1. Trosolwg o holiaduron y cyfrifiad yn y DU

Mae'r erthygl hon yn disgrifio'r gwahaniaethau rhwng y cwestiynau a'r opsiynau ymateb a ddefnyddiwyd mewn cyfrifiadau ledled y DU yn 2021 a 2022.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) oedd yn gyfrifol am Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) oedd yn gyfrifol am Gyfrifiad 2022 yn yr Alban, ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) oedd yn gyfrifol am Gyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon. Wrth baratoi ar gyfer y cyfrifiadau, cydnabu'r tri sefydliad fod gan bob gwlad ei hanghenion ei hun o ran defnyddwyr ac ymatebwyr. Fodd bynnag, anelwyd at gysoni cwestiynau a phynciau'r cyfrifiad lle y bo modd, fel y gallent gynhyrchu ystadegau ar gyfer y DU gyfan a oedd yn gyson ac yn gymaradwy.

Mae'r erthygl hon yn disgrifio sut roedd y cwestiynau a ofynnwyd yng nghyfrifiadau 2021 a 2022 yn amrywio ledled y DU. Mae hefyd yn nodi lle na chafodd cwestiynau eu cynnwys yn y tri chyfrifiad. Ceir dolenni i holiaduron a chyhoeddiadau am ddatblygu cwestiynau yn Adran 6: Holiaduron y cyfrifiad a rhagor o wybodaeth.

Byddwn yn canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng y cwestiynau a'r opsiynau ymateb. Lle y bo'n berthnasol, caiff gwahaniaethau rhwng holiaduron papur ac ar-lein eu nodi, ond ni chaiff gwahaniaethau eraill eu cynnwys – er enghraifft, cwestiynau a gafodd eu haralleirio neu eu rhannu'n sawl cam ar lein, ond oedd â'r un opsiynau ymateb. Nid yw gwahaniaethau o ran cynllun a'r ffordd y cafodd gwybodaeth ei chyflwyno ar lein neu ar bapur, na gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd ar lein, wedi'u cynnwys. Oni nodir fel arall, daw geiriad y cwestiynau o'r holiaduron papur.

Nid yw'r erthygl hon yn disgrifio cymharedd rhwng y newidynnau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadau 2021 a 2022. Mae'r wybodaeth hon am gymharedd ar gael yng Ngeiriadur Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Nid yw 'chwaith yn disgrifio gwahaniaethau cyffredinol yn yr holiaduron, fel y dyddiadau gwahanol ar gyfer Diwrnod y Cyfrifiad, neu'r wybodaeth a ddarparwyd ar y cyd â chwestiynau'r cyfrifiad. Yn yr un modd, nid yw'n cynnwys pob amrywiad o ran llwybro yn seiliedig ar ymatebion blaenorol –er enghraifft, oherwydd oedran yr ymatebydd neu p'un a oedd yn fyfyriwr.

Dim ond os oeddent ar gael yn y fersiwn Gymraeg o holiadur y cyfrifiad y darperir cyfieithiadau o’r cwestiynau/opsiynau ymateb.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Cwestiynau a ofynnwyd i breswylwyr arferol mewn cartrefi a sefydliadau cymunedol

Demograffeg a mudo

Enw, dyddiad geni a rhyw

Roedd y cwestiwn enw yr un peth ledled y DU. Yng Nghymru a Lloegr, gofynnwyd i ymatebwyr ddarparu eu henw(au) canol ar lein ac ar yr holiadur papur. Yng Ngogledd Iwerddon, dim ond ar lein y gofynnwyd am enw(au) canol.

Roedd y cwestiynau am ddyddiad geni a rhyw yr un peth ledled y DU.

Statws priodasol a phartneriaeth sifil

Roedd y cwestiwn yr un peth ledled y DU ond, yng Ngogledd Iwerddon, ni chafodd dyddiad y cyfrifiad ei gynnwys ac roedd y geiriad ychydig yn wahanol. Roedd yr opsiynau ymateb yr un peth ledled y DU, gyda rhywfaint o amrywio o ran geiriad.

