1. Cyflwyniad

Mae'r cyfrifiad o'r boblogaeth a thai wedi bod wrth wraidd ystadegau am y boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr ers dros ddwy ganrif. Dyma'r ymarfer ystadegol mwyaf y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wedi ymgymryd ag ef, sy'n cynnwys cysylltu â phob cartref a sefydliad cymunedol bob 10 mlynedd. Mae'r ystadegau sy'n deillio o bob cyfrifiad wedi bod y rhai mwyaf manwl sydd ar gael am y boblogaeth, ei nodweddion a ble a sut mae pob un ohonom yn byw. Caiff yr ystadegau hyn eu defnyddio'n helaeth gan y llywodraeth, awdurdodau lleol, elusennau, sefydliadau preifat a'r cyhoedd.

Cyfrifiad 2021 oedd y cyntaf i gael ei gwblhau ar lein yn bennaf. Cafwyd cyfradd ymateb uchel, gyda 97% o'r holl gartrefi yn cwblhau'r cyfrifiad, a chafodd pob ardal awdurdod lleol gyfradd ymateb o 88% o leiaf. Hefyd, cafodd data eu rhyddhau yn fwy amserol nag erioed o'r blaen, a chyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf flwyddyn ar ôl yr ymgyrch casglu data, a chyhoeddwyd pob prif ddatganiad ar gyfer Cymru a Lloegr erbyn diwedd 2023. Mae Cyfrifiad 2021: Adroddiad Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr yn disgrifio sut y gwnaethom baratoi ar gyfer Cyfrifiad 2021 a'i gyflawni, o'r penderfyniad i gynnal cyfrifiad ar lein yn gyntaf i ryddhau'r allbynnau hynny yn 2022 a 2023.

Mae unrhyw gyfrifiad yn ymgymeriad uchelgeisiol a chymhleth. Yn ogystal, effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar waith paratoi a chyflawni Cyfrifiad 2021. Roedd rhai pobl yn byw yn rhywle arall dros dro o ganlyniad i'r pandemig a'r cyfyngiadau symud, a newidiodd gwaith ac ymddygiadau pobl eraill, gan gynnwys mwy o ddefnydd o'r rhyngrwyd. Cyflwynodd hyn heriau a chyfleoedd o ran casglu data'r cyfrifiad.

Ar y cyd â Chyfrifiad 2021, mae'r SYG wedi arwain rhaglen ymchwil i wella ei hystadegau am y boblogaeth a mudo drwy fanteisio i'r eithaf ar botensial data gweinyddol (gwybodaeth a gaiff ei chasglu gan gyrff cyhoeddus eraill) i gynhyrchu ystadegau cyfredol am y boblogaeth yn amlach ac yn gyflymach na'r cyfrifiad.

Nodweddion pwysig a datblygiadau arloesol Cyfrifiad 2021

Dull gweithredu ar lein yn gyntaf

Gwnaeth y rhan fwyaf o bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein (gan gynnwys 89% o gartrefi), a gynigiodd gyfleoedd i gyflwyno nodweddion fel gwiriadau ansawdd awtomatig a sicrhau mai dim ond cwestiynau a oedd yn berthnasol iddynt roedd pobl yn eu gweld. 

Defnydd arloesol o dechnoleg

Gwelwyd defnydd newydd a gwell o dechnoleg drwy'r cyfrifiad, gan gynnwys yr holiadur electronig, data amserol ar ymatebion i lywio penderfyniadau ar weithgarwch dilynol, a mwy o gapasiti cyfrifiadura er mwyn prosesu data.

Cynwysoldeb, hygyrchedd ac ymgysylltu

Yn ogystal â darparu ystod eang o gymorth ar lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, canolbwyntiodd rhan bwysig o'n gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu ar oresgyn rhwystrau i gymryd rhan. Drwy ychwanegu cwestiynau newydd, darparwyd data newydd i fynd i'r afael â bylchau yn ein dealltwriaeth o gymdeithas.

