Mae chwyddiant yn ffordd o fesur y modd y mae prisiau nwyddau a gwasanaethau yn codi, a all effeithio ar gyllid cartrefi pobl.
Bob mis, rydym yn cyhoeddi'r gyfradd chwyddiant flynyddol ddiweddaraf (yn Saesneg). Mae hyn yn cymharu prisiau cynhyrchion â'r rhai a brynwyd yn ystod yr un mis flwyddyn yn gynharach. Rydym hefyd yn esbonio sut mae prisiau yn effeithio ar gostau byw a mathau gwahanol o gartrefi.
Mae rhai nwyddau yn cyfrannu mwy at y gyfradd chwyddiant gyffredinol nag eraill. Er enghraifft, os bydd cynnydd mawr ym mhrisiau rhai cynhyrchion mewn categori gwariant, tra bo rhai eraill yn aros yn sefydlog, yna byddai chwyddiant yn cael ei ddylanwadu gan y prisiau newidiol yn y categori gwariant hwnnw.
Felly, mae effaith y brif gyfradd chwyddiant ar eich cartref yn dibynnu ar ba gynhyrchion rydych yn tueddu i wario eich arian arnynt.
Mae'n bwysig nodi, os bydd y gyfradd chwyddiant yn gostwng, nad yw o reidrwydd yn golygu bod prisiau'n gostwng. Er enghraifft, gall gostyngiad yn y gyfradd chwyddiant olygu bod prisiau nwyddau a gwasanaethau yn cynyddu ar gyfradd arafach nag o'r blaen.
Sut rydym yn cyfrifo chwyddiant?
Mae'r cyfraddau chwyddiant y rydym yn eu cynhyrchu yn ystadegau sefydledig sy'n mesur y newid cyfartalog ym mhrisiau pob nwydd a gwasanaeth. Caiff prisiau defnyddwyr eu mesur drwy gymharu cost nwyddau a gwasanaethau yn y mis presennol â'r un mis flwyddyn yn gynharach.
I fesur y newid cyfartalog hwn, rydym yn defnyddio ein mesur mwyaf cynhwysfawr o chwyddiant prisiau defnyddwyr, sef y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH) (yn Saesneg). Y gwahaniaeth rhwng CPIH a’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yw bod CPIH yn cynnwys costau bod yn berchen ar eich cartref eich hun, ei gynnal a byw ynddo, fel costau atgyweiriadau a gwelliannau i'r cartref.
Prif nod mynegeion prisiau defnyddwyr yw mesur yn gywir faint mae'r prisiau rydym yn eu talu yn y DU yn newid ar y cyfan. Mae'n broses fawr a chymhleth sy'n newid bob amser.
Sut rydym yn dewis beth sy'n mynd i mewn i'n basged siopa rithwir?
Gan ddefnyddio fframwaith y cytunir arno'n rhyngwladol, rydym yn mynd ati'n ofalus i gasglu'r prisiau yn y siop ac ar-lein ar gyfer dros 700 o eitemau. Mae'r rhain yn cynrychioli'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae defnyddwyr yn gwario eu harian arnynt fel arfer. Caiff prisiau'r eitemau hyn eu casglu'n ffisegol mewn 141 o leoliadau gan oddeutu 300 o bobl ledled y wlad.
Bob mis, rydym yn sicrhau bod eitemau yr un fath neu'n gymaradwy â'r rhai a gasglwyd yn y mis blaenorol. Mae eitemau yn cynnwys popeth o laeth, te a bara i bîn-afal, hylif golchi ceg a hosanau. Rydym hefyd yn cynnwys pryniannau mwy nad ydynt efallai yn eich siop wythnosol, o deledu neu wely, i gar newydd, rhentu eich cartref, neu hediad. Ac rydym yn cynnwys gwasanaethau fel defnyddio trydanwr neu gael torri eich gwallt.
Rydym yn cadw llygad barcud ar y “fasged siopa rithwir” hon i wneud yn siŵr ei bod yn dal i adlewyrchu’r mathau o bethau y mae pobl yn eu prynu'n rheolaidd. Rydym yn ei diweddaru bob blwyddyn yn seiliedig ar yr hyn y mae ymchwil i'r farchnad yn ei ddweud wrthym, gan gynnwys pa eitemau y mae pobl yn gwario eu harian arnynt. Rydym yn tynnu eitemau sy'n mynd yn llai poblogaidd, ac yn cyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Er enghraifft, yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi tynnu chwaraewyr CD, ac wedi ychwanegu gwasanaethau ffrydio a seinyddion clyfar.
Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon yn ein cyfrifiannell sy'n dangos sut mae chwyddiant yn effeithio ar gostau eich cartref (yn Saesneg).
Rydym wrthi'n gweithio ar gynlluniau i ddefnyddio data desgiau talu siopau i ddysgu sawl un o bob cynnyrch y maent wedi'u gwerthu.