Yng Nghymru a Lloegr, roedd ail gwestiwn i unrhyw un a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil, neu wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, yn gofyn a oedd priod neu bartner yr unigolyn o'r un rhyw neu o'r rhyw arall.

Ail gyfeiriad

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y gofynnwyd y cwestiwn hwn.

Statws plentyn ysgol neu fyfyriwr a chyfeiriad yn ystod y tymor

Gofynnwyd yr un cwestiwn ledled y DU. Roedd yr opsiynau ymateb yr un peth, ond cafodd opsiwn ychwanegol ei gynnwys yng Nghymru a Lloegr fel y gallai'r ymatebydd nodi mai ei gyfeiriad yn ystod y tymor oedd y cyfeiriad a roddwyd fel ei ail gyfeiriad.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, pe bai'r ymatebydd yn byw yn rhywle arall yn ystod y tymor, ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau pellach; ni chafodd y dull llwybro hwn ei gynnwys yng Ngogledd Iwerddon.

Cyfeiriad arferol flwyddyn yn ôl

Roedd y cwestiwn hwn a'r opsiynau ymateb yr un peth ledled y DU.

Gwlad enedigol

Gofynnwyd yr un cwestiwn ledled y DU, ond trefnwyd yr opsiynau ymateb fel bod y wlad roedd y person yn byw ynddi yn cael ei rhestru fel yr opsiwn cyntaf.

Dyddiad cyrraedd

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gofynnwyd i ymatebwyr a gafodd eu geni y tu allan i'r DU beth oedd eu dyddiad cyrraedd diweddaraf (mis a blwyddyn).

Yng Ngogledd Iwerddon, gofynnwyd i ymatebwyr a gafodd eu geni y tu allan i Ogledd Iwerddon am y flwyddyn y daeth yr ymatebydd i fyw yno.

Hyd bwriadedig arhosiad

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y gofynnwyd y cwestiwn hwn.

Pasbortau

Roedd y cwestiwn hwn a'r opsiynau ymateb yr un peth ledled y DU.

Hunaniaeth genedlaethol, grŵp ethnig, iaith a chrefydd

Hunaniaeth genedlaethol

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, roedd y cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol yn rhestru'r un opsiynau ymateb, ond roeddent mewn trefn wahanol. Yng Ngogledd Iwerddon, rhestrwyd yr un opsiynau ymateb ac ychwanegwyd ymateb ar gyfer “Irish”.

Grŵp ethnig

Roedd y cwestiynau am grŵp ethnig yn dilyn cynllun tebyg yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd categorïau o grwpiau ethnig lefel uchel ac opsiynau ymateb gwahanol.

Yng Nghymru, roedd y categorïau lefel uchel fel a ganlyn:

  • “Gwyn”

  • “Grwpiau cymysg neu amlethnig”

  • “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”

  • “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”

  • “Grŵp ethnig arall”

Yn Lloegr, roedd y categorïau lefel uchel fel a ganlyn:

  • “White”

  • “Mixed or multiple ethnic groups”

  • “Asian or Asian British”

  • “Black, Black British, Caribbean or African”

  • “Other ethnic group”

Yn yr Alban, roedd y categorïau lefel uchel fel a ganlyn:

  • “White”

  • “Mixed or multiple ethnic groups”

  • “Asian, Scottish Asian or British Asian”

  • “African, Scottish African or British African”

  • “Caribbean or Black”

  • “Other ethnic group”

Roedd rhai gwahaniaethau o fewn y categorïau. Er enghraifft, roedd “Scottish” ac “Other British” yn ymddangos fel opsiynau ymateb ar wahân o dan y categori “White” yn yr Alban, ac roedd “Filipino” yn opsiwn ymateb yng Ngogledd Iwerddon. Er bod “Pacistanaidd” yn opsiwn ymateb yng Nghymru a Lloegr, yn yr Alban yr opsiwn cyfatebol oedd “Pakistani, Scottish Pakistani or British Pakistani”. Roedd opsiynau ymateb ar wahân yn yr Alban ar gyfer “Showman/Showwoman” a “Polish” yn y categori “White” hefyd.