Defnyddio ffynonellau data gweinyddol ac amgen

Drwy gydol Cyfrifiad 2021, gwnaethom fwy o ddefnydd o ddata gweinyddol a ffynonellau data eraill nag erioed o'r blaen. Roedd hyn yn cynnwys:

  • yn y gweithrediad casglu data, er enghraifft ar gyfer y ffrâm cyfeiriadau (rhestru'r cyfeiriad preswyl ar gyfer cyswllt cychwynnol ac olrhain ymateb) a chynllunio adnoddau ar gyfer y rhai yr oedd angen help arnynt
  • yn ein gwaith prosesu a sicrhau ansawdd
  • i gynhyrchu allbynnau integredig a ddefnyddiodd data'r cyfrifiad a data o ffynonellau gweinyddol

Allbynnau hyblyg a hygyrch

Gallai pobl gael gafael ar ddata Cyfrifiad 2021 mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy ein hadnodd Creu set ddata arbennig arloesol yn ogystal â setiau data parod, cynhyrchion digidol rhyngweithiol, erthyglau dadansoddi a thablau a gomisiynwyd. Gwnaeth yr ystod hon o allbynnau alluogi defnyddwyr i archwilio data'r cyfrifiad yn fwy hyblyg nag erioed o'r blaen.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Paratoi ar gyfer Cyfrifiad 2021

Dros gyfnod o dair blynedd yn datblygu cwestiynau, cadarnhawyd pa ddata oedd eu hangen ar ddefnyddwyr o'r cyfrifiad a sut y byddem yn eu casglu. Dechreuodd hyn gyda'n Hymgynghoriad ar Bynciau yn 2015 ac arweiniodd at osod cwestiynau argymelledig y cyfrifiad ym mhapur gwyn y cyfrifiad yn 2018. Caiff y gwaith hwn a'n paratoadau ehangach ar gyfer Cyfrifiad 2021 eu hamlinellu ym Mhennod 2 o Cyfrifiad 2021: Adroddiad Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr. Gwnaethom hefyd ymgynghori ar allbynnau'r cyfrifiad yn 2018 a 2021, a helpodd yr ymgyngoriadau hyn i lywio'r gyfres o gynhyrchion a ddisgrifir ym Mhennod 9.

Roedd angen Deddf newydd gan Senedd y Deyrnas Unedig ar gyfer dau gwestiwn gwirfoddol newydd, a chafodd Gydsyniad Brenhinol yn 2019. Dilynwyd hyn gan is-ddeddfwriaeth y cyfrifiad: Gorchymyn y Cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr a rheoliadau ar wahân ar gyfer Cymru ac ar gyfer Lloegr, a gadarnhaodd y cwestiynau a manylion eraill y cyfrifiad.

Er iddo gael ei ddylunio i fod yn gyfrifiad digidol yn gyntaf, roedd Cyfrifiad 2021 yn aml-ddull hefyd, gydag ymatebion ar-lein ac ymatebion papur. Cafodd y rhan fwyaf o gartrefi lythyrau cyswllt cychwynnol â chodau mynediad ar-lein, ond nododd ein strategaeth papur yn gyntaf 10% o ardaloedd a ddylai gael holiaduron papur, a oedd hefyd yn cynnwys cod i lenwi'r holiadur ar lein, er mwyn cefnogi pobl i ymateb. Gwnaeth ein gwaith i ddatblygu cwestiynau a'r holiadur optimeiddio'r cynllun ar gyfer cwblhau'r cyfrifiad ar lein ac ar bapur.

O ganlyniad i'n hymrwymiad i ddarparu cyfrifiad dwyieithog yng Nghymru, roedd gwefan y cyfrifiad, ein deunyddiau a'n gwasanaethau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gallai defnyddwyr doglo rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg o bob tudalen we, gan gynnwys o fewn yr holiadur i ymatebwyr yng Nghymru. Yng Nghymru, roedd llythyrau cyswllt cychwynnol a anfonwyd i gyfeiriadau yn ddwyieithog a chafodd cyfeiriadau papur yn gyntaf holiaduron yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cynigiwyd opsiwn Cymraeg gan ein canolfan gyswllt rhadffôn hefyd, ac roedd y gweithlu maes yn cynnwys siaradwyr Cymraeg.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Casglu data'r cyfrifiad

Ar ddechrau mis Mawrth 2021, gwnaethom anfon 24 miliwn o lythyrau a 3 miliwn o holiaduron papur i gartrefi, cyn Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth. Gwnaethom ragori ar ein targed o ran nifer yr ymatebion a gafwyd heb weithgarwch dilynol, ac ymatebodd dros 70% o gartrefi erbyn diwedd Diwrnod y Cyfrifiad a bron 79% erbyn 26 Mawrth. Yn ogystal ag ansawdd a chyrhaeddiad ein deunyddiau cyfathrebu a pha mor rhwydd oedd hi i gwblhau'r cyfrifiad ar lein ac ar bapur, mae'n bosibl y bydd amodau cyfyngiadau symud y pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cyfrannu at y llwyddiant cynnar hwn hefyd.

