Allbynnau ystadegol amlamryweb ar gyfer ardaloedd bach yw allbynnau'r cyfrifiad wedi'u hintegreiddio, a chaiff y rhain eu cynhyrchu drwy gysylltu data gweinyddol ag ymatebion i'r cyfrifiad ar lefel cofnodion.
Cefndir
Cyfrifiad 2021 yw ein cyfrifiad ar-lein cyntaf. Bydd hyn yn ein galluogi i wneud mwy o ddefnydd o ddata gweinyddol ac arolygon er mwyn gwella'r ystadegau o Gyfrifiad 2021 a gwella ystadegau rhwng cyfrifiadau.
Data y mae pobl wedi'u darparu eisoes i'r llywodraeth yw data gweinyddol, er enghraifft, wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel addysg a gofal plant. Gallai rhywfaint o'r wybodaeth hon gael ei hailddefnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gynhyrchu ystadegau am y boblogaeth.
Sut rydym yn defnyddio data gweinyddol yn allbynnau Cyfrifiad 2021
Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn y Papur Gwyn ar Gyfrifiad 2021, Helpu i Lunio Ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021 (PDF, 968KB)
byddwn yn parhau i weithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio er mwyn archwilio ymarferoldeb ategu cwestiynau'r cyfrifiad â data gweinyddol ar gyfanswm nifer yr ystafelloedd, arwynebedd llawr a math o eiddo
argymhellir na ddylai’r cyfrifiad gynnwys cwestiynau am nifer yr ystafelloedd ar gyfer pob cartref oherwydd ein bod yn bwriadu defnyddio ffynonellau amgen ar gyfer y data hyn
[rydym] yn gweithio gyda data ar drethi a budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) er mwyn datblygu data math cyfrifiad ar incwm a all gael eu hintegreiddio â’r data a gesglir yng Nghyfrifiad 2021
Darperir diweddariadau ar gyfer yr ymrwymiadau hyn ar y dudalen hon.
Math o eiddo Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae ein hymchwil wedi dangos y gallai data gweinyddol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio olygu na fydd angen i ni gasglu gwybodaeth am fath o eiddo drwy gyfrifiad neu arolygon. Gall y math hwn o ddata gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddarparu dadansoddiadau newydd o fathau o eiddo nad ydynt ar gael drwy gyfrifiad neu arolygon. Gall hyn helpu i ddiwallu anghenion defnyddwyr y mae angen categorïau manylach arnynt o ran math o eiddo. Er enghraifft, gallai gwaith dadansoddi newydd gynnwys y gallu i wahaniaethu rhwng byngalos, tai a gwahanol fathau o dai teras.
Fodd bynnag, mae angen mwy o waith ymchwil er mwyn pennu a all data gweinyddol ddarparu gwybodaeth y gellir ei chymharu â math o gartref y cyfrifiad ar gyfer anheddau “uwchlaw neu o fewn adeiladau masnachol”. Bydd gwaith ymchwil ychwanegol yn ein helpu i ddeall sut i fynd i'r afael â'r gyfran fach o gofnodion lle mae math o eiddo Asiantaeth y Swyddfa Brisio a math o gartref y cyfrifiad yn ymddangos yn anghyson.
Ar y pwynt hwn, nid yw SYG yn bwriadu defnyddio math o eiddo Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel rhan o Gyfrifiad 2021.
Arwynebedd llawr Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae data gweinyddol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd yn cynnig y cyfle i feithrin gwell dealltwriaeth o amodau byw yng Nghymru a Lloegr drwy roi gwybodaeth am arwynebedd llawr. Gallai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio i ddarparu mesurau amgen ar gyfer gorlenwi sy'n canolbwyntio ar y lle byw sydd ar gael (fesul unigolyn) yn hytrach nag edrych ar nifer yr ystafelloedd neu'r ystafelloedd gwely yn unig.
Yn ôl ein gwaith dadansoddi, mae arwynebedd llawr yn dilyn y dosbarthiad disgwyliedig yn ôl y math o eiddo yn gyffredinol. Fodd bynnag, caiff arwynebedd llawr ei fesur gan ddefnyddio dau ddull yn dibynnu ar y math o eiddo. Mae hyn yn ein galluogi i gymharu arwynebedd llawr ar gyfer eiddo o'r un math, ond mae angen i ni gymryd gofal wrth gymharu arwynebeddau llawr a gaiff eu mesur drwy ddefnyddio dulliau gwahanol.
Ar y pwynt hwn, nid yw SYG yn bwriadu defnyddio math o arwynebedd llawr Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel rhan o Gyfrifiad 2021.
