Mae Arolwg Haint COVID-19 yn cael ei ymestyn i gynnwys Cymru am y tro cyntaf ar ôl iddo gael ei lansio'n llwyddiannus yn Lloegr.

Hyd yn hyn, cynhaliwyd mwy na 100,000 o brofion swab ar gyfer yr astudiaeth yn Lloegr, ynghyd â mwy na 3,000 o brofion gwrthgyrff a chyhoeddi'r dadansoddiad diweddaraf o ganlyniadau bob wythnos.

Dechreuir drwy gysylltu â 500 o gartrefi yng Nghymru i ofyn iddynt gymryd rhan yn y cam hwn, ac yna ychwanegir 500 o gartrefi eraill bob wythnos wrth i'r arolwg fynd rhagddo. Mae'r cartrefi hyn wedi'u dewis am iddynt gymryd rhan mewn arolygon blaenorol gan SYG i greu sampl gynrychioliadol o Gymru gyfan.

Bydd y canlyniadau yn creu darlun manwl a dibynadwy o'r cyfraddau heintio yng Nghymru a fydd yn helpu gwyddonwyr a Llywodraeth Cymru wrth iddynt barhau i ymateb i argyfwng y coronafeirws. Disgwylir i'r canfyddiadau cychwynnol fod ar gael tua diwedd mis Gorffennaf.

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bydd tîm o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd yn gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen, a chânt eu cefnogi gan adnoddau ymchwil profedig y cwmni gwyddor data dynol, IQVIA, a'r Ganolfan Biosamplu Genedlaethol yn Milton Keynes, er mwyn cyrraedd cyfranogwyr a phrofi samplau.

Dywedodd yr Athro Syr Ian Diamond, Ystadegydd Gwladol: "Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar lwyddiant yr arolwg hwn sydd eisoes wedi helpu i lywio trafodaethau wrth i benderfyniadau anodd ynghylch llacio'r cyfyngiadau symud barhau.  Drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru i ymestyn yr arolwg hwn, rwy'n hyderus y bydd yn parhau i allu darparu canlyniadau pwysig a all helpu ymdrechion y ddwy wlad i drechu'r pandemig hwn.

"Bydd y canlyniadau hyn yn dod yn fwy pwysig wrth i ni fynd i fwy o fanylder i ddangos y ffordd mae graddau'r haint yn parhau i newid ar gyfer gwahanol ddemograffeg ac ardaloedd lleol.  Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig y DU er mwyn meithrin dealltwriaeth o'r sefyllfa a chynnig dadansoddiadau a all helpu i lywio penderfyniadau wrth i ni symud i gam nesaf y frwydr yn erbyn y feirws hwn."

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru: "Mae'r ymchwil sy'n mynd rhagddi yng Nghymru, megis Arolwg Haint COVID-19, yn hanfodol er mwyn i ni gamu ymlaen yn ystod y pandemig hwn.  Rydym bob amser wedi dweud mai'r wyddoniaeth fydd yn ein harwain ni fel llywodraeth, gan ategu pob cam rydym yn ei gymryd wrth i ni weithio tuag at y 'normal newydd'.

"Mae cefnogaeth pobl o bob rhan o Gymru yn hanfodol er mwyn i ni feithrin y ddealltwriaeth orau bosibl o'r feirws hwn, a sut mae'n parhau i symud ac effeithio ar ein cymunedau gwahanol. Hoffwn ddiolch i bawb dan sylw am fod yn rhan o hyn er budd Cymru yfory."

Fel sy'n digwydd eisoes yn Lloegr, bydd y sawl sy'n cymryd rhan yn darparu samplau drwy swabiau trwyn a gwddf a wneir eu hunain ac yn ateb rhai cwestiynau byr yn ystod ymweliad â'r cartref gan weithiwr iechyd hyfforddedig. Bydd y profion swab yn dangos a oes gan y bobl hyn y feirws ar hyn o bryd. Gofynnir iddynt ailadrodd y prawf bob wythnos am y pum wythnos gyntaf, ac yna bob mis am 12 mis.

Hefyd gofynnir i oedolion o ryw 10% o'r holl gartrefi sy'n cymryd rhan yn yr arolwg ddarparu sampl gwaed a gymerir gan nyrs, gwaedwr neu gynorthwyydd gofal iechyd hyfforddedig. Bydd y profion hyn yn helpu i bennu pa gyfran o'r boblogaeth sydd wedi datblygu gwrthgyrff i COVID-19. Gofynnir i'r cyfranogwyr roi samplau pellach bob mis am y 12 mis nesaf.

Cymerir swabiau gan bob cartref sy'n cymryd rhan, p'un a yw aelodau'r cartref yn dweud bod ganddynt symptomau ai peidio. Ni chymerir samplau gwaed mewn unrhyw gartref lle mae gan rywun symptomau COVID-19, neu lle mae rhywun yn hunanynysu neu'n gwarchod ei hun.

Gyda'r dystiolaeth hon, gobeithir y bydd modd cynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer Cymru gyfan o raddau'r haint, lefel y gwrthgyrff sy'n bresennol a beth yw'r gyfradd heintio newydd ar gyfer Cymru gyfan.

Mae Arolwg Haint COVID-19 wedi bod ar waith yn Lloegr ers dros wyth wythnos nawr, a chesglir dros 20,000 o samplau yn rheolaidd bellach.

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd gweithwyr iechyd hyfforddedig yr astudiaeth yn defnyddio'r holl ragofalon a argymhellir i'w diogelu nhw a phawb yn y cartref rhag cael y feirws.
  • Caiff pobl wybod am ganlyniadau eu profion swab drwy eu meddygon teulu a sicrheir cyfrinachedd drwy gydol y broses.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi seilio ei dull o weithredu bob amser ar y dystiolaeth wyddonol, yr arolygon iechyd a'r dysgu rhyngwladol gorau sydd ar gael a bydd yn parhau i wneud hynny.
  • Mae'r astudiaeth nodedig yn cefnogi'r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu ac mae'n allweddol i alluogi i Lywodraeth Cymru ddysgu mwy am ledaeniad y clefyd a helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu profion a thriniaethau newydd. Bydd yn ychwanegu at y data ar y boblogaeth sydd eisoes yn cael eu casglu drwy'r rhaglenni arolygu cenedlaethol sy'n cael eu gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r llywodraethau datganoledig yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban i weld sut gallant hwythau hefyd elwa ar yr arolwg hwn.