Roedd angen gwneud llawer o waith i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed, sef bod 94% o gartrefi'n cymryd rhan. Roedd y gweithgarwch dilynol hwn yn anoddach o ganlyniad i'r pandemig, ond gwnaethom ragori ar ein targedau o ran cyfraddau ymateb ac amrywioldeb. Mae Pennod 4 yn disgrifio'r gweithrediad casglu data, gan gynnwys gwaith y gweithlu maes, yr holiadur electronig a'r cymorth a ddarparwyd i ymatebwyr. Mae Pennod 5 yn disgrifio'r dulliau cyfathrebu, y cyfryngau a'r gwaith ymgysylltu a oedd yn hanfodol i gyflawni gweithrediad llwyddiannus â chyfraddau ymateb uchel.

Elfennau pwysig yr ymgyrch casglu data

Cymorth a goresgyn rhwystrau i gymryd rhan

Gwnaethom ddarparu arweiniad a chynnig cymorth ymarferol i helpu pobl i gwblhau'r cyfrifiad. Gallai'r cyhoedd gael gafael ar amrywiaeth o gymorth ar lein ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys canolfan gyswllt y cyhoedd rhadffôn a oedd yn cynnig arweiniad a chymorth dros y ffôn , a gwasanaethau gwe-sgwrsio a'r cyfryngau cymdeithasol. Cafodd ein canolfan gyswllt bron 4.5 miliwn o alwadau, a chwblhawyd dros 180,000 o ymatebion i'r cyfrifiad drwy'r gwasanaeth cofnodi dros y ffôn. Roedd gwybodaeth am y cyfrifiad ar gael mewn 49 o ieithoedd drwy wefan y cyfrifiad, y ganolfan gyswllt, a staff ymgysylltu lleol, ac mewn amrywiaeth o fformatau fel braille a phrint mawr. Gwnaethom hefyd ddarparu cymorth wyneb yn wyneb i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein drwy ganolfannau cymorth y cyfrifiad, er i bandemig y coronafeirws (COVID-19) a chyfyngiadau symud effeithio ar y gwasanaeth hwn.

Gwnaethom gydnabod y gall rhai pobl fod yn llai tebygol o gymryd rhan heb ryngweithiadau ychwanegol a roddwyd ar waith i roi sylw i'r cyfrifiad, pwysleisio ei ddefnydd a'i werth a chynnig cymorth. Cynhyrchwyd deunyddiau cyfathrebu a hysbysebu mewn fformatau gwahanol ac fe'u rhannwyd ar sianeli niferus. Bu ein rhwydwaith o staff ymgysylltu yn gweithio gyda chymunedau ar lefelau rhanbarthol a lleol. Gwnaethant helpu pobl i oresgyn rhwystrau a allai atal pobl rhag cwblhau'r cyfrifiad a chynnig dulliau cyfathrebu a chymorth a oedd wedi'u teilwra'n fwy.

Gwnaethom weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol ymhell cyn mis Mawrth 2021, gan gynnwys dosbarthu staff ymgysylltu lleol o hydref 2020. Roedd ennyn ymddiriedaeth ac eiriolaeth arweinwyr a chynrychiolwyr cymunedol yn golygu y gallent helpu i feithrin ymwybyddiaeth, ymddiriedaeth a pharodrwydd i gwblhau'r cyfrifiad ymhlith y cymunedau hynny. Bu ein staff ymgysylltu lleol yn gweithio gyda grwpiau o'r boblogaeth a oedd yn llai tebygol o ymateb i'r cyfrifiad heb ryngweithiadau ychwanegol, er enghraifft drwy ddigwyddiadau cymunedol a'r cyfryngau lleol. Roedd y staff hyn yn cynnwys 200 o Reolwyr Ymgysylltu'r Cyfrifiad yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau ledled Cymru a Lloegr, a 115 o Gynghorwyr Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau penodol o'r boblogaeth.

