Yn 2027, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn cynnal prawf ar raddfa fawr ledled Cymru a Lloegr i helpu i baratoi ar gyfer Cyfrifiad 2031.
Ymarfer casglu data mawr yw Prawf y Cyfrifiad yn 2027 i helpu'r SYG i baratoi ar gyfer Cyfrifiad 2031. Byddwn yn gofyn i rai pobl yng Nghymru a Lloegr ymateb i holiadur. Fel arbrawf gwyddonol, byddwn yn defnyddio dulliau gwahanol mewn lleoedd gwahanol i'n helpu i ddeall pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol.
Cefndir
Beth yw'r prawf?
Yn 2027, rydym yn bwriadu gwahodd 120,000 o gartrefi ar draws chwe awdurdod lleol i lenwi holiadur. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael gwahoddiad i gwblhau'r holiadur ar lein, gyda dulliau cwblhau amgen lle bo angen, gan gynnwys ffurflenni papur. Rydym hefyd yn bwriadu profi dull casglu data newydd mewn 50 o gartrefi gofal yn yr awdurdodau lleol hyn.
Byddwn yn gofyn i sampl bellach o 100,000 o gartrefi mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr ddarparu ymatebion.
Yn ogystal, byddwn yn gofyn i bob myfyriwr sy'n byw mewn neuaddau preswyl mewn dwy ddinas ddarparu ymatebion, gan ddefnyddio'r un dulliau.
Beth rydych chi'n ei brofi?
Rydym yn ystyried ffyrdd gwahanol o gynnal ymgyrch casglu data fawr i'n helpu i ddewis y dulliau gweithredu gorau ar gyfer Cyfrifiad 2031. Er enghraifft, byddwn yn treialu'r canlynol:
ffyrdd gwahanol o annog pobl i ymateb
galluoedd technegol newydd ar gyfer ein canolfan gyswllt
symleiddio'r broses ddilysu ar gyfer ymatebion ar-lein
dull cwblhau ar garreg y drws gyda swyddogion maes a dull cwblhau dros y ffôn gyda'r ganolfan gyswllt
defnyddio ffynonellau data amgen i nodi eiddo gwag, a helpu i dargedu'r cyflenwad o holiaduron papur
ffyrdd newydd o ymgysylltu â myfyrwyr mewn neuaddau preswyl, a chasglu data ar breswylwyr cartrefi gofal
Bydd profiadau rhai pobl o'r prawf yn wahanol i bobl eraill. Bydd canlyniadau'r prawf yn ein helpu i nodi'r dulliau gweithredu gorau a diystyru dulliau llai effeithiol.
Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i wneud yn siŵr bod ein systemau a'n gwasanaethau yn barod i lwyddo yn y cyfrifiad llawn yn 2031.
Ble rydych chi'n profi?
Bydd y gwaith profi yn canolbwyntio ar y chwe awdurdod lleol canlynol:
Breckland
Caerdydd
Sir Fynwy
Newcastle upon Tyne
Gogledd Norfolk
Westminster
Caiff rhai pobl sy'n byw y tu allan i'r ardaloedd hyn eu gwahodd i gymryd rhan hefyd.
Mae'r chwe awdurdod lleol wedi cael eu dewis oherwydd eu bod, ar y cyd:
yn cynnwys cymysgedd o ardaloedd trefol a gwledig
yn cynnwys rhai ardaloedd sydd â thueddiadau digidol isel
yn cynnwys ardaloedd Cymraeg eu hiaith
yn cynnwys prifysgolion
heb gael eu cynnwys yn ddiweddar mewn profion ar gyfer y cyfrifiad (fel y prawf yn 2017 a'r ymarfer yn 2019)
Sut y byddwch chi'n defnyddio'r data?
Mae cyfranogiad yn y Prawf yn wirfoddol. Ni fydd y data a gaiff eu darparu gan y rhai sy'n cymryd rhan yn y Prawf yng Nghymru a Lloegr yn cael eu defnyddio ar gyfer allbynnau ystadegol nac yn cael eu rhannu y tu hwnt i'r SYG. Byddant ond yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau am weithrediad Cyfrifiad 2031.
Mae gan y SYG hanes sicr o ddiogelu data sensitif, wedi'i feithrin dros sawl degawd o gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ac arolygon rheolaidd mwyaf y Deyrnas Unedig o gartrefi. Darllenwch ein polisi preifatrwydd i gael gwybodaeth am sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel.