Mae ystadegau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr wedi cael achrediad Ystadegau Gwladol.
Gofynion Ystadegau Gwladol
Er mwyn i Gyfrifiad 2021 gael achrediad Ystadegau Gwladol, mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn asesu'r broses gyfan yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yw cangen reoleiddiol Awdurdod Ystadegau'r DU.
Mae'r Cod yn sicrhau bod ystadegau a gyhoeddir gan y llywodraeth yn gwasanaethu'r cyhoedd. Mae'n gwneud hyn drwy bennu arferion y mae'n rhaid i ni ymrwymo iddynt wrth gynhyrchu ystadegau swyddogol. Pan fydd ystadegau'r llywodraeth yn cydymffurfio â'r Cod, bydd yr ystadegau:
o werth i'r cyhoedd
o ansawdd uchel
yn ddibynadwy
Caiff asesiad y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau o ystadegau Cyfrifiad 2021 ei gynnal mewn tri cham, sef:
cam un, cynllunio ac ymgynghori
cam dau, strategaethau ar gyfer datblygu a darparu allbynnau
cam tri, asesiad o ba mor dda y mae ein hallbynnau yn diwallu anghenion defnyddwyr, a gynhelir ar ôl cyhoeddi'r ystadegau
Ar bob cam:
mae'n rhaid i ni gyhoeddi adroddiad i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy'n dangos sut rydym yn cydymffurfio â'r Cod
mae'n rhaid i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau asesu'r adroddiad a siarad â thîm y cyfrifiad a defnyddwyr data , cyn cyhoeddi gofynion pellach
mae'n rhaid i ni weithredu yn unol â'r gofynion a chyhoeddi ein hymateb
Cam un
Ym mis Mehefin 2019, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad cychwynnol Sut mae SYG yn sicrhau y bydd Cyfrifiad 2021 yn gwasanaethu'r cyhoedd (Saesneg yn unig). Hwn oedd ein cam cyntaf tuag at fesur cynnydd yn erbyn y Cod. Gwnaeth Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS), sy'n gyfrifol am y cyfrifiad yn yr Alban, ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), sy'n gyfrifol am y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon gyhoeddi adroddiadau tebyg hefyd (Saesneg yn unig).
Gwnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu'r adroddiadau hyn ac ymgysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid ynghylch eu barn am gynlluniau, cynnydd ac allbynnau Cyfrifiad 2021. Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ei hadroddiad Cyfrifiadau 2021 yn y DU -- Canfyddiadau rhagarweiniol (Saesneg yn unig), a oedd yn ystyried i ba raddau roedd y gweithgareddau ymgysylltu a datblygu a gynhaliwyd gan dair swyddfa'r cyfrifiad, yn cydymffurfio â'r Cod. Nododd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau gryfderau, yn ogystal â meysydd i'w gwella yr oedd angen i SYG, NRS a NISRA fynd i'r afael â nhw er mwyn cydymffurfio â'r Cod.
Bu tair swyddfa'r cyfrifiad yn cydweithio'n agos er mwyn mynd i'r afael â'r canfyddiadau hyn. Ar 15 Mehefin 2020, cyhoeddodd pob swyddfa ymateb, gan roi tystiolaeth bellach o sut roedd pob un ohonom yn gweithio i gydymffurfio â'r Cod.
Yr adroddiadau hyn yw:
Ar 11 Medi 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau lythyr i SYG, llythyr i NRS (Saesneg yn unig) a llythyr i NISRA (Saesneg yn unig), a oedd yn nodi camau a gymerwyd a oedd yn arbennig o nodedig a rhai meysydd lle roedd angen gweithredu ymhellach.
Cam dau
Ar 28 Ionawr 2021, gwnaethom gyflwyno ein hadroddiad cam dau i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, Sut mae SYG yn sicrhau y bydd Cyfrifiad 2021 o fudd i'r cyhoedd: y diweddaraf am gynnydd, Ionawr 2021 (Saesneg yn unig). Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys:
ein hymateb i ganfyddiadau'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y gellid gweithredu arnynt
ein harferion, ein prosesau a'n gweithdrefnau ar gyfer creu ystadegau gwerthfawr, dibynadwy ac o ansawdd uchel
effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar Gyfrifiad 2021
Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd NISRA adroddiad ar gyfer cam dau achrediad Ystadegau Gwladol Cyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig). Ym mis Ionawr 2022, gan fod cyfrifiad yr Alban wedi cael ei symud i fis Mawrth 2022, cyhoeddodd NRS adroddiad tystiolaeth ar gyfer cam dau'r achrediad Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig).
Ar 17 Tachwedd 2021, cyhoeddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ei hadroddiad Hasesiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (Saesneg yn unig). Nododd yr asesiad ein gwaith casglu llwyddiannus. Hefyd, dywedodd wrthym yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud o hyd er mwyn cael achrediad Ystadegau Gwladol.
Mewn ymateb, gwnaethom fynd i'r afael â'r adborth a rhoi tystiolaeth bellach i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Achrediad Ystadegau Gwladol: cyflawnwyd
Ar 27 Mehefin 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ei chadarnhad o ddynodiad Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (Saesneg yn unig). Mae'r achrediad hwn yn dilysu ansawdd a dibynadwyedd y data a'r ystadegau a gynhyrchwyd o Gyfrifiad 2021.
Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cadarnhau bod ystadegau Cyfrifiad 2021 Gogledd Iwerddon wedi cael achrediad Ystadegau Gwladol hefyd (Saesneg yn unig).
Y camau nesaf
Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dechrau trydydd cam o ymchwilio. Bydd yn casglu adborth gan y cyhoedd am sut mae cynhyrchion Cyfrifiad 2021 yn diwallu anghenion defnyddwyr. Yna bydd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn cyflwyno ei chanfyddiadau i ni. Fel mewn camau blaenorol, byddwn ni'n mynd i'r afael ag unrhyw gyfleoedd i wella.