Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 29 Mehefin 2023 a daeth i ben ar 26 Hydref 2023. Rydym wrthi'n dadansoddi'r ymatebion. Rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar yr ymgynghoriad (PDF 170.3kb) sydd yn rhoi gwybodaeth am nifer yr ymatebion a gawsom yn ôl sector, ac yn amlinellu sut y gwnaethom ymgysylltu gyda defnyddwyr ystadegau'r boblogaeth a mudo cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad. Mae hefyd yn esbonio'r ffordd rydym yn dadansoddi'r ymatebion. 

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn llywio argymhelliad i'r llywodraeth gan Awdurdod Ystadegau'r DU, yn unol â chyngor yr Ystadegydd Gwladol. Bydd yr argymhelliad hwn yn nodi sut y dylai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) gynhyrchu ystadegau am y boblogaeth a mudo yn y dyfodol, yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Caiff dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ei gyhoeddi ar y cyd â'r argymhelliad.  

Hoffem ddiolch i'r holl ymatebwyr am eu hadborth gwerthfawr, a fydd yn parhau i lywio ein gwaith yn y maes hwn.  Mae rhestr lawn o'n hymchwil ar gael ar ein hallbynnau Ymchwil gan ddefnyddio tudalen we ddata gweinyddol.

Os hoffech gysylltu â ni am ein cynllun ymchwil yn y dyfodol, anfonwch e-bost at FPMSenquiries@ons.gov.uk.