Ar ein cais, gwnaeth bron pob awdurdod lleol enwebu aelod o staff i ymgymryd â rôl Rheolwr neu Reolwr Cynorthwyol Cyswllt y Cyfrifiad. Roedd cefnogaeth awdurdodau lleol, gyda'u gwybodaeth am eu hardaloedd a'u cymunedau lleol a'u dealltwriaeth ohonynt, yn bwysig iawn. Roedd cyfraniadau'r partneriaid hyn tuag at gydgysylltu gweithgarwch ar draws eu cynghorau a'u hymrwymiad i gyflawni cyfrifiad lleol llwyddiannus yn hanfodol.

Roedd cael myfyrwyr i gwblhau'r cyfrifiad yn her arbennig; gwnaeth y pandemig wneud hyn yn anoddach gan fod llawer o fyfyrwyr yn byw i ffwrdd o'u cyfeiriadau arferol yn ystod y tymor. Canolbwyntiodd ein hymgyrch cyfathrebu â myfyrwyr ar y neges fod yn rhaid iddynt gael eu cynnwys yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor, os oedd ganddynt un, ac yn eu cyfeiriad y tu allan i'r tymor, fel cartref y teulu.

Gwnaeth pob un o'r mesurau unigol a roddwyd ar waith gennym helpu i sicrhau y gallai cynifer o bobl â phosibl ymgysylltu â'r cyfrifiad a chael gafael ar y wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt i gymryd rhan.

Cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus

Cafodd ein hymgyrch gyfathrebu ei hintegreiddio â'r camau cysylltu â chartrefi. Dechreuodd ein hymgyrch gyda pharatoi cynulleidfaoedd ar gyfer y cyswllt a oedd ar ddod, a symudodd ymlaen i annog pobl i gwblhau'r cyfrifiad cyn ac ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, a oedd yn cynnwys hysbysebion wedi'u targedu ar gyfer ardaloedd a phoblogaethau â chyfraddau ymateb is. Defnyddiodd yr ymgyrch ystod o sianeli cyfathrebu er mwyn cyrraedd cyfran fawr o'r boblogaeth. Amrywiodd hyn o'r teledu a'r radio i'r cyfryngau cymdeithasol a digidol, gan gynnwys dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a phartneriaethau â'r cyfryngau y talwyd amdanynt. Canolbwyntiodd yr ymgyrch gyfathrebu ar negeseuon ar gyfer grwpiau a oedd yn wynebu rhwystrau i gymryd rhan hefyd. Ar gyfer y deunyddiau cyfathrebu wedi'u targedu hyn, gwnaethom ddefnyddio ieithoedd gwahanol a ffotograffiaeth bwrpasol er mwyn cynrychioli grwpiau gwahanol o'r boblogaeth, gan gadw ein neges "ni sy'n cyfrif" ac arddull cyffredin drwy'r ymgyrch gyfan.

Roedd yr ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus yn cynnwys gweithgareddau hyrwyddo fel "arwyr cymunedol", a gafodd 1 o 22 o blaciau porffor; ymgyrch i oleuo dros 200 o adeiladau'n borffor ledled y wlad; a gweithgarwch helaeth yn y cyfryngau a arweiniodd at sylw cenedlaethol a thros 430 o eitemau a gafodd sylw ar draws ffynonellau cyfryngau cymunedol penodol. Roedd y sylw cenedlaethol a gafwyd yn cynnwys ymddangosiadau gan staff y SYG a llefaryddion ar bob prif sianel newyddion, stori ar EastEnders a phartneriaeth â Gogglebox, Gwnaethom ddefnyddio dylanwadwyr cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr a rhai arbenigol. Cefnogwyd gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu'r cyfrifiad gan raglenni llwyddiannus ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd.

Gweithrediadau'r gweithlu maes

Gwnaeth ein gweithlu maes ar gyfer cartrefi, a oedd yn cynnwys 20,000 o bobl, ymgymryd â mwy na 16 miliwn o ymweliadau â mwy na 5 miliwn o gartrefi yn ystod y pum wythnos ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, ar y cyd â'r 11 miliwn a mwy o lythyrau atgoffa a anfonwyd gennym. Yn ystod yr ymweliadau hyn - yr arweiniodd 4.5 miliwn ohonynt at gysylltu â'r cartref - gallai swyddogion y cyfrifiad gynnig cyngor ar garreg y drws a chyfeirio deiliaid cartrefi at sianeli cymorth, fel y gallent gwblhau eu cyfrifiad.