Yn yr Alban, roedd y categorïau “African, Scottish African or British African” a “Caribbean or Black” yn cynnwys opsiwn i ysgrifennu ymateb ond dim opsiynau ymateb eraill â blwch ticio. Cafodd ymatebion enghreifftiol eu cynnwys ar gyfer y blychau ysgrifennu ymateb hyn a'r blwch ysgrifennu ymateb “Other” yn y categori “Other ethnic group”. Ni roddwyd enghreifftiau ar yr holiaduron yng Nghymru, Lloegr na Gogledd Iwerddon.

Yng Ngogledd Iwerddon, nid oedd gan y cwestiwn gategorïau o grwpiau ethnig lefel uchel. Yn hytrach, roedd rhestr o 10 opsiwn ymateb, gan gynnwys dau â blychau i ysgrifennu ymateb – “Mixed ethnic group” ac “Any other ethnic group”.

Prif iaith

Roedd y cwestiwn am brif iaith yr un peth yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond roedd yr enghreifftiau o iaith arwyddion a roddwyd yn yr opsiwn ymateb “Other” yn amrywio. Gofynnwyd yr un cwestiwn yng Nghymru, lle defnyddiwyd “Cymraeg neu Saesneg” fel yr opsiwn ymateb cyntaf yn hytrach nag “English”.

Sgiliau Saesneg

Roedd y cwestiwn am sgiliau Saesneg yr un peth yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Dim ond i'r rheini nad Saesneg (neu Gymraeg neu Saesneg yng Nghymru) oedd eu prif iaith y gofynnwyd y cwestiwn hwn. Gofynnodd un cwestiwn pa mor dda y gallai'r ymatebydd siarad Saesneg, gyda'r opsiynau ymateb canlynol:

  • “Da iawn”

  • “Da”

  • “Ddim yn dda”

  • “Ddim o gwbl”

Yn yr Alban, gofynnwyd y cwestiwn am sgiliau Saesneg i bob ymatebydd. Gofynnwyd i ymatebwyr:

“How well can you understand, speak, read and write English?”

Gofynnwyd i ymatebwyr sgorio eu sgìl gan ddefnyddio'r un opsiynau ymateb a ddefnyddiwyd ar gyfer y cwestiwn a ofynnwyd yn rhannau eraill y DU.

Cwestiynau eraill am iaith

Gofynnwyd cwestiwn am sgiliau Cymraeg yng Nghymru yn unig. Gofynnwyd cwestiynau am sgiliau Gaeleg yr Alban, Sgoteg ac Iaith Arwyddion Prydain yn yr Alban yn unig. Gofynnwyd cwestiynau am sgiliau Gwyddeleg a Sgoteg-Wlster yng Ngogledd Iwerddon yn unig.

Crefydd

Yng Nghymru a Lloegr, y cwestiwn a ofynnwyd oedd:

“Beth yw eich crefydd?”

Yr opsiynau ymateb yn Lloegr oedd:

  • “No religion”

  • “Christian” (including Church of England, Catholic, Protestant and all other Christian denominations)

  • “Buddhist”

  • “Hindu”

  • “Jewish”

  • “Muslim”

  • “Sikh”

  • “Any other religion, write in”

Yng Nghymru, yr opsiwn ar gyfer Cristnogaeth oedd “Cristnogaeth (pob enwad)”; roedd yr opsiynau ymateb eraill yr un peth â Lloegr, sef: “Dim crefydd”, “Bwdhaeth”, “Hindŵaeth”, “Iddewiaeth”, “Islam”, “Siciaeth” ac “Unrhyw grefydd arall, nodwch”.

Yn yr Alban, y cwestiwn a ofynnwyd oedd:

“What religion, religious denomination or body do you belong to?”

