Os yw eich porwr gwe (y feddalwedd rydych chi'n ei defnyddio i fynd ar y rhyngrwyd) yn hen, dylech naill ai ei ddiweddaru i'r fersiwn ddiweddaraf neu newid i borwr newydd.
Bydd hyn yn golygu:
- y bydd eich cyfrifiadur yn fwy diogel ac yn llai agored i ymosodiadau
- y byddwch yn gallu pori'r rhyngrwyd yn gyflymach
- y byddwch yn gweld mwy o nodweddion ar lawer o wefannau
Yn aml, bydd eich porwr yn diweddaru'n awtomatig, ond gallwch hefyd chwilio am ddiweddariadau porwr a'u gosod â llaw.
Sut i newid i borwr newydd
Dewiswch borwr o'r rhestr ganlynol a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer ei osod.
Ar gyfer unrhyw gyfrifiadur (Windows, Mac, Linux)
Gallwch ddefnyddio'r canlynol:
Ar gyfer cyfrifiaduron Mac
Gallwch hefyd ddefnyddio Safari (yn Saesneg) neu Microsoft Edge (yn Saesneg).
Ar gyfer cyfrifiaduron Windows
Gallwch hefyd ddefnyddio Microsoft Edge (yn Saesneg).
Ar gyfer dyfeisiau symudol
Gallwch gael help:
- gan Apple i ddiweddaru eich dyfais iOS (yn Saesneg)
- gan Google i ddiweddaru eich apiau Android (yn Saesneg)
Rhagor o help
Mae Cyber Aware (yn Saesneg) yn cynnig help a chyngor ar ddiweddaru eich porwr.