Roedd hyblygrwydd y gweithrediad maes yn rhan hanfodol o'i lwyddiant. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio timau symudol fel rhan o'r gweithlu maes a'r gallu i ddosbarthu staff i ardaloedd gwahanol mewn ffordd hyblyg. Chwaraeodd technoleg rôl bwysig, a defnyddiwyd data cyfredol ar ymatebion a gwybodaeth gan staff maes i wneud penderfyniadau amserol am ble i dargedu adnoddau er mwyn cael cynifer o ymatebion â phosibl.

Roedd 1,300 o staff maes ychwanegol yn cefnogi sefydliadau cymunedol a "grwpiau arbennig o'r boblogaeth" eraill. Fel rheol, safleoedd sy'n darparu llety preswyl a reolir yw sefydliadau cymunedol, fel cartrefi gofal a neuaddau preswyl myfyrwyr. Pobl a oedd yn byw mewn mathau o lety yr oedd yn anoddach cael gafael arnynt a'u cyfrif oedd "grwpiau arbennig o'r boblogaeth" eraill, fel pobl a oedd yn byw mewn llety i deuluoedd y lluoedd arfog, marinâu, neu gymunedau teithwyr. Fel y disgwyliwyd, roedd y gyfradd ymateb derfynol yn is ar gyfer sefydliadau cymunedol, sef 79%. Roedd y gyfradd ddychwelyd ar gyfer "grwpiau arbennig o'r boblogaeth" yn is hefyd, sef 76.4%.

Ar ôl y brif ymgyrch, cynhaliwyd Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad gan weithrediad maes pellach a oedd yn cynnwys bron 4,000 o staff. Roedd hyn yn rhan hanfodol o gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Effeithiodd pandemig y coronafeirws ar y gweithrediadau hyn mewn ffyrdd gwahanol, ac roedd diogelwch y cyhoedd a staff y cyfrifiad yn ystyriaeth bwysig iawn wrth ymgymryd â'r gweithrediadau.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Prosesu, amcangyfrif a sicrhau ansawdd

Yn dilyn yr ymgyrch casglu data lwyddiannus, gwnaethom gwblhau cyfres drylwyr o gamau i gynhyrchu amcangyfrifon cywir o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys pedwar prif gam.

Cyn prosesu

Roedd y cam cyntaf yn ymwneud â glanhau a chodio ymatebion, datrys dyblygiadau a dileu ymatebion ffug. Arweiniodd hyn at set ddata o 58.6 miliwn o breswylwyr a 26.3 miliwn o gartrefi.

Golygu a phriodoli

Cynhyrchodd y camau golygu a phriodoli gronfa ddata ar gyfer y cyfrifiad a oedd yn gyson, yn lân ac yn gwbl gyflawn drwy ddatrys unrhyw werthoedd coll ac anghysondebau o fewn neu rhwng pobl ac o fewn cartrefi.

Amcangyfrif ac addasu

Yn y cam amcangyfrif ac addasu, gwnaethom gynhyrchu amcangyfrifon cywir o'r boblogaeth gyfan. Gwnaethom hyn drwy ystyried lefelau tangwmpasu a gorgwmpasu (gan ddefnyddio Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad) ac addasu set ddata'r cyfrifiad i gynrychioli'r boblogaeth amcangyfrifedig o 59.6 miliwn o breswylwyr arferol.

Sicrhau ansawdd

Gwnaethom ymgymryd â phrosesau sicrhau ansawdd helaeth i asesu ansawdd y camau blaenorol a chymharu canlyniadau'r cyfrifiad â gwybodaeth arall a oedd ar gael. Sicrhawyd ansawdd amcangyfrifon o'r boblogaeth ar lefelau cenedlaethol, awdurdod lleol ac is-awdurdod lleol, gan gynnwys gwahodd pob awdurdod lleol i gyfrannu at ein proses sicrhau ansawdd. Gwnaethom hefyd ymgymryd â phroses sicrwydd fanwl mewn perthynas â chanlyniadau'r cyfrifiad ar gyfer pob pwnc. Roedd hyn yn cynnwys cymharu â phatrymau is-genedlaethol 2011 ac â data eraill a oedd ar gael, ac ystyried materion eraill a godwyd gan ddefnyddwyr neu yn y broses sicrhau ansawdd.

