The logo for BBC micro:bit

Gwnaethom weithio gyda'r BBC a Sefydliad Addysgol Micro:bit i helpu disgyblion ysgol gynradd ledled y DU i ddysgu mwy am gasglu a dadansoddi data.

Lansiwyd micro:bit – the next gen y BBC ym mis Medi 2023 gyda'r nod o helpu plant i feithrin sgiliau digidol er mwyn deall y byd o'u cwmpas a llywio eu dyfodol eu hunain.

Cafodd ysgolion ddegau ar filoedd o setiau ystafell ddosbarth micro:bit, gan gynnwys micro:bit y BBC. Cyfrifiadur bach y gallwch ei roi yn eich poced yw hwn sy'n cyflwyno plant i ddata a chodio mewn ffordd hawdd a hwyliog.

Rhoddodd y prosiect y cyfle i fyfyrwyr gynnal arolwg meysydd chwarae ar raddfa fawr rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2024.

Canlyniadau arolwg meysydd chwarae micro:bit

Aeth plant ysgol gynradd rhwng 7 ac 11 oed ati i astudio popeth o faint meysydd chwarae i'r fioamrywiaeth a gefnogir ganddynt, ynghyd â sut mae disgyblion yn treulio eu hamser chwarae.

Rydym bellach wedi cyhoeddi blogiau sy'n esbonio sut y gwnaethom ddadansoddi'r data a'r gwaith a wnaed i'w dadansoddi.

Darllenwch erthygl Inspiring the next generation through playground data ar y blog National Statistical.

Darllenwch am ganlyniadau prosiect Micro:bit y BBC ar wefan Data Science Campus.

Gallwch ddysgu mwy am micro:bit - the next gen ar wefan y BBC.

Pwysigrwydd llythrennedd data i'r genhedlaeth newydd

Dywedodd Mary Gregory, Cyfarwyddwr, Ystadegau am y Boblogaeth yn y SYG:

"Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw prosiectau fel hyn. Maent yn ennyn chwilfrydedd ac yn dangos i blant sut y gellir defnyddio data yn y byd go iawn, gan osod sylfaen a fydd yn eu cefnogi'n dda wrth iddynt dyfu'n oedolion"

"Nid sgìl i arbenigwyr yn unig yw llythrennedd data mwyach; mae'n rhan hanfodol o ddeall y byd modern ac ymdrin ag ef. A pha ffordd well o gyflwyno'r cysyniadau hyn na thrwy rywbeth sydd mor gyfarwydd a hwyliog ag amser chwarae?"

Dywedodd Syr Ian Diamond:

"Meddyliau ifanc yw'r rhai a fydd yn llywio byd y dyfodol a gaiff ei ysgogi gan ddata, ac rwyf mor falch bod y SYG wedi chwarae rhan mor bwysig yn yr arolwg meysydd chwarae, sydd wedi rhoi profiad gwerthfawr i blant o gasglu a dadansoddi data, mewn ffordd ddiddorol a difyr."

"Gobeithio bod y profiad hwn wedi eu hysbrydoli i fod yn genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data a, pwy a ŵyr, efallai hyd yn oed yn Ystadegydd Gwladol y dyfodol."