1. Croeso i Her Data SYG

Mae Her Data SYG 2025 bellach wedi dod i ben.

Diolch am gofrestru i gymryd rhan yn Her Data SYG, lle gall eich myfyrwyr archwilio setiau data ac adnoddau'r SYG, gan ddarganfod sut mae data yn llywio'r byd o'n cwmpas.

Mae cymryd rhan yn yr her yn fwy na dim ond cystadleuaeth – mae'n gyfle i'r myfyrwyr feithrin sgiliau ar gyfer y byd go iawn, cael cydnabyddiaeth ac ennill gwobrau cyffrous. P'un a ydych yn addysgu Astudiaethau Busnes, Daearyddiaeth, Mathemateg neu Gymdeithaseg, dyma eich cyfle i helpu'r myfyrwyr i gysylltu'r hyn y byddant yn ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ag effaith yn y byd go iawn.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Y dasg ar gyfer Her Data SYG

Bydd eich myfyrwyr yn dewis ardal leol neu leoliad sydd o ddiddordeb iddynt, er enghraifft, yr awdurdod lleol, ward neu gymdogaeth sydd wedi'i llunio'n arbennig lle maent yn byw. Byddant yn creu darlun aml-ddangosydd o'r lle hwnnw heddiw a'i gymharu ag o leiaf un ardal arall o'u dewis neu gymharu'r un ardal dros amser. Bydd darlun aml-ddangosydd yn gofyn i fyfyrwyr ystyried pedwar dangosydd sydd ar gael ar gyfer eu maes pwnc a'u hadroddiad terfynol.

Yna bydd angen i'ch myfyriwr lunio un argymhelliad polisi yn seiliedig ar dystiolaeth a fyddai'n gwella canlyniadau i bobl yn y lle hwnnw yn realistig o fewn pum mlynedd.

Gall myfyrwyr gwblhau'r dasg yn unigol, neu mewn grwpiau o hyd at bedwar.

Mae cyflwyniadau ar gyfer Her Data SYG wedi cau.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Adnoddau i gefnogi'r her

Rydym wedi cynllunio'r adnoddau hyn i'ch helpu i wneud y gorau o Her Data SYG a'ch tywys bob cam o'r ffordd.

Canllaw i Athrawon

Mae hwn yn dangos proses gyfan yr her i'r athrawon. Mae'n cwmpasu deilliannau dysgu, llif gwersi o gam i gam ac awgrymiadau ar gyfer fframio cwestiynau, casglu tystiolaeth ac adeiladu achos cymhellol. Byddwch yn gweld cyngor ymarferol ar ddefnyddio setiau data'r SYG, dehongli dangosyddion a strwythuro'r adroddiad neu'r cyflwyniad terfynol.

Lawrlwytho'r Canllaw i Athrawon

Briff Myfyrwyr

Mae hwn yn amlinellu'r brif dasg, gan gynnwys sut y gall myfyrwyr ddewis ardal leol, cymharu dangosyddion a datblygu argymhelliad polisi. Mae'n rhannu'r her yn gamau hydrin ac yn egluro'r hyn a ddisgwylir ar bob cam.

Lawrlwytho'r Briff Myfyrwyr

Mae cyflwyniadau ar gyfer Her Data SYG wedi cau.

Hyrwyddwch yr her ar y cyfryngau cymdeithasol

Dywedwch wrth bobl eich bod wedi cofrestru ar gyfer Her Data SYG, drwy gopïo'r cynnwys hwn a lawrlwytho'r ddelwedd i'w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Rydym ni wedi cofrestru ar gyfer #HerDataSYG. Gofynnwch i'ch plentyn yn ei arddegau am yr her a fydd yn ei helpu i:
- ddeall data ac ystadegau yn y byd go iawn
- datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol
- gwella eu CV

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Hysbysiad preifatrwydd

Cafodd yr holl wybodaeth a rennir yn ystod Her Data SYG ei thrin yn unol â pholisïau llym y SYG ar ddiogelu data. Nodwch fod y wybodaeth hon hefyd wedi cael ei rhannu â We. Communications, sy'n gweithio ar ran y SYG. Ceir rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ym Mholisi Preifatrwydd We. Communications, Hopscotch gynt.

Mae cyflwyniadau ar gyfer Her Data SYG wedi cau.

Nôl i'r tabl cynnwys