Mae Pennod 6 yn disgrifio pob cam yn fanylach. Roedd y dull digidol yn gyntaf o fudd i'r gwaith o brosesu'r data o Gyfrifiad 2021. Roedd hyn oherwydd bod y data a gasglwyd ar gael yn gyflym i brofi, diweddaru a sicrhau ansawdd y camau prosesu. Roedd cynnydd sylweddol mewn pŵer prosesu cyfrifiadurol ers 2011 hefyd a oedd o fudd i'r gwaith prosesu. Defnyddiwyd data gweinyddol ac arolygon pwrpasol a gynhaliwyd ar ôl y cyfrifiad i amcangyfrif sefydliadau cymunedol mawr hefyd.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Ansawdd data'r cyfrifiad

Gwnaethom amcangyfrif bod y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yn 59,597,542, gyda 56,490,048 yn byw yn Lloegr a 3,107,494 yng Nghymru.

Yn yr un modd â chyfrifiadau blaenorol, roedd gennym ystod o fesurau a thargedau i asesu ansawdd yr amcangyfrifon hynny. Y prif nod strategol oedd cyflawni cyfradd ymateb gyffredinol o 94% o leiaf a lleihau amrywiad lleol, gyda phob awdurdod lleol yn cael cyfradd ymateb dros 80%. Gwnaethom ragori ar y ddau darged, gan gyflawni cyfradd ymateb gyffredinol o 97% a thros 88% ym mhob ardal awdurdod lleol, yr oedd mwy na hanner ohonynt dros 97%.

Mae Pennod 7 yn cynnwys manylion am ffyrdd eraill y mesurwyd ansawdd amcangyfrifon poblogaeth y cyfrifiad. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cyfraddau ymateb yn ôl grŵp ethnig, yr oedd pob un ohonynt yn uwch na 2011 neu'r un peth, gyda llai o amrywiad rhwng grwpiau oherwydd bod gan bob un gyfradd ymateb o 92% o leiaf
  • cyflawnrwydd cwestiynau, a oedd yn uwch nag yn 2011 ar y cyfan
  • cyfyngau hyder, sef mesur ystadegol o ansicrwydd

Roedd gan ein cyfwng hyder 95% derfyn isaf o 0.16% islaw'r amcangyfrif o boblogaeth Cymru a Lloegr a therfyn uchaf o 0.07% uwchlaw'r amcangyfrif. Roedd hyn yn bendant o fewn ein targed o blws neu finws 0.2% ac roedd lled cyffredinol y cyfwng yn gulach nag yn 2011.

Mae Pennod 7 hefyd yn amlinellu rhai materion a oedd yn benodol i Gyfrifiad 2021. Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a'r cyfyngiadau symud rai effeithiau penodol. Yr effeithiau mwyaf nodedig oedd man preswylio arferol rhai pobl, a'r effaith ar ddata ar y llafurlu a theithio i'r gwaith. Mae'r bennod hefyd yn disgrifio materion yn ymwneud â'r cwestiynau newydd a'n cynllun gwaith ar y cyd â Llywodraeth Cymru ar gydlyniad ystadegau am y Gymraeg.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Allbynnau

Ein nodau strategol ar gyfer allbynnau Cyfrifiad 2021 oedd hyblygrwydd, amseroldeb, hygyrchedd a pherthnasedd. Darparodd y datganiad cyntaf o ddata Cyfrifiad 2021 ar 28 Mehefin 2022 amcangyfrifon o'r boblogaeth wedi'u talgrynnu ar gyfer preswylwyr arferol, ynghyd ag amcangyfrifon yn ôl rhyw a bandiau oedran pum mlynedd, hyd at lefel ardal awdurdod lleol. Gwnaethom gyhoeddi datganiadau manylach dros weddill 2022 a 2023, wedi'u cefnogi gan adnoddau delweddu data, cynnwys rhyngweithiol a gwybodaeth am ansawdd a dulliau. Gwnaethom ryddhau ein hadnodd "Creu set ddata arbennig" arloesol ym mis Mawrth 2023, gan alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i gyfuniadau niferus o ddata yr oedd ganddynt y diddordeb mwyaf ynddynt a'u lawrlwytho. Dilynwyd hyn gan ddata arbenigol ac ardaloedd daearyddol ychwanegol, gan gynnwys llifau tarddiad-cyrchfan, seiliau poblogaeth amgen, a setiau data pwrpasol yn cynnwys data ar grwpiau bach penodol o'r boblogaeth (a ddiffiniwyd yn ôl grŵp ethnig, crefydd, hunaniaeth genedlaethol, prif iaith neu wlad enedigol). Gan fod y canlyniadau cyntaf wedi cael eu cyhoeddi flwyddyn ar ôl y gweithrediad casglu data, a bod prif ddata'r cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr wedi cael eu cyhoeddi erbyn diwedd 2023, cafodd data'r cyfrifiad hwn eu rhyddhau'n fwy amserol nag erioed o'r blaen. Mae Pennod 9 yn disgrifio'r ystod lawn o allbynnau Cyfrifiad 2021.

