Mae Cynnyrch Domestig Gros yn ddull pwysig o fesur maint economi'r DU. Mae'n ein helpu i gadw llygad ar sut mae'r economi'n perfformio. Po uchaf yw gwerth y Cynnyrch Domestig Gros, y mwyaf yw'r economi.

Pan fydd Cynnyrch Domestig Gros yn codi, mae'r economi'n gwneud yn dda. Yn aml, gellir cysylltu hyn â chyflogau uwch, mwy o wariant a buddsoddiad, a chyfraddau cyflogaeth uchel.

Pan fydd Cynnyrch Domestig Gros yn gostwng, nid yw'r economi'n gwneud cystal. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â gostyngiad mewn enillion, llai o wariant, a safon byw is.

Gallwn hefyd ddefnyddio Cynnyrch Domestig Gros i gymharu ein heconomi â gwledydd eraill.

Sut rydym yn cyfrifo Cynnyrch Domestig Gros?

Mae Cynnyrch Domestig Gros yn dweud wrthym faint rydym yn ei gynhyrchu, yn ei wario, ac yn ei ennill yn economi'r DU dros gyfnod penodol o amser. Mae hefyd yn dangos sut mae'r ffigurau hyn yn newid dros amser. Rydym yn cynhyrchu amcangyfrifon Cynnyrch Domestig Gros ar gyfer pob mis, pob chwarter, ac ar gyfer y flwyddyn gyfan.

Rydym yn mesur Cynnyrch Domestig Gros gan ddefnyddio:

  • gwerth nwyddau a gwasanaethau
  • gwariant y DU, sy'n cynnwys gwariant cartrefi a faint mae'r llywodraeth, busnesau, ac elusennau'n ei wario
  • incwm y DU, sy'n cynnwys ein cyflogau, elw busnesau, a threthi

Rydym yn defnyddio llawer o ffynonellau data i fesur yr economi, ac mae argaeledd data yn cynyddu dros amser.

Rydym yn amcangyfrif Cynnyrch Domestig Gros drwy edrych ar ddata o arolygon, ynghyd â data a ddarperir gan adrannau eraill y llywodraeth. Gall y data hyn fod o amrywiaeth o ffynonellau, o fewn y llywodraeth a thu hwnt, gan gynnwys:

  • Trysorlys ei Fawrhydi
  • yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net
  • Banc Lloegr
  • yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae amcangyfrifon Cynnyrch Domestig Gros hefyd yn cynnwys data o arolygon busnes, sy'n cwmpasu pynciau fel gwariant, trethi, incwm ac elw corfforaethau, ac arolygon adeiladu.

Pan fydd ffynonellau data newydd neu well ar gael, weithiau byddwn yn adolygu lefel a thwf Cynnyrch Domestig Gros. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu'r amcangyfrifon diweddaraf ar unrhyw adeg benodol.