Cyflwynwyd yr un opsiynau ymateb â'r rhai yng Nghymru a Lloegr i raddau helaeth. Darparwyd opsiwn ychwanegol ar gyfer Pagan, ac roedd tri opsiwn yn lle'r un blwch ticio ar gyfer “Christian”, sef:

  • “Church of Scotland”

  • “Roman Catholic”

  • “Other Christian (write in)”

Yn yr Alban, roedd opsiwn i ysgrifennu ymateb ar gyfer “Muslim” hefyd a defnyddiwyd “None” yn hytrach na “No religion”.

Yng Ngogledd Iwerddon, y cwestiwn a ofynnwyd oedd:

“What religion, religious denomination or body do you belong to?”

Yr opsiynau ymateb oedd:

  • “Roman Catholic”

  • “Presbyterian Church in Ireland”

  • “Church of Ireland”

  • “Methodist Church of Ireland”

  • “Other (write in)”

  • “None”

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol i'r rhai a ddewisodd “None” hefyd:

“What religion, religious denomination or body were you brought up in?”

Roedd yr opsiynau ymateb yr un peth.

Cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd a statws neu hanes traws

Cyfeiriadedd rhywiol

Roedd y cwestiwn am gyfeiriadedd rhywiol yr un peth ledled y DU. Roedd yr opsiynau yr un peth, ond cafodd opsiwn “Prefer not to say” ei gynnwys yng Ngogledd Iwerddon.

Hunaniaeth rhywedd a statws neu hanes traws

Yng Nghymru a Lloegr, gofynnwyd y cwestiwn canlynol i ymatebwyr:

“Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?”

Yn yr Alban, gofynnwyd y cwestiwn canlynol i ymatebwyr:

“Do you consider yourself to be trans, or have a trans history?”

Ni ofynnwyd cwestiynau am y pwnc hwn yng Ngogledd Iwerddon.

Iechyd, anabledd a gofal di-dâl

Iechyd ac anabledd

Roedd y cwestiwn am iechyd yn gyffredinol yr un peth ledled y DU. Gofynnwyd cwestiwn dau gam am broblemau iechyd ac anabledd ledled y DU, ond roedd y dull yn amrywio.

Yng Nghymru a Lloegr, gofynnwyd y cwestiwn canlynol i ymatebwyr:

“Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy?”

Gofynnwyd i'r rhai a atebodd “oes” i ba raddau roedd y cyflwr neu'r salwch yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd.

Yn yr Alban, gofynnwyd i ymatebwyr ddewis o restr o gyflyrau neu fathau o salwch a oedd wedi para neu a oedd yn debygol o bara 12 mis neu fwy. Gallent hefyd ddewis “Other condition” (gydag opsiwn i ysgrifennu ymateb), neu “No condition”. Gofynnwyd i'r rhai a nododd gyflwr neu salwch i ba raddau y cyfyngwyd ar eu gweithgareddau pob dydd, fel yng Nghymru a Lloegr.

Yng Ngogledd Iwerddon, gofynnwyd i ymatebwyr yn gyntaf i ba raddau y cyfyngwyd ar eu gweithgareddau pob dydd. Yna gofynnwyd iddynt nodi unrhyw gyflyrau a oedd wedi para neu a oedd yn debygol o bara 12 mis neu fwy o restr debyg i'r un a ddefnyddiwyd yn yr Alban.

Gofal di-dâl

Roedd y cwestiwn yr un peth ledled y DU, ond roedd yr opsiynau ymateb yn amrywio ychydig. Roedd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon opsiwn “Yes, 1 to 19 hours a week”; ac yng Nghymru a Lloegr, rhannwyd yr opsiwn ymateb i “9 awr neu lai yr wythnos” a “10 i 19 awr yr wythnos”.

