Preifatrwydd
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn sicrhau bod y wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni yn cael ei chadw’n ddiogel
Rhaid i ni fodloni gofynion cyfrinachedd a nodir yn Neddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 a Deddf Diogelu Data 1998
Diogelwch
Mae’r systemau a’r gwasanaethau sy’n cefnogi’r holiadur ar-lein a’r gwasanaeth gwe cysylltiedig wedi cael eu profi a’u hachredu yn unol â safonau technegol a diogelwch y llywodraeth
Rydym yn defnyddio technolegau diogelu, gan gynnwys meddalwedd amgryptio sy’n cyrraedd safonau’r diwydiant, er mwyn casglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol
Cymerwyd camau priodol i atal unrhyw fynediad i’ch data heb awdurdod
Defnyddio gwybodaeth
Dim ond er mwyn cefnogi a llywio penderfyniadau ynghylch Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio
Dim ond at ddibenion ymchwil ac ystadegol y gall y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddefnyddio gwybodaeth
Ni chaiff unrhyw wybodaeth a roddir gennych ei datgelu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol