Er mwyn paratoi ar gyfer Cyfrifiad 2021, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal prawf cyfrifiad o fwy na 200,000 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr ar 9 Ebrill.

Gan mai cyfrifiad ar-lein fydd yr un nesaf yn bennaf, bwriedir i Brawf 2017 sicrhau bod systemau a gwasanaethau yn gweithio'n gywir, a bydd hefyd yn gofyn cwestiynau newydd a all gael eu defnyddio yn 2021. Yn y prawf hwn ceir cwestiynau newydd arfaethedig ar hunaniaeth rywiol1 a gwirfoddoli.

Bydd SYG yn profi ei chyfrifiad ar 100,000 o gartrefi ar draws saith awdurdod lleol dethol2. Yn yr ardaloedd hyn bydd swyddogion y cyfrifiad yn annog ac yn helpu cartrefi nad ydynt wedi ymateb eto.

Hefyd cynhelir prawf o 100,000 o gartrefi eraill a ddewisir ar hap ledled gweddill Cymru a Lloegr, yn ogystal â phrawf o 8,000 o gartrefi ar Ynys Wyth, er mwyn gweld pa mor dda y gall SYG helpu unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd mynd ar lein i lenwi holiadur y cyfrifiad.

"Mae'r cyfrifiad yn bwysig i ni gyd, gan ei fod yn helpu i gynllunio ac ariannu amrywiaeth o wasanaethau cymunedol fel trafnidiaeth, addysg ac iechyd," dywedodd Ben Humberstone, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Cyfrifiad.

"Mae Prawf 2017 yn gyfle gwych i ni brofi ein cynlluniau ar gyfer Cyfrifiad 2021 – gan gynnwys cwestiynau, systemau a gwasanaethau. Gallwn wedyn ddysgu a gwneud gwelliannau cyn diwrnod y cyfrifiad.

"Os bydd eich cartref yn derbyn gwahoddiad, byddwn yn eich annog i gymryd rhan yn y prawf hwn. Bydd ond yn cymryd 10 munud fesul unigolyn. Os gwnewch hynny, byddwch yn ein helpu i lywio Cyfrifiad 2021 a thrwy hynny ddyfodol eich ardal a'n gwlad."

Bydd y cartrefi hynny a ddewisir i gymryd rhan yn y prawf hwn yn derbyn llythyr â chod mynediad unigryw er mwyn llenwi eu holiadur ar-lein. Yn syml dylent fynd i www.cyfrifiad.gov.uk.

ac ateb ychydig gwestiynau amdanynt eu hunain a'r bobl a fydd yn rhannu eu cartref â nhw ar 9 Ebrill. Efallai y bydd rhai cartrefi yn cael holiadur papur.

Bydd popeth rydych yn ei roi yn holiadur prawf y cyfrifiad yn gwbl gyfrinachol a dim ond er mwyn asesu cwestiynau a systemau SYG cyn 2021 y caiff ei ddefnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.census.gov.uk neu ffoniwch linell gymorth y cyfrifiad ar 0300 123 4591.

Background notes

  1. Mae SYG yn defnyddio sampl ranedig i brofi'r cwestiwn ar hunaniaeth rywiol. Felly, ni fydd pob cartref yn cael holiadur sy'n cynnwys y cwestiwn hwnnw.

  2. Y saith awdurdod lleol sy'n cymryd rhan yn y prawf yw Cyngor Bwrdeistref Blackpool, Cyngor Bwrdeistref Metropolitanaidd Barnsley, Cyngor Dinas Sheffield, Cyngor Dosbarth De Gwlad yr Haf, Cyngor Dosbarth Gorllewin Dorset, Cyngor Sir Powys a Chyngor Southwark.

Media contact:

Richard Miles: 01633 456 393, E-bost richard.miles@ons.gov.uk
Swyddfa Cysylltiadau'r Cyfryngau: +44 (0)845 6041858
Ar alwad argyfwng: +44 (0)7867 906553
E-bost: media.relations@ons.gov.uk