorth a dadfriffio pellach. Cafodd yr ymchwilwyr cymheiriaid hefyd eu gwahodd i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws, ac i fynychu gweithdy dadansoddol, lle gwnaethant gyfrannu at y gwaith o ddehongli'r canfyddiadau. Chwaraeodd eu cysylltiadau cymunedol, yr ymddiriedaeth ynddynt a'r ffaith eu bod yn wynebau cyfarwydd rôl bwysig wrth recriwtio, cyfweld a dehongli.
Samplu a dadansoddi
Cafodd y cyfranogwyr eu recriwtio drwy rwydweithiau ymchwilwyr cymheiriaid, Roma Support Group, a sefydliadau cymdeithas sifil a oedd yn gweithredu yn yr ardaloedd lleol lle cynhaliwyd yr ymchwil. Gwnaethom fabwysiadu dull samplu amrywiadau mwyaf posibl pwrpasol er mwyn sicrhau bod profiadau a safbwyntiau amrywiol yn cael eu harchwilio. Felly, ein nod oedd cynnwys cydbwysedd o gyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd o oedrannau gwahanol, gan gwmpasu chwe chenedligrwydd dethol. Ceisiodd yr ymchwilwyr cymheiriaid hefyd gynnwys unigolion â chyfnodau preswylio gwahanol yn y DU a statws mudo amrywiol.
Cafodd y data eu dadansoddi'n anwythol, gan ddefnyddio methodoleg dadansoddi thematig ansoddol i nodi themâu, patrymau a chysyniadau a oedd yn dod i'r amlwg o ymatebion y cyfranogwyr. Roedd y dull yn cynnwys:
- ymgyfarwyddo'n gynnar â'r data er mwyn nodi patrymau cychwynnol
- drafftio codau
- coladu codau yn themâu ehangach
- ailstrwythuro, mireinio a dehongli themâu
Cafodd y codau a'r themâu eu hadolygu drwy broses iteraidd gan y tîm ymchwil er mwyn profi'r patrymau a oedd yn dod i'r amlwg, meithrin consensws, a llunio dehongliad dyfnach, gan gynnwys drwy ddadansoddi data ar draws cyfranogwyr â nodweddion gwahanol. Cafodd canfyddiadau'r ymchwil eu hadolygu a'u profi gydag ymchwilwyr cymheiriaid a grwpiau cynghori drwy weithdai ymgynghorol.
Cyfyngiadau
- Oherwydd natur ansoddol yr ymchwil, mae'n bwysig cydnabod efallai na ellir cyffredinoli'r canfyddiadau i leoliadau eraill a'u bod yn adlewyrchu amser a chyd-destun penodol.
- Roedd y sampl yn cynnwys nifer bach o gyfranogwyr a aned yn y DU, ac mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu profiadau cyfranogwyr a oedd yn fewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf yn bennaf; wrth i broffil demograffig cymunedau Roma yng Nghymru a Lloegr newid dros amser, gyda mwy o unigolion yn cael eu geni a'u magu yn y DU, efallai y bydd ymchwil yn y dyfodol yn nodi profiadau, anghenion a blaenoriaethau gwahanol.
- Mae recriwtio drwy ymchwilwyr cymheiriaid a rhwydweithiau sefydliadau cymdeithas sifil yn golygu ei bod yn annhebygol y bydd aelodau o'r cymunedau sy'n arbennig o ynysig ac na allant gael mynediad at gymorth sefydliadau cymdeithas sifil wedi'u cynnwys yn yr ymchwil hon.
- Nid oedd y sampl yn cynnwys unigolion a oedd wedi mudo i'r DU ar ôl diwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit (31 Rhagfyr 2020), y gallai eu profiadau fod yn wahanol.
- Gall ymchwil cymheiriaid gynhyrchu data mwy cyfoethog sy'n adlewyrchu'r cymunedau y mae eu profiadau'n cael eu harchwilio yn well; er nad oedd y rhan fwyaf o'r ymchwilwyr cymheiriaid wedi cynnal cyfweliadau ansoddol o'r blaen, datblygodd eu sgiliau gydag ymarfer, adborth a chymorth parhaus, gan arwain at ddata cynyddol fanwl dros amser.
- Gan fod ymchwilwyr cymheiriaid gwahanol wedi canolbwyntio ar gyfranogwyr o wledydd gwreiddiol penodol, roedd ein gallu i lunio dehongliadau ar sail y nodwedd hon yn gyfyngedig oherwydd gwahaniaethau unigol yn y dull cyfweld a'r cwestiynau archwilio a ddewiswyd.
Cydnabyddiaethau
Hoffai'r tîm Ymchwil Gynhwysol yn y Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad at yr ymchwil hon. Ni fyddai'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb gyfraniad hael y rhai a gymerodd ran yn ein hymchwil, ein hymchwilwyr cymheiriaid, Migration Yorkshire, Roma Support Group, Prifysgol Sheffield, aelodau'r ddau grŵp cynghori, a'n sefydliadau cefnogol.
Ymchwilwyr cymheiriaid
Alexandra Bahor, Katarina Dome, Olga Fuseini, Gabriel Głowacki, Fabian Horvath, Viktoria Kalinacova, Nikola Kowalska, Simona Lazar, Assen Slavchev
Tîm Migration Yorkshire
Dave Brown, Dr Vanja Čelebičić, Kate Honcharova, Ewa Jamróz, Tanya Roberts, Sophie Tong, Dr Philippa Tyler
Tîm Roma Support Group
Mihai Calin Bica, Sylvia Ingmire, Simina Neagu, Andrea Toma, Ted Sale, Gaba Smolińska-Poffley
Tîm Prifysgol Sheffield
Olga Fuseini, Dr Owen Parker, Dr Lois Orton
Y grŵp cynghori a oedd yn cynnwys arbenigwyr drwy brofiad a gweithwyr proffesiynol ym maes ymchwil
Yr Athro Colin Clark, yr Athro Margaret Greenfields, Aluna Lepadatu, Dr Aleksandar Marinov, yr Athro Győző Molnár, Fernando Ruiz Molina, Dr Marius Taba
Y grŵp cynghori trawslywodraethol
Cynrychiolwyr o: Swyddfa'r Cabinet, yr Adran Addysg, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Llywodraeth Cymru
Y sefydliadau cymdeithas sifil a gyfrannodd at yr ymchwil
BG Centre UK, Clifton Learning Partnership, European Drom, Luton Roma Trust, Roma Access Newcastle, Roma Voice Centre, TGP CYMRU, Union Romani Voice
Nôl i'r tabl cynnwys11. Dolenni cysylltiedig
Poblogaethau Roma, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Erthygl | Rhyddhawyd ar 30 Rhagfyr 2023
Yn archwilio'r canlyniadau ar gyfer poblogaethau Roma o'u cymharu â phoblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
Profiadau bywyd Sipsiwn a Theithwyr, trosolwg, Cymru a Lloegr: 2022
Erthygl | Rhyddhawyd ar 7 Rhagfyr 2022
Trosolwg o ymchwil ansoddol yn archwilio profiadau bywyd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a Lloegr.
12. Cyfeirio at yr erthygl hon
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 22 Medi 2026, gwefan y SYG, erthygl, Profiadau bywyd pobl Roma yng Nghymru a Lloegr: 2025