Cymwysterau, cyflogaeth a theithio i'r gwaith (neu i fan astudio)

Cymwysterau

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd cwestiwn â thair rhan yn gofyn a oedd ymatebwyr:

  • yn meddu ar gymwysterau lefel gradd neu uwch

  • yn meddu ar unrhyw gymwysterau eraill

  • wedi cwblhau prentisiaeth

Yng Nghymru a Lloegr, gofynnwyd y cwestiwn am brentisiaethau yn gyntaf; yng Ngogledd Iwerddon, gofynnwyd y cwestiwn hwn yn olaf.

Yn yr Alban, roedd yr holiadur papur yn cynnwys un cwestiwn a oedd yn cwmpasu pob math o gymwysterau. Ar lein, roedd y cwestiwn wedi'i rannu'n wahanol fathau o gymwysterau.

Mae'r union gymwysterau a restrir yn debyg, ond roeddent yn amrywio er mwyn adlewyrchu'r cymwysterau a gaiff eu dyfarnu ledled y DU.

Gwasanaeth blaenorol yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig

Roedd y cwestiwn yr un peth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ond roedd trefn yr opsiynau ymateb yn wahanol yn yr Alban. Ni ofynnwyd y cwestiwn hwn yng Ngogledd Iwerddon.

Gweithgarwch economaidd, statws cyflogaeth, cyflogwr, statws goruchwylio, ac oriau gwaith

Roedd y cwestiynau hyn yr un peth ledled y DU.

Teithio i'r gwaith neu i fan astudio

Ledled y DU, gofynnwyd i ymatebwyr a oedd mewn swydd ar y pryd am eu lleoliad gwaith (gan gynnwys y cyfeiriad) a sut roeddent yn teithio yno. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, roedd y cwestiwn hefyd yn cynnwys man astudio i'r rhai a oedd yn astudio ar y pryd.

Roedd yr opsiynau ymateb ar gyfer lleoliad gwaith neu astudio yn amrywio rhwng gwledydd. Yng Nghymru a Lloegr, rhannwyd yr opsiwn ymateb “Mewn gweithle neu'n adrodd i ddepo” yn ddau opsiwn ar wahân ar lein. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, roedd y cwestiynau a'r opsiynau ymateb yn amrywio ar lein yn dibynnu ar b'un a oedd yr ymatebydd yn gweithio neu'n astudio.

Roedd yr opsiynau ymateb ar gyfer teithio yr un peth, heblaw am y canlynol:

  • cafodd “Car or van pool, sharing driving” ei gynnwys yng Ngogledd Iwerddon

  • cafodd opsiynau ar gyfer trên tanddaearol, tram neu reilffordd ysgafn eu cynnwys (ond wedi'i geirio ychydig yn wahanol) yn yr Alban ac yng Nghymru a Lloegr

  • cafodd “Gweithio gartref neu o’r cartref yn bennaf” ei gynnwys yng Nghymru a Lloegr

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Cwestiynau a ofynnwyd ar yr holiadur i unigolion yn unig

P'un a yw'r ymatebydd yn byw mewn cartref neu sefydliad cymunedol

Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd yn defnyddio holiadur i unigolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a oeddent yn byw mewn sefydliad cymunedol neu mewn cartref preifat neu gartref teulu. Yn yr Alban, roedd holiaduron i unigolion ar wahân ar gyfer pobl a oedd yn byw mewn cartrefi ac mewn sefydliadau cymunedol.

Rôl mewn sefydliad cymunedol

Gofynnwyd i breswylwyr sefydliadau cymunedol pa un o'r canlynol oedd yn eu disgrifio orau:

  • preswylydd

  • aelod o staff neu berchennog y sefydliad

  • perthynas neu bartner i’r perchennog neu i aelod o’r staff

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd pedwerydd opsiwn ar gyfer aros dros dro (dim cyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig).

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cwestiynau a ofynnwyd ar holiadur y cartref yn unig

Cwestiynau am yr eiddo a'r ddeiliadaeth

Math o gartref

Roedd y cwestiwn a'r rhan fwyaf o'r opsiynau ymateb yr un peth ledled y DU yn bennaf. Roedd geiriad yr opsiwn a oedd yn cyfeirio at floc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol yn amrywio. Yng Nghymru a Lloegr, roedd opsiwn ymateb ychwanegol sef “yn rhan o adeilad arall wedi’i addasu (er enghraifft, hen ysgol, eglwys neu warws)”.

