Preifatrwydd

  • Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni

  • Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn sicrhau bod y wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni yn cael ei chadw’n ddiogel

  • Rhaid i ni fodloni gofynion cyfrinachedd a nodir yn Neddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 a Deddf Diogelu Data 1998

Diogelwch

  • Mae’r systemau a’r gwasanaethau sy’n cefnogi’r holiadur ar-lein a’r gwasanaeth gwe cysylltiedig wedi cael eu profi a’u hachredu yn unol â safonau technegol a diogelwch y llywodraeth

  • Rydym yn defnyddio technolegau diogelu, gan gynnwys meddalwedd amgryptio sy’n cyrraedd safonau’r diwydiant, er mwyn casglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol

  • Cymerwyd camau priodol i atal unrhyw fynediad i’ch data heb awdurdod

Defnyddio gwybodaeth

  • Dim ond er mwyn cefnogi a llywio penderfyniadau ynghylch Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio

  • Dim ond at ddibenion ymchwil ac ystadegol y gall y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddefnyddio gwybodaeth

  • Ni chaiff unrhyw wybodaeth a roddir gennych ei datgelu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol