Cymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021

Mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd rhan yn y cyfrifiad. Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn helpu i benderfynu ble i wario arian cyhoeddus a chynllunio gwasanaethau.

Gallwch ymweld â'n gwefan benodol ar gyfer Cyfrifiad 2021 i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi am lenwi holiadur y cyfrifiad. Byddwn ni'n ychwanegu mwy o wybodaeth at y wefan yn ystod y cyfnod cyn y cyfrifiad.

Partneriaid mewn awdurdodau lleol ac yn y gymuned

Os ydych chi'n perthyn i grŵp cymunedol neu awdurdod lleol a'ch bod am gefnogi cymunedau yn eich ardal gyda'r cyfrifiad, byddem wir yn gwerthfawrogi eich help. Mae llawer o bethau y gallech eu gwneud -- o godi ymwybyddiaeth i rannu gwybodaeth a helpu pobl i lenwi'r holiadur.

Ewch i wefan Cyfrifiad 2021 i ddysgu mwy am sut y gallwch chi helpu.

Cyfrifiad 2021 a'n hastudiaethau a'n harolygon eraill

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwneud llawer o waith pwysig ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu y gallem ni gysylltu â chi fwy nag unwaith. Rydym ni'n cynnal Cyfrifiad 2021, Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad, Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad ac Arolwg Heintiadau'r Coronafeirws, yn ogystal â'n harolygon busnes parhaus ac amrywiaeth o astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi. Gallwch ddysgu mwy yma.

Ni fydd neb sy'n gweithio ar Gyfrifiad 2021 na'n hastudiaethau a'n harolygon eraill byth yn gofyn am eich manylion banc nac am arian am gymryd rhan. Bydd gan ein staff fathodynnau adnabod, byddant yn cadw pellter cymdeithasol ac ni fyddant yn dod i mewn i'ch cartref -- ac eithrio staff a fydd yn cymryd sampl gwaed ar gyfer Arolwg Heintiadau'r Coronafeirws, lle bydd hynny wedi'i drefnu ymlaen llaw.

Drwy gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021 ac yn ein hastudiaethau eraill, byddwch chi'n ein helpu ni i greu darlun clir o fywyd a'r economi yn y Deyrnas Unedig.