1. Beth yw Archwilio Economeg?
Mae Archwilio Economeg yn gyfres newydd o gynlluniau gwersi a phecynnau cymorth sy’n rhan o’n rhaglen addysg Defnyddio Rhifau. Wedi’u halinio â’r cwricwlwm yng Nghymru a Lloegr, rydym wedi llunio’r adnoddau hyn i helpu myfyrwyr 16 oed a hŷn i fod yn fwy ymwybodol o’r hyn a wnawn yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd ystadegau economaidd, maent yn galluogi myfyrwyr i weithio’n hyderus gyda data byd go iawn y SYG, gan ddatblygu eu sgiliau ystadegol a’u sgiliau llythrennedd data.
Gallwch ddefnyddio’r adnoddau newydd hyn i gefnogi gwersi Economeg, Astudiaethau Busnes a Daearyddiaeth, a’u haddasu hefyd i’w defnyddio mewn pynciau eraill.
Ar gyfer pob un o’r tri phwnc, rydym wedi creu:
canllaw i athrawon sy’n rhoi trosolwg o’r tasgau a’r cynlluniau gwersi
pecyn cyflwyno i arwain myfyrwyr drwy bob cam o’r prosiect
pecyn cymorth i fyfyrwyr gyda nodiadau i’w helpu i gwblhau’r tasgau a’r cwestiynau
Gan ddefnyddio’r adnoddau hyn sydd wedi’u halinio â’r cwricwlwm, gallwch helpu myfyrwyr i ddadansoddi, cwestiynu a chymhwyso data i faterion ymarferol, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol pwysig.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Pecyn cymorth Olrhain economi’r DU
Mae’r pecyn cymorth hwn yn helpu myfyrwyr Economeg i ddeall sut mae perfformiad economi’r Deyrnas Unedig yn cael ei fesur. Gall myfyrwyr ddefnyddio offer presennol y SYG, fel yr offeryn Archwilio ystadegau lleol, a data o’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddiannwyr (CPIH). Bydd y rhain yn helpu myfyrwyr i archwilio tueddiadau a deall sut mae’r tueddiadau hyn yn effeithio ar incwm go iawn.
Adnoddau
Lawrlwytho pecyn cymorth myfyrwyr Economeg
Lawrlwytho pecyn cyflwyniadau Economeg
Lawrlwytho canllaw athrawon Economeg
Nôl i'r tabl cynnwys3. Pecyn cymorth Deall busnesau
Mae’r pecyn cymorth hwn yn archwilio sut mae poblogaeth a demograffeg yn effeithio ar gynllunio busnes a gwneud penderfyniadau. Gall myfyrwyr Astudiaethau Busnes ddefnyddio’r offeryn Creu set ddata arbennig a’n setiau data amcangyfrifon poblogaeth. Bydd y rhain yn eu helpu i edrych ar sut mae demograffeg yn effeithio ar alw defnyddwyr a chyflenwad llafur yn y Deyrnas Unedig.
Adnoddau
Lawrlwytho pecyn cymorth myfyrwyr Astudiaethau Busnes
Lawrlwytho pecyn cyflwyniadau Astudiaethau Busnes
Lawrlwytho canllaw athrawon Astudiaethau Busnes
Nôl i'r tabl cynnwys4. Pecyn cymorth Economi a lle
Mae’r pecyn cymorth hwn yn archwilio sut y gall newid economaidd effeithio ar ardal leol myfyrwyr, yn ogystal â phenderfyniadau ynghylch gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gall myfyrwyr Daearyddiaeth ddefnyddio setiau data o’r offeryn Archwilio ystadegau lleol a’r offeryn Creu proffil ardal penodol. Bydd y rhain yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau dadansoddi ac i ddysgu sut i ddehongli data daearyddol.
Adnoddau
Lawrlwytho pecyn cymorth myfyrwyr Daearyddiaeth
Lawrlwytho pecyn cyflwyniadau Daearyddiaeth
Lawrlwytho canllaw athrawon Daearyddiaeth
Nôl i'r tabl cynnwys5. Mwy o adnoddau Defnyddio Rhifau
Rydym hefyd wedi creu pum pecyn cymorth Defnyddio Rhifau arall sy’n canolbwyntio ar wahanol offerynnau a setiau data’r SYG. Mae’r pecynnau cymorth hyn yn cwmpasu:
Bwlch cyflog rhywedd
Chwyddiant
y Cyfrifiad
Iechyd a lles
Busnes, diwydiant a masnach
Lawrlwytho ein pum pecyn cymorth ystafell ddosbarth am ddim
Nôl i'r tabl cynnwysRelated downloads
- Pecyn cymorth myfyrwyr Archwilio Economeg: Olrhain economi'r DU (4.4 MB pdf)
- Canllaw athrawon Archwilio Economeg: Olrhain economi'r DU (2.2 MB pdf)
- Pecyn cyflwyniadau Archwilio Economeg: Olrhain economi'r DU (1.2 MB pdf)
- Pecyn cymorth myfyrwyr Archwilio Economeg: Economi a lle (2.8 MB pdf)
- Canllaw athrawon Archwilio Economeg: Economi a lle (3.0 MB pdf)
- Pecyn cyflwyniadau Archwilio Economeg: Economi a lle (1.3 MB pdf)
- Pecyn cymorth myfyrwyr Archwilio Economeg: Deall busnesau (1.8 MB pdf)
- Canllaw athrawon Archwilio Economeg: Deall busnesau (1.7 MB pdf)
- Pecyn cyflwyniadau Archwilio Economeg: Deall busnesau (1.7 MB pdf)