Mae cynlluniau ar gyfer y cyfrifiad digidol yn gyntaf yn 2021 wedi cael eu hamlinellu mewn papur gwyn a gyhoeddir heddiw.

Bydd y wybodaeth a gesglir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol drwy'r cyfrifiad yn helpu i lunio gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau eu bod yn targedu cymunedau a grwpiau lle mae eu hangen, yn 2021 a thu hwnt.

Ac, am y tro cyntaf, bydd SYG yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth ychwanegol er mwyn creu'r darlun mwyaf cynhwysfawr o gymdeithas heddiw.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r DU, Syr David Norgrove: "Y cyfrifiad yw conglfaen polisïau cenedlaethol a lleol, a chynllunio a thargedu adnoddau.

"Mae'r wybodaeth a gesglir am y boblogaeth, nodweddion pobl, addysg, gwaith ac iechyd yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau i wasanaethu ein cymunedau mewn ffordd briodol."

Cynhelir y cyfrifiad nesaf ar 21 Mawrth 2021, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol. Nodwyd argymhellion yn y papur gwyn Helpu i Lunio Ein Dyfodol a gyhoeddir heddiw.

Dywedodd yr Ystadegydd Gwladol, John Pullinger: "Mae'r cyfrifiad i bawb a gall y wlad gyfan ei gefnogi.

“Mae wedi'i gynllunio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y bobl, a gwnaethom ymgynghori'n eang er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pawb mewn cymdeithas. Am y tro cyntaf, bydd yn gyfrifiad digidol yn gyntaf a fydd yn ei gwneud hi'n haws ei gwblhau ar ffôn symudol neu lechen, gyda help ar gael i'r rheini y mae ei angen arnynt.”

Dywedodd y Gweinidog dros y Cyfansoddiad, Chloe Smith AS: “Bydd y cynigion ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn helpu'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau a dinasyddion i gael data cynhwysfawr ar ein cymdeithas a byddant yn darparu ciplun heb ei ail o'r ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio yn ein cymdeithas fodern.

“Mae'r cyfrifiad yn hanfodol er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch polisi, cynllunio ac ariannu ym mhob gwasanaeth cyhoeddus cenedlaethol a lleol.”

Gyda phob cyfrifiad, ystyrir cwestiynau newydd a ddylai gael eu cynnwys er mwyn darparu gwybodaeth nad yw ar gael mewn unman arall.

Am y tro cyntaf, bydd Cyfrifiad 2021 yn casglu gwybodaeth am gyn-filwyr o Luoedd Arfog y DU. Drwy wneud hyn gellir monitro cyfamod y Lluoedd Arfog, sef y cytundeb rhwng y wlad a'r rheini sy'n ei gwasanaethu.

Hefyd, cynigir y bydd cwestiwn gwirfoddol newydd am gyfeiriadedd rhywiol i bobl 16 oed a throsodd. Yn ogystal â'r cwestiwn arferol am fod yn wryw neu'n fenyw, bydd hefyd gwestiwn gwirfoddol am hunaniaeth o ran rhywedd i bobl 16 oed a throsodd.

Mae SYG yn trawsnewid y ffordd mae'n casglu, yn prosesu ac yn rhannu data ac mae'r cyfrifiad nesaf yn rhan o ymgyrch ehangach tuag at wneud gwell defnydd o'r data sydd eisoes ar gael a symud arolygon ar lein.

Dangoswyd bod cyfrifiadau blaenorol wedi talu ar eu canfed o ran eu buddiannau anuniongyrchol. Gwelwyd, am bob £1 a gaiff ei gwario ar y cyfrifiad, y ceir £5 yn ôl.

Fel gyda chyfrifiadau blaenorol, bydd SYG yn cynnal ymarfer y cyfrifiad ym mis Hydref 2019 ac mae wrthi'n adolygu pa ardaloedd awdurdod lleol i'w cynnwys.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y papur gwyn a gyflwynwyd gerbron Senedd y DU heddiw.

https://www.gov.uk/government/publications/the-2021-census-of-population-and-housing-in-england-and-wales

Yn sgil cyhoeddi Papur Gwyn y Cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr, caiff Gorchymyn drafft ei baratoi ar gyfer y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir gerbron Senedd y DU yn ystod hydref 2019. Rhaid i'r Gorchymyn drafft gael ei gymeradwyo gan ddau Dŷ Senedd y DU. 

Ar ôl i Orchymyn y Cyfrifiad gael ei gymeradwyo, disgwylir i Weinidog Swyddfa'r Cabinet gyflwyno Rheoliadau'r Cyfrifiad ar gyfer Lloegr gerbron Senedd y DU ddechrau 2020, sy'n nodi'r ffordd y caiff y cyfrifiad ei gynnal yn Lloegr; bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau gweithredol a gweithdrefnau maes.