Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus. Os nad ydych yn cytuno i fod yn rhwym wrthynt, peidiwch â defnyddio’r safle. Gall y telerau ac amodau ar y wefan hon gael eu newid ar unrhyw adeg heb unrhyw rybudd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cymryd gofal i sicrhau bod y wybodaeth ar www.cyfrifiad.gov.uk yn gywir. Fodd bynnag, ni warentir, yn ddatganedig nac yn oblygedig, ei bod yn gywir ac nid yw SYG yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wall neu hepgoriad. Nid yw SYG yn gyfrifol am y ffordd y defnyddir y wybodaeth, sut y caiff ei dehongli na sut y dibynnir arni.

Nid ydym yn gwarantu bod y wybodaeth ar www.cyfrifiad.gov.uk yn addas at unrhyw ddiben penodol.

Mae’r wefan hon yn defnyddio mesurau diogelwch i ddiogelu’r deunydd a reolwn rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio a’i newid. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw achos o newid neu drin ein data unwaith y’u cyhoeddir ar y wefan.

Mae’r wybodaeth ar y wefan hon yn destun amodau hawlfraint y Goron, oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu gwybodaeth o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored a Fframwaith Trwyddedu Llywodraeth y DU.

Gall y wybodaeth ar y wefan hon newid ar unrhyw adeg heb unrhyw rybudd.

Nid ydym yn gwarantu y bydd www.cyfrifiad.gov.uk ar gael drwy’r amser, na bod y wefan yn rhydd o wallau neu feirysau. Os byddwch yn lawrlwytho meddalwedd neu ddeunydd arall o’r safle hwn, gwnewch hynny ar eich menter eich hun. Argymhellwn eich bod yn cymryd camau digonol i ddiogelu eich system eich hun.

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i ac o wefannau eraill. Nid yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cymeradwyo’r gwefannau hyn ac nid yw’n gyfrifol am eu cynnwys. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio nac y bydd tudalennau rydym yn darparu dolenni ar eu cyfer ar gael.