Poblogaethau amgen

Lleoliadau daearyddol gwahanol yw seiliau poblogaeth amgen lle gallai unigolion fod wedi cael eu cyfrif ar gyfer Cyfrifiad 2021, ar wahân i'w man preswylio arferol. Rydym wedi cyhoeddi data ar bum math o boblogaethau amgen.

Byrdymor

Y boblogaeth preswylwyr byrdymor yw'r rhai na chawsant eu geni yn y DU ac sy'n bwriadu aros yn y DU am lai na 12 mis.

Gweithleoedd 

Mae'r boblogaeth gweithleoedd yn amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd sy'n gweithio mewn ardal. Mae'n cynnwys pobl sy'n gweithio’n bennaf gartref neu o’r cartref neu nad oes ganddynt weithle penodol yn ardal eu man preswylio arferol. 

Diwrnod gwaith

Mae'r boblogaeth diwrnod gwaith yn amcangyfrif y boblogaeth yn ystod y diwrnod gwaith. Mae'n cynnwys pawb sy'n gweithio mewn ardal, lle bynnag y maent yn byw fel arfer, a'r holl ymatebwyr sy'n byw yn yr ardal ond nad ydynt yn gweithio.

Y tu allan i'r tymor

Y boblogaeth y tu allan i'r tymor yw'r boblogaeth breswyl arferol, lle mae'r aelodau wedi'u hailddosbarthu i'w cyfeiriad y tu allan i'r tymor os oes ganddynt un. O ganlyniad, mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â lleoliad rhai myfyrwyr a phlant ysgol.

Ail gyfeiriad

Mae'r boblogaeth ail gyfeiriad yn edrych ar nodweddion y boblogaeth ag ail gyfeiriad, gan gynnwys nodweddion yr ail gyfeiriad ei hun. Wrth gynhyrchu setiau data ar nodweddion y boblogaeth ag ail gyfeiriad, byddwn yn eu cyfrif yn lleoliad eu hail gyfeiriad yn hytrach nag yn y cyfeiriad lle maent yn preswylio fel arfer.

Poblogaethau bach

Poblogaethau bach yw grwpiau a ddiffinnir gan eu cefndir diwylliannol, gan gynnwys nodweddion fel:  

  • grŵp ethnig 

  • gwlad enedigol 

  • crefydd 

  • hunaniaeth genedlaethol 

  • prif iaith 

Oherwydd maint bach cyfanswm poblogaeth y grwpiau, mae cyfyngiadau cyfrinachedd yn cyfyngu ar ein gallu i ryddhau ystadegau safonol manylach. 

Yn hytrach, byddwn yn creu setiau data pwrpasol ar gyfer poblogaethau bach penodol, ar bob lefel ddaearyddol lle mae nifer y boblogaeth honno yn uwch na throthwy penodol. 

Setiau data poblogaethau bach 2021 - rhan 1

Rydym wedi cynhyrchu setiau data poblogaethau bach ar gyfer cyfanswm o 36 o boblogaethau grŵp ethnig, crefydd neu wlad enedigol yn ôl bandiau oedran pum mlynedd ac yn ôl rhyw. Rydym yn cynhyrchu'r data hyn ar gyfer Cymru a Lloegr, rhanbarthau ac awdurdodau lleol haen isaf lle mae 200 neu fwy o breswylwyr arferol yn y grŵp poblogaeth hwnnw. Mae data poblogaethau bach rhan 1 yn cynnwys chwe phoblogaeth newydd yn ôl bandiau oedran pum mlynedd ac yn ôl rhyw: 

  • Eritreaidd - grŵp ethnig - gwlad, rhanbarth ac awdurdod lleol haen isaf 

  • Rwmanaidd - grŵp ethnig - gwlad, rhanbarth ac awdurdod lleol haen isaf 

  • De Americanaidd Lladin a Chanol - grŵp ethnig - gwlad, rhanbarth ac awdurdod lleol haen isaf 

  • Alevi - grŵp crefydd - gwlad, rhanbarth ac awdurdod lleol haen isaf 

  • Iddewig - Crefydd a grŵp ethnig - gwlad 

  • Valmiki - Crefydd a grŵp ethnig - gwlad ac awdurdod lleol haen isaf 

Setiau data poblogaethau bach 2021 - rhan 2

Rydym hefyd wedi cynhyrchu setiau data ar gyfer poblogaethau bach ar wahân yn seiliedig ar:

  • grŵp ethnig

  • crefydd

  • hunaniaeth genedlaethol

  • prif iaith

Mae'r rhain yn cwmpasu nodweddion allweddol fel:

  • oedran

  • rhyw 

  • statws gweithgarwch economaidd

  • cymhwyster uchaf 

  • darparu gofal di-dâl

  • anabledd

Rydym yn cynhyrchu data ar gyfer Cymru a Lloegr, awdurdodau lleol haen isaf neu ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol lle mae 100 neu fwy o breswylwyr arferol yn y grŵp poblogaeth. Y grwpiau bach o'r boblogaeth a'u hardaloedd daearyddol sydd ar gael yw:

  • Iaith Arwyddion Prydain - prif iaith - gwlad ac awdurdod lleol haen isaf 

  • Caribïaidd - grŵp ethnig - gwlad, awdurdod lleol haen isaf ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol 

  • Cernywaidd - hunaniaeth genedlaethol - gwlad ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol 

  • Jainaidd - crefydd, grŵp ethnig a chrefydd a grŵp ethnig - gwlad ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol 

  • Kashmiraidd - grŵp ethnig - gwlad ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol 

  • Nepalaidd (gan gynnwys Gyrca) - grŵp ethnig - gwlad ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol 

  • Ravidassia - crefydd, grŵp ethnig a chrefydd a grŵp ethnig - gwlad ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol 

  • Sicaidd - crefydd, grŵp ethnig a chrefydd a grŵp ethnig - gwlad ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol

Ble a phryd i ddod o hyd i'r data  

Gwnaethom ryddhau data ar seiliau poblogaeth amgen a phoblogaethau bach yn ystod cam tri o  amserlen datganiadau allbynnau Cyfrifiad 2021.   

Gall defnyddwyr ddod o hyd i ddata ar boblogaeth gweithle, poblogaeth diwrnod gwaith, poblogaeth y tu allan i'r tymor, a'r boblogaeth ail gyfeiriad a'u lawrlwytho ar wefan Nomis. 

Gall defnyddwyr hefyd ddod o hyd i ddata ar boblogaethau bach a'u lawrlwytho o wefan Nomis.   

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, gwnaethom ryddhau data ar y boblogaeth fyrdymor yn gynharach, o gam tri i gam dau. Ceir gwybodaeth am y setiau data rydym wedi'u cynhyrchu ar gyfer preswylwyr byrdymor na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig ar wefan Nomis.

Rhagor o wybodaeth 

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein cynlluniau ar gyfer seiliau poblogaethau amgen neu boblogaethau bach Cyfrifiad 2021, cysylltwch â ni yn census.outputs@ons.gov.uk.