Trosolwg

Caiff ystadegau Cyfrifiad 2021 eu cyhoeddi o wybodaeth a gasglwyd am bobl a'u cartrefi. Rydym yn grwpio data gyda'i gilydd yn seiliedig ar bwy y mae'r wybodaeth yn cyfeirio ato, er enghraifft unigolion neu gartrefi.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Person

Unigolyn yw person. Fel arfer caiff ei ddosbarthu fel preswylydd arferol oni nodir yn wahanol.

Person Cyswllt y Cartref

Person sy’n gweithredu fel pwynt cyfeirio, yn seiliedig yn bennaf ar weithgaredd economaidd, i nodweddu cartref cyfan.

Cartref

Caiff cartref ei ddiffinio fel:

  • un person sy'n byw ar ei ben ei hun, neu
  • grŵp o bobl (nad oes rhaid iddyn nhw fod yn perthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta

Mae hyn yn cynnwys:

  • unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio),
  • pob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig

Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig.

Teulu

Grŵp o bobl yw teulu sydd naill ai:

  • yn bâr priod, yn gwpwl mewn partneriaeth sifil neu'n gwpwl sy'n cyd-fyw â phlant neu heb blant (nid oes rhaid i'r plant berthyn i'r ddau aelod o'r cwpwl)
  • yn un rhiant â phlant
  • yn bâr priod, yn gwpwl mewn partneriaeth sifil neu'n gwpwl sy'n cyd-fyw ag wyrion/wyresau ond lle nad yw rhieni'r wyrion/wyresau hynny yn bresennol
  • yn daid/tad-cu neu'n nain/mam-gu sengl neu mewn cwpwl ag wyrion/wyresau ond lle nad yw rhieni'r wyrion/wyresau hynny yn bresennol

Sefydliad cymunedol

Lleoliad yw sefydliad cymunedol wedi'i reoli lle caiff y llety preswyl ei oruchwylio drwy’r amser neu am ran o’r amser.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • neuaddau preswyl prifysgolion ac ysgolion preswyl
  • cartrefi gofal, ysbytai, hosbisau ac unedau mamolaeth
  • gwestai, tai llety, hostelau a llety gwely a brecwast, y mae gan bob un ohonynt lety preswyl i saith gwestai neu fwy
  • carchardai a chyfleusterau diogel eraill
  • Llety Byw Unigol mewn canolfannau milwrol
  • llety i staff
  • sefydliadau crefyddol

Nid yw'n cynnwys llety gwarchod, fflatiau a wasanaethir, llety nyrsys, na thai a gaiff eu rhentu i fyfyrwyr gan landlordiaid preifat. Cartrefi yw'r rhain.

Annedd

Uned o lety a all fod yn wag neu y mae rhywun yn byw ynddi, er enghraifft tai neu fflatiau, yw annedd. Mae fel arfer yn cynnwys un cartref, ond caiff y rheini sy'n cynnwys mwy nag un cartref eu rhannu ac fe'u gelwir yn “annedd sy'n cael ei rhannu”.

Os nad oes preswylwyr arferol yn byw mewn annedd, er enghraifft mae'n wag ers cael ei gwerthu, caiff ei galw yn “annedd wag” ond gellir ei defnyddio gan breswylwyr byrdymor neu ymwelwyr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, er enghraifft, fel tŷ gwyliau.

Cartref (UPRN)

Rhoddir Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) i bob eiddo ym Mhrydain Fawr. Yr UPRN yw’r dynodwr unigryw ar gyfer pob cyfeiriad ym Mhrydain Fawr. Mae’n darparu dynodwr cynhwysfawr, cyflawn a chyson drwy gydol oes yr eiddo - o ganiatâd cynllunio hyd at ddymchwel. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod eu cyfeiriad, felly rydym yn gallu defnyddio hwn fel cyfeiriad daearyddol wrth gasglu data. Gall y cyfeiriad hwn wedyn fod yn berthnasol i unrhyw uned ddaearyddol a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu ystadegau, fel ardal awdurdod lleol neu ward etholiadol. Mae’r UPRN yn rhifol a gall fod hyd at 12 digid. Mae’r UPRN yn darparu pwynt sefydlog, disymud ar gyfer oes eiddo sy’n gwneud dyraniadau daearyddiaeth yn sefydlog ac yn ddigyfnewid (yn amodol ar newidiadau i ffiniau).

Preswylydd byrdymor nas ganwyd yn y Deyrnas Unedig

Mae preswylydd byrdymor o'r Deyrnas Unedig at ddibenion y cyfrifiad yn cynnwys unrhyw un a aned y tu allan i'r Deyrnas Unedig a oedd, ar 21 Mawrth 2021, wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o dri mis neu fwy ond llai na 12 mis.