Cefnogodd ein cyfres o allbynnau ddefnyddwyr ag amrywiaeth o brofiad ac anghenion. Roedd y rhain yn cynnwys defnyddwyr arbenigol a oedd am gael setiau data y gall peiriant eu darllen a rhyngwynebau â rhaglenni, a defnyddwyr cyffredinol a ddefnyddiodd ein cynnwys rhyngweithiol, ein hadnoddau delweddu data ac adrodd straeon a'n gemau i ddod â'r data'n fyw. Gwnaethom hefyd gynhyrchu cyfres o erthyglau dadansoddi gan ddefnyddio data amlamryweb i archwilio pynciau a phoblogaethau gwahanol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Cyfrinachedd, diogelwch a phreifatrwydd

Mae diogelwch data personol ymatebwyr y cyfrifiad yn brif flaenoriaeth i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). Mae'n rhaid i'n holl systemau, staff a chyflenwyr ddiogelu cyfrinachedd data'r cyfrifiad yn ôl y gyfraith, gan gynnwys y canlynol:

  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)
  • Deddf y Cyfrifiad 1920
  • Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Mae Pennod 8 yn nodi sut y cafodd diogelwch a chyfrinachedd eu hymgorffori yn nhrefniadau storio, prosesu a chyhoeddi Cyfrifiad 2021. Roedd hyn yn cynnwys ein dull o reoli datgelu ystadegol er mwyn diogelu data personol yn ein setiau data a gyhoeddwyd. Cynhaliwyd Adolygiad Annibynnol o Sicrwydd Gwybodaeth a roddodd sicrwydd annibynnol.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cost a buddion y cyfrifiad

Cyflawnodd Rhaglen Trawsnewid y Cyfrifiad a Chasglu Data Gyfrifiad 2021 ynghyd â thystiolaeth i alluogi argymhelliad Awdurdod Ystadegau'r DU ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo. Costiodd y cyfrifiad £539 miliwn fel rhan o'r rhaglen £820 miliwn hon. Ceir rhagor o fanylion am y costau ym Mhennod 3.

Fel gyda chyfrifiadau blaenorol, darparwyd sawl un o'n gwasanaethau gan gyflenwyr allanol, gan gynnwys:

  • argraffu a phostio deunyddiau'r cyfrifiad
  • yr ymgyrch gyfathrebu
  • rheoli'r holiadur
  • canolfan gyswllt y cyhoedd
  • gwasanaethau pobl y gweithlu maes

Ceir rhagor o wybodaeth am y rhain a chontractau eraill ym Mhennod 3 ac ar ein tudalen we Census 2021 suppliers.

Cyn y cyfrifiad, disgwyliwyd y byddai gwerth £5.5 biliwn o fuddion i lywodraeth ganolog, llywodraeth leol, a defnyddwyr sector preifat dros gyfnod o 10 mlynedd. Bwriedir cyhoeddi'n hasesiad o fuddion Cyfrifiad 2021 yn ystod haf 2025.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Gwerthusiad a gwersi a ddysgwyd

Mae Pennod 10 yn myfyrio ar y profiad o gynllunio a chynnal Cyfrifiad 2021 ac yn myfyrio ar wersi cadarnhaol a phethau y gellid bod wedi'u gwella. Mae'n nodi'r prif ffactorau a arweiniodd at lwyddiant Cyfrifiad 2021, gan gynnwys rhai o'r nodweddion a'r datblygiadau arloesol a ddisgrifiwyd yn gynharach yn y Crynodeb Gweithredol hwn. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys:

