Yn ystod Cyfrifiad 2021, bu ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn defnyddio'r adnoddau a oedd ar gael ar cyfrifiad.gov.uk i hyrwyddo gweithgarwch y cyfrifiad. Roedd yr adnoddau hyn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r help a oedd ar gael.

Nid yw gwefan Cyfrifiad 2021 yn fyw mwyach. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio'r adnoddau arni o hyd drwy fynd i'r fersiwn a archifwyd o cyfrifiad.gov.uk ar wefan Yr Archifau Gwladol.

Fideos am y cyfrifiad

Er mwyn cefnogi Cyfrifiad 2021, gwnaethom greu a chyhoeddi fideos yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ganlyniadau'r cyfrifiad, adnoddau addysgol a beth rydym yn ei wneud â'ch data. Mae pob fideo yn cynnwys isdeitlau a gwnaethom hefyd greu fersiynau Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwch weld rhestrau chwarae o fideos Cyfrifiad 2021 ar ein sianel YouTube.

Straeon y cyfrifiad

Mae'r wybodaeth a gasglwn o'r cyfrifiad yn helpu llywodraeth leol i gynllunio gwasanaethau yn eich ardal, fel ysgolion, ysbytai a chasgliadau sbwriel. Mae busnesau'n defnyddio data'r cyfrifiad i benderfynu ble i leoli eu hunain, sy'n creu cyfleoedd gwaith. Mae elusennau hefyd yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad er mwyn helpu i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.

Dysgwch sut mae sefydliadau gwahanol yn defnyddio gwybodaeth y cyfrifiad drwy wylio ein rhestr chwarae o Straeon y cyfrifiad ar YouTube.

Gallwch hefyd ddarllen crynodeb am bob stori'r cyfrifiad ar wefan Yr Archifau Gwladol.

Adnoddau hyrwyddo

Gwnaethom greu deunydd hyrwyddo yn ystod Cyfrifiad 2021 i helpu awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i ddeall a chodi ymwybyddiaeth o ganlyniadau Cyfrifiad 2021.

Gallwch weld a lawrlwytho adnoddau Cyfrifiad 2021 o wefan Yr Archifau Gwladol.

Fformatau hygyrch

Er mwyn galluogi cynifer â phosibl o bobl i ddysgu am Gyfrifiad 2021, gwnaethom lunio gwybodaeth mewn fformatau hygyrch.

Gallwch weld a lawrlwytho'r adnoddau hyn o'r fersiwn a archifwyd o'r dudalen fformatau hygyrch ar wefan Yr Archifau Gwladol.

Gallwch hefyd wylio ein fideos ag Iaith Arwyddion Prydain ar ein sianel YouTube.

Rhaglenni adnoddau addysg

Gwnaethom gynnal rhaglenni addysg am ddim ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru a Lloegr yn ystod Cyfrifiad 2021.

Helpodd y rhaglenni hyn i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd y cyfrifiad a'r ffordd y mae'r wybodaeth a gaiff ei chasglu yn helpu i lywio'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.

Yn 2021, gwnaethom hefyd gynnal cystadlaethau i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru a Lloegr.

Ceir rhagor o wybodaeth am Raglen Addysg Gynradd y Cyfrifiad a Rhaglen Addysg Uwchradd y Cyfrifiad ar wefan Yr Archifau Gwladol.

Mwy o wybodaeth am Gyfrifiad 2021

Dysgwch fwy am beth yw'r cyfrifiad a dewch o hyd i ddata, dadansoddiadau ac adnoddau rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 ar dudalen Cyfrifiad 2021.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gyfrifiad 2021, gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio census.customer.services@ons.gov.uk.