Rydym yn asiantaeth annibynnol, anweinidogol sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Senedd. Ni yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol (yn Saesneg) mwyaf y Deyrnas Unedig ac rydym yn Sefydliad Ystadegol Gwladol cydnabyddedig. Ymddiriedir ynom i gasglu a diogelu gwybodaeth. Mae'r cyfrifiad yn gofyn cwestiynau amdanoch chi, eich cartref a'r bobl sy'n byw ynddo. Mae'r fath wybodaeth yn wybodaeth bersonol a chaiff ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol gennym yn unol â'r gyfraith.

Sut y byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Mae system ddiogelwch gaeth ar waith gennym sy'n dilyn safonau'r llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys mesurau diogelwch ffisegol a TG i ddiogelu eich gwybodaeth, sy'n cwmpasu pobl, prosesau a thechnoleg.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel drwy wylio rhestr chwarae Eich data a diogelwch ar ein sianel YouTube.

Ni fydd yr ystadegau'n dangos pwy ydych chi

Rydym yn cyhoeddi ystadegau o'r cyfrifiad er mwyn i gynghorau lleol a llywodraeth ganolog allu deall anghenion y bobl sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd yn well. Rydym yn gwneud yr holl wybodaeth yn ddienw cyn i ni gyhoeddi ystadegau, felly ni chaiff dim o'ch manylion personol eu rhyddhau.

Caiff eich cofnod yn y cyfrifiad ei gadw'n ddiogel am 100 mlynedd. Dim ond ar ôl hynny y bydd ar gael i genedlaethau'r dyfodol eu gweld. Er enghraifft, ym mis Ionawr 2022 byddwch yn gallu gweld yr hyn a roddwyd gan bobl ar eu ffurflenni cyfrifiad yn 1921.

Mae'r gyfraith yn eich diogelu

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'n holl systemau, staff a chyflenwyr, a'r ffordd rydym yn gweithredu, ddiogelu eich cyfrinachedd.

Ymhlith y deddfau sydd mewn grym i ddiogelu eich gwybodaeth mae:

Rhaid i ni ufuddhau'n llwyr i'r rhain.

Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data

Rydym wedi cyhoeddi Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (PDF, 728.8KB) (yn Saesneg) ar gyfer Cyfrifiad 2021. Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data i'n helpu i nodi a lleihau'r risgiau i ddiogelwch data ar gyfer y cyfrifiad i'r eithaf. Mae'r fersiwn a gyhoeddwyd wedi'i chwtogi er mwyn sicrhau nad yw'n cynnwys unrhyw fanylion a all gyflwyno unrhyw risgiau i ddiogelwch neu ddiogelwch data.

Cyhoeddwyd Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd ar gyfer y Cam Ymchwil Gychwynnol (706.6 KB pdf) (yn Saesneg) ym mis Mawrth 2015. Mae'r asesiad yn ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, cyngor eiriolwyr preifatrwydd, rhanddeiliaid a defnyddwyr.