Eiddo hunan-gynhwysol a nifer yr ystafelloedd gwely

Yn yr Alban, roedd y cwestiwn am b'un a oedd yr eiddo'n hunangynhwysol fel a ganlyn:

"Are all the rooms in this accommodation behind a door that only this household can use?"

Yng Nghymru a Lloegr, roedd geiriad y cwestiwn hwn yn nodi bod “pob ystafell yn y cartref” yn cynnwys y gegin, yr ystafell ymolchi a'r toiled.

Roedd y cwestiwn am nifer yr ystafelloedd gwely yr un peth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ni ofynnwyd yr un o'r ddau gwestiwn hyn yng Ngogledd Iwerddon.

Addasiad i gartref

Dim ond yng Ngogledd Iwerddon y gofynnwyd y cwestiwn hwn.

Deiliadaeth

Roedd y cwestiwn a'r opsiynau ymateb yr un peth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, roedd opsiwn ymateb ychwanegol sef "Owns with shared equity (for example, LIFT, Help-to-Buy)".

Landlord y cyfeiriad

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gofynnwyd y cwestiwn canlynol i ymatebwyr:

"Pwy yw eich landlord?"

Yng Ngogledd Iwerddon, gofynnwyd y cwestiwn canlynol i ymatebwyr:

"Who do you rent from?"

Roedd yr opsiynau ymateb yn amrywio, ac roedd llai o opsiynau ymateb ar gyfer y cwestiwn am landlord yn yr Alban ac ymatebion ar wahân ar gyfer “Private landlord” a “Private renting with letting agent” yng Ngogledd Iwerddon.

Gwres canolog yn y cyfeiriad

Gofynnodd y cyfrifiadau yr un cwestiwn â'r un cyfarwyddiadau ledled y DU. Roedd y rhestr o opsiynau ymateb ac enghreifftiau yn wahanol ym mhob gwlad, ond roeddent yn cynnwys opsiynau ar gyfer y canlynol ym mhob achos:

  • olew

  • nwy

  • trydan

  • coed

  • tanwydd solet

  • ynni adnewyddadwy

  • dim gwres canolog

Yng Ngogledd Iwerddon, roedd cwestiwn am systemau ynni adnewyddadwy hefyd.

Argaeledd car neu fan

Roedd y cwestiwn yr un peth ledled y DU. Yr opsiwn ymateb uchaf oedd “4 or more” yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a “5 neu fwy” yng Nghymru a Lloegr, gyda chais i ysgrifennu'r rhif ym mhob achos.

Cwestiynau am breswylwyr ac ymwelwyr yn y cyfeiriad

Preswylwyr arferol

Roedd yr holiaduron papur ledled y DU yn cynnwys y cwestiwn:

“Pwy sy’n byw yma fel arfer?”

Gofynnwyd i ymatebwyr ar-lein a oeddent yn byw yn y cyfeiriad yn gyntaf, yna gofynnwyd am bobl eraill a oedd yn byw yno ac ymwelwyr. Yn yr Alban, gofynnwyd y cwestiwn canlynol i ymatebwyr:

“Who usually lives at the address?”

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gofynnwyd y cwestiwn canlynol i ymatebwyr:

“Oes unrhyw un o’r bobl ganlynol hefyd yn byw yn [cyfeiriad y cyfrifiad] ddydd Sul 21 Mawrth 2021?”

Roedd yr opsiynau ymateb yr un peth i raddau helaeth, ond mewn trefn wahanol. Roedd rhai o'r opsiynau ymateb yn amrywio, gan adlewyrchu diffiniadau gwahanol rhwng yr Alban a gweddill y DU.