Nifer yr ystafelloedd Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Yn ôl ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2021:
defnyddiodd mwy o ymatebwyr nifer yr ystafelloedd gwely na nifer yr ystafelloedd
mae nifer yr ystafelloedd yn diwallu'r un angen o ran gwybodaeth â nifer yr ystafelloedd gwely yn bennaf, sef tanfeddiannu a gorfeddiannu
mae ansawdd y data ar gyfer cwestiwn am nifer yr ystafelloedd gwely yn well nag ar gyfer cwestiwn am nifer yr ystafelloedd – nododd Arolwg Ansawdd Cyfrifiad 2011 (PDF, 1.4MB) fod cytundeb o 91% ar gyfer nifer yr ystafelloedd gwely o gymharu â 67% ar gyfer nifer yr ystafelloedd a chanfu fod gwahaniaethau oherwydd bod ymatebwyr wedi camddeall y cwestiwn
Yn 2017, gwnaethom edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio data Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel dull amgen o amcangyfrif nifer yr ystafelloedd a'r ystafelloedd gwely yng Nghyfrifiad 2021. Gwnaethom ganfod bod y gyfradd cytundeb uniongyrchol rhwng data Cyfrifiad 2011 a data Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer nifer yr ystafelloedd yn 16%. Gellid priodoli hyn yn bennaf i wahaniaethau mewn diffiniadau rhwng Cyfrifiad 2011 ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Roedd ceginau, ystafelloedd aml-bwrpas ac ystafelloedd gwydr wedi'u cynnwys yn amcangyfrifon y cyfrifiad o nifer yr ystafelloedd, ond nid yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnwys y rhain. Gan fod y rhan fwyaf o eiddo yn cynnwys cegin, roedd nifer yr ystafelloedd a gofnodwyd yn nata'r cyfrifiad yn uwch ar y cyfan na'r nifer cyfatebol o ystafelloedd yn nata Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os tybiwn fod nifer yr ystafelloedd yn nata Asiantaeth y Swyddfa Brisio o leiaf un ystafell yn llai na'r cyfrifiad, yna mae'r gyfradd cytundeb yn cynyddu i 48%.
O'i gymharu, nododd Arolwg Ansawdd Cyfrifiad 2011 (PDF, 1.4MB) fod ansawdd ymatebion y cyfrifiad ar gyfer nifer yr ystafelloedd yn 67%. Canfu'r arolwg fod gwahaniaethau oherwydd bod ymatebwyr wedi camddeall y cwestiwn. Roedd y rhan fwyaf o'r gwahaniaethau hyn (93%) o fewn un ystafell yn fwy neu'n llai.
O ystyried y canfyddiadau hyn a bwriad SYG i leihau'r baich ar ymatebwyr, mae'r Papur Gwyn ar Gyfrifiad 2021 wedi argymell y dylid cadw'r cwestiwn am nifer yr ystafelloedd gwely. Mae hefyd yn argymell y dylid defnyddio ffynhonnell data amgen yn lle'r cwestiwn am nifer yr ystafelloedd.
Mae defnyddio diffiniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o nifer yr ystafelloedd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn awgrymu diffyg parhad ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2011, oherwydd y gwahaniaeth yn y diffiniadau, y mae angen i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol ohono. Ni fydd yn briodol mesur newid yn nifer yr ystafelloedd rhwng 2011 a 2021 ac, yn hytrach, gallwn ddefnyddio cwestiwn y cyfrifiad am nifer yr ystafelloedd gwely at ddibenion cymharu dros amser. Bydd diffiniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o nifer yr ystafelloedd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn darparu mesur cymharol o ansawdd uchel o ran maint a fydd, er enghraifft, yn sicrhau bod modd cymharu cartrefi ar draws ardaloedd o fewn yr un cyfnod amser.
Ym mis Gorffennaf 2020, gwnaethom gyhoeddi papur crynodeb a phapur methodoleg sy'n rhoi trosolwg o'r ffordd rydym yn bwriadu mynd i'r afael â gwerthoedd coll wrth ddisodli'r cwestiwn am nifer yr ystafelloedd yng Nghyfrifiad 2021. Gwnaethom hefyd gyhoeddi asesiad o ansawdd data gweinyddol ar gyfer defnyddio data Asiantaeth y Swyddfa Brisio yng Nghyfrifiad 2021 er mwyn rhoi sicrwydd pellach i'n defnyddwyr.
Ym mis Ionawr 2021, gwnaethom gyhoeddi erthygl a oedd yn ystyried yr effaith y mae defnyddio diffiniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o nifer yr ystafelloedd yng Nghyfrifiad 2021 yn ei chael ar gyfradd defnydd o ystafelloedd. Roedd yr erthygl hefyd yn amlinellu'r dull rydym yn bwriadu ei ddefnyddio i roi cyfrif am wahaniaethau o ran diffiniadau.
Incwm
Rydym yn ymwybodol bod diddordeb mawr mewn data ar incwm a pha mor werthfawr y gallent fod o ran gwaith cynllunio, datblygu polisïau a gwerthuso.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi bod yn gweithio gyda data treth a budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi er mwyn datblygu data incwm ar gyfer ardaloedd bach a all gael eu cysylltu â'r data a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2021. Mae'r elfennau ychwanegol hyn yn dibynnu ar gael mynediad amserol i ffynonellau data sylfaenol a goresgyn y cymhlethdodau wrth gyfuno data o ffynonellau gwahanol.
Mae'r SYG eisoes wedi cynhyrchu rhai allbynnau ymchwil, Ystadegau incwm yn seiliedig ar ddata gweinyddol, er mwyn dangos potensial y dull hwn. Rydym yn parhau i ddatblygu'r allbynnau ymchwil hyn a gwnaethom gyhoeddi ein diweddariad diwethaf ym mis Mehefin 2023. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein holl gynlluniau ar gyfer datblygu rhaglen waith a fydd yn sicrhau bod data gweinyddol yn ganolog i ystadegau cymdeithasol, ystadegau mudo ac ystadegau am y boblogaeth yma.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein holl gynlluniau ar gyfer datblygu rhaglen waith a fydd yn sicrhau bod data gweinyddol yn ganolog i ystadegau cymdeithasol, ystadegau mudo ac ystadegau am y boblogaeth yma.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hallbynnau integredig, gallwch anfon neges e-bost atom yn census.education@ons.gov.uk gyda'ch ymholiadau.