  • cynllun ystadegol da ar gyfer y cyfrifiad a chynllun gweithredol cryf, ond hyblyg, i'w gynnal
  • cyfraddau ymateb uchel iawn erbyn diwedd penwythnos y cyfrifiad, gan fyfyrio ar ansawdd ein hymgyrch gyfathrebu, gwaith ymgysylltu a chysylltiadau â'r cyfryngau, a llwybr cwblhau a ddyluniwyd yn dda
  • rhagori ar ein targedau o ran ymateb cartrefi ac amrywioldeb lleol, o ganlyniad i weithgareddau cyfathrebu a chamau dilynol effeithiol, a gweithgarwch ymgysylltu lleol, cenedlaethol a chymunedol
  • gwelliannau i'n camau prosesu, a gynorthwywyd gan fynediad cynnar at ddata byw'r cyfrifiad a mwy o bŵer prosesu
  • gwelliannau i'n prosesau amcangyfrif a sicrhau ansawdd, gan gynnwys y Fenter Gwybodaeth Awdurdodau Lleol
  • allbynnau o ansawdd uchel a oedd yn fwy amserol ac yn fwy hyblyg nag erioed o'r blaen, gan ddarparu data ac adnoddau i ddiwallu ystod eang o anghenion defnyddwyr
  • gwaddol y tu hwnt i'r cyfrifiad ei hun, gyda llawer o'r technolegau, y dulliau a'r gwersi yn cael eu defnyddio yn ein gwaith ehangach

Mae Pennod 10 yn ymdrin â phob cam o Gyfrifiad 2021, o'r gwaith cynllunio hyd at gasglu data a phrosesu i ledaenu allbynnau, gan dynnu sylw at y gwersi a ddysgwyd. Er bod rhai yn benodol i gyflawni cyfrifiad, gall eraill fod yn berthnasol i'n gwaith ehangach, gan gynnwys cynhyrchu amcangyfrifon o'r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol ac arolygon eraill yn bennaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfrifiad 2021 a dyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo

Gwnaethom gynnal Cyfrifiad 2021 fel rhan o raglen ehangach a oedd yn canolbwyntio ar gynhyrchu ystadegau hanfodol a chyfredol am y boblogaeth a mudo. Mae'r gwaith hwn yn dilyn ein hymrwymiad yn 2014 i gynnal cyfrifiad ar lein yn gyntaf yn 2021 ac i ddefnyddio data gweinyddol ac arolygon i wella ystadegau blynyddol, gan leihau dibyniaeth ar gyfrifiad bob 10 mlynedd. Rydym yn defnyddio ystod ehangach o ffynonellau data - gan gynnwys data gweinyddol, fel data o systemau treth, budd-daliadau, iechyd, llifau ffiniau ac addysg - i gynhyrchu ystadegau cyfredol am y boblogaeth a mudo yn amlach.

Mae ein prif amcangyfrifon o fudo rhyngwladol wedi newid o ddefnyddio data yn seiliedig ar arolygon, lle byddem yn gofyn i bobl a oeddent yn bwriadu symud i'r DU neu o'r DU, i ddefnyddio data gweinyddol yn bennaf. Mae'r data a'r dulliau newydd hyn yn golygu ein bod yn defnyddio ystod ehangach o ddata i ddarparu amcangyfrifon gwell sy'n cofnodi mudo rhyngwladol hirdymor yn seiliedig ar ymddygiadau gwirioneddol, yn hytrach na bwriadau a nodir.

Mae Pennod 11 yn crynhoi gwaith y rhaglen y tu hwnt i'r cyfrifiad. Mae hyn yn cynnwys argymhelliad Awdurdod Ystadegau'r DU i'r llywodraeth ym mis Mehefin 2025 y dylid comisiynu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) i gynnal cyfrifiad yn seiliedig ar holiadur o'r boblogaeth gyfan yn 2031, ochr yn ochr â'r gwaith datblygu sy'n mynd rhagddo. Mae hefyd yn cynnwys datblygiad parhaus system ystadegau am y boblogaeth a mudo sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol, a gefnogir gan welliannau o ran cyflenwad ac ansawdd data gweinyddol. Bydd hyn yn ein galluogi i gyfuno cryfderau'r ddwy ffynhonnell ddata.

Mae cynnal cyfrifiad yn 2031 yn gyfle cyffrous i adeiladu system o ystadegau am y boblogaeth a mudo sy'n cyfuno cryfderau'r broses o gasglu data am y boblogaeth gyfan â'r gwerth ychwanegol y gall data gweinyddol ei gynnig. Byddai'r cyfuniad hwn yn creu system ystadegau am y boblogaeth sy'n wydn ac yn canolbwyntio ar y dyfodol, a fydd yn helpu i ddarparu pob manylyn sydd ei angen ar ddefnyddwyr, ynghyd â darparu dealltwriaeth well o'r ffordd y mae cymdeithas yn newid yn ystod y blynyddoedd rhwng cyfrifiadau.

Nôl i'r tabl cynnwys