Perthynas aelodau o'r cartref â’i gilydd

Roedd y cwestiwn yr un peth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda geiriad ychwanegol a oedd yn ymwneud ag aelodau o'r cartref nad oeddent yn perthyn i'w gilydd yn yr Alban. Roedd yr opsiynau ymateb yr un peth, ond roedd yr union eiriad yn amrywio rhwng y cyfrifiadau gwahanol.

Roedd nifer y bobl a gafodd eu cynnwys yn yr adran hon o'r holiaduron papur yn amrywio, gan adlewyrchu nifer yr ymatebwyr a gafodd eu cynnwys ar yr holiadur. Cafodd chwe pherson eu cynnwys yng Ngogledd Iwerddon, a chafodd pum person eu cynnwys yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd holiaduron y cartref (parhad) ar gael i gartrefi a oedd yn fwy na'r ffigur hwn.

Ymwelwyr a oedd yn aros yn y cyfeiriad

Gofynnwyd i ymatebwyr yn yr Alban a oedd unrhyw un yn aros yn y cyfeiriad ar noson y cyfrifiad yr oedd ei gartref parhaol neu gartref y teulu yn rhywle arall. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gofynnwyd i ymatebwyr a oedd unrhyw un nad oedd eisoes wedi'i restru yn y cwestiynau i breswylwyr yn aros dros nos ar noson y cyfrifiad.

Gofynnwyd i ymatebwyr ledled y DU am enw, dyddiad geni a rhyw pob ymwelydd, a'i gyfeiriad parhaol yn y DU neu wlad ei gyfeiriad parhaol os oedd y tu allan i'r DU. Roedd yr opsiynau ymateb yn debyg ond cawsant eu gosod mewn trefn wahanol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Holiadur i reolwyr sefydliadau cymunedol

Cwestiynau am y sefydliad

Yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban, gofynnwyd yr un ddau gwestiwn am natur y sefydliad a phwy oedd yn gyfrifol am reoli'r sefydliad. Roedd yr opsiynau ymateb ar gyfer natur y sefydliad yn yr Alban ac yng Nghymru a Lloegr yn wahanol.

Gofynnwyd cwestiynau tebyg yng Ngogledd Iwerddon oedd ag opsiynau ymateb tebyg. Gofynnodd cwestiwn ychwanegol y canlynol:

“Which groups does this establishment cater for?”

Cwestiynau am breswylwyr ac ymwelwyr yn y sefydliad

Yng Nghymru a Lloger, gofynnwyd i reolwyr sefydliadau cymunedol am nifer y preswylwyr arferol a'r ymwelwyr. Yna gofynnwyd y cwestiwn canlynol:

“Oes unrhyw un o'r canlynol yn byw yn y sefydliad hwn ar hyn o bryd?”

Dilynwyd y cwestiwn hwn gan restr o gategorïau o breswylwyr (er enghraifft rhywun a oedd yn preswylio yno ond a oedd yn absennol ar ddiwrnod y cyfrifiad, pobl heb gyfeiriad arall yn y DU, myfyrwyr, neu'r rheolwr a'i deulu). Gofynnwyd cwestiwn ar wahân am ymwelwyr.

Yn yr Alban, gofynnwyd i reolwyr am nifer y preswylwyr arferol a'r ymwelwyr a nifer y preswylwyr arferol ym mhob un o chwe grŵp oedran, yn ôl rhyw.

Yng Ngogledd Iwerddon, gofynnwyd i reolwyr am nifer y preswylwyr arferol a gofynnwyd iddynt am enw, rhyw a dyddiad geni'r preswylwyr hynny. Hefyd, gofynnwyd iddynt ar gyfer pa un o bedwar grŵp oedran roedd y sefydliad yn darparu.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Holiaduron y cyfrifiad a rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am yr holiaduron a ddefnyddiwyd ar gyfer pob cyfrifiad ar wefan swyddfa'r cyfrifiad berthnasol ac yn rheoliadau'r cyfrifiad.

Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr

Cyfrifiad 2022 yn yr Alban

Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon

Nôl i'r tabl cynnwys