Ar 15 Gorffennaf 2025, comisiynodd llywodraeth y Deyrnas Unedig y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) i gynnal cyfrifiad o Gymru a Lloegr yn 2031.
Bydd Cyfrifiad 2031 yn elfen graidd o'r system ystadegau am y boblogaeth a mudo yn y dyfodol. Gan adeiladu ar lwyddiant Cyfrifiad 2021, caiff ei gynllunio i ddarparu ystadegau o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion defnyddwyr ar ddechrau'r 2030au. Bydd hefyd yn rhoi sail gadarn ar gyfer diwallu anghenion y dyfodol am ystadegau am y boblogaeth drwy'r degawd, gan ddefnyddio'r ffynonellau gorau sydd ar gael.
Er mwyn cynllunio cyfrifiad sy'n diwallu anghenion cymdeithas, mae angen i ni ddeall pa ddata sydd eu hangen ar bobl a sefydliadau i gefnogi cymunedau a chasglu'r dystiolaeth gywir i lywio penderfyniadau.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031
Mae'r ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031, a lansiwyd ar 28 Hydref 2025 ac sy'n rhedeg hyd at 4 Chwefror 2026, yn rhoi cyfle i chi helpu i lywio Cyfrifiad 2031 a dyfodol ystadegau am y boblogaeth.
Mae'r ymgynghoriad ar bynciau yn rhan o waith ymgysylltu eang a fydd yn llywio argymhellion y SYG ar gyfer cynnwys Cyfrifiad 2031 ar gyfer Cymru a Lloegr.
Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ar bynciau hwn, rydym hefyd yn ymgynghori ar y safon wedi'i chysoni ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd. Diben yr ymgynghoriad ar ethnigrwydd yw casglu barn am opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol a all fod yn ofynnol ar gyfer y safon newydd. Disgwyliwn i'r cwestiwn perthnasol yn y cyfrifiad gyd-fynd â'r safon hon yng Nghymru a Lloegr.
Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen gysylltiedig yr ymgynghoriad ar gysoni'r gwaith o gasglu data ar ethnigrwydd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 4 Chwefror 2026.
Cwblhewch yr ymgynghoriad
I ddysgu mwy ac i gwblhau'r ymgynghoriad ar bynciau, ewch i dudalen yr ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031 ar Citizen Space.
Fe'ch gwahoddir i ymateb erbyn y dyddiad cau, sef 4 Chwefror 2026.